Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
||
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr M. Moore, G.L. Davies, L. Winnett, D. Wilkshire a D. Hancock.
|
||
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr T. Smith a B. Willis fuddiant yn yr eitem ar sail penderfyniad ymlaen llaw.
Eitem Rhif. 8 Adroddiad Cais Cynllunio - Cais Rhif C/2019/0269 – 10 Stryd y Castell Tredegar
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau mai'r cworwm ar gyfer Pwyllgor oedd 8 Aelod. Fodd bynnag, mae 2 Aelod wedi datgan buddiant yn y cais sy'n golygu na fyddai cworwm yn y Pwyllgor pan ystyrid y cais ac felly na fedrid cymryd penderfyniad terfynol. Felly cytunwyd gohirio'r cais.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
||
Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol, Chwarter 2 mis Gorffennaf i fis Medi 2019 PDF 333 KB Ystyriedadroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau. Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth yr wybodaeth perfformiad ar gyfer Chwarter 2 am y cyfnod mis Gorffennaf i fis Medi 2019. Mae perfformiad yn parhau'n gyson ac mae Blaenau Gwent yn gydradd ail yng Nghymru am benderfynu ceisiadau cynllunio 'ar amser'. Mae tabl 2 ar dudalen 8 yr adroddiad yn dangos fod Blaenau Gwent yn y 10fed safle yn nhermau'r amser cyfartalog i benderfynu ar geisiadau a dywedodd y Swyddog yr hoffai weld y sefyllfa honno'n gwella. Mae tabl 3 yn dangos safleoedd awdurdodau cynllunio lleol yn cymryd penderfyniadau yn groes i argymhelliad Swyddog ac mae Blaenau Gwent yn y 22 safle gyda 33%. Mae'r ffigur hwn yn uchel iawn ac yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Mewn ymateb i sylwadau gan Aelod am nifer y penderfyniadau a gymerwyd yn groes i argymhelliad Swyddog, cydnabu'r Swyddog nad oedd penderfyniadau cynllunio byth yn ddiamwys. Fodd bynnag, mynegodd bryder fod y ffigur hwn yn gyson uchel ar gyfer y Cyngor o gofio am nifer y ceisiadau a ddaw i law a bod angen edrych arno.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth ynddo.
|
||
Adroddiad Gweithgaredd Rheoli Adeiladu ar gyfer mis Ionawr 2019 - mis Hydref 2019 PDF 266 KB
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Adeiladu a Chynlluniau Datblygu.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy'n amlinellu gwaith y Tîm Rheoli Adeiladu, yn cwmpasu gwaith tebyg i geisiadau rheoleiddio adeiladu, gorfodaeth/datblygiad heb ganiatâd a strwythurau peryglus a gwnaeth gymariaethau gyda gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn flaenorol (2018) ar gyfer yr un amserlen. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi newidiadau rheoli cyffredinol a newidiadau i reoliadau a gwybodaeth perfformid.
Aeth y Swyddog drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Gofynnodd Aelod os yw'r Tîm Rheoli Adeiladu yn rhoi dyfynbrisiau i ddatblygwyr mawr sy'n dod i'r ardal. Cadarnhaodd y Swyddog Rheoli Adeiladu y cysylltir â datblygwyr ar y cam cyn-cynllunio i weld os oedd ganddynt ddiddordeb mewn caffael gwaith rheoli adeiladu CBS Blaenau Gwent.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau hefyd y cynnig gwarant cyfateb pris i ddatblygwyr, ac mae Swyddogion Cynllunio hefyd yn hyrwyddo gwasanaethau rheoli adeiladu pan maent yn cwrdd gyda datblygwyr mewn ymholiadau rhagarweiniol ac yn y blaen.
Cyfeiriodd Aelod at y nifer o strwythurau peryglus a gofynnodd os oedd hyn yn cynnwys colofnau goleuadau stryd a ddifrodwyd fel canlyniad i ddamweiniau car.
Dywedodd y Swyddog y byddai'r math yma o ddigwyddiadau yn cael eu cynnwys yn y ffigurau ar gyfer y nifer o 'alwadau allan'. Cadarnhaodd y byddai Swyddog Rheoli Adeiladu yn ymateb i ddigwyddiad ac yn penderfynu os dylid ei ddosbarthu fel strwythur peryglus.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, esboniodd y Swyddog Rheoli Adeiladu fod Hysbysiadau Adeiladu yn gysylltiedig gyda phrosiectau llai neu newidiadau i adeiladau presennol lle byddai Arolygydd Adeiladu yn cymeradwyo'r gwaith wrth iddo fynd rhagddo. Ar y llaw arall, mae cais cynllunio llawn yn gysylltiedig gyda datblygiadau newydd mwy ac adeiladau masnachol a diwydiannol a byddai angen cyflwyno manylion llawn y gwaith a gynigir ar gyfer ei gymeradwyo cyn i unrhyw waith gael ei wneud ar y safle.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth ynddo.
