Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 3ydd Chwefror, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb gan:

 

Cynghorydd K. Rowson

Cynghorydd G. Davies

 

YMDDEOLIAD

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor mai hwn fyddai’r cyfarfod olaf i Lesley Taylor, Swyddog Cynllunio cyn ymddeol a dymunai ddiolch iddi am ei gwasanaeth a chymorth dros y blynyddoedd.

 

Adleisiodd y Pwyllgor sylwadau’r Cadeirydd ac estyn y dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol i’r Swyddog Cynllunio.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau a buddiant a wnaed.

 

 

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau dilynol o fuddiant:

 

Clive Meredith

Eitem Rhif 4 Adroddiad Cynllunio

C/2021/0274

Hen Ysgol Gyfun Glyncoed,

(Llywodraethwr Ysgol)

 

Cynghorydd D. Bevan

Eitem Rhif 4 – Adroddiad Cynllunio

C/2021/0253

Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy

 

Cynghorydd J. Hill

Eitem Rhif 4 – Adroddiad Cynllunio

C/2021/0253

Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy

 

D Hancock

Eitem Rhif 4 – Adroddiad Cynllunio

C/2021/0253

Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy

 

Cadarnhaodd yr Aelodau na fyddent yn cymryd rhan yn y broses pleidleisio.

 

4.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

C/2021/0274

Hen Ysgol Gyfun Glyncoed,

Badminton Grove, Glynebwy, NP23 5UL

Ysgol Gynradd newydd a Chyfleuster Gofal Plant gydag Ardaloedd Chwarae Allanol, Gofodau Hamdden a Seilwaith Arall Cysylltiedig

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm fod yr adroddiad yn ceisio caniatâd cynllunio i adeiladu ysgol gynradd newydd 360 lle a meithrinfa/safle gofal plant 52 lle ar gyn safle Ysgol Gyfun Glyncoed. Byddai’r ysgol arfaethedig yn cymryd lle ysgol gynradd bresennol Glyncoed sydd mewn cyflwr gwael. Nododd yr Arweinydd Tîm y byddai’r ysgol yn rhoi amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol a chwaraeon y gellid eu gwahanu oddi wrth y brif ysgol. Mae safle’r cais yn barsel o dir llwyd yn cynnwys cyfuniad o dir caled a phrysgwydd sy’n gymharol wastad gyda Badminton Grove.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm amlinelliad pellach o safle’r cais gyda chymorth y diagramau a gynhwysir o fewn yr adroddiad.

 

Siaradodd yr Arweinydd Tîm am yr adroddiad ymhellach a dywedodd y byddai mynediad i’r safle oddi ar y fynedfa bresennol i gerbydau ger Badminton Grove. Byddai’r fynedfa a’r ardaloedd parcio presennol yn cael eu huwchraddio a’u hymestyn i ddarparu ardaloedd parcio ychwanegol ac ardal gwasanaeth. Darperid cyfanswm o 111 gofod parcio car yn cynnwys 40 ar gyfer y canolfan bowls bresennol. Byddai’r 71 gofod arall ar gyfer staff ac ymwelwyr. Byddai ardal gollwng 10 bae yn ogystal at y ddarpariaeth parcio uchod.

 

Yn nhermau ymgynghoriad, adroddwyd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan ymgyngoreion, er yr amlinellwyd llythyr gwrthwynebu gan breswylwyr a amlinellwyd gan yr Arweinydd Tîm.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Tîm at egwyddor datblygu fel y manylir yn yr adroddiad a dywedodd fod y safle yn un tir llwyd lle arferai’r ysgol gyfun fod ac wedi ei leoli o fewn yr Ardal Strategaeth gogleddol lle roedd ffocws ar adfywio’r ardal. Teimlwyd y byddai’r cynnig yn darparu ar gyfer ysgol fodern newydd gyda chyfleusterau gwell yn unol â rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Dywedodd yr Arweinydd Tîm na fyddai’r cynnig yn effeithio ar ddefnydd y gymuned o’r caeau chwarae, ardal gemau, maes chwarae plant a mynedfeydd presennol.

 

Ystyriwyd nifer o wahanol gynlluniau/dyluniadau cyn eu cyflwyno i’r Pwyllgor ac amlinellodd yr Arweinydd Tîm ddyluniad yr adeilad a’r deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer y cais. Ychwanegodd yr Arweinydd Tîm y cafodd y dyluniad ei ystyried yn ofalus i bontio’n llyfn o un llawr yn nhu blaen y safle yn codi i adeilad dau lawr yn y cefn.

 

Yn nhermau priffyrdd, dywedodd yr Arweinydd Tîm fod yr Asesiad Trafnidiaeth wedi dod i’r casgliad bod y safle o ran ei leoliad a’r cyfleoedd ar gyfer mynediad gan amrywiaeth o ddulliau trafnidiaeth yn hygyrch, cynaliadwy ac yn cydymffurfio gyda pholisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Ni fyddai’r datblygiad yn arwain at fawr o gynnydd yn nifer tripiau cerbydau y gellid darparu ar eu cyfer ar y rhwydwaith priffyrdd lleol. Daethpwyd felly i’r casgliad fod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol o ran priffyrdd a thrafnidiaeth.

 

Cydnabu yr Arweinydd Tîm sylwadau’r gwrthwynebwyr yn nhermau tagfeydd posibl ar amserau brig yn ystod amser gollwng/casglu o’r ysgol, fodd bynnag nid oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Gweithred Amrywiad cytundeb A106 o ganiatâd cynllunio C/2010/0226 ar gyfer codi 40 o gartrefi fforddiadwy gyda mynediad cysylltiedig, lleoedd parcio, draeniad a thirlunio, ynghyd â dymchwel y neuadd sgowtiaid presennol a darparu neuadd sgowtiaid newydd yn Heol Ffatri, Brynmawr pdf icon PDF 295 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Datblygu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu fod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cytuno i’r “Weithred Amrywiad” i ddiwygio’r cytundeb a106 sy’n cyfeirio at y datblygiad preswyl yn Heol Ffatri, Brynmawr. Siaradodd y Rheolwr Tîm am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau allweddol yr adroddiad. Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm y Pwyllgor at yr argymhelliad ac felly

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac egwyddor Gweithred Amrywiad fel a nodir yn yr adroddiad. Hefyd bod y Pwyllgor Cynllunio yn awdurdodi swyddogion i gwblhau’r cytundeb yn amodol ar ddrafft mewn geiriad addas a baratowyd gan Melin.

 

6.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS, Chwefror 2022 pdf icon PDF 390 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

           

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

7.

Diweddariad Apêl Cynllunio: Tir ger Waun Dew, Rhiw Beaufort, Beaufort, Glynebwy pdf icon PDF 396 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Datblygu at yr adroddiad sy’n cyfeirio at gais cynllunio a wrthodwyd ym mis Awst. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y rhesymau dros wrthod a’r llythyr penderfyniad a fanylir yn yr Atodiad. Ychwanegwyd fod yr Arolygydd Cynllunio yn gwrthod yr apêl ac felly cafodd penderfyniad yr Awdurdod ei gynnal ar yr achlysur hwn.

 

Ymunodd y Cynghorydd D. Wilkshire â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad apêl cais cynllunio C/2021/0182 er gwybodaeth.

 

8.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 16 Rhagfyr 2021 a 21 Ionawr 2022 pdf icon PDF 361 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.