Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 4ydd Tachwedd, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Codwyd y datganiadau buddiant dilynol:-

 

Eitem 4 -C/2021/0179

Cwrt Glanyrafon a thir cyfagos. Safle tai gwarchod blaenorol yn Heol Rhandir, Glynebwy, NP23 5NS

Adeiladu 15 annedd gyda ffordd newydd, lleoedd parcio, gerddi, ardaloedd tirlunio caled a meddal

 

Cynghorydd C. Meredith

Cynghorydd M. Day

 

Eitem Rhif 5 - Cais: C/2020/0168 Safle: Rhes yr Ysgol, 1 – 7 Heol Cwmcelyn, Blaenau, NP13 3LT

Cynnig: cadw un t? 2 lawr ar wahân a chwech t? 2 lawr pâr (heb eu codi yn unolo â chymeradwyaeth cynllunio C/2014/0257)

 

Cynghorydd L. Winnett

 

 

4.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 3 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

C/2021/0209

53 Larch Lane, Gerddi Bedwellte, Tredegar

Cynnig am estyniad dau lawr yn y cefn

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y cais yn gofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer estyniad dau lawr i gefn 53 Larch Lane, Tredegar. Mae’r annedd yn d? dau lawr diwedd rhes yn safle datblygiad Gerddi Bedwellte, ar gornel, sy’n wynebu ffordd y stad sy’n ymestyn o amgylch y terfyn ochr.

 

Ychwanegodd y Swyddog Cynllunio y cafodd y cynnig ei asesu ar bolisïau DM1 a DM2 y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd a’r Canllawiau Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd ar gyfer Datblygiad Deiliad Tai Nodyn 1 (Estyniadau ac Ystafelloedd Haul). Mae’r estyniad arfaethedig yn diwallu gofynion y Canllawiau yng nghyswllt maint, gorffeniad a dyluniad y to ynghyd â gweddill y gofod amwynder. Mae lleoliad yr estyniad yn golygu y byddai’n anochel yn cael peth effaith ar yr annedd drws nesaf a fyddai’n arwain at beth colli golau. Fodd bynnag, teimlai’r Swyddog Cynllunio na fyddai unrhyw gysgodi yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau gwrthod y cais. Roedd y Swyddog Cynllunio hefyd yn fodlon na fyddai’r cynnig yn cael effaith gormodol ar amwynderau’r defnyddwyr. Byddai’r cynnig yn arwain at ddod â’r ffenestri ar y llawr cyntaf yn nes at ardd yr annedd i’r cefn. Fodd bynnag, mae anheddau eraill eisoes yn edrych dros yr ardal gardd a chredai’r Swyddog Cynllunio na fyddai’r effaith yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio gyda pholisi DM1 2c.

 

I gloi, dywedodd y Swyddog Cynllunio er bod egwyddor estyniad dau lawr yn dderbyniol, ni ystyriwyd fod y bargodiad tu hwnt i linell yr adeilad ochr yn ffurf derbyniol o ddatblygu ac y byddai cymeradwyo’r datblygiad hwn yn gosod cynsail annerbyniol ar gyfer datblygiadau eraill o’r fath ar y stad. Felly, cyfeiriodd y Swyddog cynllunio yr Aelodau at argymhelliad y swyddog y dylid gwrthod caniatâd cynllunio.

 

Siaradodd y Cynghorydd J. Morgan, Aelod Ward y Pwyllgor ar wahoddiad y Cadeirydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan ei fod yn cefnogi’r cais am yr estyniad 2 lawr. Cyflwynwyd y cais i ganiatáu i berchennog y t? drosi ei gartref o annedd 2 ystafell wely i un 3 ystafell wely. Roedd yr Ymgeisydd yn hoff iawn o’r ardal ac yn dymuno cynyddu maint ei annedd i gynnwys 3 ystafell wely. Ychwanegodd yr Aelod Ward na fedrai’r Ymgeisydd gynyddu maint ei gartref pe gwrthodid y cais hwn.

 

Nododd yr Aelod Ward fod y gwrthodiad oherwydd dyluniad gwael, fodd bynnag mae tai eraill yn yr ardal o ddyluniad, maint a gorffenion cymysg a theimlai’r Aelod Ward fod hyn yn rhoi cymeriad i’r ardal. Roedd yr Aelod Ward o’r farn y byddai’r datblygiad yn defnyddio deunyddiau tebyg ac yn gwneud y wal dalcen pîn yn fwy deniadol, gan felly wella’r annedd.

