Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 21ain Hydref, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Elias a H. McCarthy.

 

Dywedwyd fod y Cynghorwyr S. Healy a M. Cook yn bresennol fel dirprwyon ar gyfer y Cynghorwyr G. Collier a M. Holland. Fodd bynnag, pe byddai’r Cynghorydd Collier neu Holland yn mynychu’r cyfarfod, yna byddai’r Cynghorwyr Healy and Cook yn gadael.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 356 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 23 Medi 2020.

 

D.S. Cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 23 Medi 2020.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr P. Edwards a J.C. Morgan y dylai eu henwau gael eu cefnogi fel bod yn erbyn cadarnhau’r cofnodion.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 23 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod arbennig y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio ar 23 Medi 2020.

 

6.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 393 KB

Drbyn yr adroddiad..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gynnal ar 2 Rhagfyr 2020.

 

Dywedwyd y dylid newid ‘Cyflwynwyd yr adroddiad gan’ ar y dudalen gyntaf i ddarllen y Cynghorydd John Hill, Pwyllgor Craffu Adfywio.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr eitemau yn y Pecyn Gwybodaeth, sef yr adroddiad diweddaru Ardal Gwella Busnes (BID) a gofynnodd am gynnwys hyn yn y flaenraglen waith o hyn ymlaen.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad.

 

7.

Grŵp Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi ac Ymateb Economaidd yn dilyn Covid-19 pdf icon PDF 509 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Ar wahoddiad y Cadeirydd, cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio sy’n rhoi diweddariad i Aelodau ar waith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a gofynnodd am gytundeb i ailsefydlu’r gr?p Gorchwyl a Gorffen i barhau eu gwaith ar Strategaeth Canol Trefi.

Dywedodd y Swyddog bod y Pwyllgor Craffu Adfywio ym mis Rhagfyr 2019 wedi cymeradwyo adroddiad y sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi gyda’r wybodaeth ddilynol:

Cynghorydd Joanna Wilkins

Cynghorydd Keri Rowson

Cynghorydd Wayne Hodgins

Cynghorydd Phil Edwards

Cynghorydd John Morgan

Cynghorydd Lee Parsons

Cynghorydd John Hill

Roedd yr aelodaeth yn sicrhau bod cynrychiolaeth leol ar gyfer pob canol tref a chynhaliwyd dau gyfarfod o’r gr?p cyn y cyfnod clo Covid.

O ran aelodaeth y Gr?p o hyn ymlaen, dywedodd y Swyddog i’r Cynghorydd Joanna Wilkins gael ei phenodi’n Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yn CCB y Cyngor ac fel canlyniad na fyddai mwyach yn aelod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio.

Fodd bynnag, er hyn mae cynrychiolaeth ddigonol yn dal i fod ar gyfer y trefi ymysg gweddill Aelodau’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

Dywedodd y Swyddog i’r Cyngor gael ei wahodd gan Ddirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Cymru ym mis Mai i gyflwyno cais i dderbyn cymorth cyllid refeniw, a gallodd pob awdurdod lleol ar draws Cymru gael mynediad i hyd at £25,000 drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Cafodd yr arian ei glustnodi ar gyfer gwariant ar opsiynau posibl oedd yn cynnwys datblygu cynlluniau meistr; prosiectau a darpariaethau digidol; ymgysylltu cymunedol/rhanddeiliaid; gwaith eiddo gwag/gorfodaeth; archwiliad seilwaith gwyrdd; brandio lle.

Cynigiwyd felly i symud ymlaen â dull brandio lle ar gyfer Blaenau Gwent a gaiff ei gefnogi gan bob un o’r tri a’r ardaloedd y maent eisiau ‘gweiddi’ amdanynt. Caiff hyn hefyd ei gefnogi ymchwilio sut y gallai dull gweithredu digidol gefnogi’r masnachu ‘brics a morter’ traddodiadol. Yn ychwanegol at y gwaith brandio lle, byddid yn datblygu rhaglen a gytunwyd o farchnata a chyfathrebu i gefnogi’r canol trefi a’i roi ar waith, gyda chefnogaeth gan y Fforymau Canol Trefi.

