Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 8fed Rhagfyr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cydymdeimlad

Cofnodion:

Mynegodd y Pwyllgor gydymdeimlad ar farwolaeth drist Helen, gwraig y Cynghorydd David Wilkshire, a chynhaliodd Aelodau funud o dawelwch fel arwydd o barch.

 

2.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

3.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorydd L. Parsons.

 

4.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiad buddiant dilynol:

 

Cynghorydd W. Hodgins – Eitem Rhif 10 Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Adolygiad Perfformiad

2020/21 Ch2

 

Cynghorydd  G. Paulsen – Eitem Rhif 8 Ymagwedd Ranbarthol at Gyflogadwyedd

 

5.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 303 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu – 3 Tachwedd 2021 pdf icon PDF 97 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu..

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2021, yn cynnwys:

 

Capel y Drindod

 

Dywedodd Aelod ei fod wedi gofyn am gyfanswm cost y cynllun.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio mai’r ffigur a fanylir yn y ddalen weithredu yw’r cyfanswm a geisir gan Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo a Llywodraeth Cymru, ac yn cynnwys ailwampio mewnol Capel y Drindod a’r adeilad llyfrgell presennol. Dywedodd y Swyddog y byddai’n rhoi dadansoddiad mwy cynhwysfawr o’r gostau i Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod os yw’n dal yn fwriad i gael yr elfen ‘siop gymunedol’. Cadarnhaodd y Swyddog y byddai’r siop gymunedol yn cael ei lleoli yn yr adeilad llyfrgell presennol gan fod yn gydnaws gyda cyfleusterau eraill gyda ffocws cymunedol.

 

Mynegodd Aelodau bryder am gostau cynyddol prosiect Capel y Drindod a symud y llyfrgell i ganol y dref. Fe wnaethant hefyd fynegi consyrn am y gwariant ar Llys Einion pan nad y Cyngor yw perchen yr Adeilad.

 

Dywedodd Aelod arall y sicrhawyd cyllid drwy Lywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo. Yn nhermau symud y llyfrgell, dywedodd y credai Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin sy’n rheoli’r llyfrgell y byddai ei symud i ganol y dref yn cynyddu’r nifer sy’n ymweld â’r llyfrgell a hefyd y nifer sy’n ymweld â chanol tref Abertyleri.

 

Dywedodd Aelod bod cyllid gan Lywodraeth Cymru yn arian cyhoeddus a chredai fod y costau cynyddol yn wastraff o arian cyhoeddus.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

7.

Adroddiadau Sero Net, Ymateb Cynulliad Hinsawdd a Symud Ymlaen gyda Phontio pdf icon PDF 554 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yr adroddiad sy’n amlinellu’r ymateb i ofynion adrodd Sero Net Llywodraeth Cymru a gofynnodd am sylwadau ar ymateb dechreuol i adroddiad Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar ddatblygu’r cynllun gweithredu ar gyfer pontio’r Cynllun Datgarboneiddio.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo fel sy’n dilyn:

 

Adroddiadau Sero Net Llywodraeth Cymru

 

Roedd y Cyngor wedi ymateb i ofynion adroddiadau Sero Net Llywodraeth Cymru ddiwedd mis Hydref a byddai hyn yn ffurfio rhan o’r adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru.

 

Mae adran 2.5 yr adroddiad yn dangos gostyngiad yn ein ôl-troed carbon o ychydig dros 3k tunnell fetrig o CO2e ar gyfer 2020-21 sy’n gyfystyr â gostyngiad o 6%. Fodd bynnag, cydnabyddir fod pandemig Covid wedi cyfrannu at y gostyngiad hwn, yn arbennig yn y ffordd yr ydym yn gweithio ac yn darparu  gwasanaethau erbyn hyn a byddid yn dal i fonitro hyn ym mlynyddoedd y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod hwn yn ddechrau cadarnhaol ond dywedodd fod angen gwneud llawer o waith i gyrraedd y targed Sero Net.

 

Mae adran 6 yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad o’r gostyngiad yn ein carbon ar draws gwahanol adrannau o’r Cyngor.

 

Ymateb fel Cyngor i Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent

 

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb arfaethedig y Cyngor i argymhellion Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent.

 

Cynhaliwyd Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent ym mis Mawrth 2021 a roedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Cymerodd nifer o breswylwyr ran yn y Cynulliad a gwnaed argymhellion.

 

Mae’r Cyngor yn parhau i fod yn rhagweithiol wrth ymateb i’n sefydliadau partner o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chaiff yr ymateb arfaethedig ei atodi gyda’r adroddiad. Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at Adran 2.14 a dywedodd ei fod yn gyfle gwirioneddol i barhau i gysylltu gydag aelodau o’r Cynulliad Hinsawdd, gan y cydnabyddir fod angen ymateb gan y boblogaeth gyfan i newid hinsawdd a bod gweithio gyda’r gymuned yn bwysig iawn wrth sicrhau newid. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i’r ymrwymiad i barhau i gysylltu gydag aelodau’r Cynulliad Hinsawdd yn y dyfodol.

