Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 25ain Mehefin, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr S. Healy a B. Thomas.

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS pdf icon PDF 243 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth mai dyma’r adroddiad safonol sy’n rhoi manylion y llwyth achos presennol yng nghyswllt Apeliadau, Ymgynghoriadau a DNS. Un o’r prif heriau a brofwyd yn ystod cyfnod cloi Covid-19 fu’r anhawster yn cyflenwi gwybodaeth gefndir i’r Arolygydd Cynllunio am yr achosion hyn, ac fel canlyniad, cafodd nifer o’r apeliadau eu cadw heb benderfyniad. Fodd bynnag, cafodd y broses ei hailddechrau’n ddiweddar ac mae swyddogion yn y broses o baratoi a chyflwyno datganiadau ar ran y Cyngor yng nghyswllt yr apeliadau a fanylir yn yr adroddiad. Nodwyd fod apêl yng nghyswllt Caeau Seren, Heol y Mynydd, Glynebwy yn destun adroddiad ar wahân ar yr agenda (eitem rhif 5).

 

Byddai angen i Aelodau sy’n dymuno cyflwyno eu sylwadau unigol eu hunain yng nghyswllt unrhyw un o’r apeliadau  roi cyfeirnod apêl yr Arolygiaeth Cynllunio a nodir ar yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

5.

Diweddariad Apêl Cynllunio: Newid defnydd adeilad stabl (adeilad 4), adeilad allanol a chynwysyddion ar gyfer dibenion storio, a newid defnydd stabl (adeilad 1) i genel bridio cŵn yng Nghaeau’r Seren, ger Heol y Mynydd, Glynebwy pdf icon PDF 338 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau yn fyr am yr adroddiad ac esboniodd fod y Pwyllgor Cynllunio blaenorol wedi gwrthod caniatâd i’r cynnig uchod ar y seiliau fod y prif adeilad yn nodwedd fawr ac amlwg a’i fod wedi’i leoli o fewn Ardal Tirlun Arbennig.

Fodd bynnag, roedd yr Arolygydd wedi cydnabod ar ôl i Hysbysiad Penderfyniad am wrthodiad gael ei gyhoeddi, fod y Cyngor wedi cyhoeddi Tystysgrif Cyfreithlondeb Defnydd Presennol o Ddatblygiad (CLEUD) yng nghyswllt safle’r apêl sy’n cadarnhau cyfreithlondeb y chwech strwythur a gafodd eu cwblhau’n sylweddol ar y safle ond nad oedd yn ymestyn i ddefnydd cyfreithlon o’r adeiladau.

 

Felly, nododd yr Arolygydd fod dyfarnu CLEUD yn cynrychioli newid sylweddol mewn amgylchiadau ers y penderfynwyd ar y cais cynllunio a bod yn rhaid iddo roi ystyriaeth iddo.  Roedd hyn wedi cyfeirio’r Arolygydd i ganiatáu’r apêl ac er bod yr Arolygydd wedi nodi fod rhai o’r strwythurau ar y safle yn edrych yn anniben, gan y cyhoeddwyd CLEUD dywedodd, pe byddai’n gwrthod yr apêl, fod y strwythurau yn debygol o barhau yno.

 

Yng nghyswllt y cais ar wahân am gostau, roedd yr Arolygydd Cynllunio wedi cydnabod na chafodd cyfreithlondeb y strwythurau ei wirio pan y gwnaed y penderfyniad i wrthod y cais cynllunio ac er iddo ganfod nad oedd yr adeiladau’n niweidio’r Ardal Tirlun Arbennig, roedd yn cydnabod fod ganddynt effaith weledol o safbwyntiau cyhoeddus. Nid oedd y rheswm dros wrthod, felly, heb sylfaen ac mae’r Cyngor wedi rhoi tystiolaeth ddigonol i gadarnhau ei reswm dros wrthod a gwrthododd y cais am gostau.

 

Yng nghyswllt pryder a godwyd am leoliad y cynnig, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r lleoliad oedd Heol y Mynydd, Glynebwy ac nid Heol y Mynydd, Rasa.

