Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 2ail Rhagfyr, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G.L. Davies, D. Wilkshire, M. Cross.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd S. Healey ymddiheuriadau hefyd oherwydd problemau technegol.

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd L. Parsons fuddiant yn Eitem Rhif 7 Cynllun Rheoli Cyrchfan.

 

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn Eitem Rhif 8 Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 2020/21 Chwarter 1.

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 235 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2020.

 

Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 21 Hydref.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 21 Hydref 2020 pdf icon PDF 181 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2020.

 

Blaenraglen Gwaith

 

Dywedodd Aelod y gofynnwyd am yr adroddiad ar yr Ardal Gwella Busnes fel mater o frys a mynegodd bryder na fyddid yn derbyn yr adroddiad tan y Flwyddyn Newydd. Credai y dylid bod wedi rhoi dyddiad pryd y disgwylid i’r adroddiad fod ar gael.

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Arloesedd Busnes mai’r flaenoriaeth bresennol yw delio gyda’r pecynnau ysgogiad economaidd. Fodd bynnag, cadarnhaodd y caiff yr adroddiad ei gynnwys yn y Flaenraglen Gwaith a dywedodd y byddai’n trafod gydag endid cyfreithiol yr Ardal Gwella Busnes pryd y gellid disgwyl diweddariad ar y cynllun busnes.

 

Yn amodol ar yr uchod, CYTUNODD y Pwyllgor i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Grŵp Gorchwyl a Gorffen Strategaeth ac Adolygu Trafnidiaeth pdf icon PDF 577 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio ar gyfer ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ac enwebiadau i ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen ‘Strategaeth ac Adolygu Trafnidiaeth’.

 

Dywedodd fod angen i drafnidiaeth esblygu i ateb heriau newydd ac addasu i newidiadau yn y galw, ac er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, bod strategaeth ac adolygiad yn cael eu datblygu er mwyn dynodi rhaglen o waith a fyddai’n rhoi gweledigaeth strategol a chynllun ar gyfer trafnidiaeth o fewn Blaenau Gwent. Oherwydd ehangder y materion sydd angen edrych arnynt fel rhan o’r Adolygiad a’r Strategaeth, mae angen clir ar gyfer cynrychiolaeth Aelodau i gefnogi’r gwaith a’i oruchwylio a’i weithredu drwy Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Gofynnodd Aelod pa drefniadau a gafodd eu rhoi ar waith i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus i ysbyty newydd y Faenor.

 

Dywedodd y Swyddog fod llwybr trafnidiaeth presennol yn bodoli i’r Faenor a’i fod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i ddynodi angen a galw penodol. Mae’r trafodaethau hyn yn mynd rhagddynt i wneud yn si?r fod darpariaeth ddigonol i alluogi pobl i gael mynediad i’r ysbyty.

 

Dywedodd yr Aelod fod angen monitro hyn, a bod y system drafnidiaeth gyhoeddus wedi ei chwalu fel canlyniad i’r pandemig.

 

Atebodd y Swyddog y cafodd y pandemig effaith sylweddol ar hyfywedd masnachol nifer o lwybrau taith. Rhan o brosiect peilot yr IRT yw dynodi a llenwi’r bylchau hynny mewn gwasanaethau, yn arbennig edrych ar ardaloedd sy’n neilltuol o ynysig a chysylltu’r ardaloedd hynny i’r rhwydwaith yn nhermau bws a rheilffordd.

 

Dywedodd y Cynghorydd J.C. Morgan yr hoffai eistedd ar y gr?p Gorchwyl a Gorffen, a dywedodd ei bod yn bwysig fod holl rannau’r Fwrdeistref yn cael eu cynrychioli. Yng nghyswllt sylwadau am drafnidiaeth i Ysbyty’r Faenor, dywedodd y dylai hyn gael ei ystyried fel rhan o waith yr IRT a dylai hefyd fod yn faes i gael ei ystyried gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog fod yr IRT yn wasanaeth hyblyg a bod angen i ni gofio mai prosiect peilot oedd, ac mai’r syniad tu ôl iddo yw gweithredu fel gwasanaeth lle mae bylchau a’u cysylltu gyda’r ddarpariaeth greiddiol. Dywedodd y byddai’n esblygu fel prosiect ond ei bod yn bwysig fod dialog yn parhau gyda gweithredwyr presennol.

