Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbynymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyriedunrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Gwnaed y datganiad buddiant dilynol:-
Cynghorydd L. Winnett Eitem Rhif 6 – Adroddiad Cais Cynllunio Cais Rhif: C/2020/0290 Tir Gardd yn 46 Heol y Feddygfa, Blaenau, NP13 3AZ Datblygiad ar gyfer un annedd (amlinellol)
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Mawrth 2021 PDF 395 KB Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
Gadawodd y Cynghorydd W. Hodgins y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau yr wybodaeth ddiweddaraf yng nghyswllt yr apêl a gollwyd ar gyfer fferm solar DNS yn Nhredegar a dywedodd, er na chafwyd anfoneb hyd yma, y byddai’r costau tua £20,000 heb unrhyw gyllideb benodol ar gyfer y costau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyriedadroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 2 MB To consider the report of the Team Manager Development Management. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cais Rhif C/2020/0290 Tir Gardd yn 46 Heol y Feddygfa, Blaenau, NP13 3AZ Datblygiad ar gyfer un annedd (amlinellol)
Siaradodd y Swyddog Cynllunio am y cais a dywedodd fod y safle yn ffurfio rhan o ardd 46 Heol y Feddygfa. Mae gan y safle fantais garej bresennol segur a chlwyd mynediad i gefn y llain sy’n arwain i’r llwybr mynediad cefn. Gellid cael mynediad i’r safle o Heol y Feddygfa drwy’r dramwyfa bresennol sy’n gwasanaethu Rhif 46. Amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais gyda chymorth diagramau/ffotograffau a nododd fod y stryd yn cynnwys cyfuniad o dai teras deulawr a byddai’r adeilad arfaethedig rhwng adeilad deulawr a byngalo.
Ychwanegodd y Swyddog Cynllunio fod y cais yn ceisio caniatâd amlinellol ar gyfer un annedd, ac eithrio dynesfa newydd oddi ar Heol y Feddygfa, gyda phob mater arall wedi eu cadw i’w hystyried yn y dyfodol.
Nododd y Swyddog Cynllunio na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan yr ymgyngoreion statudol mewnol neu allanol, fodd bynnag cafwyd gwrthwynebiadau gan breswylwyr ac Aelod Ward a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Ychwanegodd y Swyddog Cynllunio fod y safle yn dod o fewn ffin yr anheddiad y mae datblygiad newydd yn dderbyniol ynddo yn amodol ar bolisïau y Cynllun Datblygu Lleol. Nododd y Swyddog fod dwy brif ystyriaeth wrth benderfynu ar y cais hwn, p’un ai yw egwyddor datblygiad preswyl yn dderbyniol a bod y mynediad a gyngor yn ddigonol. Atgoffodd y Swyddog yr Aelodau y caiff pob mater arall eu cadw i’w hystyried yn y dyfodol.
Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio at ganiatâd cynllunio amlinellol a roddwyd yn flaenorol ar gyfer annedd ar y safle yn 2003 a dywedodd nad oedd amgylchiadau’r safle wedi newid yn sylweddol. Ar hyn o bryd mae’r safle yn rhan o libart preswyl o fewn ardal breswyl sefydledig ac mae’r cynllun a gynigir yn dangos fod y safle yn ddigon mawr ar gyfer annedd gyda digon o ofod amwynder ar gyfer yr annedd arfaethedig a gardd rhif 46. Felly ystyriwyd bod egwyddor datblygu yn gydnaws gyda’r defnyddiau o amgylch ac yn cydymffurfio gyda pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol.
Nododd y Swyddog Cynllunio ymhellach faterion yn ymwneud â mynediad, amwynderau cymdogion a draeniad fel yr amlinellir yn yr adroddiad. I gloi, mae’r Swyddog Cynllunio wedi rhoi ystyriaeth i’r datblygiad o gymharu â’r polisïau Cynllun Datblygu Lleol perthnasol a chredai fod y datblygiad preswyl a’r mynediad arfaethedig yn dderbyniol, yn amodol ar gymeradwyo materion a gadwyd. Felly nododd y Swyddog Cynllunio argymhelliad y swyddog ar gyfer cymeradwyaeth.
Ar wahoddiad y Cadeirydd, nododd Mrs Lisa Winnett, Gwrthwynebydd/ Aelod Ward, y cais a dywedodd ei bod yn anghytuno gydag argymhelliad y swyddog. Dywedodd Mrs Winnett fod problemau sylweddol gyda pharcio ar Heol y Feddygfa ac yn y rhan fwyaf o achosion mae ceir yn parcio ar hyd y llinellau melyn dwbl ac o flaen tramwyfeydd. Roedd gwelededd cyfyngedig o dramwyfeydd a byddai tramwyfa arall yn yr ardal yn arwain at golli mwy o leoedd.
Teimlai Mrs Winnett nad oedd y datblygiad ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau To consider. Cofnodion: NI chodwyd unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth na hyfforddiant aelodau.
|
|
Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 17 Medi 2020 a 23 Chwefror 2021 Ystyriedadroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|