Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd datganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol Chwarter 3 Hydref – Rhagfyr 2019 PDF 536 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth berfformiad cyfredol y Cyngor fel sy’n dilyn:
Ffigur 1 – mae’r Cyngor yn y safle 1af yn nhermau ei berfformiad ar gyfer penderfynu ceisiadau ar amser h.y. o fewn 8 wythnos neu o fewn y cyfnod a gytunwyd gan yr ymgeisydd. Mae hyn yn gyfystyr â 100% o’r ceisiadau, o gymharu â chyfartaledd Cymru o 86%.
Ffigur 2 – roedd y Cyngor yn y 5ed safle am y mesur hwn o ran perfformiad gan ei bod ar gyfartaledd yn cymryd 60 diwrnod o gofrestru i benderfyniad i’r Cyngor benderfynu ar gais, tra mai cyfartaledd Cymru oedd 87 diwrnod.
Ffigur 3 – gwnaed 38% o benderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio yn groes i argymhelliad swyddogion. Cyfartaledd Cymru oedd 10%.
Cyfeiriodd Aelod at Ffigur 3 a dweud mai dim ond 3 penderfyniad a wnaed yn groes i argymhelliad swyddog sy’n rhif bach iawn.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y Cyngor yn gyson yn y dau isaf yn nhermau’r mesur perfformiad hwn. Nodwyd y cynhaliwyd adolygiad o’r cynllun dirprwyo ar gyfer materion gorfodaeth yn y flwyddyn flaenorol a bwriedir cynnal adolygiad tebyg yng nghyswllt y cynllun dirprwyo ar gyfer ceisiadau cynllunio yn yr ychydig fisoedd nesaf.
Mewn pleidlais unfrydol,
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi Gwybodaeth Perfformiad Chwarter 3 a gynhwysir ynddo. |
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS PDF 231 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Ymunodd y Cynghorydd D. Wilkshire â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.
C/2019/0090: APP/X6910/A/19/3243676 – Caeau Seren, ger Heol y Mynydd, Glynebwy
Mynegodd Aelod ei gwerthfawrogiad i’r Rheolwr Gwasanaeth a swyddogion am yr ymateb rhagorol a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Cynllunio yng nghyswllt yr apêl arbennig yma.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
C/2020/0002 – Tesco Stores Cyf., Stryd y Castell – Cadw Gwefrydd Cyflym
Gofynnodd Aelod os oes unrhyw ganllawiau neu bolisi ar gael ar osod mannau gwefru trydan er mwyn rhoi eglurdeb os oes angen caniatâd cynllunio ai peidio gan y gallai hyn atal mewnlif o geisiadau ôl-weithredol. Nodwyd nad oes unrhyw fath ‘cyffredinol’ o wefrydd.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau nad oes polisi cynllunio penodol ar gyfer mannau gwefru trydan. Caiff gwaith ei wneud yn rhanbarthol yng nghyswllt ymarferoldeb ymestyn mannau gwefru ar draws rhai datblygiadau.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth mai dim ond rhai mathau o wefrydd sydd angen caniatâd cynllunio a gellir diwygio rheoliadau adeiladau i’w gwneud yn ofynnol cael caniatâd ar gyfer rhai datblygiadau newydd. Gallai fod newid i’r rheoliadau adeiladu yn ddiweddarach yn y flwyddyn ond disgwylir drafft ganllawiau ar y mater gan Lywodraeth Cymru.
Mewn pleidlais unfrydol,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r rhestr o geisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 21 Ionawr a 21 Chwefror 2020.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 1 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Esboniwyd y ceisiadau cynllunio dilynol i Aelodau gyda chymorth sleidiau.
Ymunodd y Cynghorydd G. Thomas â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.
Cais Rhif C/2019/0330 – Uned 2, Stad Ddiwydiannol Tafarnaubach, Tafarnaubach – Newid Defnydd Adeiladau Presennol o Ganolfan Addysg a Hyfforddiant i Ddefnydd Diwydiannol B2 ar gyfer Ailgylchu ac Adfer WEEE (Offer Electronig a Thrydanol Gwastraff) a Deunyddiau a Chynnyrch Cysylltiedig
Esboniodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu fod hwn yn adroddiad dilynol yng nghyswllt y cais cynllunio gwreiddiol a gyflwynwyd ac a drafodwyd yn fanwl yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020.
Roedd Aelodau wedi codi pryderon am effaith bosibl y cynnig ar breswylwyr cyfagos. Felly penderfynwyd gohirio penderfyniad ar y cais yn disgwyl ymweliad safle canfod ffeithiau. Roedd yr adroddiad dilynol wedi trafod y materion o gonsyrn a godwyd yn y cyfarfod hwnnw.
Nodwyd y cynhaliwyd dadansoddiad lle troi a ddangosodd y byddai cerbydau nwyddau trwm (HGV) yn medru troi’n ddiogel o fewn libart y safle. Roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau fod y symudiadau traffig yn gysylltiedig gyda’r defnydd arfaethedig yn debyg i’r rhai ar gyfer defnydd blaenorol yr adeilad ac heb godi unrhyw wrthwynebiad yng nghyswllt y mater hwn.
Wedyn gofynnwyd am farn y Pwyllgor a rhoddodd Aelodau sylwadau/cwestiynau fel sy’n dilyn:
ØSbwriel - Dywedodd Aelod gyda chartrefi mor agos at y safle, bod preswylwyr yn fwyaf pryderus am fater sbwriel na’r cyfeintiau bach o hylif fflamadwy a fyddai’n cael eu cadw yn y safle.
ØSgrinio – A fyddid yn darparu sgrinio s?n?
Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu y cynigiwyd amod o fewn yr adroddiad gwreiddiol sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno manylion ffensys ar gyfer dibenion lliniaru gweledol a s?n.
Dywedodd Swyddog Arbenigol Iechyd yr Amgylchedd y byddai angen i Iechyd yr Amgylchedd ystyried manylion y ffensys a gyflwynwyd i sicrhau y byddai’r strwythur yn rhoi lliniarad s?n boddhaol ac y byddent yn cynghori’r Swyddog Cynllunio yn unol â hynny. Nodwyd y byddai angen codi’r ffensys a gymeradwywyd cyn y byddai’r cynnig yn dod yn weithredol.
ØAmrywiad Amodau/Newid Defnydd yn y Dyfodol – Gofynnodd Aelod am i’r cais gael ei ystyried yn awtomatig gan y Pwyllgor os oes unrhyw amrywiadau i unrhyw un o’r amodau hyn neu newid defnydd.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau na fedrai roi’r warant yma. Byddai unrhyw gais a dderbynnir yn cael ei gynnwys yn y rhestr wythnosol a gaiff ei chylchredeg i bob Aelod ac mae Aelodau Ward yn dal i fod â’r hawl i ‘alw cais i mewn’.
ØPont Bwyso – I fynd i’r afael â mater o gonsyrn a godwyd, rhoddodd yr Arweinydd Tîm fanylion arfaethedig y bont bwyso.
ØS?n Cerbydau – Er mwyn gwarchod amwynderau preswylwyr cyfagos, cadarnhaodd y cyfyngid cerbydau i fynd i mewn a gadael y safle yn ystod cyfnodau penodol rhwng 08.00 a 18.00 o’r gloch ar ddyddiau Llun i Gwener a 08.00 a 13.00 ar ddyddiau Sadwrn. Nodwyd na fyddai’r cwmni yn ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau Ystyried.
Cofnodion: Ymweliad i Awdurdod Cynllunio cyfagos:
Cyfeiriodd Aelod at y trafodaethau blaenorol a gynhaliwyd i ymweld ag awdurdod cynllunio cyfagos.
Nodwyd y pwynt hwn.
Tai Amlfeddiannaeth:
Cynhelir digwyddiad hyfforddiant ar Dai Amlfeddiannaeth (HMO) yn ystod mis Mehefin.
Canllawiau Cynllunio Atodol:
Gofynnwyd am hyfforddiant gloywi ar yr uchod.
|
|
Eitem Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar restr a gaiff ei chadw gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol). |
|
Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 22 Ionawr 2020 a 27 Chwefror 2020 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu. Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol yng nghyswllt y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn eithriedig.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra trafodir yr eitem yma o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr Awdurdod) a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|