Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Prif Swyddog Masnachol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: Cytunwyd y byddai cyfarfodydd y dyfodol o’r Pwyllgor Craffu Adfywio yn cael eu cynnal am 10.00 a.m.
|
|
Pwyllgor Craffu Adfywio PDF 223 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2020.
(Dylid nodi fod y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2020.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Pwyllgor Craffu Adfywio PDF 198 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2020.
(Dylid nodi fod y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Derbyn cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2020.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 5 Mawrth 2020 PDF 96 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2020, yn cynnwys:-
Blaenraglen Gwaith (Prosbectws Ynni)
Gofynnodd Aelod am i gopi o’r Prosbectws Ynni gael ei gylchredeg i bob Aelod.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Ystyried adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Adfywio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Blaenraglen Gwaith arfaethedig y Pwyllgor Craffu ar gyfer 2020/2021 i gael ei hystyried.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol y Dref, dywedodd yr Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio y byddai’n darparu nodyn gwybodaeth i’r Bwyllgor yng nghyswllt canol trefi a refeniw Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Tanlinellodd Aelod hyblygrwydd o fewn y flaenraglen waith i drin y materion fel sydd angen.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod i dderbyn yr adroddiad.
|
|
Ymestyn Anelu’n Uchel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru PDF 569 KB Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cyflwynodd Rheolwr Datblygu Sgiliau Anelu’n Uchel yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor i gyflwyno cynnig i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ymestyn Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel ac i ddod yr Awdurdod cynnal.
Gofynnodd yr adroddiad hefyd am gymeradwyaeth i gyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru i uno rhaglenni Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ac Anelu’n Uchel Merthyr Tudful o fis Medi 2021, gan anelu i gadw cyllid i’r ddau awdurdod lleol weithio gyda’r sectorau addysg gyda’r nod o hwyluso prentisiaethau o fewn y sector gweithgynhyrchu. Byddai’r ddau gynnig yn gweithio’n gyfochrog gyda’i gilydd dan yr un strwythur rheoli, a fyddai’n gost-effeithlon ar gyfer y ddau gyllidwr.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am adran 6.2 yr adroddiad, cadarnhaodd y Swyddog y byddai’r canlyniad disgwyliedig ar gyfer dros 300 prentis ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, h.y. 10 Awdurdod Lleol.
Gofynnodd Aelod pa gyfleoedd oedd ar gael i bobl pan ddaw eu prentisiaethau i ben.
Esboniodd y Swyddog fod Llywodraeth Cymru ar gyfer rhai 16+ oed. Mae Anelu’n Uchel yn ymgysylltu gyda llawer o fusnesau ac awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth i ddynodi bylchau sgiliau ac mae’r ystadegau ar gyfer Blaenau Gwent yn dangos fod y rhan fwyaf o’n prentisiaid yn symud ymlaen i gyflogaeth lawn-amser. Mae prentisiaethau yn dechrau ar Lefel 3, gyda chyfle i symud ymlaen i HNC Lefel 4 neu Lefel Gradd 5. Prif nod y rhaglen prentisiaethau yw cyflogaeth ystyrlon ar y diwedd, ac i ennill hyn yn llwyddiannus drwy lwybr dysgu a llwybrau hyfforddiant.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo cyflwyno dau gynnig, un i’r Fargen Ddinesig a’r llall i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Haf 2020. Rhoddwyd cymeradwyaeth i roi cyd-destun strategol a ffocws clir i gefnogi dull partneriaeth a chydweithio i weithredu camau gweithredu penodol a darpariaeth Cyflogaeth a Sgiliau cysylltiedig (Opsiwn 1).
|
|
Cynllun Peilot Trafnidiaeth Ymatebol Integredig PDF 512 KB Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Adfywio a Datblygu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Adfywio a Busnes.
Cyflwynodd y Rheolwr Busnes ac Adfywio yr adroddiad sy’n gofyn am farn Aelodau ar gwmpas y cynllun peilot Trafnidiaeth Ymatebol Integredig a chymeradwyaeth iddo fynd rhagddo ym Mlaenau Gwent.
Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd y byddai’r prosiect yn treialu ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau bws ym Mlaenau Gwent, gan weithio’n agos gyda’r darparwyr gwasanaeth masnachol presennol a llenwi bylchau o fewn y gwasanaethau hyn. Byddai’r prosiect hefyd yn gweithio gyda’r Ganolfan Byd Gwaith i wella mynediad i gyflogaeth ar gyfer rhai heb fynediad i gar. Fodd bynnag, ar amserau o’r dydd pan mae’r galw am yn is, gallai’r bysus fod ar gael ar gyfer teithiau i siopa neu ddarpariaeth gymunedol eraill. Roedd hefyd gwmpas i’r prosiect gefnogi darpariaeth ar gyfer cludiant ysgol lle mae angen hynny, gan y byddai hynny’n helpu i gefnogi hyfywedd y prosiect yn yr hirdymor.
Cadarnhaodd y caiff 2 fws eu caffael fel rhan o’r prosiect ac y byddent yn gweithredu i ddechrau yng nghymoedd Ebwy Fach ac Ebwy Fawr. Cefnogir y llwybr peilot gan ddata trafnidiaeth. Fel canlyniad i Covid-19, mae’r hyn a ystyriwyd unwaith yn llwybrau masnachol hyfyw ar gyfer gweithredwyr yn gynyddol yn cael eu gweld fel bod yn ‘anfasnachol’. Mae union amseriad a gorchudd y gwasanaeth yn dal i gael ei benderfynu mewn ymgynghoriad gyda gweithredwyr masnachol a gweithredwyr eraill.
Gofynnodd Aelod sut y penderfynid ar y llwybrau a’r ardaloedd ar gyfer y cynllun peilot. Dywedodd fod y bws olaf ym Mrynithel am 5 p.m. sy’n ei gwneud yn anodd iawn teithio i’r gwaith, a gofynnodd am i’r ardal hon gael ei hystyried fel rhan o’r cynllun peilot.
Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog fod data’n ymwneud â data am lwybrau a’r galw am drafnidiaeth yn cael ei archwilio ar hyn o bryd. Dynodwyd heriau yng nghymoedd Ebwy Fach ac Ebwy Fawr ond gallai fod cwmpas i addasu’r cynllun peilot i ardaloedd eraill lle dynodir galw, yn unol ag amserlenni presennol ac adnoddau gan weithredwyr presennol; a hefyd yn edrych ar wneud llwybrau mor hyblyg ag sydd modd ar gyfer pobl sy’n teithio ar gyfer gwaith.
Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r adroddiad a’i fod yn gobeithio y byddai’r cynllun peilot yn llwyddiannus.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddarparu gwasanaeth bws i’r ysbyty newydd yn Llanfrechfa, dywedodd y Swyddog mai dyna’r bwriad. Caiff gwaith ei wneud i gael dealltwriaeth glir o lwybrau masnachol presennol yn y tymor byr a’r tymor canol er mwyn llunio’r prosiect peilot yn uniongyrchol i’r gwasanaeth hwnnw neu gysylltu gyda darparydd arall.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Cyngor yn symud ymlaen gyda’r prosiect peilot ac yn cyflwyno cynllun peilot Trafnidiaeth Ymatebol Integredig i Flaenau Gwent (Opsiwn 1).
|
|
Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig PDF 748 KB Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cynlluniau Datblygu yr adroddiad sy’n gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig i baratoi ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd ac asesiad Covid-19 o sylfaen tystiolaeth, strategaethau a pholisïau’r Cynllun.
Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd y derbyniwyd hysbysiad gan Lywodraeth Cymru ar 18 Mawrth 2020 am oblygiadau COVID-19 ar baratoi’r Cynlluniau Datblygu Lleol a dywedodd ei bod yn bwysig peidio datblygu cynlluniau a allai wrthdaro gyda’r gofynion a nodir yn y Cynllun Ymgyfraniad Cymunedol yn eu Cytundebau Cyflenwi. Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, fe wnaethant gadarnhau na ddylem symud ymlaen gyda’r ail alwad y bwriedid ei gynnal ar gyfer safleoedd ymgeisiol.
