Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 6ed Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb gan:-

 

Cynghorydd K. Rowson

Cynghorydd T. Smith

Cynghorydd D. Wilkshire

 

DAU FUNUD O DAWELWCH

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gynnal dau funud o dawelwch fel arwydd o barch at ddiweddar wraig y Cynghorydd David Wilkshire a fu farw cyn y Nadolig.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Codwyd y datganiadau dilynol o fuddiant:

 

Wayne Hodgins (cysylltiedig â gwaith)

Eitem Rhif 4 - C/2021/0317 - 44 Stryd Beaufort, Brynmawr, Glynebwy NP23 4AG

Newid defnydd arfaethedig ar uned siop A1 i A2.

 

Cynghorydd M. Day (Aelod Bwrdd Tai Calon)

Cynghorydd C. Meredith (Aelod Ward)

 

Eitem Rhif 4 - C/2021/0179 – Cwrt Glanyrafon a thir cyfagos. Safle blaenorol tai gwarchod yn Heol Rhandir, Glynebwy, NP23 5NS – Adeiladu 15 annedd breswyl gyda ffordd newydd, lleoedd parcio, ardaloedd tirlunio caled a meddal.

 

4.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 1 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

C/2021/0306

74 Stryd y Brenin, Brynmawr, NP23 4RG

Newid defnydd swyddfeydd llawr daear a llety byw ar y llawr cyntaf a’r ail lawr i un annedd gyda newidiadau allanol cysylltiedig

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y cais yn gofyn am newid defnydd adeilad o swyddfeydd ar y llawr daear gyda llety byw ar y llawr cyntaf a’r ail lawr i fod yn un annedd. Mae’r safle yn cynnwys adeilad canol teras, dau lawr gyda llety o fewn to ar oleddf drwy 2 ddormer to goleddf. Mae’r safle o fewn anheddiad Brynmawr. Mae llawr daear yr adeilad ar lefel uwch na lefel y ffordd a cheir mynediad iddo drwy risiau i’r drychiad blaen. Mae cefn y safle yn agos at eiddo sydd hefyd yn yr un perchnogaeth â’r safle y gwneir y cais amdano. Nododd y Swyddog Cynllunio ymhellach fod yr annedd arfaethedig yn darparu lolfa a chegin/ystafell fwyta ar lefel llawr daear, 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf gydag ystafell wely ar yr ail lawr. Cynigir cynyddu maint y ffenestri dormer presennol a’u gorffen gyda chladin cyfansawdd.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio yr Aelodau at y ddelweddau a diagramau a fanylir yn yr adroddiad ac yn rhoi trosolwg o’r cynllun llawr a gynigir a’r drychiad a gynigir.

 

Nododd y Swyddog Cynllunio na chodwyd unrhyw wrthwynebiadau ac mai’r rheswm y cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oedd bod y cynnig yn groes i Bolisi DM5 sy’n dweud na chaniateid newid defnydd yr unedau ar y llawr daear i ddefnydd preswyl yng nghanol y dref. Mae’r rhan hon o Stryd y Brenin yn bennaf breswyl ac mae nodweddion yr adeilad yn fwy preswyl na masnachol. Mae’r astudiaeth Manwerthu a Hamdden a gyhoeddwyd yn ddiweddar a baratowyd fel sylfaen tystiolaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn argymell tynnu’r adeilad o ffin canol y dref. Mae’r Swyddog Cynllunio yn derbyn yr argymhelliad ac yn ystyried y gallai hyn fod yn ystyriaeth sylweddol wrth benderfynu ar y cais cynllunio.

 

Aeth y Swyddog Cynllunio ymlaen drwy ddweud na fyddai’r datblygiad yn effeithio ar adeiladau cyfagos na’n cael effaith niweidiol ar olwg stryd. Ychwanegwyd er nad oes darpariaethau parcio bod y safle mewn lleoliad cynaliadwy. Esboniodd y Swyddog Cynllunio, er fod y cynnig yn groes i Bolisi DM5, bod rhesymau gyda chyfiawnhad drostynt dros gymeradwyo’r cais yn groes i’r polisi. Ym mhob cyswllt arall mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda’r polisïau cynllunio perthnasol.

