Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 3ydd Rhagfyr, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd G. Thomas.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Rhagfyr 2020 pdf icon PDF 248 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar Fferm Wauntyswg, Abertyswg, Tredegar a gadarnhawyd ers cyhoeddi’r adroddiad. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cymeradwywyd yr Apêl ac y dyfarnwyd costau llawn. Ni theimlai’r Arolygydd fod y Pwyllgor Cynllunio wedi rhoi rhesymau digonol dros wrthod.

 

Nododd Aelod Ward ei siom gyda’r penderfyniad hwn a theimlai y dylid hysbysu Julie James gan iddi ddweud na fyddai ond am gyfnod byr, fodd bynnag nid yw 10 mlynedd yn gyfnod byr.

 

Dilynodd trafodaethau pellach am benderfyniad yr Arolygydd a theimlai Aelodau y dylai gael ei herio. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cyflwynir adroddiad llawn i’r Pwyllgor Cynllunio maes o law ac y gellid cynnwys yr holl agweddau hyn. Mae opsiwn i herio’r penderfyniad drwy’r llysoedd a gellid cynnwys hyn ynghyd â chostau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.

 

5.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 26 Hydref 2020 a 20 Tachwedd 2020 pdf icon PDF 196 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Gofynnodd Aelod Ward pam y gwrthodwyd 30 Stryd y Frenhines, Blaenau.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio y cafodd y cais ei wrthod yn seiliedig ar faint yr estyniad, fodd bynnag cafodd hyn ei ddatrys erbyn hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ynddo.

 

6.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 1 MB

Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2013/0170

Hen Safle Cronfa Dd?r Rhyd y Blew, Glynebwy

Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ynghyd â mynediad cysylltiedig, parcio ceir a gwasanaethau, gofod agored a thirlunio a phob gwaith a gweithgaredd ategol arall

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm, Rheoli Datblygu y cais cynllunio a adroddwyd i’r Pwyllgor Cynllunio yn 2014. Nodwyd fod Aelodau yn flaenorol wedi penderfynu cymeradwyo caniatâd cynllunio amlinellol yn unol ag argymhelliad swyddog. Mae hyn yn golygu fod angen i’r ymgeiswyr ymrwymo i Gytundeb Adran 106 cyn y rhoddid caniatâd. Ni chafodd yr Adran 106 ei gwblhau yn y cyfnod cydrhwng ac mae’r cais yn dal heb ei benderfynu, felly mae’r adroddiad yn amlinellu’r rhesymau pam fod y cais yn parhau heb ei benderfynu.

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm ymhellach am yr adroddiad a nododd, ar ôl dod i wybod am ganfyddiadau’r asesiad annibynnol a gynhaliwyd, y bu trafodaeth bellach gyda golwg ar egluro os byddai’r ymgeisydd yn barod i gynnig unrhyw gyfraniad naill ai ar ffurf tai fforddiadwy neu gyfraniad ariannol. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr asiant y byddai’r cleient yn barod i ddarparu 10% tai fforddiadwy. Yn y cyd-destun hwn dywedodd yr asiant y gellid sicrhau hyn drwy amod cynllunio a fyddai’n golygu na fyddai angen cytundeb a106. Awgrymwyd hefyd y dylid cynnwys cymalau yn y cytundeb i sicrhau fod hyfywedd y cynllun yn cael ei ailwerthuso rywbryd yn y dyfodol a chytunwyd ar y cysyniad hwn mewn egwyddor i gyflwyno dull fyddai angen adolygu’r asesiad hyfywedd.

 

I gloi, nodwyd argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais am y rhesymau a fanylir yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn, rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Owain Griffiths i annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr. Griffiths, yr Asiant, wrth y Pwyllgor fod y safle yn ffurfio rhan o ardal dyraniad tai pwysig yn y Cynllun Datblygu Lleol. Adroddwyd fod y Pwyllgor Cynllunio eisoes wedi penderfynu rhoi caniatâd cynllunio amlinellol yn amodol ar gytundeb a106. Roedd y cais a gyflwynwyd er mwyn ceisio cymeradwyaeth i’r cytundeb a106 diwygiedig i sicrhau bod y cynllun yn hyfyw yn ariannol ac y medrid ei gyflawni.

 

Cyflwynwyd adroddiad y llynedd a ddangosai nad oedd y cynllun yn ariannol hyfyw. Ychwanegwyd fod y swyddog cynllunio wedi gofyn am gyngor annibynnol gan brisiwr annibynnol a chyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar a gytunai gyda’n canfyddiadau a ddaeth i’r casgliad nad oedd y cynllun yn ariannol hyfyw o unrhyw gyfraniadau ariannol, fodd bynnag dywedwyd fod y cleient wedi cytuno i ddarparu 10% tai fforddiadwy yn unol â pholisi’r Cynllun Datblygu Lleol yn yr ardal.

 

Bu diddordeb yn y safle, fodd bynnag byddai angen symud ymlaen gyda’r caniatâd cynllunio amlinellol.

 

Soniodd Mr Griffiths ar yr argyfwng tai cenedlaethol gan ddweud bod y cyflenwad o dir ar gyfer cartrefi newydd yn gyfyngedig, a bod hynny yn her i Gymru. Mae’r ardal hon yn safle tir llwyd segur a byddai’n ddelfrydol ar gyfer tai teulu a byddai’n hwb mawr i’r economi lleol. Nododd Mr Griffiths y byddai’n cynhyrchu tua £1m mewn gwariant,  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau

Ystyried meysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth/hyfforddiant Aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth neu hyfforddiant aelodau.