Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 9fed Chwefror, 2022 1.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr G. Paulsen a W. Hodgins fuddiant yn yr eitem ddilynol:

 

Eitem Rhif 8: Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 267 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 8 Rhagfyr 2021 pdf icon PDF 206 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021.

 

Capel y Drindod

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfleoedd Adfywio ddiweddariad llafar a dywedodd y byddai’n cylchredeg nodyn gwybodaeth i Aelodau i gynnwys costau.

 

Yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod diwethaf a chais Aelodau am wybodaeth ar gostau’r prosiect, dywedodd y Swyddog fod costau caffael yr adeilad yn 2009 yn £95k a chafodd ei wneud oherwydd bod yr adeilad mewn cyflwr gwael ac yn dod yn broblem o fewn canol y dref. Prynwyd yr adeilad yn wreiddiol gyda golwg ar le ar gyfer marchnad dan do ar y llawr daear ac unedau deorfa busnes ar y ddau lefel uchaf.

 

Cafodd y prosiect ei ddatblygu ac roedd pris y tendr yn £740k. Sicrhawyd cyllid drwy’r Rhaglen Cydgyfeirio ynghyd ag arian cyfatebol o ffynonellau eraill. Fodd bynnag dywedodd y Swyddog fod dwy broblem sylweddol wedi effeithio ar yr amserlen a chostau’r prosiect, h.y. y gofyniad ar gyfer cytundeb adeiladu-trosodd gyda D?r Cymru a oedd wedi gohirio gwaith am 5 mis a darganfod prif bibell dd?r arall oedd wedi gohirio’r prosiect am 6 wythnos arall. Roedd y problemau hyn na chafodd eu rhagweld wedi arwain at gynyddu’r pris tendr gwreiddiol i gyfanswm o £1.2m. Cafodd y diffyg gyllid grant drwy Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Swyddog mai costau’r cam nesaf ac adeilad y llyfrgell oedd £900k.

 

Mynegodd Aelod bryder am gostau cynyddol y prosiect a theimlai y dylai’r materion draeniad fod wedi bod yn hysbys ynghynt pe byddid wedi cynnal mwy o ymchwil ar yr adeilad.

 

Dywedodd Aelodau fod y costau yn sylweddol a theimlai y byddai’r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr adeilad wedi bod yn fwy addas ar gyfer canol y dref. Gofynnodd Aelod hefyd os oedd y cost dechreuol o £740k yn cynnwys gwaith mewnol.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog y bwriedid i’r £740m gynnwys gwaith mewnol ac allanol, ond nid oedd yn cynnwys y costau ar gyfer ffitio mas yr adeilad.

 

Dywedodd Aelod mai hwn oedd yr ail dro pan oedd y Cyngor wedi mynd i gostau ychwanegol am faterion prif garthffos neu brif bibell dd?r ar ddatblygiadau mawr a holodd am gyfrifoldeb D?r Cymru yn nhermau cadw cofnodion.

 

Gofynnodd Aelod arall pryd y medrid disgwyl cwblhau’r prosiect.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau yn mynd rhagddynt gydag Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ac mae’r Cyngor yn gwthio i’r rhaglen ddechrau cyn gynted ag sydd modd. Yn nhermau proffil cyllideb Llywodraeth Cymru, dywedodd y disgwylir mwyafrif y gwariant yn y flwyddyn ariannol nesaf felly disgwylir cwblhau’r prosiect yn 2022.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y nodyn gwybodaeth a gaiff ei gylchredeg i Aelodau a gofynnodd am gynnwys amserlen o’r proseict hyd yma.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Cais i Gronfa Cyllid Codi’r Gwastad pdf icon PDF 564 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad sy’n ceisio caniatâd i wneud cais am gyllid Codi’r Gwastad yn ystod yr ail alwad yn unol ag amserlen Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y rhaglen.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn deall mai dim ond ychydig o brosiectau yng Nghymru a gafodd eu derbyn yn y cylch cyntaf a thanlinellodd bwysigrwydd y Cyngor yn cael ehangder o brosiectau ar gael i symud ymlaen.

 

Cytunodd y Swyddog. Dywedodd mai’r her yw dynodi prosiectau y gellir eu cyflawni ac a gaiff ei gefnogi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae hyn yn golygu bod angen amser gwaith sylweddol o ran ymgynghoriad a hefyd y cais ei hun.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn siomedig y byddai hyn yn dod tu allan i’r broses wleidyddol oherwydd y cyfnod cyn yr etholiad a holodd os oes rhestr hirach o brosiectau y gellir eu hystyried.

