Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 6ed Ionawr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L. Parsons.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 272 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyfarfod Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020.

 

Ymweliad i Ffatri Wydr yn Nhwrci

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 19 y cofnodion a gofynnodd am gyngor ar p’un ai a ddylai’r Cadeirydd fod wedi datgan buddiant gan iddo fod ar yr ymweliad, ac felly na ddylai fod wedi cymryd rhan yn y broses pleidleisio.

 

Dywedodd y Swyddog/Cynghorydd Craffu y cafwyd cyngor cyfreithiol yn dweud mai dim ond pan oedd adroddiad ar yr agenda yn cael ei drafod y mae angen datgan buddiant. Gan nad oedd y Flaenraglen Gwaith ond yn rhestru eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf, nid oedd angen i’r Cadeirydd ddatgan buddiant.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 2 Rhagfyr 2020 pdf icon PDF 201 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020, yn cynnwys:

 

Cynllun Rheoli Cyrchfan

 

Mynegodd Aelod bryder y cafodd y Canllaw i Flaenau Gwent ei argraffu a’i gylchredeg cyn iddo gael ei ystyried gan Aelodau.

 

Gofynnodd Aelod arall pryd y byddai’r Cynllun Rheoli Cyrchfan yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ei ystyried, a dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ymchwilio.

 

Blaenraglen Gwaith (Defnyddio Ymgynghorwyr yng nghyswllt y portffolio Adfywio – cost ymgynghorwyr buddion/deilliannau defnyddio ymgynghorwyr allanol dros y 2 flynedd ddiwethaf)

 

Cyfeiriodd Aelod at yr adroddiad a drefnwyd i’w gyflwyno ar 10 Chwefror 2021 am gost ffioedd ymgynghori dros y 2 flynedd ddiwethaf, a dywedodd y dylid ymestyn hyn ymhellach i gynnwys ffioedd ymgynghori dros y 5 mlynedd ddiwethaf.

 

Cytunodd Aelod arall a dywedodd y byddai hyn yn rhoi trosolwg mwy cynhwysfawr.

 

Dywedodd Aelod mai’r rheswm am ofyn am yr wybodaeth oedd mewn ymateb i ffigurau a adroddwyd i’r Cyngor am y 2 flynedd ddiwethaf. Dywedodd fod swyddogion wedi gwneud llawer o waith i gasglu’r wybodaeth ac y byddai ymestyn hyn ymhellach yn rhoi pwysau ychwanegol ar Swyddogion.

 

Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu fod Swyddogion eisoes wedi gwneud y gwaith yn seiliedig ar gyfnod o 2 flynedd. Cafodd yr wybodaeth ei rhoi ynghyd ac mae’r adroddiad wrthi’n mynd drwy’r broses berthnasol cyn ei chyflwyno i’r Pwyllgor ar 10 Chwefror 2021. Dywedodd y Swyddog y byddai ymestyn hyn i gynnwys y 5 mlynedd ddiwethaf yn golygu gwaith ychwanegol sylweddol.

 

Dywedodd Aelod na ddeallai pam y gofynnwyd am estyniad gan fod y Pwyllgor Craffu eisoes wedi cytuno ar 2 flynedd a bod Swyddogion eisoes wedi gwneud y gwaith.

 

Cytunodd Aelod arall a dywedodd y dylai’r Pwyllgor barhau gyda’r cyfnod 2 flynedd, yn arbennig yng ngoleuni sylw’r Swyddog. Fodd bynnag, yn dilyn ystyriaeth o’r adroddiad, gellid gofyn am adroddiad pellach bryd hynny os oes angen gwybodaeth ychwanegol.

 

Dywedodd y Cadeirydd, gan roi ystyriaeth i sylwadau’r Swyddog, y byddai’r Pwyllgor yn parhau gyda’r adroddiad dros y 2 flynedd diwethaf.

