Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M Day.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed. Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant a goddefebau dilynol: -
Cynghorydd W. Hodgins - Eitem Rhif 6 – Adroddiad Cynllunio (Cais Rhif C/2019/0190 – Tir yn Iard Cludiant Leyton Williams, Garej Parkside, Heol Catholic, Brynmawr)
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a diweddariad DNS, Gorffennaf 2020 PDF 242 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r rhestr o geisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 15 Mehefin 2020 a 13 Gorffennaf 2020.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 3 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: ADRODDIAD CYNLLUNIO
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cais Rhif C/2020/0100 Plasgeller, Heol Ganolraddol, Brynmawr NP23 4SF Dau estyniad un llawr i ddarparu uned gofal cymhleth i ochr ddwyreiniol (drychiad blaen) cartref gofal presennol ynghyd â chwympo 2 goeden sydd â Gorchymyn Cadwraeth Coed
Ar wahoddiad y Cadeirydd, amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais sy’n cyfeirio at y cynnig ar gyfer dau estyniad i ddarparu uned gofal cymhleth i’r safle ddwyreiniol Plasgeller, Heol Ganolraddol, Brynmawr. Mae’r safle datblygu yn un o bedwar adeilad dau lawr mawr ar wahân sy’n gweithredu fel cyfadeilad cartrefi gofal.
Gyda chymorth sleidiau, nododd y Swyddog Cynllunio y ddwy goeden Sycamorwydd aeddfed sydd wrth ochr y terfyn blaen, ger y briffordd. Mae’r coed hynny ynghyd â choed eraill ar y ffordd yn nodwedd yr ardal a chânt eu gwarchod gan Orchmynion Cadwraeth Coed. Dywedodd y Swyddog y gwrthodwyd caniatâd cynllunio dan bwerau dirprwyedig yn 2019 ar y sail y byddai colli coed sydd â Gorchymyn Cadwraeth Coed.
Ychwanegwyd na fu apêl yn erbyn y penderfyniad a bod yr amser ar gyfer apêl wedi dod i ben. Felly, dewisodd yr ymgeisydd ailgyflwyno’r cais, fodd bynnag mae’r cais hwn yn cynnig y byddai’r estyniadau tua 2m yn nes at flaen y stryd yn ogystal â chwympo’r coed.
Rhoddodd y Swyddog ymhellach drosolwg o’r cais sy’n amlinellu’r estyniadau arfaethedig, y cynlluniau datblygu a’r materion a dderbyniwyd o’r ymgynghoriad. Dywedwyd fod Alun Davies AS wedi rhoi cefnogaeth lawn i’r preswylwyr a wnaeth wrthwynebiadau.
Ategodd y Swyddog golli dwy goeden stryd bwysig sydd â gorchymyn cadwraeth coed oherwydd gwerth amwynder uchel. Mae’r coed sycamorwydd aeddfed yn iach ac wedi sefydlu’n dda ac nid ydynt yn dangos unrhyw dystiolaeth o bryderon iechyd a diogelwch. Oherwydd iechyd y coed a’u cyfraniad gwerthfawr i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal, teimlai’r Swyddog nad oedd cyfiawnhad dros gwympo’r coed yn unig i hwyluso’r datblygiad. Roedd yr Ymgeisydd yn teimlo bod y coed yn golygu fod y cartref gofal yn y cysgod ac yn achosi risg iechyd a diogelwch i breswylwyr. Fodd bynnag, dywedodd y Swyddog na wnaed unrhyw gais i’r Cyngor i wneud gwaith i’r coed.
Teimlai’r Swyddog, er y byddai rhannau o’r safle angen gwaith tyllu oherwydd y llethr ar y tir, na fyddai’n amhosibl adeiladu yn yr ardaloedd hynny. Awgrymwyd y gellid gosod yr estyniad lapio o amgylch ar ochr arall i’r ystafell ddydd bresennol neu ei gysylltu gyda’r adeilad cyfagos o fewn y safle. Byddai’r gofod ychwanegol yn ddymunol a byddai’n fanteisiol i breswylwyr o fewn y cartref. Fodd bynnag, credai’r Swyddog nad oedd unrhyw reswm pam na fedrid gosod yr estyniadau mewn man arall o fewn y safle.
Ychwanegodd y Swyddog fod yr asiant wedi awgrymu heb yr estyniadau arfaethedig y byddai ansicrwydd am hyfywedd y busnes yn y dyfodol, fodd bynnag nodwyd nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r hawliad hwn. Nid oedd unrhyw amgylchiadau eithriadol a fyddai’n cyfiawnhau cefnogi cynllun oedd yn annerbyniol yn amgylcheddol ac yn weledol. Cydnabu’r Swyddog bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi cysyniad a dyheadau’r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Amser Cyfarfodydd y Pwyllgor yn y Dyfodol I’w ystyried.
Cofnodion: Cynigiodd y Cadeirydd fod cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cynnal am 2.00 p.m.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Eitem Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitem(au) a gafodd eu heithrio gan roi ystyriaeth i'r prawf diddordeb cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm a penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y Swyddog Priodol.
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Achosion Cau Gorfodaeth rhwng 16 Mehefin 2020 a 13 Gorffennaf 2020 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo..
|