 

Dywedodd y Swyddog mai diben yr adroddiad yw tynnu sylw at y cyfle a heriau dynodi prosiectau sy’n ateb y meini prawf penodol. Ni all swyddogion wneud dim am yr amserlen, ond rhoddodd sicrwydd y byddai unrhyw prosiectau a gyflwynir ar gyfer cynigion yn ychwanegu gwerth yng nghyswllt adfywio Blaenau Gwent, a hefyd yn brosiectau sy’n debygol o lwyddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y maes parcio yng Nglynebwy, esboniodd y Swyddog y cafodd y maes parcio ei ddynodi fel prosiect allweddol o fewn y Cynllun Creu Lle ar gyfer canol y dref, er fod gwaith i’w wneud i ddatblygu modelau cyflenwi a thrafod gyda’r perchnogion presennol. Fodd bynnag, ers cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar Gronfa Codi’r Gwastad, gallai fod prosiectau eraill a fyddai’n fwy addas yn nhermau gallu i gyflenwi o fewn yr amserlenni a meini prawf penodol yng nghylch nesaf cyllid. Dywedodd y cafodd y maes parcio ei ddarparu fel enghraifft ond dywedodd y gallai amserlen olygu na fyddai’r math hwnnw o gyllid ar gael.

 

Dilynodd trafodaeth pan esboniodd y Swyddog fod y tîm yn datblygu Cynlluniau Creu Lle ar gyfer canol trefi a bod ffocws y cynlluniau hynny yn bendant iawn ar gyllid Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, roedd gwaith eisoes wedi dechrau yn nhermau dogfennau polisi a rhoi tystiolaeth ar gyfer rhesymeg a fframwaith prosiectau, a byddai hyn yn rhoi’r dystiolaeth a’r wybodaeth sydd ei hangen i fwydo i ba bynnag gyfleoedd a ddaw.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfleoedd Adfywio nad hyn yw’r unig gyfle cyllid ac mai’r rheswm dros ddatblygu Cynlluniau Creu Lle ar gyfer pob canol tref oedd cael cyfres o brosiectau a chynlluniau cyflenwi yn eu lle i fynd ymlaen â nhw os daw cyllid ar gael.

 

Dywedodd Aelod y byddai’r adroddiad yn galluogi swyddogion i barhau eu gwaith ond yn rhoi hyblygrwydd am gynlluniau a chyllid y medrid cael mynediad iddo.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a pharatoi ceisiadau ar gyfer cylch nesaf cynigion ar gyfer Cronfa  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Strategaeth Cyrchfan Aneurin Bevan pdf icon PDF 517 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i Strategaeth Cyrchfan Aneurin Bevan a rhoddodd grynodeb o gynnwys y strategaeth a’r themâu y caiff amrywiaeth o brosiectau eu seilio arnynt.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Teimlai Aelod nad oedd digon o amrywiaeth o fewn yr adroddiad wrth gydnabod yr hyn a gyflawnodd ffigurau amlwg eraill o bob rhan o Flaenau Gwent o gymharu ag Aneurin Bevan.

 

Dywedodd Aelod arall fod pobl Tredegar yn falch iawn o’r hyn a gyflawnodd Aneurin Bevan a chreu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o syniad a sefydlwyd yn Nhredegar. Wrth ystyried datblygu canol tref Tredegar dywedodd y cydnabuwyd nad oes unrhyw adeilad y gallai pobl ymweld ag ef a dysgu am gefndir hanesyddol y dref. Dywedodd fod 10 Y Cylch yn rhan gyfannol o ddatblygiad canol y dref a byddai’n rhoi lle i bobl ymweld ag ef a dysgu hanes y GIG a hefyd i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref. Fodd bynnag, cytunodd fod rhannau allweddol eraill ym Mlaenau Gwent i roi sylw iddynt a chredai y gallai twristiaeth fod yn ffordd ymlaen strategol i’r Fwrdeistref yn y dyfodol. Croesawodd yr adroddiad a dywedodd fod y cysyniad newydd yn Nhredegar eisoes yn profi ei werth.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn croesawu’r Astudiaeth, fodd bynnag teimlai fod rhai elfennau allan o ddyddiad gan y cafodd nifer o gynlluniau eu datblygu erbyn hyn. Ers paratoi’r adroddiad dywedodd y sefydlwyd cyfres o Fyrddau Partneriaeth Canol Tref sy’n cynnwys nifer o bartneriaid ac awgrymodd fod rheoli cyrchfan yn ffurfio rhan o waith y Byrddau Partneriaeth hyn a allai wedyn fwydo i’r prif Fwrdd Rheoli Cyrchfan.

 

Cytunodd y Swyddog gyda’r dull gweithredu a awgrymwyd. Dywedodd fod pethau wedi symud ymlaen o ran cyflenwi prosiect a chafodd y fframwaith ar gyfer goruchwylio adfywio ei ddiweddaru hefyd.

 

Cadarnhaodd y Gr?p Rheoli Cyrchfan fod y Gr?p eisoes yn ystyried sut y gallai Blaenau Gwent ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed y flwyddyn nesaf ac mae’n edrych am bartneriaid i gymryd rhan yn y gwaith. Fodd bynnag, roedd hefyd yn cytuno gyda sylwadau blaenorol a chadarnhaodd fod y Gr?p yn ymwybodol fod gan Blaenau Gwent dreftadaeth helaeth o bobl enwog a ddylai hefyd gael eu dathlu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chefnogi Strategaeth Aneurin Bevan gyda’r diwygiadau y gofynnwyd amdanynt, cyn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithrediaeth (Opsiwn 2).