 

Cynnydd Pellach ar Bontio Cynllun Datgarboneiddio

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr mai agwedd derfynol yr adroddiad oedd y cynllun gweithredu yn deillio o waith pontio diweddaraf y Cyngor ar drydan, gwresogi a chaffael (gweithiau), fel rhan o’r Cynllun Datgarboneiddio sy’n nodi sut y gallem ostwng allyriadau ein sefydliad mewn naw maes pontio. Mae adran 2.20 yn rhoi manylion y camau gweithredu lefel uchel yn ymwneud â defnydd ynni a dyfodol adeiladu.

 

Dywedodd Aelod fod hwn yn adroddiad rhagorol a chanmolodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Tîm fu’n gysylltiedig. Cyfeiriodd at dudalen 56 sy’n dweud y bwriedir i wres carbon isel gael ei gyflenwi i bob adeilad cyhoeddus erbyn 2030. Dywedodd fod hwn yn darged uchelgeisiol iawn a holodd am hyfywedd Llys Einion yn y dyfodol, gan ei fod yn adeilad ar brydles. Gofynnodd ym mha gategori ynni mae’r adeilad ar hyn o bryd, disgwyliad oes yr adeilad a pha welliannau fyddai  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adolygiad Blynyddol Prosbectws Ynni pdf icon PDF 612 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd dros y 12 mis diwethaf ar y Prosbectws Ynni a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y dyfodol.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Mae adran 2.7 yr adroddiad wedi rhoi sylw i rai o’r gweithgareddau a gwblhawyd yn ystod 2021, a rhoddir manylion pellach ar y prosiectau yn Atodiad 1 – Adolygiad Blynyddol Prosbectws Ynni 2020-21.

 

Dywedodd Aelod fod hwn yn adroddiad rhagorol a chanmolodd ddull gweithredu’r Cyngor. Dywedodd fod newid hinsawdd yn un o’r heriau mwyaf ar gyfer y dyfodol a’i fod yn falch i fod yn rhan o gyngor sy’n hybu hyn. Cyfeiriodd at ymestyn tacsis trydan a mynegodd bryder fod gyrwyr tacsi yn yr ardal wedi dweud y byddai’n anodd iddynt sicrhau nifer digonol o deithiau i dalu am gost cerbyd trydan. Mynegodd bryder hefyd fod pobl yn parcio yn ymyl mannau gwefru ac yn rhwystro mynediad a gofynnwyd pa gyfyngiadau parcio y gellid eu gweithredu.

 

Mewn ymateb dywedodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y cydnabuwyd fod cost tacsis yn broblem i yrwyr ac mae Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd yn edrych ar gyfleoedd cyllid. Byddai’r tacsis ar gael i’w prynu yn dilyn y rhaglen 2 flynedd ac mae’r Fargen Ddinesig hefyd yn edrych ar gynlluniau cymhelliant ac opsiynau cyllido posibl ar gyfer y diben hwnnw. Cadarnhaodd hefyd y byddai gorchmynion rheoleiddio traffig ar fannau gwefru tyrfan newydd er mwyn atal pobl rhag rhwystro mynediad.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan fynegodd Aelodau siom y cafodd cynnig am brosiect p?er hydro micro ei wrthod. Gofynnodd Aelod hefyd os oes unrhyw gynlluniau i osod paneli solar ar ein hadeiladau, yn arbennig ar ein hunedau diwydiannol.

 

Dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig nodi fod cynlluniau eraill yn cael eu hystyried ac y gall y prosiect p?er hydro micro ddod yn hyfyw yn y dyfodol ac y cafodd y gwaith cefndir ei wneud eisoes.

 

Cadarnhaodd y cafodd paneli solar eu gosod ar rai adeiladau fel rhan o raglen RE:Fit a chaiff nifer o gynlluniau posibl ar gyfer ein parciau busnes eu hystyried yn cynnwys cynllun rhannu ynni.