 

Dywedwyd ymhellach y byddai’r estyniad a gynigir yn sefyll lle mae wal gardd uchel ar hyn o bryd ac y byddai’r uchder ychwanegol ar yr annedd ar y llawr cyntaf. Yn nhermau’r agweddau gweledol, mae’r ffordd ochr yn fwy o ffordd gwasanaeth gan fod pob annedd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais: C/2020/0168 Site: Rhes yr Ysgol, 1 - 7 Heol Cwmcelyn, Blaenau, NP13 3LT Cynnig: Cadw un tŷ deulawr ar wahân a chwe tŷ pâr deulawr (heb eu codi yn unol â chymeradwyaeth cynllunio C/2014/0257) pdf icon PDF 658 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu..

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu fod Pwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf wedi ystyried yr adroddiad dros gadw’r datblygiad. Argymhelliad y swyddog oedd y dylid gwrthod caniatâd cynllunio am resymau diogelwch priffordd yn gysylltiedig â lleiniau gwelededd annerbyniol a graddiant tramwyfeydd. Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi ystyried y cais ac mewn pleidlais penderfynwyd gohirio’r cais i’r asiant ymchwilio mesurau i oresgyn y pryderon diogelwch priffordd a chyflwyno cynlluniau i’r Cyngor eu hystyried ymhellach.

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu amlinelliad pellach o’r pwyntiau allweddol fel y’u manylir yn yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r opsiynau i gael eu hystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Ward ei bod wedi datgan diddordeb yn y cais ac na fyddai’n cymryd rhan yn y bleidlais.

 

Croesawodd yr Aelod Ward y gohiriwyd y cais i edrych ar opsiynau a gofynnodd i’r Pwyllgor gefnogi Opsiwn 1. Nododd yr Aelod Ward y 2 mis i’r gwaith gael ei wneud ac er y derbyniwyd hyn dywedwyd bod y gaeaf ar ein gwarthaf ac y allai tywydd garw gael effaith ar waith.

 

Eiliodd Aelod yr Aelod Ward a chynnig Opsiwn 2.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yng nghyswllt ychwanegu amodau at y cais yn nhermau tywydd garw, nododd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu eiriad yr amodau a dweud ei bod yn bwysig y caiff y gwaith ei wneud fel mater o frys oherwydd pryderon am ddiogelwch y briffordd a bod 2 fis yn gyfnod rhesymol. Dywedodd y Rheolwr Tîm, er y nodwyd 2 mis fel amserlen, y cydnabyddir y gallai tywydd gwael effeithio ar yr amserlenni hyn ond y byddai’r tîm gorfodaeth yn monitro cynnydd ac yn ystyried os oes angen unrhyw gamau gorfodi. Dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu, os yw Aelodau o blaid argymell opsiwn 2, ei bod yn bwysig fod yr amserlen yn parhau i sicrhau y caiff gwaith ei wneud fel mater o frys.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am rwymedigaeth, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau fod rhwymedigaeth yn gwestiwn cyfreithiol a fyddai lan i’r llysoedd ei ateb. Yn nhermau priffyrdd, gofynnwyd am gyngor gan y tîm priffyrdd a barnwyd ei bod yn beryglus ac y dylid gwrthod caniatâd cynllunio.

 

Cyfeiriodd Aelod at Opsiwn 2 a chodi pryderon gan y nodwyd y byddai’r perchnogion yn gyfrifol am gydymffurfiaeth a theimlai ei fod yn rhoi cyfle i’r datblygydd i gerdded i ffwrdd o’r proseict a fyddai’n rhoi pwysau pellach ar berchnogion y cartref. Teimlai’r Aelod y byddai Opsiwn 3 yn ffordd well ymlaen gan y byddai perchnogion yn gwneud eu trefniadau eu hunain i ddiogelu eu cerbydau rhag rholio i’r briffordd gyhoeddus.

 

Teimlai’r Aelod fod hon yn sefyllfa gynhennus iawn. Yr unig bobl sy’n ddioddefwyr yw’r perchnogion cartrefi a brynodd eu cartrefi yn ddidwyll ac nid yw’r Aelod yn hapus gydag opsiwn 2 gan y teimlai ei fod yn rhoi ffordd ymwared i’r datblygydd gerdded i ffwrdd o’r gwaith angenrheidiol.

 

Atebodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu y cwestiynau a godwyd yng nghyswllt gostwng y tramwyfeydd a chadarnhawyd y cafodd pob  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Tachwedd 2021 pdf icon PDF 150 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhowddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

7.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau a ddirprwywyd rhwng 24 Medi 2021 a 15 Hydref 2021 pdf icon PDF 172 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

8.

Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 29 Medi 2021 a 20 Hydref 2021

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf cyhoeddus o bwyso a mesur fod popeth fod y budd cyhoeddus mewn cadw’r eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad fod yn eithriedig.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Datblygu.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.