 

Blaenraglen Gwaith (cynnydd a gwariant Cwm Technoleg)

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu y gallai’r cyfarfod arbennig fod yn gyfarfod ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru gan mai nhw sy’n gyfrifol am reoli llawer o’r prosiectau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Adroddiad Cynnydd – Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu a Chynllun Cyllid Ad-daladwy Canol Trefi pdf icon PDF 482 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol gyda’r Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu (TRI) a Chynllun Cyllid Ad-daladwy Canol Trefi , ac yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Adfywio ar 5 Mawrth 2020. Sefydlwyd y rhaglen TRI yn 2018 a bwriedid iddi’n wreiddiol fod yn rhaglen tair blynedd (2018-2021). Am gyfnod tair blynedd gyntaf rhaglen TRI roedd cyllideb gyfalaf o £100 miliwn ar gael yng Nghymru, gyda dyraniadau cyllid yn dibynnu ar ansawdd y prosiectau, arwyddocâd rhanbarthol a chymeradwyaeth y Panel Cenedlaethol. Ni fyddai cyllid TRI yn cael ei ddyrannu’n gyfartal yn awtomatig ar gyfer pob un o ddyraniad y deg awdurdod lleol. Roedd y dyraniad ar gyfer rhanbarth De Ddwyrain Cymru yn £44 miliwn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm fod yr adroddiad a gyflwynwyd ar 5 Mawrth 2020 yn dweud y bu cynnig am £5 miliwn o gyllid cyfalaf gan Dasglu’r Cymoedd i ymestyn Prosiect Thematig TRI Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ardaloedd Tasglu’r Cymoedd yn llwyddiannus. Fodd bynnag, dywedwyd ers hynny na fyddai’r cyllid hwn ar gael mwyach gan Dasglu’r Cymoedd ond y byddai cwmpas i gynnwys prosiectau a gyflwynwyd ar gyfer y cyllid hwn o fewn rhaglen thematig bresennol TRI.

 

Aeth y Swyddog wedyn drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod 91 Datganiad Diddordeb wedi dod i law fel ar 7 Rhagfyr 2020 ac aethpwyd ymlaen â 4 cais i’r cam cyflenwi ar gyfanswm cost o £44,731. Yn nhermau nifer isel yr ymholiadau a aeth ymlaen i gael eu cyflenwi, roedd nifer o resymau am hyn sef:

 

·         Ni fedrir defnyddio’r cyllid i dalu am waith oedd eisoes wedi ei gwblhau cyn i’r grant fod ar gael neu i gymeradwyaeth cyllid fod yn ei le

·         Dim ond ar gyfer busnesau yn un o’r canol trefi (Glynebwy, Tredegar, Brynmawr, Abertyleri a Blaenau) y gellid defnyddio’r cyllid; a

·         Dim ond ar gyfer mesurau allanol i gefnogi adferiad busnes (seddi awyr agored, canopïau) y gellir defnyddio’r cyllid.

 

Dywedodd y Swyddog hefyd y sicrhawyd cyllid i ddatblygu cynllun Creu Lle ar gyfer Tredegar. Fodd bynnag, bydd caffaeliad ar hyn ym mis Rhagfyr gyda’r comisiwn yn dechrau ym mis Ionawr 2021. Caiff y cynllun ei gyflawni’n defnyddio’r un dull â Chynllun Chreu Lle Glynebwy.

 

Gofynnodd Aelod os oedd ad-daliadau benthyciadau’n cael eu derbyn yn gyson a pha gamau y gellid eu cymryd os oedd taliadau’n cael eu colli.

 

Dywedodd y Swyddog, os oedd yr ymgeisydd wedi dewis taliad misol drwy ddebyd uniongyrchol ac y collid taliad, y byddent yn cysylltu â nhw ar unwaith a rhoi cyfle iddynt dalu. Fodd bynnag, os yw taliadau’n parhau i gael eu colli byddai ein gweithdrefnau arferol ar gyfer casglu dyledion yn dechrau. Esboniodd y Swyddog hefyd mai un o amodau’r cytundeb benthyciad dechreuol oedd pridiant cyfreithiol ar yr eiddo i’w hatal rhag gwerthu heb ganiatâd/cytundeb yr Awdurdod a byddai hyn yn ein galluogi i fynd drwy’r sianeli cyfreithiol priodol i adhawlio’r cyllid. Dywedodd y Swyddog fod  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Parc Cyflogaeth, Rhodfa Calch – Adroddiad Diweddaru Cynnydd pdf icon PDF 497 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y Parc Cyflogaeth yn Rhodfa Calch, Safle’r Gweithfeydd, Glynebwy. Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at sefyllfa bresennol y prosiect fel y’i manylir yn adran 2.4 ymlaen.

