Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb dilynol gan:-
Cynghorydd D. Hancock Cynghorydd L. Winnett
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed. Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau. |
|
Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Adroddiad Perfformiad Chwarterol PDF 560 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau am yr adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol. Nodwyd fod Chwarter 1 yn cynnwys cyfnod clo a dywedodd nad oedd y perfformiad o reidrwydd yn gynrychioladol o’r gwasanaeth ym Mlaenau Gwent a ledled Cymru. Bu’n rhaid i’r Adran Cynllunio ymdopi gydag absenoldeb salwch, addasu i weithio a bell a chafodd nifer o swyddogion eu hadleoli i gynorthwyo gyda’r sefyllfa argyfwng. Yn y cyd-destun hwn teimlai’r Rheolwr Gwasanaeth fod y gostyngiad mewn perfformiad yn dderbyniol.
Dymunai’r Gweinidog ddiolch i’r Adran Cynllunio gan fod yr adroddiad yn glod i’r Adran am gynnal y perfformiad yn ystod Chwarter 1 oherwydd heriau a wynebir gan y gwasanaeth.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y diwydiant datblygu wedi parhau i weithio drwy’r cyfnod clo a bod staff wedi gweithio’n galed i sicrhau y bu’r gwasanaethau rheng flaen hyn ar gael ac wedi parhau yn ystod y pandemig.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Tachwedd 2020 PDF 257 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau am yr adroddiad ac atgoffodd Aelodau y cafodd y cais ei wrthod yng Nghyfarfod Pwyllgor mis Chwefror yn groes i benderfyniad y swyddog. Nodwyd fod yr Arolygydd yn teimlo fod un gofod parcio yn dderbyniol gan fod y datblygiad yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth.
Nododd Aelodau Ward eu siom am gymeradwyo’r apêl gan fod cyfleusterau tebyg wedi achosi problemau i breswylwyr mewn ardaloedd eraill.
Dilynodd trafodaeth am gysylltiadau trafnidiaeth yn yr ardal, gan y teimlai Aelodau nad oedd trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol ym Mlaenau Gwent. Credai Aelod nad oedd Ward Cwm yn wahanol i ardaloedd eraill ym Mlaenau Gwent ac felly gofynnodd am esboniad ar y cysylltiadau trafnidiaeth sydd ar gael.
Dywedwyd y rhoddir esboniad yn Adroddiad yr Arolygydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r penderfyniad apêl yng nghyswllt cais cynllunio C/2019/0308 .
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: Mill Farm, Pochin Crescent, Tredegar Cyf.: C/2019/0279 PDF 236 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau at yr apêl yn erbyn y cais a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig. Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth ganfyddiadau’r Arolygydd a nododd i’r apêl gael ei gwrthod oherwydd y risg llifogydd.
Croesawodd Aelod Ward benderfyniad apêl yr Arolygydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r penderfyniad apêl yng nghyswllt cais cynllunio C/2019/0279.
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: 3 yn Stryd Glandwr, Abertyleri PDF 237 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi phenderfyniad yr apêl yng nghyswllt cais cynllunio C/2019/0219.
|
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 584 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cais Rhif C/2020/0148: The Bridge, Station Approach, Pontygof, Glynebwy Newid defnydd i feithrinfa, storfa biniau, grisiau dianc, tirlunio a maes parcio cysylltiedig
Dywedwyd y cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Hydref a chafwyd trafodaeth hir am risg llifogydd y datblygiad.
Argymhelliad y swyddog oedd gwrthod y cais yn seiliedig ar risg llifogydd datblygiad bregus iawn, fodd bynnag roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio gydag amodau priodol. Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r penderfyniad er mwyn i swyddogion gyflwyno rhestr o amodau cynllunio perthnasol i’w llunio a chyflwyno’r amodau hyn i’r Pwyllgor hwn eu hystyried.
Cyfeiriodd Aelod at yr amod sy’n cyfeirio at oriau busnes o 8.00am i 6.00pm a gofynnodd os oedd hyn yn drefn arferol neu’n amod ychwanegol yn unig yn berthnasol i’r cais hwn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Stadau a Datblygu y cafodd yr oriau hyn eu hawgrymu gan yr ymgeisydd ac ychwanegodd swyddog oriau ychwanegol i roi hyblygrwydd i’r busnes. Mae’r amod yn ymwneud ag oriau agor y cyfleuster ac mae’n arferol ac nid yw’n atal staff rhag bod ar y safle cyn ac ar ôl yr amser hwn, er y gellid dileu’r amod pe dymunai Aelodau.
Cyhyd nad oedd yr ymgeisydd dan anfantais, teimlai’r Aelod y gellid cynnwys amod.
Yn dilyn trafodaeth a phleidlais
PENDERFYNWYD yn unfrydol RHOI Caniatâd Cynllunio gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad.
Cais Rhif C/2020/0156: Cyn Glinig Brynmawr, Stryd Bailey Isaf, Brynmawr Adeiladu Llety Byw â Chymorth yn cynnwys 5 fflat 1 ystafell wely, ardaloedd cymunol, llety staff a gwaith cysylltiedig
Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y Pwyllgor y derbyniwyd gohebiaeth gan y Cynghorydd Lyn Elias, Aelod Ward, ac amlinellodd yr ohebiaeth, fel sy’n dilyn:-
“Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn cyflwyno fy sylwadau ar y datblygiad hwn i’r Pwyllgor.
Cafodd y datblygwr gyfarfod gydag Aelodau Ward ym mis Ionawr gyda chynigion dechreuol. Mynegwyd pryderon am y datblygiad yn bennaf o amgylch mynediad cerbydau, parcio a goruchwyliaeth cleientiaid ar y safle.
Mae Stryd Bailey Isaf yn ffordd gul 9 troedfedd o led ac eisoes yn dioddef o ddiffyg lleoedd parcio. Rwy’n cytuno gyda’r pwyntiau a wneir yn 1-3,3-2 i 3-6 yr adroddiad a hefyd yn cefnogi’r ymateb yn 3-18. Oherwydd problemau parcio, awgrymais wrth y datblygwr eu bod yn edrych ar y parsel o dir yng nghefn y datblygiad a allai liniaru pryderon am barcio.
Gofynnaf i’r pwyllgor ystyried gohirio nes caiff cwestiynau eu hateb ar ymweliad safle fel y gallent weld y problemau y byddai symudiadau cerbydau ychwanegol yn ei achosi.
Diolch i chi am fynd â fy sylwadau gerbron y pwyllgor.”
Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd iddo gael dderbyn ail ohebiaeth hwyr gan breswylydd oedd yn flaenorol wedi codi gwrthwynebiadau tebyg mewn gohebiaeth gynharach a dderbyniwyd.
Ar wahoddiad y Cadeirydd, amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais ar gyfer adeiladu Llety Byw â Chymorth yn cynnwys 5 fflat un ystafell wely, ardaloedd cymunol, llety staff a gweithiau cysylltiedig yn yr ardal breswyl yn Stryd Bailey ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau Ystyried meysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth/hyfforddiant aelodau.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw feysydd ar gyfer sesiynau gwybodaeth/hyfforddiant i Aelodau.
|