 

Croesawodd yr Aelodau Ward lleol y datblygiad a theimlai y byddai’n gwella llawer ar yr adeilad gan iddo fod yn wag am flynyddoedd lawer.

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio, gyda’r amodau a fanylir yn yr adroddiad.

 

C/2021/0317

44 Stryd Beaufort, Brynmawr, Glynebwy NP23 4AG

Newid defnydd arfaethedig uned siop A1 i A2

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu fod y Pwyllgor yn gofyn am geisio newid defnydd yr adeilad o ddefnydd A1 i ddefnydd A2. Mae’r safle o fewn anheddiad Brynmawr ac o fewn canol y dref a’r brif ardal manwerthu. Nododd yr Arweinydd Tîm mai’r defnydd hysbys diweddaraf yr adeilad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais: C/2021/0179 Safle: Cwrt Glanyrafon a thir cyfagos, Heol Rhandir, Glynebwy. Cynnig: Adeiladu 15 annedd gyda ffordd newydd, lleoedd parcio, gerddi, ardaloedd tirlun caled a meddal. pdf icon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cais a ystyriwyd gan y Pwyllgor ar 4 Tachwedd 2021 ac ymweliad safle ar 24 Tachwedd 2021. Cafodd y safle ei phegio allan yn glir i’r Pwyllgor weld yr ardal y cynigid ei datblygu, fodd bynnag penderfyniad y Pwyllgor o hyd oedd y dylid gwrthod y cais oherwydd colli gofod gwyrdd agored.

 

Dywedwyd y cafodd gohebiaeth hwyr a dderbyniwyd yng nghyswllt y cais ei chylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth yr Aelodau at yr opsiwn a ffafrir sy’n dangos y rheswm dros wrthod yn unol â’r trafodaethau gan fod  cyfarfodydd Pwyllgor a nodir uchod a dywedodd mai mater i Aelodau oedd penderfynu os mai’r geiriad a fanylir yn yr adroddiad oedd rheswm yr Aelodau dros wrthod.

 

Dywedodd y Cadeirydd na fu’n bresennol yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor lle trafodwyd yr eitem hon. Teimlai’r Cadeirydd y byddai’n briodol i gyflwyno’r cyfarfod i ofal yr Is-gadeirydd a dywedodd y Cadeirydd na fyddai’n cymryd rhan yn y bleidlais.

 

Cymerodd yr Is-gadeirydd ofal y cyfarfod ar y pwynt hwn a gwahoddodd sylwadau/cwestiynau gan Aelodau.

 

Teimlai Aelod fod y sylwadau a amlinellir yn 3.2 yr adroddiad yn rhoi adlewyrchiad cywir o sylwadau Aelodau a dywedodd ei fod yn parhau yn erbyn y datblygiad.

 

Cytunodd Aelod gyda’r sylwadau a godwyd a theimlai fod gofodau agored/gwyrdd wedi dod yn lle pwysig ym mywydau llawer o breswylwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bu newidiadau mawr i bobl ar draws y wlad gyda chyfnodau o ynysu, gweithio gartref oedd i gyd wedi codi problemau iechyd meddwl ac unigrwydd i lawer o bobl. Roedd llawer o breswylwyr o’r ardal hon wedi dweud pa mor werthfawr fu’r gofod gwyrdd hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac y byddai’n parhau i fod felly gan eu bod wedi mwynhau mynd am dro yn yr ardal gydag anifeiliaid anwes neu gwrdd â phobl. Felly teimlai’r Aelod bod cadw’r tir yn bwysig i’r bobl sy’n defnyddio’r gofod agored hwn.

 

Ychwanegodd yr Aelod fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015. Mae’r Ddeddf yn diffinio’r egwyddor datblygu cynaliadwy fel bod yn gweithredu mewn dull sy’n anelu i sicrhau anghenion y presennol heb effeithio ar angen y dyfodol. Aeth yr Aelod ymlaen drwy ddweud fod Swyddfa Archwilio Cymru fod Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am well mynediad i a gofodau agored i gymunedau, busnesau ac ymwelwyr. Mae angen deall yn well iechyd corfforol a meddwl presennol pobl yn ein cymunedau ynghyd â lefelau ynysigrwydd  cymdeithasol. Dylid cynnal yr ardaloedd hyn i sicrhau’r cyflawni amcanion hyn ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar fywydau pobl.

 

Dywedodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fod yr amcanion llesiant yn cydnabod gwerthoedd gofodau agored ar gyfer lles meddwl a chorfforol pobl. Felly teimlai’r Aelod fod yn rhaid diogelu’r gofod gwyrdd hwn ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Teimlai’r Aelod ein bod yn awr yn sylweddoli ddwy flynedd yn ddiweddarach pa mor werthfawr yw’r tir hwn ac yn credu y byddai  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS, Ionawr 2022 pdf icon PDF 150 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

7.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 9 Tachwedd 2021 a 15 Rhagfyr 2021 pdf icon PDF 472 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

8.

Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol Chwarter 4: Ionawr i Mawrth 2021 pdf icon PDF 551 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau yr Aelodau at yr adroddiad a dywedodd ei fod yn adroddiad rheolaidd sy’n rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn chwarterol. Mae’r wybodaeth perfformiad yn cyfeirio at chwarter olaf y flwyddyn ariannol ddiwethaf rhwng Ionawr a Mawrth 2021 ac a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru ar 5 Hydref 2021.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth drosolwg o’r perfformiad cyfredol fel y’i nodir yn yr adroddiad. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y 81 diwrnod ar gyfartaledd a gymerir rhag cofrestru i wneud penderfyniad ar gyfer pob cais cynllunio a dywedodd fod y Tîm yn awr yn ôl i gapasiti llawn ac y byddid yn edrych ar y deilliant hwn a’i drafod.

 

Teimlai’r Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio fod y Rheolwr Gwasanaeth a’i Dîm wedi gwneud gwaith rhagorol i gynnal y perfformiad da yn ystod y cyfnod heriol hwn a gyda phrinder staff.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad hwn a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

9.

Gohirio TAN15 newydd pdf icon PDF 307 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu y cyflwynwyd yr adroddiad i hysbysu Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad y gohirid y dyddiad y daw’r TAN 15 a’r Map Llifogydd newydd i rym. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm y byddai’r TAN 15 presennol a gyhoeddwyd yn 2004 ynghyd â’r Map Cyngor Datblygu yn parhau fel fframwaith ar gyfer asesu risg llifogydd nes mae TAN 15 a’r Map Llifogydd newydd yn ei le.

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm ymhellach am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg manwl o’r cefndir a’r cyd-destun er gwybodaeth.

 

Gofynnodd Aelod os oes gan Flaenau Gwent berson cymwys i weithredu proses TAN gan y bu’n rhaid gofyn am wasanaethau o Gaerffili yn y misoedd diweddar. Dywedodd y Rheolwr Tîm fod Blaenau Gwent wedi defnyddio Caerffili ar gyfer ceisiadau gyda phroblemau draeniad d?r wyneb gan fod Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei le. Yn nhermau canlyniad llifogydd, dywedodd y Rheolwr Tîm fod angen gwneud y gwaith fel sydd angen gan Lywodraeth Cymru wedi ei ymestyn tu hwnt i ddim ond swyddogion draeniad. Roedd nifer o adrannau ar draws yr Awdurdod wedi cymryd rhan a byddai trafodaethau gydag awdurdodau eraill.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

10.

Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 21 Hydref 2021 i 9 Rhagfyr 2021

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal y budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn eithriedig.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Datblygu.

 

Rhoddodd y Swyddog Gorfodaeth ddiweddariad ar faterion sy’n parhau a dymunai Aelodau ddiolch i’r swyddog am waith a gynhaliwyd yng nghyswllt y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.