 

8.

Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel pdf icon PDF 574 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Sgiliau yr adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth perfformiad ar raglen Anelu’n Uchel ac ymgysylltu cysylltiedig â busnesau allanol a hefyd yr wybodaeth perfformiad ar raglen prentisiaeth fewnol CBSBG.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Gofynnodd Aelod os oedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Blaenau Gwent yn ymwneud â’r Rhaglen.

 

Cadarnhaodd y Swyddog nad oeddent wedi recriwtio unrhyw brentisiaid hyd yma. Fodd bynnag, maent yn cynnig lleoliadau gwaith rhagorol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ar y rhaglen hyfforddi yn y sector adeiladu.

 

Gofynnodd yr Aelod hefyd os y gellir cynnig prentisiaethau o fewn Adran Cymorth Busnes y Cyngor.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog na aethpwyd ar ôl hyn oherwydd capasiti cyfyngedig o fewn y Tîm, gan fod yr ymdrechion presennol yn canolbwyntio ar gefnogi a llenwi swyddi gwag ar gyfer prentisiaethau o fewn y Tîm Gofal Cymdeithasol.

 

Canmolodd Aelod arall dîm Anelu’n Uchel ar lwyddiant y rhaglen. Cyfeiriodd wedyn at brinder staff o fewn y tîm Gofal Cymdeithasol a gofynnwyd sut y bwriadwyd llenwi’r swyddi gwag hyn.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod y tîm yn gweithio’n agos gyda Datblygu Sefydliadol i ddynodi swyddi gwag presennol a fyddai’n addas ar gyfer prentisiaeth. Ar hyn o bryd mae pump swydd wag Lefel 2 o fewn y tîm Gofal Cymdeithasol ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda darparydd hyfforddiant i sicrhau hyfforddiant a chefnogaeth NVQ ar gyfer y swyddi hynny. Fodd bynnag, o ran dynodi swyddi gwag ar gyfer prentisiaethau, roedd yn hollbwysig fod gan ddarparwyr hyfforddiant gapasiti cyllid i ddarparu hyfforddiant. Dywedodd y Swyddog fod Gofal Cymdeithasol yn faes blaenoriaeth gyda mwyafrif helaeth yr amser swyddogion wedi ei ymroi i lenwi swyddi gwag o fewn y sector.

 

Canmolodd Aelod waith tîm Anelu’n Uchel a dywedodd fod angen ehangu’r rhaglen yn y dyfodol, yn arbennig yn y sector modurol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru i edrych ar gyfleoedd i ddatblygu’r rhaglen ac ehangu’r cwmpas ar draws awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Swyddog fod y diwydiant modurol yn sector allweddol i’w hystyried, yn arbennig gyda chynnal a chadw cerbydau trydan ac yn y blaen a gallai’r tîm weithio gyda darparwyr hyfforddiant i ddatblygu llwybrau i’r sector hwnnw. Fodd bynnag, dywedodd mai tîm rheoli prosiect yw Anelu’n Uchel a heb gapasiti digonol o fewn darparwyr dysgu yna ni fedrai’r tîm hwyluso’r cyfleoedd hynny. Anogodd aelodau lobio Llywodraeth Cymru i sicrhau twf cynaliadwy yn nhwf prentisiaethau a chyllid ar gyfer darparwyr dysgu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gyllid, cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu cynnig ar ôl 2022 a gobeithiai ddarparu diweddariad ar hyn yn y dyfodol agos.

 

Dywedodd Aelod fod gan Goleg Gwent swm sylweddol o arian i ddatblygu safle Monwel a holodd os yw’r rhaglen anelu’n Uchel yn ymwneud â’r gwaith hwnnw.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod Anelu’n Uchel yn bendant iawn yn rhan o’r gwaith hwnnw a’u bod  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cronfa Rheoli Eiddo Gwag Trawsnewid Trefi

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o Gronfa Rheoli Eiddo Gwag Trawsnewid Trefi ac yn gofyn am gymeradwyaeth i’r rhestr o adeiladau i’w gynnwys o fewn y cynllun gweithredu a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dilynodd trafodaeth pan atebodd y Swyddog i gwestiynau ac eglurodd bwyntiau a godwyd gan Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion busnes unigolion heblaw’r Awdurdod a bod y Cyngor yn cymeradwyo ac yn cefnogi’n llawn y Cynllun Gweithredu Gorfodaeth. Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r cynllun gweithredu, caiff y Cyngor ei wahodd i baratoi a chyflwyno cynlluniau busnes ar gyfer pob un o’r adeiladau y maent angen cyllid ar ei gyfer (Opsiwn 2).

 

Dywedodd y Cadeirydd mai hwn oedd cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu Adfywio cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i Swyddogion ac Aelodau am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn.