Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau..
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb gan:-
Cynghorwyr B. Thomas a D. Wilkshire.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed. Cofnodion: Ni chofnodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS PDF 267 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Diweddariad Apêl Gorfodaeth: 7 Brynawel, Brynmawr PDF 173 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cydymffurfiaeth Cynllunio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: DIWEDDARIAD APÊL GORFODAETH: 7 BRYNAWEL, BRYNMAWR
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cydymffurfiaeth Cynllunio.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r penderfyniad apêl ar gyfer Hysbysiad Gorfodaeth CO/2019/00052 fel y’i atodir yn Atodiad A.
|
|
Diweddariad Apêl Gorfodaeth: Tir yng Nghaeau Seren, Glynebwy PDF 237 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cydymffurfiaeth Cynllunio. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cydymffurfiaeth Cynllunio.
Dilynodd trafodaethau yn ymwneud â’r cyfnod cydymffurfiaeth a dywedwyd fod yr Arolygydd wedi dyfarnu 6 mis o 11/09/2020. Cafodd y dyddiad cwblhau ei nodi a gwneir ymweliadau cydymffurfiaeth dros y cyfnod 6-mis.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r penderfyniad apêl ar gyfer Hysbysiad Gorfodaeth CO/2019/00105 fel y’i atodir yn Atodiad A.
|
|
Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cydymffurfiaeth Cyfreithiol.
Croesawodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio benderfyniad yr apêl a theimlai y byddai preswylwyr lleol hefyd o blaid y penderfyniad.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r penderfyniadau apeliadau am gais cynllunio C/2019/0312 a C/2019/0318 fel y’i atodir yn Atodiad A.
|
|
Diweddariad Apêl Cynllunio: 39 Rhiw Beaufort, Beaufort, Glynebwy PDF 234 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Tîm, Rheoli Datblygu.
Nododd Aelod Ward ei siom am ganlyniad yr apêl ac roedd yn dal o’r farn fod y datblygiad yn achosi risg diogelwch oherwydd y lleoliad.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a phenderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2020/0036 fel y’i atodir yn Atodiad A.
|
|
Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 17 Awst 2020 a 17 Medi 2020 PDF 200 KB Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes..
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 17 Awst a 17 Medi 2020.
|
|
Adroddiad Gorfodaeth PDF 671 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Tîm, Rheoli Datblygu.
PENDERFYNWYD derbyn yr apêl a nodwyd fod y ffeil wedi cau. |
|
Adroddiad Ceisiadau Cynllunio PDF 1 MB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu Cofnodion: Rhoddwyd i ystyriaeth adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.
Cais Rhif C/2020/0148 The Bridge, Station Approach, Pontygof, Glynebwy Newid defnydd i Feithrinfa, Storfa Biniau, Grisiau Dianc, Tirlunio a Maes Parcio Cysylltiedig
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cais cynllunio a nododd fod y pwyllgor yn flaenorol ar 11 Chwefror 2020 wedi gwrthod caniatâd cynllunio. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r rheswm dros wrthod oedd bod y safle wedi’i leoli o fewn parth llifogydd C2 fel y’i diffinnir gan TAN 15 a bod polisi cynllunio cenedlaethol yn cynghori na ddylid caniatáu defnydd bregus iawn tebyg i’r feithrinfa arfaethedig mewn ardal o’r fath. Mae’r cais presennol yn ailgyflwyniad sy’n ceisio goresgyn y rheswm hwnnw dros wrthod.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau fod manylion y cais yr un fath â’r rhai a gyflwynwyd yn flaenorol heblaw am ychwanegiad Nodyn Technegol ar Risg Llifogydd ar gyfer y safle a gomisiynwyd gan yr Ymgeisydd. Roedd y nodyn technegol ar wedd Asesiad Canlyniad Llifogydd (‘Asesiad’) sy’n edrych ar achos tebygol llifogydd a’r risgiau.
Tynnodd Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Datblygu sylw Aelodau at ymgynghoriadau allanol a’r ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud fod y safle yn llwyr o fewn Parth C2 fel y’i diffinnir gan y Map Cyngor Datblygu (‘y Map’) y cyfeirir ato yn Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Risg Llifogydd (TAN15) Mae fframwaith TAN 15 hefyd yn cyfeirio at y categori datblygiad bregus, ac fel nodwyd mae’r gr?p hwn yn cynnwys meithrinfa. Derbyniwyd Asesiad yr ymgeiswyr ac amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth bwyntiau’r adolygiad a nododd, yn unol â’r Asesiad, na wnaed unrhyw wrthwynebiad am y datblygiad arfaethedig. Fodd bynnag, mae safle’r cais yn parhau ym Mharth C2 ac ni fyddai cyflwyno’r Asesiad yn newid y ffaith hon. Dylai’r Awdurdod Lleol felly benderfynu ar y cais yn seiliedig ar i’r lleoliad fod o fewn Parth C2.
Dywedwyd ymhellach y gellid herio parthau’r Map a byddai angen cyflwyno her ar ôl cwblhau unrhyw waith arfaethedig. Fodd bynnag, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn heriau ar hyn o bryd, nes caiff TAN 15 ei ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru.
Nododd y Rheolwr Gwasanaeth mai dim ond i ddatblygiad bregus isel ym Mharth C2 y dylid defnyddio profion. Mae’r datblygiad hwn yn fregus iawn. Nid yw’r Asesiad a’r profion yn TAN 15 i gael eu gweithredu mewn datblygiadau bregus iawn. Felly, roedd ystyried y datblygiad arfaethedig yng nghyswllt profion cyfiawnhad a derbynioldeb yn camddehongli polisi a gofynion TAN 15. Er fod hwn yn bwynt hollbwysig, cydnabu’r Rheolwr Gwasanaeth hefyd fod yr Asesiad wedi dod i’r casgliad bod trothwy llifogydd i raddau helaeth, ond nid yn llwyr, o fewn y gwerth canllaw a amlinellir yn TAN 15.
Daeth y Rheolwr Gwasanaeth i ben drwy ddweud fod y cais hwn yn un cymhleth. Mae budd creu swyddi lleol yn ogystal â gwella’r adeilad presennol. Fodd bynnag, mae’r materion llifogydd yn hollbwysig ac mae’r argymhelliad wedi ei seilio ar y canllawiau yn TAN 15 sy’n annog dull rhagofalu lle na chaniateir datblygiad bregus ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau Ystyried meysydd.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw feysydd ar gyfer hyfforddiant a sesiynau gwybodaeth i aelodau.
|
|
Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 14 Gorffennaf 2020 a 16 Medi 2020 Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu. Cofnodion: Gan ystyried yr farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei chynnal gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|