Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwydna dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Adroddwydyr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cynghorydd J. Morgan Cynghorydd J. Gardner
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Gwnaed y datganiadau buddiant dilynol:-
Cynghorydd D. Bevan EitemRhif 4 – Adroddiad Ceisiadau Cynllunio CaisRhif C/2022/0060 5 Village Lane, Victoria, Glynebwy, NP23 8AR
Cynghorydd G. Humpreys EitemRhif 4 – Adroddiad Ceisiadau Cynllunio CaisRhif C/2022/0060 5 Village Lane, Victoria, Ebbw Vale, NP23 8AR
Cadarnhawydna fyddai’r Cynghorydd Bevan na’r Cynghorydd Humpreys yn cymryd rhan yn y broses bleidleisio ar gyfer y cais a nodir.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 7 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Cais Rhif C/2022/0060 5 Village Lane, Victoria, Glynebwy, NP23 8AR Cynnig am estyniad llawr cyntaf i’r cefn a’r ochr
Mewn pleidlais, pleidleisiodd 3 Aelod o blaid y cais a phleidleisiodd 4 Aelod o blaid argymhelliad y Swyddog. Ar hynny
PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatad cynllunio.
Cais Rhif C/2022/0047 7 Beaufort Terrace, Beaufort, Glynebwy, NP23 5NN Cynnig am estyniad deulawr yn y cefn i roi cegin, lolfa, ystafell wely, ystafell ymolchi ac ensuite a newid defnydd i wely a brecwast
Mewn pleidlais, pleidleisiodd 3 Aelod o blaid y cais a 6 Aelod o blaid argymhelliad y swyddog. Ar hynny
PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatâd cynllunio.
Cais Rhif C/2021/0278 Llain Wag i’r Gogledd a’r Dwyrain o Stad Ddiwydiannol Rasa, Rasa, Glynebwy Adeiladu a gweithredu safle pwrpasol ar gyfer gweithgynhyrchu gwydr a datblygiad cysylltiedig
Mewn pleidlais unfrydol,
PENDERFYNWYD CYMERADWYO caniatâd cynllunio.
Gadawodd y Cynghorydd D. Bevan y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Cais Rhif C/2021/0378 1 Hawthorn Glade, Tanglewood, Blaenau, NP13 3JT Cadw a chwblhau ardal decin uwch (cais blaenorol C/2019/0310)
Mewn pleidlais, pleidleisiodd 6 Aelod o blaid y cais ac 1 Aelod o blaid argymhelliad y swyddog.
Ni chymerodd y Cadeirydd (Cynghorydd L. Winnett) ran yn y bleidlais.
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio gan ddirprwyo pwerau i swyddogion gytuno ar gynllun plannu addas gyda’r ymgeisydd.
Cais Rhif C/2022/0014 Glandovey House, Oliver Jones Crescent, Tredegar NP22 3BJ Newid Defnydd o Ddosbarth C3 (a) i C2. Y defnydd presennol yw annedd breswyl
Mewn pleidlais unfrydol
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.
Ailymunodd y Cynghorydd D. Bevan â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.
Cais Rhif C/2021/0362 Fair Deal Furniture & Garden Centre, Heol Aberbîg, Aberbîg, Abertyleri, NP13 2EQ Cadw ‘newid defnydd’ y tir dros dro i ymestyn y ganolfan arddio, yn cynnwys lleoedd parcio eraill, mynediad, trefniadau gwasanaeth a chadw canopïau.
Mewn pleidlais unfrydol
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS – Mehefin 2022 PDF 152 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwydystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYDderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodeath a gynhwysir ynddo |
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwydystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYDderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodeath a gynhwysir ynddo.
|
|
Achosion Gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 11 Chwefror 2022 a 31 Mai 2022 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu..
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Rhoddwydystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Datblygu.
PENDERFYNWYDderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|