Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 24ain Mawrth, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr M. Cross a P. Edwards.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

 

Cynghorydd J.C. Morgan – Eitem Rhif 9 Adroddiad Cynnydd Cynllun Treftadaeth Treflun Tredegar

 

Cynghorydd W. Hodgins – Eitem Rhif 10 Adroddiad Canolfan Uwch Beirianneg a MTC.

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 243 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 10 Chwefror 2021 pdf icon PDF 89 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 10 Chwefror.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Diweddariad Cynllun Rheoli Cyrchfannau pdf icon PDF 519 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth i ddrafft Gynllun Rheoli Cyrchfannau Blaenau Gwent ar gyfer 2020-25. Dywedodd y penderfynodd y Pwyllgor Craffu ohirio’r adroddiad pan y’i cyflwynwyd yn flaenorol ac y cafodd y Cynllun ei adolygu yn dilyn adborth gan Aelodau.

 

Dywedodd fod yr adroddiad yn crynhoi cynnwys y Cynllun a’r themâu y cafodd ei seilio arnynt. Mae’r adroddiad hefyd yn crynhoi cyd-destun y Cynllun a rôl y Bartneriaeth Rheoli Cyrchfannau a rhanddeiliaid eraill wrth ei gynhyrchu.

 

Nododd y Swyddog fod y Cynllun yn ddogfen strategol ac y cafodd ei gynhyrchu ar y cyd gan nifer o randdeiliaid a’i oruchwylio gan y Bartneriaeth Rheoli Dylunio. Roedd y ddogfen ei hun yn wahanol i rai o ddogfennau a strategaethau eraill y Cyngor gan ei bod yn eistedd o fewn y Cyngor a hefyd y Bartneriaeth Rheoli Cyrchfannau a hefyd randdeiliaid ar draws y sector twristiaeth, felly nid oedd hon yn ddogfen Blaenau Gwent yn unig. Mae’r ddogfen yn ddarn pwysig o waith a chaiff ei chydnabod gan Croeso Cymru fel dull strategol i ddatblygu twristiaeth o fewn yr ardal ddaearyddol a byddai hefyd yn cael ei ddefnyddio i helpu gyda cheisiadau am gyllid. Prif nod y Cynllun oedd sicrhau fod pobl, busnesau a sefydliadau yn cydweithio i gyflawni targedau a gytunwyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at drafodaethau pan gafodd y Cynllun ei adrodd yn flaenorol i’r Pwyllgor a dywedodd y teimlai fod yr adroddiad yn rhoi eglurdeb nad oedd y Cynllun yn ymwneud â Blaenau Gwent yn unig.

 

Cytunodd Aelod arall a dywedodd fod y Cynllun yn fwy cryno ac y byddai’n fwy hylif wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, dywedodd hefyd fod datblygu twristiaeth yn ddarn helaeth o waith a chwestiynodd yr adnoddau cyfyngedig o fewn y Cyngor. Yn nhermau’r ddogfen, roedd yn dal i deimlo nad yw’r Cynllun yn rhoi cydnabyddiaeth ddigonol i rai partneriaid a bod y cyfeiriadau at dwristiaeth gymunedol yn brin yn rhai o’r prosiectau a’r buddsoddiad a wnaed e.e. Prosiect Cynllun Treftadaeth Tredegar, 10 Y Cylch Tredegar. Dywedodd y cafodd y prosiect fuddsoddiad o £400k gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a dywedodd y dylai’r Cynllun sôn am brosiectau o’r maint hwn o fuddsoddiad..  Cyfeiriodd at y cynllun gweithredu ar dudalen 23 y Cynllun, Cartref y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dywedodd y dylid sôn am Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo fel rhanddeiliad.

 

Mewn ymateb, cytunodd y Swyddog y dylid fod wedi rhoi mwy o eglurdeb yn flaenorol yn nhermau maint ymgyfraniad partneriaid a’r ystod rhanddeiliaid. Dywedodd fod twristiaeth gymunedol yn agwedd sylfaenol o’r Cynllun ac yn llinyn allweddol drwy’r math o waith sy’n cael ei wneud yn yr ardal a hefyd yn y Cynllun. Cytunodd hefyd gyda sylwadau’r Aelod am Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a dywedodd y buont yn sylfaenol i’r prosiect. Cawsant eu gadael allan drwy gamgymeriad ond cadarnhaodd y Swyddog y byddent yn cael eu cynnwys yn y Cynllun terfynol.

 

Dywedodd Aelod iddo gyfeirio at adroddiad Archwilio Coffau dyddiedig 26 Tachwedd 2020  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad Cynnydd: Prosiect RE:FIT pdf icon PDF 471 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.  .

