Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Llun, 9fed Rhagfyr, 2019 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, ac mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y cyd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr M. Day, P. Edwards, M. Moore, K. Pritchard, M. Cross, H. McCarthy.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. C. Morgan fuddiant yn y dilynol:

 

Eitem Rhif 8 - Perfformiad Chwe Mis Adfywio a Datblygu Economaidd

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 250 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig.)

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyfarfod Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau'r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu - 14 Tachwedd 2019 pdf icon PDF 182 KB

Derbyn dalen weithredu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019, yn cynnwys:

 

Dalen Weithredu 23 Medi 2019 (Cais am Gydbwyllgor - Gwasanaethau Hamdden)

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar y sefyllfa ar y cais am Gydbwyllgor. Dywedodd yr ystyriwyd Gwasanaethau Hamdden ar gyfer Cydbwyllgor ar y dechrau, a theimlai y dylai'r trefniant hwn barhau yn arbennig oherwydd bod nifer o Aelodau'r Pwyllgor Craffu heddiw hefyd ar Weithgor Aelodau Adolygiad Hamdden.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Craffu fod Gwasanaethau Hamdden yn dod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Cymunedol a byddai angen atgyfeirio unrhyw gais am Gydbwyllgor i Gadeirydd y Pwyllgor hwnnw i'w ystyried.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi'r ddalen weithredu.

 

 

6.

Prosbectws Ynni pdf icon PDF 611 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy'n gofyn am gefnogaeth Aelodau i argymell y drafft Brosbectws Ynni i'r Pwyllgor Gweithredol ei gymeradwyo, er mwyn ei ryddhau a'i farchnata i ddarpar bartneriaid prosiect a buddsoddwyr. Gobeithid y byddai'r Prosbectws yn dangos y dull rhagweithiol y mae'r Cyngor yn ei gymryd i gynyddu cynhyrchu yn lleol a chynnig cyfraniad sylweddol at ostwng ein ôl-troed carbon.

 

Wedyn aeth y Swyddog drwy'r adroddiad yn fanwl a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Holodd Aelod am ansawdd aer ym Mlaenau Gwent a hefyd pa fanteision y gellid eu disgwyl ar ôl gweithredu'r cynlluniau arfaethedig. Roedd yn amheus am ddefnyddio cerbydau trydan oherwydd, er y bu rhai datblygiadau, mae'r seilwaith yn dal heb fod yn ei le ar gyfer cerbydau trydan.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod ansawdd aer yn y Fwrdeistref yn cael ei fonitro ac y rhoddir adroddiad blynyddol arno drwy'r Pwyllgor Craffu. Nid oes unrhyw broblemau gyda ansawdd aer ar hyn o bryd a gobeithir y bydd rhai o'r cynlluniau a amlinellir yn y Prosbectws Ynni yn sicrhau'r sefyllfa honno. Yn nhermau gweithredu prosiectau, roedd cyllid sylweddol ar gael i'w fuddsoddi mewn prosiectau ynni ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ostwng ein ôl-troed carbon.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio fod gostwng yr ôl-troed carbon ar yr agenda cenedlaethol ac y gall targedau gael eu gosod yn y dyfodol a chosbau ariannol am beidio cyrraedd y targedau hynny. Yng nghyswllt sylwadau Aelod am gerbydau trydan, dywedodd y Swyddog fod hyn hefyd yn rhan o'r agenda cenedlaethol ac yn rhywbeth na allai'r Cyngor fforddio peidio rhoi ystyriaeth iddo. Fodd bynnag, mae cyllid cenedlaethol ar gael i gefnogi'r cynllun hwn.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn cefnogi'r adroddiad yn llwyr ac yn ei groesawu. Fel rhan o gynigion Pontio'r Bwlch, mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i ostwng ei ôl-troed carbon i sero erbyn 2030 a dywedodd fod y Prosbectws hwn yn dystiolaeth ein bod yn symud tuag at y targed hwnnw.

 

Ychwanegodd Aelod arall ei fod ef hefyd yn croesawu'r adroddiad ond teimlai y gellid ei ymestyn i gynnwys y gymuned ehangach.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog mai man cychwyn yn bendant iawn yw'r Prosbectws, ac yr ymddangosai'n briodol i edrych ar fusnesau yn y lle cyntaf gan mai hwy yw'r defnyddwyr ynni mwyaf yn y Fwrdeistref. Fodd bynnag, mae llinyn arall o'r rhaglen yn dynodi'r angen i ddeall sut mae ein preswylwyr yn defnyddio ynni a'r hyn y gellir ei wneud i'w helpu i ostwng eu ôl-troed carbon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Craffu yn cefnogi Prosbectws Ynni Blaenau Gwent ac yn argymell ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithredol (Opsiwn 2).

 

7.

Adolygiad o'r Strategaeth Tai Leol pdf icon PDF 516 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Swyddog Datblygu Preswyl yr adroddiad sy'n hysbysu Aelodau am y gofyniad i ddiweddaru a diwygio'r Strategaeth Tai Leol yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru a gofynnodd am farn y Pwyllgor cyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gweithredol i gymryd rhan wrth ddatblygu Strategaeth Tai Leol newydd.

 

Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig mai nod y Strategaeth Tai Leol yw sicrhau cymuned gytbwys gyda mwy o gymysgedd o dai fforddiadwy a thai ar y farchnad agored. Er ein bod eisiau denu pobl i'r ardal, rydym hefyd eisiau creu cartrefi ansawdd da ar gyfer ein preswylwyr. O ran digartrefedd, dywedodd y Swyddog nad oes gan Blaenau Gwent broblemau sylweddol tebyg i'r hyn a welir yng Nghasnewydd a Chaerdydd, fodd bynnag mae pobl ym Mlaenau Gownt heb unrhyw drefniadau tai parhaol ac yn gorfod 'syrffio soffa' gyda pherthnasau a ffrindiau.

 

Dywedodd Aelod fod y Strategaeth hon yn bwysig iawn i'r Fwrdeistref a'i fod yn falch i weld ffocws ar ddarparu cartrefi ansawdd da.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Craffu yn cymeradwyo'r Cyngor i gydweithio gydag awdurdodau lleol ar draws Gwent i ymchwilio posibilrwydd llunio Strategaeth Tai Ranbarthol a chynllun gweithredu lleol (Opsiwn 2).

8.

Perfformiad Chwe Mis Adfywio a Datblygu Economaidd pdf icon PDF 491 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. C. Morgan fuddiant yn yr eitem hon.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy'n rhoi gweithgaredd gwasanaeth rhwng mis Ebrill 2019 a mis Medi 2019 a soniodd sut mae'r Adran wedi cyfrannu tuag at bedwar o nodau corfforaethol y Cyngor yn nhermau sicrhau Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal a Chymru o fwy o gymunedau mwy cydlynus. Dywedodd mai hwn oedd y tro cyntaf i'r adroddiad gael ei gyflwyno yn y fformat newydd.

 

Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd Aelod y dylai'r adroddiad gynnwys nodau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol ac agweddau o Cymoedd Technoleg a Bargen Ddinesig Caerdydd.

 

Croesawodd Aelod y fformat newydd. Cyfeiriodd at gynllun prentisiaeth Anelu'n Uchel a gofynnodd os y cysylltir gyda datblygwyr tai newydd yn y Fwrdeistref parthed cyfleoedd prentisiaeth.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig fod cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau yn cael eu hymchwilio gyda contractwyr lleol lle bynnag sy'n bosibl. Yn nhermau'r datblygiadau tai mwy sy'n awr yn dod trwodd, mae rhai o'r contractwyr lleol yn cynnig prentisiaethau fel rhan o fuddion cymunedol.

 

Dilynodd trafodaeth bellach parthed yr opsiynau i gael eu hargymell, pan gynigiodd Aelod argymhelliad ychwanegol (Opsiwn 3), sef derbyn yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys nodau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol a chynnwys nodau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol ac agweddau Cymoedd Technoleg a Bargen Ddinesig Caerdydd.

 

Esboniodd y Swyddog Craffu y codir sylwadau'r Aelod fel pwynt gweithredu a'u trosglwyddo i'r Tîm Perfformiad i'w cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol. Cytunodd Aelodau ar y llwybr gweithredu hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad fel y'i darparwyd (Opsiwn 2).

 

9.

Grŵp Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi pdf icon PDF 413 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Datblygu Economaidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Datblygu Economaidd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig yr adroddiad sy'n amlinellu'r argymhelliad i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Canol Trefi.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau gan y Pwyllgor pan ddywedodd Aelod y dylai fod cynrychiolaeth ar gyfer pob Canol Tref.

 

Yn dilyn trafodaeth fer, cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'n trafod cynrychiolaeth gydag Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Strategaeth Canol Trefi.

 

 

10.

Blaenraglen Gwaith - 23 Ionawr 2020 pdf icon PDF 395 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnir ar gyfer 23 Ionawr 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad.