Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau ar gyfer y Cynghorydd K. Rowson a M. Cook, gyda dirprwyon yn bresennol ar ran y ddau.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Adfywio PDF 262 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021.
Cyfeiriodd Aelod at y paragraff agosaf i’r olaf ar dudalen 13 y cofnodion a gofynnodd i’r cais am ychwanegu gwybodaeth yng nghyswllt costau at brosiect Capel y Drindod fel pwynt gweithredu.
Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio y trefnwyd cyfarfod gydag Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo’r wythnos nesaf, ac yn dilyn y cyfarfod hwn darperir diweddariad drwy’r ddalen weithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 15 Medi 2021 PDF 204 KB Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021, yn cynnwys:
Rhagolwg Monitro Cyllideb Gyfalaf – Atodiad 1 328340 – Manylion i’w rhoi yng nghyswllt cyllid Metro Plus a Dolen Abertyleri a chaffael tir
Dywedodd Aelod na fedrai gofio i gaffael y tir gael ei adrodd i’r Cyngor llawn ar gyfer penderfyniad, fel y nodir yng nghofnodion cyfarfod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gynhaliwyd ym mis Medi 2020. Gofynnodd hefyd pam fod y Cyngor wedi benthyca £70m ar gyfer gwelliannau rheilffordd pan ddywedwyd yng nghofnodion cyfarfod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ym mi s Chwefror 2021 mai £50m oedd ei angen.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol bod y rhain yn faterion gwahanol. Edrychodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar sut y gallai gyllido cyllido cyfres o gamau gweithredu ar rwydwaith greiddiol lein y Cymoedd, a sicrhawyd cyllid o raglen Metroplus i ddatblygu dolen Abertyleri.
Roedd y Cyngor hefyd wedi cyflwyno cynnig i raglen ‘Restoring your Railway’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i gynnwys dolen Abertyleri. Yn y cyfamser, mae’r Cyngor wedi sicrhau £75m gan Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau i’r coridor rheilffordd. Cadarnhaodd fod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwybod am gynnig y Cyngor i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywedodd fod y Cyngor wedi penderfynu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r seilwaith rheilffyrdd sydd ei angen i gynyddu amlder trenau i 4 trên yr awr, fel rhan o bolisi hirsefydlog y Cyngor ar gyfer y coridor rheilffordd.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Aelod am gaffael tir, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai Network Rail yw perchennog y seilwaith rheilffyrdd fel arfer. Byddai caffael y tir yn galluogi’r Cyngor i hwyluso’r cynllun; fodd bynnag, pan fyddai wedi ei gwblhau, byddai Network Rail yn gweithredu’r rheilffordd yn unol â’u polisi ar draws y wlad. Dywedodd mai hyn oedd y dull a gymerwyd ar gyfer ymestyn y rheilffordd o Parcffordd Glynebwy i Dref Glynebwy.
Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y £70m yn cynnwys gwelliannau i’r system signalu, uwchraddio gwahanol bontydd a strwythurau ar hyd y llwybr, a gwelliannau trac o Crosskeys i dde Blaenau Gwent.
Awgrymodd Aelod y dylid cylchredeg y Cytundeb Pedairochrog i Aelodau eto. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Cytundeb yn rhan o’r papurau a gyflwynwyd i’r Cyngor ym mis Gorffennaf, fodd bynnag cytunodd i gylchredeg yr wybodaeth eto.
Gofynnodd Aelod oes unrhyw gynlluniau ar waith pe na byddai cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer dolen Abertyleri yn dod trwodd.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol pe na byddai’r cynnig yn llwyddiannus y byddai’r Cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y brif amcan o gynyddu amlder trenau i Flaenau Gwent.
Perfformiad Adfywio a Datblygu – Gofynnodd Aelod y dylai Archwiliad Cymru o Goffau gael ei adrodd i’r pwyllgor perthnasol i’w drafod.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cyflwynir adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol maes o law.