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd prosiect RE:FIT i gyflwyno ynni a gaiff ei reoli’n fwy effeithiol  fewn adeiladau’r Cyngor a gostwng costau ynni i’r Cyngor, Ymddiriedolaeth Hamdden ac ysgolion yn y blynyddoedd i ddod.

 

Ystyriwyd yn wreiddiol fod tua 35 adeilad yn rhan o brosiect RE:FIT Blaenau Gwent a chafodd y cynllun dechreuol ei ddatblygu. Cafodd y cam hwn ei rannu ymhellach yn gamau llai i alluogi gwneud gwaith fel y datblygwyd ac y cytunwyd ar gynigion, a rhoddir sylw i’r rhain yn adrannau 2.5 – 2.17 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Swyddog, er y byddai arbedion ynni blynyddol, fod y rhai a ddynodir yn adran 5.8 yr adroddiad yn arbedion ynni crynswth. Defnyddir yr arbedion hyn i wneud yr ad-daliadau dwywaith y flwyddyn o’r benthyciad i Salix. Er mwyn sicrhau arbedion yn y flwyddyn, caiff ad-daliadau’r benthyciad eu hymestyn o 8 mlynedd i 10 mlynedd a byddai hyn yn galluogi adeiladau i fanteisio o rai o’r arbedion a sicrhawyd o gymryd rhan yn y prosiect. Unwaith y bydd yr ad-dalu wedi ei orffen, byddai’r holl adeiladau yn manteisio o’r holl arbedion.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.15 yr adroddiad a gofynnodd os mai hyn oedd cyfanswm ffigur y goleuadau stryd o fewn ardaloedd preswyl Blaenau Gwent.

 

Dywedodd y Swyddog y byddai’n gwirio os mai ffigur preswyl yn unig yw hyn neu os yw’n cynnwys ardaloedd eraill. Fodd bynnag, dywedodd os oedd unrhyw oleuadau ar ôl, y gellid ystyried cam posibl yn y dyfodol ac mae Salix wedi dweud y byddent yn croesawu prosiectau eraill.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Aelod, cadarnhaodd y Swyddog y caiff y goleuadau stryd eu gweithredu gan un system rheoli yn y dyfodol fel y manylir yn adran 2.13 yr adroddiad.

 

Yn nhermau prosiectau’r dyfodol, gofynnodd Aelod os y gellid ystyried arwyddion rheoli traffig ffyrdd. Dywedodd y Swyddog y byddai’n cydlynu gyda’r Tîm Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd Aelod arall y gwyddai fod nifer o ysgolion yn bryderus am gymryd rhan yn y prosiect ac os y byddai’r arbedion posibl a sicrheid yn ddigonol ar gyfer ad-dalu’r benthyciadau, a gofynnodd am wybodaeth ar y ffigurau.

 

Dywedodd y Swyddog nad oes unrhyw ffigurau ar gael ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid. Esboniodd y caiff yr arbedion eu cyfrif ar broffil neilltuol ac amcangyfrifon yn seiliedig ar i adeiladau fod yn weithredol. Fodd bynnag, bu’r ysgolion ar gau oherwydd Covid felly byddai hyn yn effeithio ar yr arbedion. Cadarnhaodd y Swyddog y bwriedir cynnwys astudiaethau achos o adeiladau yn yr adroddiad nesaf i’r Pwyllgor yn nhermau’r hyn a gaiff ei osod a’r costau ac arbedion ac yn y blaen.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi cynnydd y prosiect, ac y caiff adroddiad bellach ar berfformiad ei roi yn y dyfodol.

 

8.

Cyllido Torfol Dinesig pdf icon PDF 440 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno cais Cronfa Her Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd am raglen cyllido torfol dinesig rhanbarthol i gefnogi datrysiadau i brosiectau a heriau lleol a ddynodwyd.

 

Cynigiwyd dull gweithredu rhanbarthol ac mae tîm y Fargen Ddinesig wedi annog cynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent fel yr awdurdod arweiniol arfaethedig erbyn 12 Mawrth 2021. Gwnaed hynny, a disgwylir penderfyniad dilynol ar ôl penderfyniad y Bwrdd ar 20 Ebrill 2021. Fel Awdurdod arweiniol, y Cyngor fyddai’n rheoli’r berthynas a byddai’n ymrwymo i gontract gyda darparydd priodol i gyflenwi’r llwyfan cyllid torfol am gyfnod dechreuol 2021/22 hyd at 2023/24.

