Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb dilynol gan:- Cynghorydd M. Day Cynghorydd B. Thomas Cynghorydd G. Thomas Cynghorydd K. Rowson Cynghorydd L. Winnett
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Fferm Solar, Tir yn Wauntyswg, Tredegar PDF 527 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
Nododd y Pwyllgor eu siom na chafodd ymateb y Gweinidog ei drin yn unrhyw un o’r pryderon a godwyd. Dywedodd yr Is-gadeirydd mai’r argraff a roddwyd yn y llythyr gwreiddiol oedd bod y Pwyllgor Cynllunio wedi gweithredu yn anghyfrifol pan roddwyd ystyriaeth i’r cais cynllunio. Teimlai’r Is-gadeirydd fod Swyddogion wedi llunio llythyr ardderchog ar ran y Pwyllgor Cynllunio ac nad oedd ymateb y Gweinidog wedi cydnabod unrhyw sylw a godwyd.
Mewn ymateb i gwestiwn am gostau, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau na chafodd y costau a achosir i’r Cyngor eu derbyn eto.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Chwefror 2021 PDF 548 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio 51 Coronation Street, Blaenau PDF 483 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ar gyfer y penderfyniadau apêl ar gyfer cais cynllunio C/2020/0024.
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: 19 Railway View Tredegar PDF 478 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ar gyfer y penderfyniadau apêl ar gyfer cais cynllunio C/2020/0203.
|
|
Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at Gais Rhif C/2020/0286 a gofynnodd os oedd yr amod a dynnwyd yn ymwneud ag agwedd tai cymdeithasol yn gysylltiedig â’r cytundeb Adran 106 a gymeradwywyd gan y Pwyllgor.
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau fod yr amod tai fforddiadwy yn dal yn ei le gan ei fod hefyd yn rhan o gytundeb Adran 106, felly mae’r cais yn tynnu’r amod o’r cais cynllunio, er ei fod yn parhau yn y cytundeb Adran 106.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 2 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
C/2020/0287 Gardd y Nag’s Head, Heol Merthyr, Tafarnaubach, Tredegar Codi T? Newydd
Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y cais yn gofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer t? newydd yng ngardd tafarn y Nag’s Head, Heol Merthyr, Tafarnaubach, Tredegar. Mae’r safle i ddwyrain y t? tafarn presennol a chaiff ei ddangos ar y cynlluniau fel gardd gwrw. Esboniodd y Swyddog y safle, dyluniad a lleoliad gyda chymorth diagramau ac esboniodd y caiff y garej un-llawr ar y safle ei symud i wneud lle ar gyfer y datblygiad. Byddai’r annedd a gynigir yn cael ei gosod tu ôl i linell yr adeilad bresennol gyda’r tu blaen ar Heol Merthyr. Byddai tri llawr yn yr annedd arfaethedig gyda blaen talcennog, estyniad gyda tho fflat a ddefnyddir fel balconi llawr cyntaf a balconi Juliet i’r gofod to.
Y gorffenion a gynigir yw rendr sment a llechi Cambrian. Cynigir tri gofod parcio ceir i du blaen ac ochr y t? gyda gardd fach yn y cefn. Mae’r cais yn ailgyflwyno cais blaenorol a gafodd ei dynnu’n ôl. Cyn ei dynnu’n ôl, cynhaliwyd trafodaethau gyda’r ymgeisydd yng nghyswllt pryderon am y dyluniad.
Mae’r cynnig presennol yn diwygio’r cynllun a dynnu’n ôl. Cadarnhaodd y Swyddog fod yr un pryderon yn parhau, fodd bynnag dymunai’r Ymgeisydd i’r cais gael ei gyflwyno yn ei ffurf bresennol.
Nododd y Swyddog Cynllunio yr ymgynghoriad a dywedodd na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan ymgyngoreion statudol na chymdogion. Fe wnaeth y Swyddog ymhellach amlinellu’r asesiad cynllunio a rhoi trosolwg o ddyluniad a chynllun yr annedd a gynigir. Amlinellodd y Swyddog y pryderon yng nghyswllt dyluniad yr annedd a dywedodd, er nad oes gwrthwynebiad mewn egwyddor i ddatblygiad o’r fath, bod ffurf a dyluniad y t? a gynigir yn achosi pryderon. Er y gallai’r safle gynnwys annedd o’r maint hwn a ddyluniwyd i barchu cyfeiriadedd a llinell toeau anheddau presennol yn yr ardal, mae siâp a chyfeiriadedd yr annedd a gynigir yn codi pryderon o safbwynt gweledol a chydnawsedd. Felly dywedodd y Swyddog Cynllunio mai argymhelliad y swyddog oedd gwrthod caniatâd cynllunio.
Dywedodd Aelod y byddai’r datblygiad yn defnyddio maes parcio y dafarn ac felly teimlai y byddai hyn yn cael effaith ar fynediad, yr ardal o amgylch a gallai achosi goblygiadau i’r briffordd.
Nododd yr Arweinydd Tîm – Amgylchedd Adeiledig fod mynediad presennol yn yr ardal oedd y brif fynedfa ar gyfer y datblygiad. Yng nghyswllt maes parcio’r dafarn, byddai hyn yn cael ei golli ac roedd yr Ymgeisydd yn gwybod am y risgiau cysylltiedig, fodd bynnag roedd lleoedd parcio yng nghefn yr adeilad y gellid ei ddefnyddio ar gyfer cwsmeriaid.
Codwyd pryderon am y rheswm dros wrthod a dywedodd y Swyddog Cynllunio fod cyfuniad ar gyfer yr argymhelliad oedd wedi’i seilio’n bennaf ar ddyluniad gwael yr eiddo a gynigir yng nghyswllt y to blaen a’r balconi tafluniedig.
Cyfeiriodd Aelod Ward at y cais a nododd am nifer o gamsyniadau yn yr adroddiad. Dywedodd fod y lon gul ar ochr y datblygiad yn heol un ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau Ystyried meysydd. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth na hyfforddiant i aelodau.
|