Dywedodd y Swyddog hefyd y penodwyd Swyddog Datblygu Busnes Canol Trefi yn ddiweddar i ddechrau gwaith ar 1 Tachwedd 2020. Byddai’r swydd hon yn allweddol wrth symud ymlaen â gwaith y Gweithgor Gorchwyl a Gorffen a chyflwyno’r Strategaeth Canol Trefi a chefnogi busnesau canol trefi.

Wedyn aeth y Swyddog drwy’r opsiynau a amlygir yn yr adroddiad a chadarnhaodd y byddai Aelodau yn cael nodyn gwybodaeth ar drafodaethau blaenorol cyn cyfarfod cyntaf y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, ynghyd â chyflwyniad byr ar ddechrau’r cyfarfod i adfywio trafodaethau blaenorol a chadarnhau’r camau nesaf. Byddai’r cyfarfod hwn hefyd yn cynnwys trafodaeth a chytundeb ar amserlenni ar gyfer y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ac adrodd canlyniadau.

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r adroddiad a phenodi Swyddog Datblygu Canol Trefi. Yn nhermau aelodaeth o’r Gr?p dywedodd ei fod yn hapus i gynrychioli Abertyleri o hyn ymlaen, gyda chytundeb Aelodau.

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac ailsefydlu’r Gr  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Prif Gynllun Brynmawr a Nantyglo

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y Cynllun Meistr a gomisiynwyd ar gyfer safleoedd allweddol o fewn Brynmawr a Nantyglo a gofynnodd am gymeradwyaeth i gyfres o argymhellion a gynigiwyd.

 

Dywedodd y Swyddog mai Brynmawr oedd canolbwynt cymunedau rhan uchaf cwm Ebwy Fach. Fodd bynnag, fel gyda phob canol tref, roedd y gostyngiad parhaus yn y nifer sy’n mynd i’r dref yn her go iawn ac felly mae’n bwysig cael ffocws ar brosiectau a mesurau i ddenu pobl yn yr ardal. Mae’r ardal astudiaeth a ddiffiniwyd yn cynnwys wardiau Brynmawr a Nantyglo gydag egwyddorion allweddol yr astudiaeth yn canolbwyntio’n benodol ar safleoedd strategol allweddol. Dynodwyd sefyllfaoedd datblygu a llwybrau i’r farchnad ar gyfer pob un o’r safleoedd ac mae ymgynghorwyr hefyd wedi cynnal dadansoddiad marchnad ar gyfer pob un o’r opsiynau datblygu, wedi datblygu cynlluniau dechreuol ar gyfer pob un o’r sefyllfaoedd ac wedi cynnal gweithgaredd ymgynghori sy’n cynnwys Swyddogion Blaenau Gwent, ymgysylltu ag Aelodau ac ymgynghori â’r cyhoedd.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r adroddiad ond tanlinellodd bwysigrwydd hyblygrwydd o fewn y Cynllun Meistr o hyn ymlaen i roi ystyriaeth i ddatblygiad unrhyw safleoedd eraill posibl.

 

Mewn ymateb rhoddodd y Swyddog sicrwydd y byddai’r ddogfen yn hylif a dywedodd ei fod yn rhoi sylfaen ac egwyddorion ar gyfer pob safle a phenderfyniad.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod, a chymeradwyo canfyddiadau Cynllun Meistr Brynmawr a Nantyglo a chytuno ar y camau nesaf ar gyfer gwaith i gael ei wneud yn y meysydd dilynol:-

 

·         Datblygu ceisiadau am gyllid i gefnogi gweithgaredd pellach (ymchwiliadau safle, caffael safle a dymchwel);

·         Parhau dialog gyda rhanddeiliaid allweddol; a

·         Datblygu opsiynau datblygu posibl ymhellach ar gyfer T? Boeler Brynmawr (model cyflenwi, opsiynau cyllid, defnydd y dyfodol). (Opsiwn 2).