|
||
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS PDF 232 KB Ystyriedadroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
||
Rhestr Ceisiadau a Benderfynwyd dan Bwerau Dirprwyedig PDF 198 KB Ystyriedadroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Mewn ymateb i gwestiwn , esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y broses ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithiol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r rhestr o geisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 28 Hydref a 27 Tachwedd 2019.
|
||
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 1 MB Ystyriedadroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Datblygu a Stadau/Rheolwr Tîm - Rheoli Datblygu y ceisiadau cynllunio dilynol i Aelodau gyda chymorth sleidiau:-
Cais Rhif C/2019/0269 – 10 Stryd y Castell, NP22 3DE – Newid Defnydd o hen Siop Cigydd i Far a Bwyty gydag Addasiadau Mewnol a 3 Golau Allanol Datganodd y Cynghorwyr T. Smith a B. Willis fuddiant yn y cais ar sail penderfyniad ymlaen llaw.
PENDERFYNWYD GOHIRIO y cais.
Cais Rhif C/2019/0296 – 38 Stryd Fasnachol, Tredegar - Newid Defnydd o Siop (Llawr Daear) i Gaffe, Blaen Siop Newydd a Chaead Rholiwr a Ffenestri i'r Lloriau Uchaf
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cais sy'n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd llawr daear 38 Stryd Fasnachol, Tredegar o siop (defnydd A1) i gaffe (defnydd A3), blaen siop newydd a chaead rholer a ffenestri ar y lloriau uchaf. Mae'r adeilad wedi'i leoli o fewn prif ardal fanwerthu canol tref Tredegar ac mae'n wag ar hyn o bryd, ond arferai fod yn siop cigydd.
Aeth y Swyddog drwy'r cais a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cais Rhif C/2019/0054 – Tir ger Pen Deheuol Rhodfa Calch (gyferbyn ag Ysbyty Aneurin Bevan), Glynebwy, NP23 6GL - Codi 6 Adeilad i Ddarparu 25 Uned Gyflogaeth ar gyfer Defnyddiau B1 a B2, Ffordd Fynediad Newydd a Chyffyrdd oddi ar Rhodfa Calch a Pharcio a Seilwaith Arall Cysylltiedig
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu y cais sy'n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer codi 6 adeilad cyflogaeth, ffordd fynediad newydd a chyffordd oddi ar Rhodfa Calch ac ardaloedd parcio a seilwaith ategol cysylltiedig. Byddai'r adeiladu yn darparu 35 uned cyflogaeth unigol gyda chyfanswm arwynebedd llawr o 4,260 metr a byddent yn cael eu defnyddio ar gyfer defnyddiau cyflogaeth B1 (ymchwil a datblygu neu ddiwydiannol ysgafn) neu B2 (diwydiannol cyffredinol).
Aeth y Swyddog drwy'r cais a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelod at yr ardal o dir a adferwyd ger ffin ogleddol y safle, oedd wedi'i ddyrannu ar gyfer datblygiad defnydd cymysg, yn cynnwys tai, a gofynnodd os byddai'r unedau cyflogaeth arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar unrhyw ddatblygiadau tai yn y dyfodol.
Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog bod adeiladau defnydd B1 yn dderbyniol o fewn ardal breswyl a pham y penderfynwyd lleoli'r unedau hynny ar y llwyfan gogleddol, ar yr un lefel â'r Rhodfa Calch.
Cadarnhaodd fod Iechyd yr Amgylchedd yn ymwybodol o'r defnydd tir a bod ganddynt bwerau statudol i ddelio gydag unrhyw niwsans s?n pe byddai hynny'n digwydd. Os derbynnir cais am ddefnydd penodol, gallem ddadansoddi manylion yr effaith ond mae'n anodd gwneud hynny ar y cam hwn. Fodd bynnag, rhoddodd y Swyddog sicrwydd fod defnydd B1 yn gyffredinol dderbyniol mewn ardaloedd preswyl.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau os dynodir unrhyw s?n sylweddol o safle defnydd B1 y byddent yn amlwg yn gweithredu tu allan i'w hamodau.
Gofynnodd y Cadeirydd pam ... view the full Cofnodion text for item 8. |
||
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau Ystyried. Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cynhelir sesiwn wybodaeth ar HMO (Tai Amlfeddiannaeth) ym mis Mawrth 2020.
|
||
Achosion Gorfodaeth a Gafodd eu Cau Rhwng Ystyriedadroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau. Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso o mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r wybodaeth gael ei heithrio.
PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Dilynodd trafodaeth fer pan eglurodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu bwyntiau a godwyd gan Aelod.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy'n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr Awdurdod) a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
||
Adroddiad Gorfodaeth Ystyriedadroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso o mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r wybodaeth gael ei heithrio.
PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu yng nghyswllt:- Fferm T? Shon, Tir tu cefn i Teras Glanyrafon, Bournville, Blaenau
Cafwyd trafodaeth faith am y deunyddiau a gludir i'r safle a ffynhonnell y deunyddiau. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau fod ymchwiliadau'n mynd rhagddynt ac y disgwylir ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cadarnhaodd y byddid yn dod â diweddariad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy'n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr Awdurdod) a nodir' wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|