 

Dywedodd yr Aelod y deallai mai prosiect peilot yw ond mae hefyd yn gyfle i sicrhau darpariaeth gwasanaeth digonol i ysbyty newydd y Faenor a hefyd Nevill Hall, gan fod yr ysbytai hyn yn bwysig iawn i Flaenau Gwent ac y dylent gael eu cynnwys fel rhan o waith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Cyfeiriodd Aelod at ba mor aml y bwriedir cyfarfodydd o’r Gr?p, a dywedodd na fyddai cyfarfodydd bob chwarter yn ddigonol. Dywedodd hefyd y dylid hysbysu’r cyhoedd y cafodd Gr?p ei sefydlu i edrych ar drafnidiaeth gyhoeddus gan fod hyn yn bryder mar o fewn y gymuned.

 

Dywedodd y Swyddog y caiff ei llywio gan Aelodau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddaru Cynllun Rheoli Cyrchfan pdf icon PDF 428 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Rheoli Cyrchfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Rheoli Cyrchfan.

 

Datganodd y Cynghorydd L. Parsons fuddiant yn y mater hwn.

 

Cyflwynodd y Swyddog Rheoli Cyrchfan yr adroddiad sy’n crynhoi Cynllun Rheoli Cyrchfan Blaenau Gwent. Mae hon yn ddogfen strategol sy’n gosod y blaenoriaethau ar gyfer datblygu twristiaeth ym Mlaenau Gwent dros y cyfnod 2020-2025 ac sy’n ategu Cynllun Gweithredu Twristiaeth newydd Croeso Cymru ar gyfer yr un cyfnod. Nod y Cynllun yw sicrhau fod pobl, busnesau a sefydliadau yn cydweithio mewn modd cydlynus i gyflawni targedau a blaenoriaethau a gytunwyd ar gyfer buddsoddiad.

 

Dynododd y Cynllun chwe thema trawsbynciol a phum brif thema a maes blaenoriaeth, a rhoddir sylw iddynt yn adran 2.3 yr adroddiad. Mae’r Cynllun a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig wedi rhoi ystyriaeth i dueddiadau a blaenoriaethau cenedlaethol, strategol a lleol, a chafodd ei ddatblygu gan y Bartneriaeth Cyrchfan sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

 

Dywedodd Aelod yr ymddangosai fod diffyg taflenni gwybodaeth yn hyrwyddo Blaenau Gwent ar gael mewn ardaloedd twristiaeth eraill, a gofynnodd os oedd cynlluniau i fynd i’r afael â hynny yn y dyfodol a hefyd fwy o wybodaeth ar gyfer y gymuned leol.

 

Dywedodd y Swyddog fod nifer o daflenni ar gael fodd bynnag bod sefydliadau yn amharod i’w cadw oherwydd pandemig Covid. Fodd bynnag, cafodd rhai taflenni eu dosbarthu drwy’r post ac mae gwybodaeth ar lwybrau cerdded lleol ac ati ar gael ar wefan Blaenau Gwent. Cadarnhaodd y Swyddog fod fersiwn electronig o Lawlyfr Cyrchfan Blaenau Gwent yn y broses o gael ei uwchraddio a chaiff ei gylchredeg pan fydd wedi’i orffen. Dywedodd y byddai’n e-bostio copi o Lawlyfr y llynedd i Aelodau er gwybodaeth.

 

Canmolodd Aelod waith y Tîm ond teimlai y gallai’r Adran Cyfathrebu fod yn fwy rhagweithiol wrth hyrwyddo ei waith.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog y caiff y rhan fwyaf o gyfathrebu’r Tîm ei wneud drwy dde Cymru, a gobeithio pan gaiff cyfyngiadau eu codi maes o law, y bydd hyrwyddo twristiaeth o fewn Blaenau Gwent yn parhau.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn siomedig gyda nifer o feysydd o fewn yr adroddiad sef:

 

·         Y cyfeiriad at ‘gysylltiadau trafnidiaeth da’, yng ngoleuni’r ffaith fod y Pwyllgor Craffu wedi cytuno i ddatblygu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i edrych ar ddarpariaeth trafnidiaeth o fewn y Fwrdeistref.