 

Gofynnodd Aelod os y gwarentir cyllid Ewropeaidd yn sgil Brexit, ac os oedd dyddiad cau i wario’r arian.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog y cafodd y cyllid ei sicrhau a’i warantu gan Lywodraeth Cymru. Diwedd 2022 yw’r dyddiad targed ar gyfer cyflenwi’r cynllun ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo i sicrhau y cyflawnir hyn.

 

Cyfeiriodd yr Aelod at adran 2.7 yr adroddiad a gofynnodd os byddai cyfle ar ôl cwblhau’r cynllun i’r Cyngor weithio gydag Ymddiriedolaeth y Meysydd Glo ar weithgaredd masnachol ac yn y blaen, a manteisio o unrhyw refeniw fyddai’n cael ei ysgogi o’r cynllun.

 

Dywedodd y Swyddog mai’r Cyngor sydd yn berchen y rhydd-ddaliad, fodd bynnag, gan y caiff adfer tir ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, byddai unrhyw arian a dderbyniwyd o incwm cyfalaf neu refeniw yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru. Yn nhermau’r cynllun ei hun mae Ymddiriedolaeth y Meysydd Glo yn cyfrannu cyllid sylweddol a chaiff unrhyw incwm a gynhyrchir ei gadw ganddynt. Fodd bynnag, mae gan y Cyngor berthynas gadarnhaol iawn gyda’r Ymddiriedolaeth ar ôl gweithio ar brosiectau eraill a byddai’n parhau i weithio gyda nhw ar unrhyw gyfleoedd posibl a all godi ar ôl cyflenwi’r cynllun.

 

Dywedodd Aelod mai manteision y cynllun fyddai cyfleoedd swyddi a hyfforddiant, a hefyd arbenigedd yr Ymddiriedolaeth wrth sicrhau unrhyw gyfleoedd buddsoddi posibl. Holodd hefyd am gyfraniad pob parti sy’n ymwneud â’r cynllun.

 

Esboniodd y Swyddog y byddai’r cyfraniadau perthnasol yn dibynnu ar y gost derfynol. Fodd bynnag, yng nghyswllt y £2.58m  o gyllid gan WEFO, byddai hyn yn cael ei rannu 50/509 gan Lywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog y byddai’r Ymddiriedolaeth yn cynnal y safle ar ôl cwblhau’r cynllun. Fodd bynnag, byddai’r Awdurdod yn gweithio’n agos gyda nhw yn nhermau marchnata ac yn y blaen i sicrhau fod unrhyw weithgareddau yn ategu gwaith Adfywio Blaenau Gwent yng nghyswllt hyfforddiant sgiliau a chymorth i fusnesau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi cynnwys yr adroddiad (Opsiwn 1).

 

8.

Cynllun Argyfwng Bws (BES) pdf icon PDF 515 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o gynnydd Cam 2 Cynllun Bus mewn ymateb i bandemig Covid-19 ac i ymrwymo i drefniadau mwy hirdymor i wneud y gwasanaeth bws yn fwy cynaliadwy ar draws Cymru.