Camau gweithredu a gyfeiriwyd o’r Cydbwyllgor Craffu Cyllideb – 27 Medi 2021. Diweddariad i’w roi ar Siop Cwmni Tredegar
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu gan fod ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Unedau Hybrid a Hwb Bocs – Monitro Perfformiad PDF 503 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i Aelodau ar ddatblygiadau Unedau Hybrid a Hwb Bocs yn safle’r Gweithfeydd, Glynebwy. Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Gofynnodd Aelod pryd y gellid disgwyl y cyfrifon terfynol ar gyfer y prosiect.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio fod y cyfrifon yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd ac er bod gorwariant bychan oherwydd pandemig Covid, nid oedd mor sylweddol ag a ragwelwyd.
Holodd Aelod am y meini prawf ar gyfer defnyddio unedau Hwb ac os y byddent ar gael i fusnesau presennol.
Mewn ymateb dywedodd y Swyddog y byddent ar gael i fusnesau presennol, fodd bynnag mae’r Cyngor yn awyddus i hyrwyddo busnesau newydd. Dywedodd eu bod yn rhoi gofod hyblyg ar gyfer unrhyw fusnesau ond y byddent yn apelio at fusnesau seiliedig ar dechnoleg. Mae swyddogion yn gweithio’n agos gyda chwmnïau sydd â diddordeb i weld os yw’r unedau yn addas neu os oes safle mwy addas yn y Fwrdeistref.
Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar nifer yr unedau a osodwyd, a chadarnhaodd y Swyddog y gosodwyd 2 o’r 3 adeilad uned hybrid a bod Swyddogion yn gweithio’n agos gyda chwmni arall sydd â diddordeb yn y trydydd adeilad. Yng nghyswllt unedau Hwb Bocs, mae’r ffit mewnol yn agosáu at ei orffen ac oherwydd lefel y diddordeb mae’n hyderus y cânt hwythau eu gosod.
Dywedodd Aelod fod hwn yn brosiect gwerth chweil iawn a gofynnodd am ddiweddariad ar osodiadau’r dyfodol.
Dilynodd trafodaeth fer pan holodd Aelod os y gellid gosod arwyddion ar hyd ffordd Blaenau’r Cymoedd yn hysbysebu’r unedau.
Atebodd y Swyddog fod marchnata’n cael ei ystyried a bod arwyddion ar hyd ffordd Blaenau’r Cymoedd yn gyfle y gellid ei ymchwilio. Dywedodd y gobeithir y byddai’r buddsoddiad ar ffordd Blaenau’r Cymoedd yn cael effaith gadarnhaol wrth ddenu buddsoddwyr i Flaenau Gwent.
Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod y Cyngor wedi derbyn nifer fawr o ymholiadau am unedau o wahanol feintiau, ac yn anffodus nid ydym wedi medru cytuno i rai o’r ceisiadau hynny. Mae angen mwy o ofod diwydiannol yn y Fwrdeistref a chadarnhaodd y Swyddog bod hyn yn cael ei ddilyn gyda Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dilynodd trafodaeth pan awgrymodd y Cadeirydd y dylid gwneud trefniadau i Aelodau ymweld â’r unedau cyn iddynt gael eu defnyddio.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).
|
|
Prosiect Hwyluso STEM PDF 438 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cyflwynodd Arweinydd Tîm Prosiect Hwyluso STEM yr adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth am berfformiad Prosiect Hwyluso STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Holodd Aelod am gyfleoedd cyllid tu hwnt i fis Mawrth 2023.
Mewn ymateb esboniodd y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig fod y trafodaethau dechreuol gyda Cymoedd Technoleg yn ymwneud â chynllun peilot ar gyfer Blaenau Gwent i benderfynu effeithlonrwydd y model cyflenwi a lefel yr adnoddau sydd eu hangen. Caiff canlyniadau’r cynllun peilot eu hystyried tua chanol y flwyddyn nesaf.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo cynnydd y prosiect hyd yma (Opsiwn 1).
|
|
Ystyried adroddiadau’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cyflwynodd Swyddog Cyswllt Cyflogaeth yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd Cynllun Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau a rôl CBS fel sefydliad porth ar gyfer busnesau lleol sy’n dymuno cael mynediad i’r rhaglen.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Gofynnodd Aelod pwy sy’n gyfrifol am roi cefnogaeth barhaus i’r bobl ifanc mewn lleoliadau i sicrhau profiad cadarnhaol a hefyd i gefnogi cyflogwyr wrth reoli’r broses, gan felly roi profiad da ar gyfer pobl ifanc.
Esboniodd y Swyddog Cyswllt Cyflogaeth bod angen i gyflogwyr yn ystod y cais dechreuol i ddarparu Cynllun Cyflogadwyedd yn amlygu’r hyn y bwriadant ei ddarparu yn ystod y lleoliad ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn monitro hyn. Byddai’r unigolion ar y lleoliadau yn cael eu cefnogi gan y Ganolfan Gwaith a Hyfforddwyr Gwaith a byddem ni hefyd yn cadw mewn cysylltiad i sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth hwnnw.
Dilynodd trafodaeth pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelod am y cynllun.
Gofynnodd Aelod os mai rôl yr Adran Gwaith a Phensiynau oedd edrych am gyflogaeth tymor hirach i’r bobl ifanc hyn ar ôl y lleoliad i’w hatal rhag mynd yn ôl i’r system budd-daliadau, a hefyd beth oedd yn cael ei wneud i sicrhau nad oes camfanteisio ar y broses.
Esboniodd y Swyddog y cafodd Cynllun Kickstart ei farchnata fel lleoliad 6 mis. Nid oes dim i ddweud fod yn rhaid i gyflogydd ddarparu swydd yn dilyn y cyfnod hwn. Cadarnhaodd fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal gwiriadau i sicrhau y gallai busnesau gynnal nifer y lleoliadau a ddarparwyd.
Dywedodd yr Aelod mai’r peth pwysicaf yw sicrhau fod pobl ifanc yn dod i ddiwedd eu lleoliadau yn medru mynd ar raglenni i’w helpu i waith pellach.
Soniodd y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig fod dylanwad y Cyngor yn gyfyngedig gan mai rhaglen yr Adran Gwaith a Phensiynau oedd hon, ond mae’n gadarnhaol fod cwmnïau lleol yn cymryd rhan a’u bod yn fwy tebygol o gynnig cyflogaeth barhaus. Dywedodd fod y Tîm mewn cysylltiad agos gyda busnesau i sicrhau y caiff y cais ei ddatblygu mewn ffordd drwyadl i sicrhau cyflogaeth a’i fod yn cael ei barhau ar ddiwedd y broses. Dywedodd hefyd fod hon yn un o nifer o raglenni ar waith ym Mlaenau Gwent yn ceisio cyflogaeth hirdymor parhaus.
Dilynodd trafodaeth pan ofynnodd Aelod i ddiweddariad fod ar gael i gyfarfod yn y dyfodol, a dywedodd y Swyddog Cyswllt Cyflogaeth y byddai’n rhoi’r wybodaeth hon.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, esboniodd y Swyddog y byddai cyflogwyr yn derbyn £1,500 ar gyfer pob person i ddarparu hyfforddiant perthnasol a dillad gwaith ac yn y blaen.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nododd gynnwys yr adroddiad a’r deilliannau hyd yma (Opsiwn 1).
|
|
Blaenraglen Gwaith: 8 Rhagfyr 2021 PDF 396 KB Derbyn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a drefnwyd ar gyfer 8 Rhagfyr 2021.
Cyfeiriodd Aelod at y cyhoeddiad diweddar y byddai Henley’s Busnes yn rhoi’r gorau i’r gwasanaeth ac awgrymodd y dylid galw cyfarfod arbennig i edrych ar oblygiadau hyn ar Gwm Ebwy Fach a chanol trefi o fewn y Fwrdeistref.
Cadarnhaodd y Cadeirydd y caiff hyn ei ystyried.
Awgrymodd Aelod y gallai’r Gr?p Gorchwyl Trafnidiaeth hefyd ystyried hyn.
Mewn ymateb i gwestiwn am Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfleoedd Adfywio y byddai cyfarfodydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn ailddechrau yn ddiweddarach yn y mis.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer 8 Rhagfyr 2021.
Dywedodd Aelod y byddai Arweinydd Tîm Cymunedau Cysylltiedig yn gadael Blaenau Gwent yn y dyfodol agos. Diolchodd Aelodau iddi am ei gwasanaeth rhagorol i’r Cyngor a’r cymorth a roddodd i Aelodau yn ystod ei chyflogaeth, a dymuno pob llwyddiant iddi ar gyfer y dyfodol.
|