Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd B. Willis.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Gwnaed y datganiad buddiant dilynol:-
Cynghorydd L. Winnett Eitem Rhif . 4 – Adroddiad Ceisiadau Cynllunio - C/2020/0168 Rhes yr Ysgol 1 - 7 Heol Cwmcelyn, Blaenau NP13 3LT Cadw un t? dau lawr ar wahân a 6 t? pâr (heb eu hadeiladu yn unol â chymeradwyaeth cynllunio C/2014/0257). |
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 4 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:-
C/2021/0160 Shop Row, Blaenau, Abertyleri, NP13 3DH Dau Bâr o Anheddau Pâr a Mynedfeydd Newydd
Amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais sy’n cyfeirio at 4 annedd a mynedfeydd newydd yn Shop Row, Blaenau. Rhoddwyd trosolwg o’r cais gyda chymorth ffotograffau a diagramau.
Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y safle yn dod o fewn Parth Llifogydd C2 fel y’i diffinnir gan y Mapiau Cyngor Datblygu sy’n sylfaen i bolisi cynllunio cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Risg Llifogydd a rhoddodd esboniad i’r pwyllgor fel y manylir yn ffigur 8 yr adroddiad. Ychwanegodd fod TAN 15 a llythyr dilynol Llywodraeth Cymru at Brif Swyddogion Cynllunio parthed polisi cynllunio ar risg llifogydd a newidiadau diwydiant yn rhoi cyngor llym ar ddatblygiad preswyl a gaiff ei ddosbarthu fel datblygiad bregus iawn mewn gorlifdir parth C2. Nododd y Swyddog Cynllunio fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y dylid gwrthod y cais ar seiliau polisi cynllunio os nad oes rhesymau sy’n trechu hynny pam y dylid rhoi caniatâd cynllunio. Roedd y Swyddog Cynllunio yn cydnabod yn llawn y ddadl a amlinellir yn y datganiad cefnogi a ddynodir ym mapiau diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru nad yw’r safle mewn risg o lifogydd. Fodd bynnag, nodwyd na chafodd y mapiau hyn eu mabwysiadu’n genedlaethola ar gyfer dibenion cynllunio hyd yma.
Felly nododd y Swyddog Cynllunio yr argymhelliad y dylid gwrthod y cais ar sail lifogydd. Fodd bynnag, pe bai’r Pwyllgor o blaid rhoi’r gwrthwynebiad polisi o’r neilltu a chefnogi’r cais yn groes i TAN 15 a pholisi’r cynllun lleol, gofynnwyd y dylid gofyn am fwy o gyngor technegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar addasrwydd yr asesiad canlyniad llifogydd a gyflwynwyd cyn penderfynu ar y cais i sicrhau y gallai’r Awdurdod Lleol fod yn fodlon y gellid trin unrhyw lifogydd posibl. Hefyd dylid ychwanegu unrhyw amodau ychwanegol priodol yn nhermau ecoleg a phriffyrdd fel y nodir yn yr adroddiad.
Ar wahoddiad y Cadeirydd rhoddodd Mr R. Pryce, Asiant, anerchiad i gefnogi’r cais. Dywedodd Mr. Pryce y rhoddwyd ystyriaeth ofalus i risg llifogydd y datblygiad arfaethedig a chadarnhaodd ei bod yn hollol fodlon. Byddai’r anheddau yn estyniad o’r cartrefi sydd eisoes yn ardal gyda maint llain tebyg i’r adeiladau cyfagos. Ychwanegodd Mr. Pryce fod dyluniad y gerddi a’r tai yn dderbyniol i’r swyddog ac nid oedd gan Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad.
Byddai’r datblygiad yn parhau’r mynediad llwybr troed presennol i’r tu blaen a byddai’r dyluniad yn lleihau ôl-troed carbon y tai gyda strwythurau sy’n lleihau colli gwres. Byddai’r datblygiad hefyd yn cynnwys systemau gwresogi carbon isel, PV solar a phympiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau trydan.
Nododd Mr. Pryce fod y datblygiad yn dderbyniol ym mhob cyswllt heblaw’r gwrthwynebiadau risg llifogydd seiliedig ar bolisi, fodd bynnag rhoddwyd ystyriaeth i ffactorau cynllunio sylweddol cryf yn yr achos hwn. Cyfeiriodd Mr. Pryce at y manylion yn yr adroddiad yng nghyswllt cynllunio a roddwyd i’r perchnogion blaenorol a dderbyniwyd yn unol â’r polisi risgiau llifogydd cenedlaethol presennol. Er y bu mwy o graffu ar bolisi risg llifogydd mewn blynyddoedd diweddar, ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: Tir i gefn Park Hill, Tredegar Cyf: C/2017/0193 PDF 137 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Gorffennaf 2021 PDF 152 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau am yr adroddiad a dywedodd y gwnaed cais i Aelodau lleol i gyflwyno’r achos yng nghyswllt Stryd Charles, Tredegar; fodd bynnag ni chafwyd unrhyw ymateb. Felly cadarnhawyd na fyddai’r Awdurdod Lleol yn cystadlu’r apêl ac anfonwyd copi o’r adroddiad a’r cofnodion perthnasol er gwybodaeth.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Cododd Aelod bryderon am y caniatâd cynllunio cyfredol yn Stryd Marine, Cwm. Gofynnodd Aelod Ward os gallai swyddogion wrthod caniatâd cynllunio pellach neu sicrhau fod y perchennog yn gwneud y gwaith addas ar y safle. Roedd y safle mewn cyflwr gwael iawn ac yn ddolur llygad.
Cadarnhawyd y cafodd y cais ei gymeradwyo eisoes am gyfnod o 5 mlynedd a dywedodd y Rheolwr Tîm Datblygu y cynhaliwyd ymweliad safle ac nad oedd cyflwr y tir yn galw am gyflwyno Hysbysiad 215, fodd bynnag awgrymodd y Rheolwr Tîm gynnal trafodaeth gyda’r perchennog i ofyn i’r tir gael ei ddatblygu er na fedrid rhoi amserlen ar y cais hwn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 25 Mai 2021 a 8 Gorffennaf 2021 Ystyried adroddiad Uwch Swyddog Cymorth Busnes. Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, fod o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes er ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â’r unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|