Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 3ydd Medi, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb gan:-

 

Cynghorwyr G.L. Davies, J. Hill, G. Thomas a D. Wilkshire.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol – Chwarter 4 Ionawr-Mawrth 2020 pdf icon PDF 544 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth berfformiad cyfredol y Cyngor fel sy’n dilyn:

 

Ffigur 1: roedd y Cyngor wedi penderfynu 100% o bob cais ar amser. Mae hyn yn cymharu gyda chyfartaledd Cymru o 85%.

 

Ffigur 2: ar gyfartaledd roedd yn cymryd 60 diwrnod o gofrestriad i benderfyniad i’r Cyngor benderfynu ar bob cais cynllunio. Cyfartaledd Cymru yw 83 diwrnod.

 

Ffigur 3: roedd 29% o benderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio yn groes i argymhellion y swyddog. Cyfartaledd Cymru yw 15%.

 

Llongyfarchodd Aelodau y Tîm Cynllunio am eu perfformiad ar gyfer chwarter 4 a holodd os gellid cynnal y perfformiad hwn yn yr amgylchiadau presennol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ei bod yn annhebyg y gellid cynnal y perfformiad hwn gan fod rhai Swyddogion Cynllunio yn dal i fod wedi eu hadleoli i ddyletswyddau Covid 19.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

5.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a DNS – Diweddariad Medi 2020 pdf icon PDF 259 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod hwn yn adroddiad safonol sy’n rhoi manylion y llwyth achosion presennol yng nghyswllt Apeliadau, Ymgynghoriadau a DNS. Oherwydd sefyllfa Covid 19, nodwyd y disgwylir nifer o benderfyniadau yng nghyswllt Apeliadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

6.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 14 Gorffennaf 2020 a 14 Awst 2020 pdf icon PDF 262 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 14 Gorffennaf a 14 Awst 2020. 

 

7.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 1 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Cais Rhif C/2020/0109

14 Eureka Place, Glynebwy, NP23 6LG

Newid defnydd o annedd 3 ystafell wely i

HMO 6 ystafell wely a baeau parcio arfaethedig yn yr ardd gefn

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd amlinellodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu y cais sy’n cyfeirio at newid defnydd arfaethedig o annedd 3 ystafell wely i d? amlfeddiannaeth (HMO) 6 ystafell wely a baeau parcio arfaethedig yng ngardd gefn 14 Eureka Place, Glynebwy.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd sylwadau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cododd Aelod bryderon yng nghyswllt problemau diogelwch tân a pharcio ar stryd orlawn iawn. Dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu y byddai Rheoli Adeiladu yn sicrhau y gweithredir ac y cydymffurfir â rheoliadau diogelwch tân. Roedd y Rheolwr Tîm Amgylchedd Adeiledig yn ymwybodol o’r problemau parcio yn yr ardal, fodd bynnag mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn gosod nifer y gofodau parcio sydd eu hangen ac mae’r ddau fae parcio arfaethedig yng nghefn yr adeilad yn cydymffurfio gyda’r Canllawiau.

 

Dywedodd Aelod fod nifer cynyddol o adeiladau HMO yn cael eu cyflwyno am ganiatâd cynllunio a holodd os oes angen mabwysiadu polisi i roi arweiniad. Dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu fod nifer cynyddol o HMO yn cael eu cymeradwyo fel math o ddefnydd preswyl ac y gall fod angen ystyried deddfwriaeth cynllunio ar ffurf HMO. Mae Aelodau wedi codi nifer o bryderon ond nid oeddent i gyd yn ystyriaethau cynllunio ac felly efallai na fyddai polisi HMO yn datrys rhai o’r materion a godwyd h.y. niwsans s?n ac yn y blaen.

 

Dywedodd Aelod fod nifer o HMO yn ei Ward a byddai’n croesawu polisi HMO i sicrhau dull gweithredu cyson ar draws y fwrdeistref.

 

Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth fod sesiwn wybodaeth am HMO yn cael ei hystyried yn y dyfodol agos ac y byddai’r sesiwn yn cynnwys asiantaethau eraill h.y. yr Heddlu, Bwrdd Iechyd, Priffyrdd ac yn y blaen.  Cytunai gyda’i gyd-aelod y gall fod angen mabwysiadu polisi gan fod ceisiadau cynllunio ar gyfer HMO yn cynyddu.

 

Codwyd pryderon pellach yng nghyswllt y cais a chynhigiodd Aelod y dylid gwrthod y cais. Eiliwyd y cynnig hwn a chymerwyd pleidlais, gyda

 

4 Aelod yn cefnogi’r cynnig i wrthod y cais; a

 

5 Aelod yn cefnogi cymeradwyo’r cais.

 

Felly PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Cais Rhif C/2020/0043

Tir i’r dwyrain o Hill Crest View, Cwmtyleri, Abertyleri

Datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais oedd yn ymwneud â datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Hill Crest View, Cwmtyleri, Abertyleri.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd siaradodd Mr Peter Barnes (Pensaer), y Siaradwr Cyhoeddus, â’r Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr Barnes fod y prosiect yn gymharol syml ond gyda nifer o gyfyngiadau economaidd ac ariannol. Roedd y datblygwyr wedi ystyried hyn a gallai’r prosiect fod yn hyfyw pe codid 28 o dai. Roedd y safle o fewn ardal o’r Cynllun Datblygu Lleol oedd wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad tai. Roedd y datblygwyr yn lleol i’r ardal ac yn barod i wneud mân newidiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau

Ystyried meysydd.

 

Cofnodion:

Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y trefnir Sesiwn Wybodaeth am HMO yn y dyfodol agos.