 

Wedyn siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd y Swyddog y bu rhai newidiadau bach o’r adroddiad a’r hyn a aeth i’r cais fel canlyniad i’r sgyrsiau a gynhaliwyd. Cadarnhaodd mai’r cyfanswm a geisir am y prosiect oedd £1.3m mewn gwerth, a cheisir hyd at £1.1m o’r Fargen Ddinesig, er y gall hyn amrywio yn dibynnu ar lefel buddsoddiad gan awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Swyddog, er nad oedd buddsoddiad awdurdodau lleol yn ofynnol, y byddid yn gweld hynny fel bod yn ffafriol a chadarnhaodd fod Blaenau Gwent wedi dynodi £50k dros 3 blynedd o fewn adnoddau cysylltiedig ag Adfywio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ymgysylltu, esboniodd y Swyddog y byddai’r Swyddog Arweiniol yn gyfrifol am strategaeth ymgysylltu glir gyda grwpiau cymunedol lleol. Byddai’r trydydd sector yn hollbwysig yn nhermau’r sefydliadau y maent eisoes yn eu cefnogi. Byddai darparydd y llwyfan hefyd yn cefnoga’r ymgysylltu hwnnw a byddai lansiad cyhoeddus a digwyddiadau gweithdy, ynghyd â gwefan arbennig i hyrwyddo a chyfeirio pobl at y prosiectau hynny sy’n ceisio cyllid torfol. Byddai gan Aelodau hefyd ran fawr yn yr ymgysylltu hwnnw.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at yr un cynllun a gynhaliwyd yn Abertawe a gofynnodd os oes unrhyw astudiaethau achos ar gael i roi rhyw syniad o’r hyn sy’n ymarferol bosibl a hefyd os y derbyniwyd unrhyw arwydd am lefel y buddsoddiad gan awdurdodau lleol eraill.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod Atodiad 1 i’r adroddiad yn rhoi dolen i’r wefan ar gyfer cyllid torfol Abertawe sy’n cynnwys y mathau o brosiectau a gafodd eu cyllido.

 

Yn nhermau lefel y buddsoddiad gan awdurdodau lleol eraill, cadarnhaodd y Swyddog y cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Cyfarwyddwr Rhanbarthol a bod cefnogaeth gadarn ar gyfer y cynigion. Fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr elfen cyfraniadau ariannol ar hyn o bryd. Cadarnhaodd y Swyddog y cyflwynwyd y cais yn dynodi fod yr elfen honno yn dal i gael ei gorffen.

 

Gofynnodd Aelod os mai i ni fel Awdurdod Arweiniol neu i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyflwynir ceisiadau am brosiectau.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog os yw’n llwyddiannus a fod y Fargen Ddinesig wedi cytuno ar fuddsoddiad, yna byddai trefniadau llywodraethiant yn cael eu rhoi ar waith a sefydlir gr?p llywio arfaethedig gyda chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y Fargen Ddinesig, Llywodraeth Cymru  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Cynnydd Cynllun Treftadaeth Treflun Tredegar pdf icon PDF 402 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J.C. Morgan fuddiant yn yr eitem hon.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol yng nghyswllt Cynllun Treftadaeth Treflun Tredegar a hefyd giplun o’r prosiectau a gwblhawyd hyd yma.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am brosiect yr NCB, cadarnhaodd y Swyddog fod yr ymgeisydd a’r contractwr yn dal yn ymroddedig i’r prosiect yn dilyn trafodaethau. Fodd bynnag, pe byddai’r ymgeisydd yn penderfynu peidio symud ymlaen, yna byddai’r Cyngor yn ystyried ei sefyllfa yn nhermau’r cyllid a ddarparwyd hyd yma.

 

Dywedodd Aelod y cafodd diweddariad ar brosiect yr NCB ei roi yng nghyfarfod y Bwrdd Ymgynghorol yr wythnos flaenorol a bod y perchennog yn bendant iawn yn dal i fod gyda ni a bod ganddynt bob bwriad o gwblhau’r gwaith.Cafodd Nick Landers ac Amanda Phillips eu canmol gan yr Awdurdod am eu gwaith a chyfraniad ardderchog i’r Cynllun.

 

Soniodd am 10 Y Cylch a dywedodd fod hwn yn brosiect pwysig iawn a bod y Bwrdd Ymgynghorol yn falch tu hwnt o’r gwaith a wnaed a chyfraniad Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, Cymru Creation a’r gymuned. Soniodd y bu Ysgol Gyfun Tredegar hefyd yn ymwneud â datblygu’r adeilad ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol ac y byddai hyn yn denu ysgolion o bob rhan o Dde Cymru. Dywedodd fod creu’r GIG yn rhoi safbwynt cenedlaethol i Dredegar na fyddai wedi digwydd heb brosiect Cynllun Treftadaeth Tredegar.

 

Awgrymodd Aelodau y dylid gwahodd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo i roi cyflwyniad i gyfarfod yn y dyfodol fel rhan o’u gwaith parhaus.