·         Mae tudalen 38 yn ‘ehangu lleoliadau a gosod dyfeisiau cyfrif cyhoeddus’, holodd am leoliad y dyfeisiau cyfrif.

·         Gan gyfeirio at ddigwyddiadau lleol, holodd pam fod Gorymdaith Sul y Cofio yn cael ei gynnwys gan fod hwn yn ddigwyddiad blynyddol, ond y cafodd digwyddiadau allweddol eraill a gynhelir yn rheolaidd eu gadael allan.

·         Mae tudalen 39 yn cyfeirio at Gr?p Busnes Glynebwy, a dywedodd nad oedd yn gwybod am y Gr?p.

·         Llety o fewn y Fwrdeistref ac os yw’n cael eu gwirio’n rheolaidd

·         Cyflwr y fynwent Colera yng Nghefn Golau, a diffyg arwyddion a gwybodaeth

·         P’un ai a osodwyd y byrddau gwybodaeth a gynigir ar lwybrau cerdded.

 

Ymatebodd y Swyddog fel sy’n dilyn:

 

·         Cafodd dulliau cyfrif eu gosod ar lwybrau cerdded  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Chwarter 1 pdf icon PDF 482 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Corfforaethol a’r Pennaeth Adfywio.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth am berfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ystod Chwarter 1 2020/21. Mae’r adroddiad yn crynhoi ac yn rhoi sylw i raglenni allweddol o waith y mae’r Cyngor yn ymwneud â nhw ac roedd o ddiddordeb i Flaenau Gwent, ac amlygir hyn yn adran 2.2 yr adroddiad. Wedyn aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at gynnydd a wnaed ar rai o’r prosiectau allweddol.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 59 yr adroddiad, sef y gostyngiad 51% a gynigir mewn gwresogi  a ph?er domestig, a gofynnodd sut y cyflawnir hyn  a ph’un ai a fyddai’r costau yn dod ar berchnogion y tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

 

Dywedodd y Swyddog nad oedd ganddi fanylion ar hyn, fodd bynnag gwyddai am y gwaith a wnaethpwyd ar Safonau Ansawdd Tai Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf, a chafodd LCC y dasg gyda gostwng gwres a ph?er domestig.  Roedd Llywodraeth Cymru yn gwthio’r agenda a chadarnhaodd y byddai trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda phartneriaid yng nghyswllt problemau a chyllid. Dywedodd hefyd y cafodd cyllid cynaliadwyedd ei sicrhau’n ddiweddar ar gyfer rhai o adeiladau diwydiannol y Cyngor.

 

Mynegodd yr Aelod bryder fod llawer o’r tai ym Mlaenau Gwent yn hen a’i bod yn debygol y byddai cost y mesurau gofynnol yn disgyn ar berchnogion y cartrefi. Yng nghyswllt tai newydd, gofynnod os gallai darparu cynlluniau arbed ynni fel paneli solar ac yn y blaen ddod yn ofyniad cynllunio.

 

Dywedodd y Swyddog fod y safonau tai presennol ar gyfer adeiladau newydd yn sicrhau’n sylweddol llai o golled gwres. Byddai gostwng allyriadau p?er yn anos yn y dyfodol, fodd bynnag mae rheoliadau adeiladu newydd sy’n dod i’r amlwg angen ynni cynaliadwy mewn datblygiadau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach am argaeledd arfaethedig tir ar gyfer plannu coed, dywedodd y Swyddog na wyddai am unrhyw gynigion rhanbarthol, fodd bynnag caiff gwaith ei wneud yn lleol gyda LCC ac Adran yr Amgylchedd.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cafodd datblygwyr eu hannog i gynnwys cartrefi cynaliadwy yn ystod ymholiadau cyn gwneud cais a’r prif fater a ddaeth i’r amlwg yw y byddai’n well i hyn ddod o fewn rheoliadau adeiladu a fyddai’n rhoi fframwaith llawer gwell i wthio’r agenda.

