Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 6ed Chwefror, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

 

Cynghorydd L. Winnett – Eitem Rhif 4 Apeliadau, Ymgynghoriadau a DNS – Diweddariad Chwefror 2020 (Cais Rhif  C/2019/0090 Caeau Seren ger Heol y Mynydd, Glynebwy

 

Cynghorydd M. Moore – Eitem Rhif 7 Adroddiad Ceisiadau Cynllunio (Cais Rhif Fferm Wauntyswg, Abertyswg, Rhymni Tredegar)

 

Cynghorwyr T. Smith a B. Willis – Eitem Rhif 7 Adroddiad Ceisiadau Cynllunio (Cais Rhif C/2019/0269 10 Stryd y Castell, Tredegar)

 

Cynghorydd D. Bevan – Eitem Rhif 7 Adroddiad Ceisiadau Cynllunio (Cais Rhif C/2019/0308 – 30 Stryd Marine, Cwm, Glynebwy)

 

 

4.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS pdf icon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau, yn cynnwys:-

 

Cais Rhif C/2019/0090 Caeau Seren ger Heol y Mynydd, Glynebwy

 

Datganodd y Cynghorydd L. Winnett fuddiant yn y mater hwn.

 

Mynegodd Aelod bryder y gwnaed penderfyniad dan bwerau dirprwyedig i ddyfarnu Tystysgrif Datblygiad Cyfreithiol (fel y rhestrir yn Eitem Rhif 6) a gofynnodd os byddai hyn yn rhagfarnu’r broses apêl.

 

Mewn ymateb esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau fod dau fater gwahanol yn mynd ymlaen yn y safle, h.y. defnyddio’r safle ar gyfer bridio c?n, sef testun yr apêl, a’r materion gorfodaeth yng nghyswllt gweithgareddau tipio heb ganiatâd yn y safle. Yn nhermau statws yr adeiladau, fel rhan o’r Dystysgrif Datblygiad Cyfreithiol cafodd y datblygwr gyfle i roi tystiolaeth y bu’r adeiladau’n weithredol am gyfnod o fwy na 4 blynedd ac mae’r dystiolaeth a roddwyd yn profi hynny. Fodd bynnag nid yw’r Dystysgrif Datblygiad Cyfreithiol yn cynnwys defnyddio’r safle, a byddai hyn yn cael ei benderfynu drwy’r broses apêl cynllunio.

 

Holodd Aelod am fodolaeth yr adeiladau cyn 10 mlynedd. Esboniodd y Swyddog i’r datblygydd ddangos y bu’r adeiladau ar y safle am gyfnod o fwy na 4 mlynedd, fel sydd angen gan y Dystysgrif Datblygiad Cyfreithiol. Roedd y cyfnod 10 mlynedd y cyfeiriodd yr Aelod ato yng nghyswllt pob datblygiad arall.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

5.

Diweddariad Apêl Cynllunio: Tir ger Cambridge Gardens, Beaufort pdf icon PDF 352 KB

Ystyried adroddiad Arweinydd Tîm - Rheoli Datblygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu i gael ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau yr adroddiad sy’n rhoi penderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio yng nghyswllt apêl cynllunio yn erbyn gwrthodiad caniatâd cynllunio ar gyfer codi 15 annedd.

 

Dywedodd fod yr Arolygydd Cynllunio yn cytuno gydag asesiad y Cyngor, ac er yn cydnabod fod y safle’n manteisio o ganiatâd cynllunio ar gyfer 10 annedd, byddai cynyddu nifer y tai yn cael effaith sylweddol ar ddiogelwch defnyddwyr priffordd Daeth yr Arolygydd i’r casgliad nad oedd unrhyw ystyriaethau cynllunio sylweddol oedd yn gorbwyso’r risgiau sylweddol i ddiogelwch y briffordd yn gysylltiedig gyda’r mynediad arfaethedig a bod y cynigion yn groes i bolisi DM1 (3a a 3c) Cynllun Datblygu Lleol Blaenau Gwent. Mae’r Arolygydd felly wedi gwrthod yr apêl.

 

Gofynnodd Aelod os cedwir cofnod o’r nifer o weithiau y mae’r Arolygydd Cynllunio wedi cytuno gydag asesiad y Cyngor a dywedodd y Swyddog y byddai’n darparu’r ffigurau hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth yn cyfeirio at y penderfyniad apêl ar gyfer cais cynllunio C/2018/0224 h.y. bod yr Arolygiaeth Cynllunio wedi penderfynu gwrthod yr apêl.

 

6.

Rhestr Ceisiadau a Benderfynwyd dan Bwerau Dirprwyedig pdf icon PDF 277 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Aeth y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau drwy’r adroddiad ac eglurodd Swyddogion y pwyntiau a godwyd gan Aelodau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r rhestr o geisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 28 Tachwedd 2019 a 20 Ionawr 2020.

