Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 30ain Gorffennaf, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M Day.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant a goddefebau dilynol: -

 

 

Cynghorydd W. Hodgins - Eitem Rhif 6 – Adroddiad Cynllunio

(Cais Rhif C/2019/0190 – Tir yn Iard Cludiant Leyton Williams, Garej Parkside, Heol Catholic, Brynmawr)

 

4.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a diweddariad DNS, Gorffennaf 2020 pdf icon PDF 242 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

5.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 15 Mehefin 2020 a 13 Gorffennaf 2020 pdf icon PDF 188 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a  nodi’r rhestr o geisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 15 Mehefin 2020 a 13 Gorffennaf 2020.

 

6.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 3 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

ADRODDIAD CYNLLUNIO

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cais Rhif C/2020/0100

Plasgeller, Heol Ganolraddol, Brynmawr NP23 4SF

Dau estyniad un llawr i ddarparu uned gofal cymhleth i ochr ddwyreiniol (drychiad blaen) cartref gofal presennol ynghyd â chwympo 2 goeden sydd â Gorchymyn Cadwraeth Coed

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais sy’n cyfeirio at y cynnig ar gyfer dau estyniad i ddarparu uned gofal cymhleth i’r safle ddwyreiniol Plasgeller, Heol Ganolraddol, Brynmawr. Mae’r safle datblygu yn un o bedwar adeilad dau lawr mawr ar wahân sy’n gweithredu fel cyfadeilad cartrefi gofal.

 

Gyda chymorth sleidiau, nododd y Swyddog Cynllunio y ddwy goeden Sycamorwydd aeddfed sydd wrth ochr y terfyn blaen, ger y briffordd. Mae’r coed hynny ynghyd â choed eraill ar y ffordd yn nodwedd yr ardal a chânt eu gwarchod gan Orchmynion Cadwraeth Coed. Dywedodd y Swyddog y gwrthodwyd caniatâd cynllunio dan bwerau dirprwyedig yn 2019 ar y sail y byddai colli coed sydd â Gorchymyn Cadwraeth Coed.

 

Ychwanegwyd na fu apêl yn erbyn y penderfyniad a bod yr amser ar gyfer apêl wedi dod i ben. Felly, dewisodd yr ymgeisydd ailgyflwyno’r cais, fodd bynnag mae’r cais hwn yn cynnig y byddai’r estyniadau tua 2m yn nes at flaen y stryd yn ogystal â chwympo’r coed.

 

Rhoddodd y Swyddog ymhellach drosolwg o’r cais sy’n amlinellu’r estyniadau arfaethedig, y cynlluniau datblygu a’r materion a dderbyniwyd o’r ymgynghoriad. Dywedwyd fod Alun Davies AS wedi rhoi cefnogaeth lawn i’r preswylwyr a wnaeth wrthwynebiadau.

 

Ategodd y Swyddog golli dwy goeden stryd bwysig sydd â gorchymyn cadwraeth coed oherwydd gwerth amwynder uchel. Mae’r coed sycamorwydd aeddfed yn iach ac wedi sefydlu’n dda ac nid ydynt yn dangos unrhyw dystiolaeth o bryderon iechyd a diogelwch. Oherwydd iechyd y coed a’u cyfraniad gwerthfawr i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal, teimlai’r Swyddog nad oedd cyfiawnhad dros gwympo’r coed yn unig i hwyluso’r datblygiad. Roedd yr Ymgeisydd yn teimlo bod y coed yn golygu fod y cartref gofal yn y cysgod ac yn achosi risg iechyd a diogelwch i breswylwyr. Fodd bynnag, dywedodd y Swyddog na wnaed unrhyw gais i’r Cyngor i wneud gwaith i’r coed.

 

Teimlai’r Swyddog, er y byddai rhannau o’r safle angen gwaith tyllu oherwydd y llethr ar y tir, na fyddai’n amhosibl adeiladu yn yr ardaloedd hynny. Awgrymwyd y gellid gosod yr estyniad lapio o amgylch ar ochr arall i’r ystafell ddydd bresennol neu ei gysylltu gyda’r adeilad cyfagos o fewn y safle. Byddai’r gofod ychwanegol yn ddymunol a byddai’n fanteisiol i breswylwyr o fewn y cartref. Fodd bynnag, credai’r Swyddog nad oedd unrhyw reswm pam na fedrid gosod yr estyniadau mewn man arall o fewn y safle.

 

Ychwanegodd y Swyddog fod yr asiant wedi awgrymu heb yr estyniadau arfaethedig y byddai ansicrwydd am hyfywedd y busnes yn y dyfodol, fodd bynnag nodwyd nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r hawliad hwn. Nid oedd unrhyw amgylchiadau eithriadol a fyddai’n cyfiawnhau cefnogi cynllun oedd yn annerbyniol yn amgylcheddol ac yn weledol. Cydnabu’r Swyddog bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn cefnogi cysyniad a dyheadau’r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Amser Cyfarfodydd y Pwyllgor yn y Dyfodol

I’w ystyried.

 

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd fod cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cynnal am 2.00 p.m.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

8.

Eitem Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitem(au) a gafodd eu heithrio gan roi ystyriaeth i'r prawf diddordeb cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm a penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y Swyddog Priodol.

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

9.

Achosion Cau Gorfodaeth rhwng 16 Mehefin 2020 a 13 Gorffennaf 2020

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo..