Agenda and minutes

Arbennig, Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Mercher, 23ain Medi, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Nodyn: Oherwydd nam technegol nid oes recordiad o’r cyfarfod hwn ar gael 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd ymddiheuriad am absenoldeb ar gyfer y Cynghorydd B. Willis, oedd yn cael anawsterau technegol wrth ymuno â’r cyfarfod, a’r Prif Swyddog Masnachol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 245 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

I dderbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020, yn cynnwys:-

 

Baddonau Pen Pwll Llanhiledd

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ofynnodd y Cadeirydd am eglurdeb pam y cyflwynwyd y cofnodion i gyfarfod ‘arbennig’ o’r Pwyllgor.

 

Mynegodd Aelod bryder nad yw’r cofnodion yn rhoi adlewyrchiad cywir o’r drafodaeth a gynhaliwyd, ac yn methu cyfleu sylwadau a wnaeth am bryderon am hyfywedd y prosiect. Deallai y cafodd trydydd opsiwn ei gyflwyno h.y. cael trafodaethau pellach gyda’r perchennog. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith y cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol, ac yna cyhoeddwyd datganiad i’r wasg ar y mater, a theimlai fod y broses Craffu wedi ei bychanu.

 

Cytunodd Aelod arall a dywedodd nad yw’r cofnodion yn sôn am gwestiynau a gododd yn y cyfarfod ac yn ei farn ef nid yw’r cofnodion yn adlewyrchiad cywir o’r drafodaeth ac na fedrai eu cefnogi.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu fod yr adroddiad a ystyriwyd yn adroddiad eithriedig, sy’n cyfyngu natur y drafodaeth y gellid ei rhoi yn y cofnodion.

 

Dywedodd Aelod mai ei ddealltwriaeth ef bod y Pwyllgor wedi cytuno ar Opsiwn 2 sef symud i’r cam nesaf i baratoi cynllun busnes, ac y byddai’r cam nesaf yn cynnwys yr holl faterion a godwyd gan Aelodau. Teimlai fod y cofnodion yn adlewyrchiad gwir o’r hyn a gytunwyd gan y Pwyllgor Craffu.

 

Cytunodd y Pwyllgor Craffu a chadarnhaodd y byddai Swyddogion yn rhoi ystyriaeth i bryderon pob Aelod wrth ddatblygu’r achos busnes.

 

Mewn ymateb dywedodd Aelod fod angen eglurdeb yn nhermau cofnodi trafodaethau ar wybodaeth eithriedig.

 

Dywedodd Aelod arall fod y Pwyllgor Craffu wedi esbonio pam fod manylion y drafodaeth yn gyfyngedig ac yn ei farn ef mae’r cofnodion yn adlewyrchu’r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod. Yn nhermau’r argymhelliad, roedd wedi cynnig opsiwn 2 fel yr amlinellir yn yr adroddiad, a chafodd hynny ei eilio.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y cofnodion yn dweud y caiff pryderon Aelodau eu trin fel y cam nesaf, a chredai ef hefyd fod y cofnodion yn gywir yn nhermau’r hyn y gellid ei ddogfennu.

 

Mewn pleidlais,

Derbyniodd 5 aelod y cofnodion fel cofnod gywir.

Pleidleisiodd 3 aelod yn erbyn derbyn y cofnodion.

 

CYTUNODD y pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 8 Medi 2020 pdf icon PDF 94 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn eillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Yr Economi – Aderiad Economaidd yn dilyn Covid-19 pdf icon PDF 739 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio a Datblygu.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu yr adroddiad sy’n nodi’r strategaeth arfaethedig ar gyfer Blaenau Gwent mewn ymateb i bandemig COVID-19, er mwyn cefnogi’r sectorau a busnesau yn y Fwrdeistref Sirol a rhoddodd ddiweddariad ar y gwaith sy’n mynd rhagddo’n lleol, ac yn bwydo i’r cynlluniau rhanbarthol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru a chadarnhaodd fod yr Awdurdod yn dal i fod yn y dull ymateb, a dywedodd ei bod yn bwysig sicrhau fod yr Adran yn parhau i ddatblygu’r gwaith rhagweithiol sy’n mynd rhagddo, ynghyd â gweithgareddau adfer.

 

Mae pandemig COVID-19 a’r cyfnodau clo dilynol wedi ymyrryd ar fusnesau a chyflogaeth ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig, gan achosi problemau tymor byr a thymor hir ar draws llawer o sectorau. Mae’r adroddiad yn edrych ar gefndir data a gasglwyd gan wahanol sefydliadau a melinau trafod a gweithredu modelu i edrych ar y ffigurau diweithdra posibl ar gyfer Blaenau Gwent. Mae hefyd wedi ystyried yr holl fusnesau sydd angen cymorth a’r rhai a allai ychwanegu mwyaf i’r economi lleol ar gyfer y dyfodol.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad yn fanwl a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Yn nhermau’r ymagwedd strategol, mae hyn yn cynnwys cyfuniad o gamau gweithredu tymor byr a thymor hirach mewn amrywiaeth o sectorau a phartneriaid i gynorthwyo gyda chyflenwi effeithlon. Byddai’r prif feysydd, a restrir islaw, yn galw am ddull gweithredu rhanbarthol neu Gymru-gyfan, lle byddai angen i Flaenau Gwent ddylanwadu ar y gwaith adferiad economaidd:

 

          Cyngor technolegol, buddsoddiad a sgiliau gweithgynyrchu

          Rhaglen sgiliau digidol ar draws pob sector

          Cefnogaeth cadwyn gyflenwi, safleoedd ac adeiladau (cyfleusterau ar-draeth)

          Cymorth penodol ar gyfer cwmnïau twf ac ymchwil a datblygu ym Mlaenau Gwent

          Cynlluniau a ddynodir ar gyfer hyfforddiant cysylltiedig â gwaith 18-24 ôl-addysg (e.e. FJF)

          Adeiladu’r Economi Sylfaen

          Ehangu hygyrchedd drwy ddatrysiadau trafnidiaeth arloesol/ cynaliadwy

          Galluogi mwy o fusnesau newydd yn arbennig yng nghanol trefi ac ar-lein

          Cynnydd gyda’r cyfleuster profi fel buddsoddiad angor i wynebu’r dyfodol ym Mlaenau Gwent

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod y gwaith eisoes wedi dechrau ar nifer o gynlluniau a hefyd y cafodd nifer o brosiectau eu hailweithio i roi ystyriaeth i’r hyn fydd ei angen ar ôl COVID-19.

 

Rhoddodd y Rheolwr Arloesedd Busnes drosolwg manwl o weithgaredd ymgysylltu a’r gefnogaeth ariannol a roddwyd i fusnesau ers 17 Mawrth 2020.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gapasiti o fewn yr Adran, dywedodd y Pennaeth Adfywio a Datblygu fod yr Adran yn gweithio i gapasiti i gyflenwi prosiectau a bod partneriaid y Cyngor hefyd wedi bod yn cynorthwyo.

 

Holodd Aelod arall os derbyniwyd unrhyw ddiddordeb yng nghyswllt Cwm Technoleg.

 

Cadarnhaodd y Swyddog y daeth ymholiadau i law a bod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau na chollwyd y diddordeb hwnnw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am yr unedau yn Roseheyworth, cadarnhaodd y Rheolwr Arloesedd Busnes y cafodd pob un o’r 4 uned eu cwblhau gyda phrydlesau wedi eu llofnodi ar 3 o’r unedau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.