 

Dywedodd Aelod arall fod hwn yn brosiect gwerth chweil iawn a hefyd yn gatalydd ar gyfer gweddill Blaenau Gwent yn neilltuol wrth ddatblygu twristiaeth yn yr ardal.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a:

      i.        Nodi’r estyniad i raglen Cynllun Treftadaeth Tredegar y bwriadwyd ei gau yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2020 a’r dyddiad cwblhau newydd o fis Rhagfyr 2021.

 

    ii.        Cydnabod cynnydd a wnaed hyd yma gydag adnewyddu’r adeiladau a amlinellir yn 2.4 a hefyd a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

   iii.        Nodi ymgyfraniad Bwrdd Ymgynghorol Cynllun Treftadaeth Tredegar sy’n gyfrifol am reolaeth barhaus y rhaglen a sicrhau y caiff yr egwyddorion allweddol dilynol eu gweithredu ar gyfer methodoleg cyflenwi’r rhaglen:

·         Cadw’r weledigaeth ar gyfer y craidd hanesyddol

·         Cynorthwyo wrth gynllunio, rhaglennu a chyflwyno digwyddiadau

·         Cynorthwyo gyda’r broses ddethol.

·         Sicrhau fod y cynigion dehongli a mynediad a ddaw i’r amlwg yn cydymffurfio gyda’r weledigaeth sylfaenol ar gyfer y prosiect.

·         Datblygu ymhellach y syniadau dehongli a chysylltiadau gyda chynulleidfaoedd perthnasol

·         Datblygu papurau gwybodaeth manwl pellach ar:

-       Darpariaeth addysgol

-       Ymgyfraniad y gymuned.

 

10.

Adroddiad Canolfan Peirianneg Uwch a MTC pdf icon PDF 681 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Datblygu Sgiliau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Datblygu Sgiliau.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Sgiliau yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth adroddiad Sgiliau’r Dyfodol Blaenau Gwent a’r cynnig cyllid dilynol a gyflwynwyd i Cymoedd Technoleg ar gyfer ailwampio adeilad Monwell i fod yn Ganolfan Uwch Beirianneg.

 

Prynodd y Cyngor hen ffatri Monwell yn 2018 a mynd ati i ddatblygu’r safle i wireddu uchelgais i greu safle a fyddai’n cefnogi anghenion sgiliau y diwydiant gweithgynhyrchu ar draws Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn y dyfodol.

 

Ym mis Rhagfyr 2020 cyhoeddodd MTC Training Services eu canfyddiadau yn seiliedig ar ymchwil ar draws diwydiant Blaenau Gwent ar gyfer argymhellion Sgiliau’r Dyfodol a chyflawni o fewn y ganolfan hyfforddiant arfaethedig, a rhoddir hyn yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhaodd y Swyddog fod hwn yn brosiect ailwampio, yn defnyddio’r strwythur presennol ac adeiladu arno. Byddai maint gwaelod yr adeilad yn aros yr un fath ac mae’r cynlluniau yn cynnwys llawr mezzanine i gynyddu gofod llawr ar gyfer ystafelloedd dosbarth. Darperir parcio y tu allan o fewn y safle.

 

Dywedodd Aelodau fod hwn yn brosiect cyffrous, gan ddod ag adfywio, addysg a hyfforddiant i gyd dan un to ac yn ogystal â buddsoddi mewn adeilad gwag yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol.

 

Dywedodd y Swyddog fod yr amserlen yn dyn gan fod y Coleg yn dymuno mynd ar y safle fis Medi nesaf ac mae Swyddogion yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru yn nhermau cyllid. Dywedodd fod hwn yn gyfle cyffrous a bod gweithgynhyrchwyr yn yr ardal wir eisiau’r math hwn o gyfleuster.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a:

 

      i.        Chymeradwyo adroddiad MTC a’r argymhellion cysylltiedig; a

    ii.        Nodi a chymeradwyo cynnig Cymoedd Technoleg i ailwampio Monwell yn Ganolfan Uwch Beirianneg (Opsiwn 2).

 

 

11.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 398 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod y bwriedir ei gynnal ar 28 Ebrill 2021.

 

Dywedodd y Cadeirydd y cafodd yr adroddiadau dilynol eu tynnu o’r flaenraglen:

 

Adroddiad Aneurin Bevan

Cynnydd Cymoedd Technoleg

 

Dywedwyd hefyd y cyflwynir eitem wybodaeth ar y ffatri wydr Twrcaidd.

 

Canmolodd Aelod yr adroddiadau a gyflwynwyd ac ymatebion y Swyddogion, a dywedodd y gobeithiai y byddai’r Flaenraglen Gwaith yn parhau gyda fformat y cyfarfod hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad.