Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Gwener, 11eg Mehefin, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau dilynol o fuddiant:-

 

Cynghorydd Derrick Bevan

Eitem Rhif 4 – Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

C/2021/0023 - 39 Brecon Heights, Victoria, Glynebwy

Cadw t? haf yn yr ardd gefn.

 

Cynghorydd Malcolm Day

Eitem Rhif 4 – Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

C/2020/0246 - 5 Fairview Terrace, Heol Tyleri, Abertyleri, NP13 1JD – Cadw balconi a chanopi dros estyniad cefn un llawr, drysau Ffrengig a gosod system CCTV yn cynnwys 3 camera ar y tu blaen a 3 camera yng  nghefn y t?.

 

 

4.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

 

 

Cofnodion:

C/2020/0246

5 Fairview Terrace, Heol Tyleri, Abertyleri, NP13 1JD

Cadw balconi a balconi dros estyniad cefn un llawr, drysau Ffrengig a gosod system CCTV yn cynnwys 3 camera ar y tu blaen a 3 camera yng nghefn yr annedd

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu y gwneir cais i gadw balconi a drysau Ffrengig i gefn yr annedd ynghyd â gosod canopi tynnu’n ôl drosto. Mae’r cais hefyd yn gofyn am gadw 6 camera CCTV, 3 ar y tu blaen a 3 yng nghefn yr annedd. Rhoddodd y Rheolwr Tîm drosolwg o’r cais cynllunio gyda chymorth ffotograffau. Nodwyd nad oedd ymgyngoreion allanol wedi codi unrhyw faterion, fodd bynnag amlinellodd y Rheolwr Tîm yr ymatebion allweddol i gwynion gan breswylwyr.

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm ymhellach am yr adroddiad ac amlinellodd yr asesiad cynllunio yn nhermau’r balconi, drysau Ffrengig, canopi a CCTV. Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yng nghyswllt adeiladwaith a gorffenion y balconi ac atgoffodd Aelodau nad yw cynllunio yn rheoli safon saernïaeth datblygiad. Byddai Rheoli Adeiladu yn rheoleiddio’r elfennau cydymffurfiaeth hyn i sicrhau y cafodd y balconi ei godi’n ddiogel ac yn foddhaol. Yn nhermau’r gorffenion, mae’r cais yn dweud bod y balconi yn bren a fyddai’n cael cladin a rendr a’i beintio’n llwyd a ystyriwyd yn dderbyniol. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fwriad i gwblhau’r gwaith yn unol â’r amserlen. Gellid gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith gael ei gwblhau yn unol â’r amserlen o fewn cyfnod o 6 mis.

 

Yn nhermau effaith, byddai goredrych fodd bynnag ni fyddai hyn yn ddim gwahanol i’r olygfa o’r ffenestri. Felly roedd  y Rheolwr Tîm, yn argymell gosod amod fyddai angen sgrin breifatrwydd a’r balconi i gael eu hadeiladu gyda’r deunyddiau addas er mwyn gwarchod amwynder y gymdogaeth.

 

Nododd y Rheolwr Tîm ymhellach bryderon am y chwe uned camera a osodwyd o amgylch yr annedd ac atgoffodd Aelodau fod agweddau cynllunio’r achos wedi eu cyfyngu i ymddangosiad ffisegol y camerâu a’r effaith weledol y byddent yn eu cael ar yr adeilad y cawsant eu gosod arno. Nid oedd cynnwys yr hyn a fyddai’n cael ei recordio a sut y byddai’r data hwnnw yn cael ei drin yn ystyriaeth cynllunio berthnasol. Caiff recordio data ar CCTV ei reoleiddio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n rheoleiddio ac yn gweithredu’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Yng nghyswllt sylw gan wrthwynebydd am Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000, dywedodd y Rheolwr Tîm, hefyd nad oedd hyn yn fater cynllunio a bod y Ddeddf yn cyfeirio at reoleiddio sut mae cyrff cyhoeddus yn cynnal goruchwyliaeth ac nad yw’n ymwneud â CCTV mewn cartrefi.

 

Nododd y Rheolwr Tîm y tri chamera ar du blaen yr annedd a dywedodd y gellid ystyried hynny yn ormodol, fodd bynnag oherwydd eu maint a lleoliad y camerâu gwyn ar du blaen yr annedd oedd hefyd wedi’i pheintio’n wyn, nid yw’r camerâu yn sefyll mas. Fodd bynnag, teimlai na fyddai golwg y camerâu yn cael effaith niweidiol ar y strydlun.