 

Ers dechrau’r pandemig Covid, mae awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a gweithredwyr wedi cydweithio i sicrhau parhau gwasanaethau bws, er y ffaith nad oes llawer yn cael eu defnyddio. Byddai cytundeb BES2 yn datblygu trefniadau tymor hirach gyda gweithredwyr, a hoffai Llywodraeth Cymru i hyn fod yn ei le ac wedi’i lofnodi gan bob Awdurdod Lleol erbyn diwedd mis Ionawr 2021. Yn ogystal ag ymateb i Covid, byddai BES2 yn rhoi bloc adeiladu ar gyfer gwelliannau i’n trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol a hefyd ffurfioli ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithredwyr i adfer o’r pandemig Covid yn nhermau colli refeniw blwch tocynnau a chostau ychwanegol a gafwyd fel canlyniad i Covid. Dan y cytundeb, byddai’n ofynnol i weithredwyr ddarparu gwasanaethau bws i ateb anghenion lleol.. Dyddiad gorffen BES2 yw 31 Gorffennaf 2022 a dylai hyn fod yn ddigon o amser i adfer refeniw.

 

Byddai cytundeb BES2 yn rhoi sail gyfreithiol ar gyfer cyllido’r costau yn gysylltiedig gydag effaith Covid, yn cynnwys colli blwch tocynnau, dyblygu bysus oherwydd pellter cymdeithasol neu ddarparu gwasanaethau eraill lle mae gweithredwyr yn rhoi’r gorau iddynt a bod dal i angen y gwasanaethau. Byddai hyn yn berthnasol i wasanaethau oedd yn fasnachol cyn-Covid ac i wasanaethau tendr.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Gofynnodd Aelod pa gynlluniau sydd yn eu lle ar gyfer darparu llwybr bws i Ysbyty’r Faenor.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau’n parhau gyda’r Bwrdd Iechyd lleol, yn nhermau sut y gellid sicrhau trafnidiaeth i alluogi pobl i gyrraedd yr ysbyty o nifer o awdurdodau lleol eraill yn ogystal â Blaenau Gwent. Dim ond cyllid a chytundeb rhanbarthol i weithio ar welliannau pellach i’r system fysus y mae adroddiad BES2.

 

Cytunodd Aelod arall fod angen llwybr bws ar gyfer Ysbyty’r Faenor ond bod hefyd angen ail-lunio llwybrau bws i sicrhau mynediad cyflym a rhwydd i stadau diwydiannol ar gyfer pobl sy’n mynd i’r gwaith.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod hyn yn rhan o brosiect ar wahân sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, gan weithio gyda’r trydydd sector a’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gynlluniau i gael pobl i’r gwaith. Byddai trefniadau BES2 hefyd yn cynnwys cyd-ddatblygu rhwydweithiau cyfeirio rhanbarthol gan awdurdodau lleol, gweithredwyr, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru a byddai’r rhain yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac yn helpu i lywio buddsoddiad mewn gwasanaethau bws ar gyfer y dyfodol a dan BES2 byddai awdurdodau lleol yn cael dylanwad dros ddatblygu’r Rhwydwaith Cyfeirio.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Blaenau Gwent yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad ac yn cefnogi trefniadau BES2 fel rhan o ddull gweithredu rhanbarthol a Chymru gyfan (Opsiwn 1).

 

9.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 395 KB

Ystyried yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd i’w gynnal ar 10 Chwefror 2021.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar y ‘Truck Shop’, Tredegar a dywedodd hefyd y dylid rhoi ystyriaeth i ffordd fynediad yn cysylltu Stad Ddiwydiannol Stryd y Bont a Pharc Busnes Tredegar (safle ViTCC).

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu y byddai’n cydlynu gyda’r Rheolwr Gwasanaeth a Datblygu parthed diweddariad.

 

Yng nghyswllt ffordd gyswllt rhwng Stad Ddiwydiannol Stryd y Bont a Pharc Busnes Tredegar, dywedodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio y gellid ystyried hyn fel rhan o’r Rhaglen TRI a’r Cynllun Creu Lle ar gyfer Tredegar.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y cyhoeddiad diweddar y byddai TVR yn dechrau gwaith ar Stad Ddiwydiannol Rasa y mis hwn, a gofynnodd am wybodaeth am amserlenni ac yn y blaen.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu y cyflwynir adroddiad i Aelodau cyn gynted ag sydd modd.

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad.