Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cynghorydd D. Bevan Cynghorydd K. Rowson Cynghorydd J. Hill Cynghorydd B. Thomas
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 2 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:-
C/2021/0168 18 & 19 Stryd y Farchnad, Abertyleri Newid defnydd car i Far Gwin ac addasiadau allanol cysylltiedig
Rhoddodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu drosolwg o’r cais gan ddefnyddio cymhorthion gweledol. Amlinellwyd fod yr adeilad yn un lefel gwahân ar lain cornel rhwng Stryd y Farchnad a Stryd Fasnachol, Abertyleri. Bu’r adeilad yn wag am nifer o flynyddoedd gyda’r defnydd hysbys diwethaf ar y llawr daear fel A3. Roedd yr adeilad hefyd yn cynnwys uned fach yn wynebu Stryd Fasnachol a arferai fod yn siop cigydd. Nodir fod y cynlluniau’n dangos na fyddai mynediad i’r safle i Stryd Fasnachol, byddai’r fynedfa/allfan drwy Stryd y Farchnad.
Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at bryderon y byddai newid defnydd y safle i far gwin yn arwain at glystyru defnyddiau A3 yn groes i’r Canllawiau Cynllunio Atodol Bwyd a Diod. Fodd bynnag, soniodd y Rheolwr Tîm am y ffactorau y gellid eu hystyried wrth benderfynu ar y cais a dywedodd y gellid dyfarnu nad yw’r ddau ddefnydd A3 yma yn union yn ymyl y cynnig ac felly heb fod yn cynrychioli clwstwr o ddefnyddiau A3. Mae hefyd ddefnyddiau cynllunio hanesyddol wedi eu rhoi ar yr unedau.
I gloi, dywedodd y Rheolwr Tîm er pryderon o’r fath fod hefyd nifer o resymau a fyddai’n cyfiawnhau cefnogi’r cais. Mae’r adeilad diffaith yn ddolur llygad sydd ag effaith weledol negyddol ar olwg y stryd ar hyn o bryd. Gallai ailddefnyddio’r adeilad ddod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd a byddai’n cyfrannu mewn modd cadarnhaol at fywiogrwydd a hyfywedd canol y dref yn unol â Pholisi SP3 y Cynllun Datblygu Lleol.
Yn yr achos hwn teimlid fod ffactorau lleoliadol penodol ar gyfer derbyn y byddai effeithiau cadarnhaol y datblygiad hwn yn fwy na phryderon am glystyru posibl defnyddiau A3. Nid yw’r datblygiad yn codi problemau yng nghyswllt nifer yr unedau o fewn canol y dref yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Atodol ac ni ystyrir fod ganddo effaith niweidiol anffafriol ar yr ardal gyfagos yn y lleoliad hwn yng nghanol y dref. Felly, dywedodd y Rheolwr Tîm yr argymhellwyd cymeradwyo’r cais gydag amodau.
Cefnogodd yr Is-gadeirydd y cais gan y byddai’n gwella canol y dref a
PHENDERFYNWYD yn unfrydol i ROI caniatâd cynllunio.
C/2021/0196 Endsleigh, Alma Terrace, Brynmawr, Glynebwy NP23 4DR Cwympo coeden sycamorwydden (T1) a gynhwysir yng Ngorchymyn Cadw Coeden Rhif BG120
Amlinellodd yr Arweinydd Tîm – Rheoli Datblygu y cais gan ddefnyddio cymhorthion gweledol a dywedodd fod y cais yn gofyn am ganiatâd i gwympo sycamorwydden, a gynhwysir mewn Gorchymyn Cadw Coeden.
Dywedodd yr Arweinydd Tîm fod y rheswm dros gynnig cwympo’r sycamorwydden yn gysylltiedig â gwreiddiau y goeden oedd wedi achosi difrod strwythurol i wal derfyn orllewinol yr eiddo a’r stepiau, llwybr a philer clwyd cyfagos. Roedd y difrod hwn wedi arwain at i’r wal derfyn ddod yn ansefydlog a chafodd y safle ei sicrhau drwy godi ffens heras a fu yn ei lle ers mis Hydref 2019. Dywedodd yr ymgeisydd hefyd y bu’n rhaid i D?r Cymru wneud gwaith i’r garthffos ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS, Medi 2021 PDF 152 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Diweddariad Apêl Gorfodaeth: 1 Hawthorne Glade, Tanglewood, Blaenau PDF 142 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi phenderfyniad yr apêl.
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: Tir yng nghefn Stryd Newall, Abertyleri PDF 134 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2021/0033.
|
|
Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Nododd Aelod nifer y ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 25 Mai 2021 a 7 Gorffennaf 2021 a dymunai ymestyn diolch i’r swyddogion cyfrifol. Dywedwyd fod problemau capasiti o fewn y Tîm Cynllunio sy’n gosod cyfyngiadau ar staff, fodd bynnag teimlai’r Aelod fod cwblhau 47 cais yn ystod y cyfnod hwn yn glod i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|