 

I gau, nododd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diweddariad Apeliadau, Ymgynghoriadau a DNS Mehefin 2021 pdf icon PDF 395 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

Nododd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu yr adroddiad a dywedodd y cafwyd penderfyniad bellach yng nghyswllt tir yng nghefn Park Hill, Tredegar. Gwrthodwyd yr apêl a chyflwynir yr adroddiad llawn i’r Pwyllgor Cynllunio nesaf ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

6.

Diweddariad Apêl Cynllunio: 1 Medhurst Court, Heol Fferm, Nantyglo pdf icon PDF 295 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm fod yr adroddiad yn amlinellu penderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio yng nghyswllt apêl cynllunio yn erbyn gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer 1 Medhurst Court, Heol Fferm, Nantyglo. Credai’r Arolygydd y byddai’r garej arfaethedig yn rhwydd i’w gweld o nifer o fannau yn Heol Fferm a byddai ei lleoliad a’i maint yn anghydnaws ac y byddai’n niweidio cymeriad ac ymddangosiad yr ardal, felly roedd yr Arolygydd wedi GWRTHOD yr apêl.

 

Penderfynodd yr Aelod Bwrdd benderfyniad yr Arolygydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2020/0202 fel yr amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

7.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau a ddirprwywyd rhwng 22 Mawrth 2021 a 24 Mai 2021 pdf icon PDF 494 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

8.

Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol Chwarter 3: Hydref i Ragfyr 2020 pdf icon PDF 509 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu drosolwg o’r adroddiad a dywedodd, yn nhermau gwybodaeth perfformiad, fod y Cyngor wedi penderfynu 98% o’r holl geisiadau o fewn targed 8-wythnos. Mae hyn yn gymharu gyda chyfartaledd Cymru o 81%.

 

Nifer cyfartalog y dyddiau a gymerwyd i benderfynu cais oedd 74 diwrnod o gofrestru i benderfyniad a osodwyd yn erbyn cyfartaledd Cymru o 89 diwrnod. Roedd y ffigur wedi cynyddu’n gyflym, fodd bynnag roedd hyn oherwydd cynnydd sylweddol yn faint o waith y mae’r Cyngor yn ei drin ar hyn o bryd. O ran y penderfyniadau, gwnaed 25% o benderfyniadau Pwyllgor Cynllunio yn groes i argymhelliad y swyddog. Roedd hyn yn cymharu Blaenau Gwent gyda chyfartaledd Cymru o 7%.

 

Ychwanegodd fod y Rheolwr Tîm fod yr Adran dan bwysau ar hyn o bryd o ran llwyth gwaith a theimlid mai hwn fyddai’r adroddiad gorau a fyddai’n cael ei weld am beth amser. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau ers mis Ionawr 2021 a chafodd timau eu gostwng i absenoldeb salwch ac mae aelod o staff wedi gadael yr Awdurdod yn ddiweddar. Dywedodd y Rheolwr Tîm hefyd y bu problemau gyda thechnoleg gwybodaeth ar ddechrau’r flwyddyn oedd wedi tarfu ar ddilysu ceisiadau cynllunio. Gyda’r ffactorau hyn dan sylw y gwnaed penderfyniad i geisio darparydd allanol a phenodwyd rhywun i gael sypyn o geisiadau cynllunio i gynorthwyo gyda’r llwyth gwaith dros gyfnod 3-mis. Dywedodd y Rheolwr Tîm y caiff y sefyllfa ei monitro i ganfod os oedd angen cymorth am fwy na’r 3 mis dechreuol.

 

Croesawodd Aelod yr ymagwedd ragweithiol y mae’r Adran yn ei chymryd i gynorthwyo gyda’r llwyth gwaith ar hyn o bryd. Cytunodd yr Is-gadeirydd gyda’r sylwadau a wnaed a theimlai ei bod yn bwysig nad oedd mwy o bwysau yn cael ei roi ar y staff cyfredol.

 

Croesawodd Aelod y Pwyllgor Cynllunio yr adroddiad a theimlai fod yr Adran wedi gwneud gwaith da dan bwysau eithafol y pandemig.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

9.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y byddai cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cynnal am 2.00pm.

 

10.

Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 27 Mawrth a 24 Mai 2021

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.