 

Mynegodd Aelod ei diolch i’r Pwyllgor Cynllunio am benderfynu pleidleisio yn erbyn y cynnig ac i’r sefydliadau oedd wedi rhoi amser i ysgrifennu at yr Adran Cynllunio a’r Arolygiaeth Cynllunio yn mynegi eu pryderon am y cynnig. Roedd hefyd yn cydnabod ac yn croesawu gweld safbwynt adroddiad yr Arolygydd y cafodd y seiliau dros wrthod eu cadarnhau’n rhesymol.

 

Dywedodd yr Aelod ei bod yn croesawu’r amodau i gyfyngu lefelau s?n ac amod yn gwahardd gwerthu a phrynu c?n yn y safle. Pan ddaeth Cyfraith Lucy i fodolaeth, dywedodd na fyddai’r apeliwr wedi medru defnyddio’r safle yn gyfreithiol ar gyfer y dibenion hyn – byddai’n rhaid gwerthu c?n bach o’r man lle cawsant eu bridio.

 

Aeth ymlaen drwy gyfeirio at Amod rhif 8 h.y. sef o fewn 2 fis o ddyddiad y llythyr penderfyniad (8 Ebrill 2020) bod angen cyflwyno Cynllun Rheoli Gwastraff ysgrifenedig yn nodi ym mha ddull y byddid yn cael gwared â’r holl wastraff a gynhyrchid a’i gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol er cymeradwyaeth a holodd os oedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi derbyn y ddogfen hon o fewn yr amserlen a nodwyd.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu y cyflwynwyd dull o ohebiaeth ond y byddai angen iddi wirio os mai’r Cynllun Rheoli  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Rhestr Ceisiadau a Benderfynwyd dan Bwerau Dirprwyedig pdf icon PDF 288 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes, yn cynnwys:-

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau fod yr adroddiad yn cynnwys y cyfnod rhwng 24 Chwefror a 12 Mehefin 2020 h.y. cyfnod clo Covid-19. Dywedodd y bu’n amser anodd iawn i’r gwasanaeth cynllunio a thalodd deyrnged i waith swyddogion yn ystod y cyfnod hwn. Cafodd tri swyddog sef y Rheolwr Tîm – Eirlys Hallett, Arweinydd Tîm – Steph Hopkins a’r Swyddog Cynllunio – Jo White sy’n gweithio yng Nghwm Ebwy Fach eu symud i ddyletswyddau eraill yn gysylltiedig â Covid a dywedodd ei bod yn werth nodi fod y swyddogion hynny wedi dal ati gyda’u llwyth achos gyda chymorth aelodau eraill o staff i ddelio gyda cheisiadau yn eu habsenoldeb. Nododd Aelodau y cafodd bron i 80 o geisiadau eu penderfynu yn yr adroddiad neilltuol hwn ac er na fu’n ‘fusnes fel arfer’ roedd swyddogion wedi parhau i ddarparu’r gwasanaeth cynllunio gystal ag y medrent.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y swyddogion ar eu hymdrechion parhaus i ddarparu’r gwasanaeth cynllunio yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn.

 

C/2020/0026 – Uned 58 Canolfan Siopa Parc yr ?yl, Glynebwy

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’n trafod mater sydd tu allan i gylch gorchwyl y Pwyllgor Cynllunio gyda’r Aelod yn dilyn y cyfarfod.

 

C/2019/0278 – Tir i’r Dwyrain o Heol Blaenau, Brynmawr

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod rhoi caniatâd cynllunio yn rhoi darpariaeth ar gyfer tai ar ben isaf y safle ond na wyddai am unrhyw drafodaeth bellach gyda swyddogion parthed gweithredu’r rhan hwnnw o’r caniatâd.

 

CYTUNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 24 Chwefror a 12 Mehefin 2020.