 

Yng nghyswllt y mannau gwefru cerbydau trydan, holodd Aelod os cafodd lleoliad y rhain eu hysbysebu ac awgrymodd eu hysbysebu ar yr hysbysfyrddau yng nghanol trefi. Gofynnodd hefyd os yr hysbyswyd gyrwyr tacsi am y cynllun newydd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod gwaith yn mynd rhagddo i hysbysebu’r mannau gwefru ac y gellid defnyddio’r hysbysfyrddau mewn canol trefi fel rhan o’r gwaith hwnnw. Cadarnhaodd hefyd y cafodd gyrwyr tacsi mewn ardaloedd lle mae mannau gwefru yn gweithredu eu hysbysu am y cynllun a gobeithir y bydd yr holl fannau gwefru yn fyw erbyn yr wythnos nesaf a chaiff yr holl yrwyr tacsi eu hysbysebu yn unol â hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd y Swyddog y caiff y mannau gwefru cyhoeddus eu defnyddio ar draws y Fwrdeistref a bod defnydd wedi dyblu  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Ymagwedd Ranbarthol at Gyflogadwyedd pdf icon PDF 588 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig yr adroddiad sy’n gofyn am gymeradwyaeth i’r papur rhanbarthol ac egwyddorion ymagwedd a gaiff ei chydlynu’n rhanbarthol a’i darparu’n lleol at gyflogadwyedd (atodiad 1). Datblygwyd y papur gyda chyfraniadau gan bob un o’r 10 ardal awdurdod lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r adroddiad hwn yn benodol i’r papur rhanbarthol, fodd bynnag dylid hefyd ystyriaeth adroddiad “Darpariaeth Cyflogaedwyaeth Blaenau Gwent – Datganiad Safle”.

 

Aeth y Swyddog wedyn drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.14 yr adroddiad a dywedodd yr hoffai weld yr holl ddiwydiannau yn ardal Blaenau’r Cymoedd yn cael blaenoriaeth.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Cymunedau Cysylltiedig y byddai angen cefnogaeth ddarpariaethol ar draws ystod cyflawn cyfleoedd cyflogaeth yn ardal Blaenau’r Cymoedd, ac y byddai’r Cyngor yn gwneud y pwynt hwn i’r Brifddinas-Ranbarth.

 

Mynegodd Aelod bryder am nifer y cynlluniau/darparwyr cyflogadwyedd yn yr ardal ac os oes craffu ar eu perfformiad.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau cynnar yn mynd rhagddynt gyda phartneriaid i deall y ffordd orau i gyflenwi ar fframwaith rhanbarthol, ond i sicrhau y caiff ei gyflenwi i ni yn lleol.

 

Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod hwn yn gyfle i edrych ar yr hyn rydym ei angen ym Mlaenau Gwent ac yn rhanbarthol o ran cyflogadwyedd a’n galluogi i lunio unrhyw ffrydiau cyllid yn y dyfodol o amgylch yr angen hwnnw. Dywedodd fod ein cymunedau angen yr help a’r gefnogaeth honno ond bod cyllid yn dod i ben, a bod y gwaith hwn yn ymwneud â cheisio cael cytundeb torfol ar draws y 10 awdurdod lleol i’n galluogi i gael hyblygrwydd lleol o fewn y rhaglen ranbarthol yn gyffredinol.

 

Cytunodd Aelod a dywedodd fod angen i’r ddarpariaeth weddu yn lleol i bobl Blaenau Gwent. Dywedodd fod gostyngiad mewn darparwyr gwasanaeth yn anochel a holodd am sefyllfa’r Cyngor yng nghyswllt y risg ar gyfer staff presennol mewn prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop na fyddant efallai yn parhau.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig y cafodd ei amlygu fel risg ac y byddai’r sefyllfa yn dal i gael ei monitro. Dywedodd ei bod yn bwysig diogelu staff a chadw’r wybodaeth a’r profiad hwnnw.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Cyngor wedi gwneud y pwynt yn wleidyddol ac yn broffesiynol na fedrwn fforddio colli’r capasiti a’r arbenigedd yn yr ardal hon, a bod y Cyngor yn awyddus pa raglenni a fwriedir ar gyfer y dyfodol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r papur rhanbarthol ac egwyddor ymagwedd a gaiff ei chydlynu’n rhanbarthol a’i darparu’n lleol at gyflogadwyedd. (Opsiwn 1).

 

10.

Cynllun Creu Lleoedd Glynebwy pdf icon PDF 608 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n gofyn am gymeradwyaeth i Gynllun Creu Lleoedd Glynebwy.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Mynegodd Aelod bryder am y cynllun a theimlai nad oedd yn cynnwys dim byd yn wahanol i amrywiol gynlluniau eraill a gafodd eu datblygu dros y blynyddoedd.

 

Mynegodd Aelod arall bryder fod yr opsiynau trafnidiaeth yn rhwystr i bobl sy’n dod i ganol o dref o Rasa a Garnlydan.

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y dynodwyd fod y maes parcio aml-lawr yn safle allweddol sydd angen gweithredu ac y cafodd opsiynau eu modelu. Byddai’r opsiynau hyn yn rhan o’r cynllun cyflenwi i Aelodau ei ystyried a gwneud penderfyniadau ar brosiectau.

 

Teimlai Aelod y dylid bod wedi cynnal ymgynghoriad â’r cyhoedd ar gam cynnar.

 

Esboniodd y Swyddog y bu Aelodau’n cymryd rhan ar y cam canfod ffeithiau dechreuol ac y cyflwynwyd y Cynllun i Aelodau Ward. Dywedodd y Swyddog na chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cam hwnnw, fodd bynnag defnyddiwyd yr astudiaethau manwerthu a hamdden a gynhaliwyd fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, a bod yr ymgynghorwyr wedi cysylltu â busnesau yng nghanol y dref. Byddai’r cam nesaf yn cynnwys cysylltu gyda phobl ifanc, ysgolion a’r Coleg.

 

Dilynodd trafodaeth pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelodau am yr opsiynau a fanylir yn y Cynllun.

 

Dywedodd Aelod nad yw’r maes parcio aml-lawr yn addas i’r diben a mynegodd bryder fod y Cyngor yn gwario arian arno er ei fod mewn perchnogaeth breifat.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y deallai rwystredigaeth Aelodau am y maes parcio aml-lawr, fodd bynnag cafodd y trefniant ei wneud gan yr hen gyngor dosbarth trefol ac nad oedd gan y Cyngor y pwysau a ddisgwylid dan drefniant prydles arferol. Dywedodd fod y gwaith hwn yn ymwneud â chanfod y datrysiad sy’n ffitio orau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Creu Lleoedd Glynebwy, ei weledigaeth a’i uchelgeisiau craidd ar gyfer y dyfodol, i alluogi cwblhau drafft y cynllun cyflenwi a’r camau at weithredu’r prosiectau a gynhwysir ynddo. (Opsiwn 2).

 

11.

Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd 2020/21 Ch2 pdf icon PDF 602 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar berfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar brosiectau yn ymwneud â buddsoddiad ym Mlaenau Gwent yn ystod cyfnod canol 2020/21.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at gynnydd ar dargedau allweddol a ddynodir o fewn Cynllun Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer 2020/2, gyda’r uchafbwyntiau ar gyfer Blaenau Gwent yn cynnwys:

 

 

·         Rhaglen Metro Plus – cynnydd Trafnidiaeth Cymru

·         Cronfa Trawsnewid Allyriadau Isel Iawn

·         Cronfa Catalydd Tai

·         Cais Cronfa Her

·         Ymestyn Anelu’n Uchel

 

Cyfeiriodd Aelod at adroddiad diweddar yn y wasg sy’n dweud y byddai’r rheilffordd rhwng Crosskeys a Chasnewydd yn dechrau gwasanaeth yn yr ychydig wythnosau nesaf a gofynnodd os y byddai’r Cyngor yn derbyn ad-daliad o werthiant tocynnau pan ddaw’n weithredol.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio y byddai’r Cytundeb a thynnu arian gwerthiant tocynnau i lawr yn dechrau pan gwblheir yr holl brosiect. Nid yw Crosskeys i Gasnewydd yn rhan o’r prosiect yr ydym ni yn ei gyflenwi.

 

Gofynnodd yr Aelod pryd y gellid disgwyl hyn. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod hynny’n debygol yn 2023/24 ond yn dibynnu ar gynnydd y contractwr. Byddai’r prosiect yn galluogi 2 drên yr awr i ddechrau, ond y byddai’r seilwaith yn ei le i gynyddu maes o law i 4 trên yr awr; fodd bynnag byddai angen dolen Abertyleri ar gyfer hyn.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.15 a’r nifer o ddatblygiadau tai sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yn y Fwrdeistref a gofynnodd os yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a datblygwyr preifat wedi mynegi unrhyw ddiddordeb am ddefnyddio technoleg ynni gwyrdd yn eu hadeiladau.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio fod llawer o waith yn mynd rhagddo ar ddatgarboneiddio. Ychydig iawn o dai carbon isel sydd yn y Fwrdeistref ac mae ailwampio hen dai yn bwysicach na thai newydd oherwydd bod mwy ohonynt. Mae gan Reoliadau Adeiladu eisoes safonau uchel ar gyfer datblygiadau newydd ond cadarnhaodd bod gwaith yn mynd rhagddo gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a hefyd gyda datblygwyr preifat  i edrych ar wneud rhai o’u safleoedd yn fwy niwtral o ran carbon, fodd bynnag dim ond faint sy’n ofynnol mewn rheoliadau cynllunio ac adeiladau y gallwn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei gyflawni.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cymunedau Cysylltiedig fod gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau sylweddol ar gyfer tai fforddiadwy a’r agenda gwyrdd a gobeithio y byddant yn cyflwyno cymhellion i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda chyllid grant.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

12.

Blaenraglen Gwaith: 9 Chwefror 2022 pdf icon PDF 398 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhelir ar 9 Chwefror 2022.

 

Gofynnodd Aelod am i Aelod Tredegar gael gweld Adroddiad Aneurin Bevan a Chynllun Creu Lleoedd Tredegar cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer 9 Chwefror 2022.