 

7.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 3 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y ceisiadau cynllunio dilynol i Aelodau gyda chymorth sleidiau.

 

Cais Rhif C/2019/0310 – 1 Hawthorn Glade, Tanglewood, Blaenau, NP13 3JT – Cadw ac Ymestyn Ardal Decin wedi’i Godi

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cais yn gofyn am ganiatâd i gadw ac ymestyn ardal decin wedi’i godi o fewn yr ardd gefn. Cadarnhaodd y derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu yn rhestru nifer o faterion a restrir yn adran 3.9 yr adroddiad. Fodd bynnag, y prif fater o gonsyrn oedd y byddai effaith weledol y decin yn ormodol ac y byddai’n cael effaith niweidiol ar breifatrwydd ac amwynder anheddau cyfagos.

 

Rhoddodd y Cynghorydd G. Collier (Aelod Ward) anerchiad i’r Pwyllgor, ar wahoddiad y Cadeirydd. Dywedodd fod datblygiad Tanglewood ar ochr bryn serth yng nghymuned Blaenau. Mae Rhif 1 Hawthorn Glade yn d? 4 ystafell wely ar lain gornel ger Tanglewood Drive, ac mae’r ymgeisydd, ei wraig a dau blentyn ifanc yn byw yno.

 

Mae’r datblygiad arfaethedig ar gyfer cadw ac ymestyn y decin wedi’i godi dros ardd gefn sydd â siâp od iawn. Mae gan yr ardd bresennol 50% o arwynebedd gwastad gyda llethr serth (tua 45 gradd) ar y gweddill i lawr y linell bresennol y ffens sydd o fewn y llain terfyn (gweler ffigur 1.4). Pe’i cymeradwyid, byddai’r datblygiad yn rhoi arwynebedd gwastad dros yr holl ardd bresennol, gan felly’n galluogi’r teulu i fwynhau defnydd llawn o’r holl ardd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Collier at argymhelliad y Swyddog dros wrthod sy’n dweud:

 

‘Oherwydd ei faint a’i grynswth, ystyrir bod cadw’r decin wedi’i godi yn nodwedd ormodol o amlwg sy’n cael effaith weledol niweidiol ar olwg y stryd.’

 

Dywedodd y credai y gellid ateb y pryder hwn drwy blannu coed sbriws Leyland, neu debyg, a fyddai’n rhoi ymddangosiad hollol wahanol i’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd.

 

‘Byddai’r strwythur yn achosi niwed sylweddol i amodau byw preswylwyr anheddau cyfagos drwy gael effaith ormodol ac achosi colli preifatrwydd.’

 

Dywedai na chredai fod hyn yn rheswm y gellid ei gyfiawnhau dros wrthod y cais. Mae union natur y tirlun yn y datblygiad (ochr bryn serth) yn golygu fod anheddau Woodland Walk yn edrych dros Beech Tree Crescent, a Hawthorn Glade yn edrych dros Woodland Walk.

 

Daeth i ben drwy ddweud y credai y gwelwyd y cynnig o’r diwrnod cyntaf fel “fedrwn ni ddim cael y math yma o ddatblygiad ym Mlaenau Gwent”, yn hytrach na’i weld fel cyfle i ddarparu’r hyn y mae’r ymgeisydd yn anelu ei gyflawni, sef cael ardal gardd wastad yng nghefn ei gartref.

 

Gofynnodd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais gyda’r amod fod tirlunio ar dir y perchennog sy’n ffinio ar Tanglewood Drive.

 

Rhoddodd Mr. Terry Morgan, yr asiant yn gweithredu ar ran yr ymgeisydd, hefyd anerchiad i’r Pwyllgor. Dywedodd fod dogfen y Cynllun Datblygu Lleol yn cyfeirio at anghenion tai y dyfodol, ac y dylai datblygiadau newydd gynnwys cymysgedd o arddulliau tai a bodloni anghenion bywyd teulu cyfoes, a bod y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau

Ystyried meysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth/hyfforddiant Aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw feysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau.

 

9.

Eitem Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyheoddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

10.

Achosion Gorfodaeth a Gafodd eu Cau Rhwng

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu..

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn ael ei gynnal gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr Awdurdod) a derbyn yr argymhellion a gynhwysir ynddo.

 

MARTIN WOODLAND - CYFREITHIWR

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddweud mai hwn oedd y cyfarfod olaf i Martin gan ei fod yn gadael yr Awdurdod.

 

Dywedodd Aelodau fod hyn yn golled fawr i’r Awdurdod a diolchodd iddo am ei waith caled a’r gefnogaeth a roddodd iddynt dros y blynyddoedd, ac estynnwyd y dymuniadau gorau oll iddo yn ei fenter newydd.