 

7.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2020/0106 PCI Pharma Services  Uned 23-24 Stad Ddiwydiannol Tafarnaubach, Tredegar – Adeiladu Adeilad Llinell Becynnu Newydd, Wal Gadw a Rhodfa Dan Do  i Gerddwyr yn Cysylltu Adeilad y Llinell Becynnu Newydd gyda'r Maes Parcio Newydd

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, rhoddodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu fanylon y cais cynllunio sy’n cyfeirio at y cynnig i godi adeilad llinell becynnu newydd mawr o fewn safle presennol PCI Pharma Services Cyf (yr arferid ei alw yn Penn Pharmaceuticals) sydd ar ochr ddwyreiniol Stad Ddiwydiannol Tafarnaubach, Tredegar. Mae’r cais presennol hefyd yn cyfeirio at rai datblygiadau cysylltiedig, sef pont/rhodfa dan do a fyddai’n cysylltu’r adeilad newydd gyda maes parcio newydd a adeiladwyd i ogledd y safle presennol ac adran estynedig o wal gadw concrit gyfnerthedig. Nodwyd ei bod yn anhysbys ar y cam hwn os y byddai angen yr adran estynedig o wal gadw.

 

Mewn misoedd diweddar mae PCI wedi dechrau ar hyn y dywedant sydd yn ‘ehangu ei gyfleuster i hybu ei alluoedd i gynhyrchu a datblygu cyffuriau nerthol iawn, yn cynnwys cyflenwad clinigol a masnachol a fyddai’n cefnogi twf y busnes’ ac yn ystod y 12 mis diwethaf mae’r Awdurdod wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer dau ddatblygiad ar wahân ar y safle, sef codi adeilad cyfleuster cynnwys fferyllol newydd awr ar ogledd y safle presennol a chyfleuster labordy newydd yn lle un presennol. Roedd y cwmni yn gweld datblygiadau o’r fath a’r cynnig presennol fel cam cyntaf rhaglen twf a fedrai o bosibl weld cynnydd sylweddol yn eu gweithlu dros y pum mlynedd nesaf.

 

Hysbyswyd Aelodau y byddai lle i 183 cerbyd yn y maes parcio ac y byddai’n ateb anghenion parcio y datblygiad presennol hwn ynghyd â’r ddau ddatblygiad ar wahân sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio.

 

Cafodd manylion y cynigion eu dangos ar y delweddau a roddir ym mharagraffau 1.5, 1.8 a 1.11 yr adroddiad ac mae hyn yn cynnwys y drychiad o’r adeilad ac adran fel y’i gwelir o’r gorllewin yn dangos lefelau cymharol y maes parcio, pont/llwybr cerdded, adeilad a gynigir ac adeiladau presennol yng nghefn y safle presennol.

 

Ar sail maint y datblygiad, mae’r cais arfaethedig yn cael ei ddosbarthu fel cais cynllunio ‘mawr’ sydd angen penderfyniad gan y Pwyllgor Cynllunio. Yn y cyd-destun hwn, bu manylion y cais yn destun proses ymgynghori statudol cyn gwneud cais a chafodd y cais ei gefnogi gan nifer o ddogfennau atodol a restrir ym mharagraff 1.13 yr adroddiad. Yn ychwanegol, mae’r cwmni wedi cynnal trafodaethau sylweddol gyda’r Rheolwr Tîm ar gam cynnar y datblygiad.

 

Priffyrdd – Yn nhermau’r ymgynghoriad, nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwneud unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun cyn belled â bod y maes parcio newydd a gymeradwywyd yn flaenorol ar gael i’w ddefnyddio cyn dechrau defnyddio’r adeilad arfaethedig. Cadarnhawyd hefyd y dylid sicrhau darpariaeth lleoedd parcio newydd i feiciau a chyflwyno Cynllun Teithio drwy osod amodau wedi eu geirio mewn modd addas.

 

Nodwyd fod y cwmni eisoes wedi dechrau os nad wedi gorffen gwaith  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Eitem Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol oedd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (roedd y rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

9.

Achosion Gorfodaeth a Gafodd eu Cau Rhwng

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei chynnal gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

Gwerthfawrogiad

Mynegwyd gwerthfawrogiad i’r Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau a’i dîm am eu gwaith i ddarparu’r gwasanaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mynegwyd gwerthfawrogiad hefyd i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a’i thîm am y gwaith a wnaed i alluogi cynnal y broses ddemocrataidd ar sail rithiol.