 

Yng nghyswllt plannu coed, cyfeiriodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio at gynllun Plannu Cymru a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru nifer o flynyddoedd yn ôl a dywedodd y byddai’n hapus i ailedrych ar unrhyw gyfleoedd cyllid drwy’r cynllun hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at y Metro Plus a dywedodd y teimlai, heb y cysylltiad i Gasnewydd, y byddai’r 4 trên yr awr a gynigir i Flaenau Gwent o Gaerdydd yn ormodol, a dywedodd y dylai’r Cyngor fod yn gwthio’r cysylltiad i Gasnewydd. Dywedodd hefyd y dylai fod cysylltiadau i Flaenau’r Cymoedd, yn arbennig stadau diwydiannol, a holodd sut y byddai cysylltiad Abertyleri yn dod â buddion economaidd gyda 2 drên i Lynebwy a 2 i Abertyleri.

 

Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at y  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adolygiad Blynyddol Prosbectws Ynni pdf icon PDF 607 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y Prosbectws Ynni a’r gweithgareddau a wnaed ers ei gymeradwyo yn 2019. Atodir adroddiad adolygiad blynyddol yn cynnwys uchafbwyntiau ar gyfer pob un o’r prosiectau a ddynodwyd o fewn y Prosbectws Ynni yn Atodiad 1, ac aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at y Rhwydwaith Ynni Ardal a gofynnodd os oedd unrhyw botensial ar gyfer hyn o fewn  anheddau.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm fod cost cysylltu ar safle’r Gweithfeydd yn anodd, fodd bynnag mae potensial ar gyfer prosiectau’r dyfodol i gysylltu i anheddau a chaiff yr holl agweddau hyn eu cynnwys o fewn y rhaglen Byw Deallus.

 

Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at y fflyd allyriadau isel ac amserlen pryd y gellid disgwyl cerbydau trydan llai gan y Cyngor.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog na wyddai am yr union amserlen, ond bod y Tîm yn eithaf awyddus i symud ymlaen â hyn ac roedd yn deall fod cynigion yn dod ymlaen yn gyflym iawn.

 

Canmolodd Aelod yr adroddiad, yn neilltuol newyddion y prosiect p?er d?r.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y Rhwydwaith Ynni Ardal a holodd am y gwres a gollir yn y Swyddfeydd Cyffredinol.

 

Dywedodd y Swyddog fod gwaith y gellid ei wneud i ddeall lefel y colli gwres yn yr adeilad, fodd bynnag roedd y mesurau y gellid eu cymryd i ostwng colli gwres yn gyfyngedig gan ei fod yn adeilad rhestredig.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y Swyddfeydd Cyffredinol wedi ei adnewyddu i’r safonau colli ynni isaf ar gyfer adeilad rhestredig, felly yn nhermau ffabrig yr adeilad ychydig mwy y gellid ei wneud. Dywedodd ei fod yn siomedig ar y pryd fod CADW wedi gwrthod caniatâd i alluogi newid y ffenestri a’r drysau, ond roedd yr adeilad yn eithaf effeithol yng nghyswllt colli ynni a gwres.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Craffu yn:

 

·         Parhau i gefnogi, hyrwyddo a datblygu prosiectau o fewn y Prosbectws Ynni ac i sicrhau fod y ddogfen yn cael ei diweddaru i adlewyrchu unrhyw brosiectau ychwanegol a ddaeth i’r amlwg; a

·         Hefyd i barhau i ddynodi prosiectau yn y dyfodol a fyddai hefyd yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion y Cyngor yng nghyswllt ynni a datgarboneiddio (Opsiwn 2).

 

10.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 394 KB

Ystyried adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfarfod a gynhelir ar 6 Ionawr 2021.

 

Dywedodd y Cadeirydd y caiff diweddariad y Cadeirydd o’r Cydbwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd.

 

Gofynnodd Aelodau am yr adroddiadau ychwanegol dilynol:

 

Dadansoddiad o arian a wariwyd ar ffioedd ymgynghoriaeth ar draws y portffolio yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf

 

Diweddariad cynnydd Cwm Technoleg

 

Cynigiodd Aelod fod yr adroddiad ar ymweliad i ffatri gwydr yn Nhwrci yn lle eitem pecyn gwybodaeth.

 

Dilynodd trafodaeth fer ac mewn pleidlais cytunwyd y byddai adroddiad yr ymweliad i’r ffatri wydr yn Nhwrci yn parhau fel eitem Pecyn Gwybodaeth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod i dderbyn yr adroddiad.