Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 7fed Tachwedd, 2019 9.30 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael os gofynnir am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na wnaed unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Moore a G. Thomas.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS pdf icon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau at y Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol yng nghyswllt y fferm solar arfaethedig yn Fferm Wauntyswg, Abertyswg (Cais Rhif CON/2006/0001). Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi gwrthwynebu'r cynnig ar y sail y byddai maint y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y tirlun lleol. Roedd CADW hefyd wedi gwrthwynebu a chytunodd yr Arolygydd Cynllunio gyda'r dadleuon hyn ac roedd wedi argymell i Weinidogion Cymru y dylid gwrthod y cais. Fodd bynnag roedd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo'r cais. 

 

Cadarnhaodd y Swyddog iddo ysgrifennu at y Gweinidog ar ran y Pwyllgor gyda gwahoddiad i ymweld â'r safle. Derbyniwyd llythyr yn gwrthod y gwahoddiad. Darllenodd y Swyddog gynnwys y llythyr a chylchredeg copi i Aelodau.

 

Mynegodd Aelod bryder a theimlai fod penderfyniad y Gweinidog yn lleihau rôl y Pwyllgor Cynllunio a Swyddogion Cynllunio. Cyfeiriodd at Bolisi Cynllunio Cymru a dywedodd y gobeithiai y byddai canllawiau'r Polisi yn galluogi Awdurdodau Lleol i gadw elfen o reolaeth dros leoliad ffermydd solar.

 

Dywedodd y Swyddog y caiff ymateb yr Awdurdod i'r Drafft Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ei anfon at Lywodraeth Cymru yr wythnos nesaf. Un newid sylweddol oedd bod yr Awdurdod yn awr mewn ardal a gytunwyd ar gyfer ynni adnewyddadwy ac fel canlyniad mae'n debygol y byddai'n gweld llif o geisiadau am dyrbinau gwynt a ffermydd solar yn y dyfodol.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan gadarnhaodd y Swyddog y caiff pryderon Aelodau eu cynnwys yn ymateb yr Awdurdod ar y Drafft Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ac mae sesiwn wybodaeth i Aelodau Gweithredol a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf hefyd yn adlewyrchu'r pryderon a godwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, oherwydd maint y parc solar arfaethedig dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu ei fod yn cael ei ddosbarthu fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ac felly'n rhan o system wahanol i'r broses gynllunio arferol. Fodd bynnag, derbyniwyd cais Adran 73 erbyn hyn i amrywio'r amser a roddwyd o 30 i 40 mlynedd o adeiladu a dechrau gweithredu'r datblygiad, gan felly ymestyn y cynnig gwreiddiol gan 10 mlynedd. Byddai'r cais yn dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio i gael ei ystyried maes o law.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

 

5.

Diweddariad Apêl Cynllunio: 23 Pantyfforest, Glynebwy pdf icon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Cadarnhaodd fod yr Arolygydd wedi dod i'r casgliad y byddai'r datblygiad arfaethedig yn cael effaith weledol niweidiol annerbyniol ar y dreflun, yn groes i'r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd, Polisi DMI(2)b, a bod y cynnig yn gwrthdaro gyda Pholisi DM2. Felly gwrthododd yr Arolygydd yr apêl.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl.

 

6.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig 22 Awst 2019 a 18 Medi 2019 pdf icon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes, yn cynnwys:-

 

C/2019/0194 Swyddfeydd Stryd y Bont, Stryd y Bont, Glynebwy

 

Yn dilyn cais gan Aelod am ddiweddariad ar ddatblygu'r safle, cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu y rhoddwyd caniatâd yn 2018 a bod gwaith wedi dechrau ar y safle ac y cafodd nifer o amodau eu cyflawni. Fodd bynnag, roedd oedi oherwydd cyflawni amodau yn ymwneud â wal gadw a'r ardal barcio, gan na chafodd y manylion a gymeradwywyd eu gweithredu. Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau'n mynd rhagddynt i ddatrys y materion hyn.

 

C/2019/0152 22 Stryd Marine, Cwm, Glynebwy

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu fod y garej wedi ei hadeiladu'n rhannol pan gyflwynwyd y cais gwreiddiol ac wedi'i gwblhau ers hynny. Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi gwrthod y cais ar sail effaith niweidiol ar gymdogion, ac mae Swyddogion yn awr mewn gohebiaeth gyda'r ymgeisydd am opsiynau i symud ymlaen. 

 

C/2019/0200 Cyn Swyddfa'r Cyngor Dosbarth, Stryd Fawr, Blaenau

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad nad oedd hwn yn HMO. Cadarnhaodd y Swyddog fod y cais ar gyfer gwahanol fathau o fflatiau hunangynwysedig gyda darpariaeth parcio a threfniadau mynediad newydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r rhestr o geisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 22 Awst a 18 Medi 2019.

 

7.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y ceisiadau cynllunio dilynol i Aelodau gyda chymorth sleidiau:-

 

Cais Rhif C/2019/0050 – Tir yn Heol Waun-y-Pound a Heol y Coleg, Glynebwy - Datblygiad Preswyl o 227 Uned yn cynnwys Gweithiau Cysylltiedig

 

Cyflwynwyd y cais gan y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau. Rhoddodd esboniad byr o'r cynllun a threfniadau mynediad. Cadarnhaodd y byddai cais cynllunio pellach ar gyfer y draeniad i'w weithredu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel yr amlinellir yn Argymhelliad 2.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu'r datblygiad ond mynegodd bryder fod y Cytundeb Adran 106 wedi'i gyfyngu i Ysgolion Cynradd Glyncoed a Threhelyg. Dywedodd y dylid cynnwys pob un o'r pedair ysgol gynradd yn yr ardal, sef Rhos-y-fedwen a Rhiw Beaufort, gan y gall plant o'r datblygiad fynychu'r ysgolion hynny.

 

Dywedodd y Swyddog i'r mater gael ei drafod gyda'r Adran Addysg ac mai'r rheswm pam y soniwyd am y ddwy ysgol oedd mai nhw oedd yr ysgolion dalgylch dynodedig ar gyfer y safle a'u bod yn rhagweld y byddai'r rhan fwyaf o'r plant o'r datblygiad yn mynychu'r ysgolion hynny. Fodd bynnag, maent yn cydnabod fod potensial am effaith ar Rhos-y-Fedwen ac y gallai buddsoddiad ddod o raglen gyfalaf y Cyngor. Maent yn ymchwilio'r mater hwn ar hyn o bryd.

 

Yng nghyswllt Cytundeb Adran 106, gofynnodd Aelod os oedd cwmpas i'r datblygydd ailnegodi'r swm a gytunwyd pe na byddai'r effaith ar Addysg yn cael ei wireddu.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog y cafodd y rhestr taliadau ei chytuno gyda'r datblygydd ac yr oedd yn dderbyniol i'r Adran Addysg i ganiatáu lliniaru pan mae preswylwyr o'r safle yn dechrau effeithio ar wasanaethau addysg. Pe byddai amgylchiadau'n newid, byddai'n agored i gais i amrywio cyflwyno Adran 106 ond byddai angen i hyn gael ei gefnogi gyda thystiolaeth pe byddai'r Cyngor yn cytuno i unrhyw newid.

 

Mynegodd Aelod bryder fod yr Adran Addysg wedi cyfeirio at y 'dalgylch' pan mae proses dderbyn bresennol Blaenau Gwent yn caniatáu i rieni wneud cais i anfon eu plant i unrhyw ysgol.

 

Ymgymerodd y Swyddog i godi'r mater gyda'r Adran Addysg.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd Aelod ei bod yn siomedig nad oes unrhyw fyngalos wedi eu cynnig ar gyfer y safle gan fod llawer o alw amdanynt ym mhob rhan o'r Fwrdeistref.

 

Cyfeiriodd Aelod arall hefyd at ddarparu 20% o unedau tai fforddiadwy a gofynnodd os y byddai darpariaeth ar gyfer cartrefi ar rent.

 

Mewn ymateb esboniodd y Swyddog y byddai trafodaeth bellach ar y manylion daliadaethau.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder am fynediad i'r safle oddi ar heol Waun-y-Pound a chadarnhaodd y Rheolwr Tîm Amgylchedd Adeiledig yr ystyriwyd fod lôn aros arbennig ar gyfer troi i'r dde yn addas ar gyfer datblygiad o'r math hwn a bod yr ymgeisydd wedi ailgynllunio'r mynediad i ddarparu ar gyfer hyn. Mae hefyd angen rhai gwelliannau i heol Waun-y-Pound a chaiff y rhain eu darparu drwy amod cynllunio.

 

PENDERFYNWYD y dylai fod yn ofynnol i'r datblygydd ymrwymo i ddyletswydd A106 yng nghyswllt  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Meysydd ar gyfer Sesiynau Gwybodaeth/Hyfforddiant Aelodau

Ystyried.

 

Cofnodion:

Oherwydd yr etholiad arfaethedig, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y bwriedir cynnull ymweliad yr Aelodau i awdurdod cynllunio cyfagos a'r digwyddiad hyfforddiant ar HMO yn 2020. Mae hefyd yn debygol y byddai cyfarfod mis Ionawr 2020 yn cael ei ganslo.

 

9.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar atodlen a gedwir gan y Swyddog Priodol).

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra bod yr eitem ddilynol o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y bydd datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

10.

Achosion Gorfodaeth a Gafodd eu Cau Rhwng

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r wybodaeth felly gael ei heithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra trafodir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad sy'n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr Awdurdod) a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.