Dywedodd y Swyddog, er fod gwaith ar y Cynllun wedi symud ymlaen yn nhermau adeiladu’r sylfaen tystiolaeth ac ystyried sylwadau a dderbyniwyd ar y cam Strategaeth a Ffafrir, cafodd rhai ffrydiau gwaith eu hoedi oherwydd colli un aelod o’r tîm i waith cysylltiedig â COVID-19 a chyfyngiadau ar ymweliadau safle.
Derbyniwyd gohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ar 7 Gorffennaf 2020 yn adlewyrchu ar effaith COVID ar y gymuned a gwaethygu anghydraddoldeb cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Dywedodd y Gweinidog fod yn rhaid i’r dull gweithredu yn y dyfodol ganolbwyntio ar fynd i’r afael â hen anghydraddoldeb drwy gymryd dull gweithredu seiliedig ar werthoedd at adferiad sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a dywedodd y Gweinidog bod y system cynllunio yn ganolog i lunio dyfodol gwell i Gymru a’i bod yn hanfodol fod pob lefel o Lywodraeth yn sicrhau fod cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau yn gwella llesiant ein phobl a chadernid ein hamgylchedd.
Dywedodd y Gweinidog hefyd y dylai’r Cynlluniau Datblygu Lleol sy’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd gynnal asesiad o’r dystiolaeth, strategaeth a pholisïau o ran sensitifrwydd i ganlyniadau’r pandemig. Dylid dod i gasgliad cadarn ar yr angen am dystiolaeth newydd ac unrhyw newidiadau dilynol i strategaeth a pholisi cyn symud ymlaen i baratoi cynllun. Dylai’r asesiad gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gyda cheisiadau am ymestyn y Cytundeb Cyflenwi.
Canmolodd yr Aelod y Swyddog am y gwaith a wnaed a chytunodd fod angen mwy o amser i ganolbwyntio ar effaith COVID-19. Cyfeiriodd wedyn at adran 5.7 Atodiad 2 sy’n cyfeirio at gynlluniau i gau’r Ganolfan Ddinesig a rhoi tai ar y safle, a gofynnodd pryd y cymerwyd y penderfyniad hwnnw.
Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog fod y cynnig hwn eisoes yn y Cynllun presennol. Mae safle’r Ganolfan Ddinesig yn rhan o’r Coridor Gogleddol ac mae’n un o’r safleoedd strategol a ddynodwyd ar gyfer tai.
Wedyn gofynnodd yr Aelod am Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ar sut mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn cysylltu gyda’r Cynllun Datblygu Rhanbarthol.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chefnogodd y Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig ac Adroddiad Asesu Covid-19 fel yr amlinellir (Opsiwn 1).
|
|
Tai Strategol: Cyllid Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd PDF 520 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cymunedau Llewyrchus.
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy’n amlinellu cyfle Cronfa Bwlch Hyfywedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) a dynodi safleoedd datblygu posibl. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor i symud ymlaen ag achos(ion) busnes a gwaith cysylltiedig er mwyn penderfynu ar Gyllid Bwlch Hyfywedd a chefnogi cais i CCRCD.
Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd, yn seiliedig ar y meini prawf cymhwyster, fod y gr?p cyflenwi tai wedi ystyried safleoedd datblygu hysbys ac wedi cynnal asesiad eang i ddynodi’r safleoedd hynny sydd, mewn egwyddor, yn cyflawni gofynion y cyllid, a chaiff y rhain eu hamlinellu yn Atodiad 2. Ar hyn o bryd dynodwyd safle Ashvale fel y safle gorau wrth ateb y meini prawf ac mewn sefyllfa i symud ymlaen.
Dywedodd y byddai defnyddio’r gronfa refeniw sydd ar gael yn cynorthwyo i ddarparu adnodd neilltuol i gefnogi’r tîm cyflenwi prosiect wrth fodloni gofynion Cronfa Bwlch Hyfywedd o fewn yr amserlenni cyfyngedig. I gael mynediad i gyllid, byddai angen dynodi arian cyfatebol a threfnwyd cyfarfod gyda’r Adran Adnoddau.
Croesawodd Aelodau yr adroddiad.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chefnogi Opsiwn 1, sef:
i. Nodi cyfle Cronfa Bwlch Hyfywedd CCRCD, yn cynnwys y sefyllfa bresennol ym Mlaenau Gwent yng nghyswllt dynodi safleoedd datblygu posibl a;
ii. Chymeradwyo ac argymell bod y Pwyllgor Gweithredol yn cymeradwyo ymchwilio’r safleoedd a ddynodwyd ymhellach er mwyn penderfynu ar y bwlch hyfywedd, a lle’n briodol ddatblygu achos(ion) busnes a gwaith cysylltiedig i gefnogi cyflwyno cais i Gronfa Bwlch Hyfywedd CCRCD.
|
|
Baddonau Pen Pwll Llahiledd Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio. Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth, ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad sy’n crynhoi’r sefyllfa bresennol yng nghyswllt yr adroddiad opsiynau a gofynnodd am gymeradwyo’r ffordd ymlaen a gynigir.
Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad ac amlinellodd hanes y safle. Cadarnhaodd fod y Cyngor newydd gomisiynu adroddiad annibynnol (Atodiad 1), a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, i ddynodi defnydd ar gyfer y safle yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn asesu nifer o opsiynau a dynododd mai datblygiad preswyl oedd yr opsiwn mwyaf realistig ac ymarferol gan roi ystyriaeth i ffynonellau posibl o gyllid sydd ar gael, a’r ffaith fod hwn yn safle ymgeisiol yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.
Dywedodd y Swyddog, os cytunir ar y dull gweithredu hwn, y byddai Swyddogion yn symud ymlaen gydag ymgynghoriad ehangach gyda phreswylwyr lleol ac Aelodau, ac yn dechrau trafodaethau gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddynodi partneriaid datblygu posibl a gwaith paratoi arall i sefydlu costau. Byddai canlyniad y gwaith hwn yn ei gwneud yn bosibl datblygu achos busnes manwl a’i gyflwyno i gael ei ystyried.
Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r adroddiad a gofyn pwy fyddai’n gyfrifol am fynd ag ef ymlaen.
Cadarnhaodd y Swyddog mai ef fyddai’r Swyddog Arweiniol wrth symud ymlaen, gan weithio’n agos gyda Swyddogion eraill ar draws y Cyngor.
Mynegodd Aelod bryder fod arian yn cael ei wario ar yr adeilad a theimlai y dylid bod wedi cynnal trafodaethau mwy cadarn gyda’r perchennog yn y lle cyntaf.
Cytunodd Aelod arall gyda’r sylwadau a wnaed.
Mewn ymateb dywedodd Aelod fod hyn wedi bod yn mynd rhagddo am flynyddoedd lawer a’i fod yn croesawu’r adroddiad, ond gofynnodd am i Aelodau lleol gymryd rhan ar bob cam. Yn nhermau’r opsiwn preswyl, dywedodd y cafodd hyn ei ymchwilio’n flaenorol gyda landlord cymdeithasol cofrestredig ond roedd y gost yn uchel ac roedd yn amhoblogaidd gydag etholwyr.
Dywedodd y Swyddog y cafodd yr opsiwn preswyl ei ddynodi fel yr opsiwn a ffafrir ar gyfer cyfleoedd cyllid posibl. Dywedodd fod y safle yn heriol a gwyddai ei bod yn broblem ar gyfer preswylwyr ac Aelodau lleol. Byddai’r dull gweithredu a amlinellir yn yr adroddiad yn ceisio dynodi defnydd hyfyw ar gyfer y safle ond byddai angen lefel o ymyriad sector cyhoeddus.
Dywedodd Aelod y dylid cynnal trafodaethau gyda’r perchennog cyn symud ymlaen gydag unrhyw beth.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod angen datrys y mater hwn. Mae’n deall pryderon rhai Aelodau ond rhoddodd sicrwydd y byddai pob mater a godir yn ffurfio rhan o’r ... view the full Cofnodion text for item 13. |