Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 7fed Ionawr, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Ionawr 2021 pdf icon PDF 250 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

5.

Gwybodaeth Perfformiad Chwarter 2: Gorffennaf – Medi 2020 pdf icon PDF 347 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau am yr adroddiad a nododd fod y Cyngor wedi penderfynu ar 100% o’r holl geisiadau yn ystod Chwarter 2. Mae hyn yn cymharu â chyfartaledd Cymru o 80%. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr amser rhwng cofrestru a’r Pwyllgor yn gyfartaledd o 85 diwrnod o gymharu â chyfartaledd Cymru o 94 diwrnod. Dywedodd ymhellach y cafodd 0% o benderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio eu cymeradwyo yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cynhaliwyd dau Bwyllgor yn ystod Chwarter 2 a dywedodd fod cyfarfodydd rhithiol yn dal i gael eu sefydlu ar draws pob Cyngor yn ystod y cyfnod hwn.

 

Ymunodd y Cynghorydd D. Wilkshire â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Canmolodd yr Is-gadeirydd y Rheolwr Gwasanaeth a’i Dîm ar eu perfformiad. Secondiwyd nifer o swyddogion o’r Tîm yn ystod y cyfnod hwn i ddelio gyda’r ymateb argyfwng ac felly croesawyd y ffigurau hyn. Teimlai’r Is-gadeirydd fod y perfformiad yn dangos gwerth am arian am y gwasanaeth a roddwyd.

 

Cytunodd y Pwyllgor gyda’r sylwadau a wnaed a llongyfarchodd y Rheolwr Gwasanaeth a’i Dîm ar eu perfformiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

6.

Diweddariad Apêl Cynllunio: Parc Solar 30MW yn Fferm Wauntyswg, Rhymni, Tredegar pdf icon PDF 287 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau am yr adroddiad a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am benderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio yng nghyswllt apêl cynllunio yn erbyn gwrthod caniatâd i ymestyn oes weithredol y cynnig am barc solar 30MW yn Fferm Wauntyswg o 30 i 40 mlynedd (Cyf: C/2019/0280). Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2020 pan benderfynwyd gwrthod caniatâd cynllunio yn groes i gyngor swyddog a dirprwyo awdurdod i swyddogion i gyhoeddi rheswm dros wrthod. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod yr ymgeisydd hefyd wedi gwneud cais am gostau i’r Cyngor yn dilyn apêl i’r Arolygiaeth Cynllunio.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth benderfyniad yr apêl a ganiatawyd gan yr Arolygiaeth Cynllunio ac roedd hefyd wedi dyfarnu costau llawn i’r apeliwr.

 

Nododd Aelod fod y Gweinidog wedi gwrthdroi’r penderfyniad gwreiddiol a bod yr Arolygydd yn awr wedi gosod 10 mlynedd bellach. Teimlai yr Aelod y cafodd democratiaeth lleol ei wrthdroi ac mae Cyngor Tref Tredegar fel ymgyngoreion statudol wedi ysgrifennu at y Gweinidog i gofnodi eu siom am y penderfyniad.

 

Teimlai Aelod arall y gellid ymestyn y parc solar ymhellach ar ddiwedd y cyfnod a gytunwyd. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth y gallai’r datblygwr wneud cais i amrywio amodau’r caniatâd ar unrhyw amser. Cododd Aelodau bryderon bellach am dôn adroddiad yr Arolygydd a gofynnodd pa wybodaeth a gafodd yr Arolygiaeth Cynllunio gan efallai nad yw’r cofnodion yn adlewyrchu’r drafodaeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y caiff adroddiadau, papurau cefndir, cofnodion ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig i gyd eu darparu i’r Arolygiaeth Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth yn gysylltiedig â’r apêl a nodi’r penderfyniadau cost ar gyfer cais cynllunio C/2019/2080 fel y’i rhoddir yn Atodiad 1.

 

7.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau

Ystyried meysydd.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ceisio sicrhau hyfforddiant yng nghyswllt arwyddion mewn ardaloedd cadwraeth.

 

Gadawodd y Cynghorydd B. Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

8.

Apêl Cynllunio: Fferm Solar yn Wauntyswg, Tredegar

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 16 a 17, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau yn fanwl am yr adroddiad ac amlinellu’r pwyntiau allweddol ynddo. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at yr opsiynau i gael eu hystyried a gafodd eu trafod yn faith ynghyd â’r adroddiad.

 

Yn dilyn trafodaethau

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â gwybodaeth yn gysylltiedig â hawliad i fraint broffesiynol gyfreithiol y gellid ei chadw mewn trafodiadau cyfreithiol a gwybodaeth a fyddai, pe byddai’n cael ei datgelu i’r cyhoedd, yn dangos bod yr Awdurdod yn cynnig:

 

a)    Rhoi hysbysiad dan unrhyw ddeddfiad y caiff gofynion eu gosod ar berson oddi tani neu yn ei sgil; neu

b)    Wneud gorchymyn neu gyfarwyddyd dan unrhyw ddeddfiad

 

a chytuno ar opsiwn 1 a 2, sef anfon penderfyniad yr Arolygydd gyda gohebiaeth gefnogi i’r Gweinidog ar ran y Pwyllgor Cynllunio.