Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Iau, 14eg Tachwedd, 2019 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

You are welcome to use Welsh at the meeting, a minimum notice period of 3 working days is required should you wish to do so.  A simultaneous translation will be provided if requested.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

To receive.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Moore.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

To receive.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau a goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 307 KB

To receive the minutes of the Regeneration Scrutiny Committee held on 23rd September, 2019.

 

(Please note the minutes are submitted for accuracy points only.)

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd K. Pritchard iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu - 23 Medi 2019 pdf icon PDF 193 KB

To receive action sheet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019.

 

Llyfryn Defnyddwyr Blaenau Gwent

 

Mynegodd Aelod bryder fod y Cadeirydd wedi cymeradwyo'r llyfryn, gan fod Aelodau wedi gofyn am i ddrafft gopi o'r llyfryn ddychwelyd i'r Pwyllgor i'w ystyried.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod Aelodau yn y cyfarfod diwethaf wedi gofyn am weld y llyfryn a'i fod wedi cymeradwyo y drafft lyfryn i'w gylchredeg i Aelodau ar gyfer sylwadau.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol bod y Cadeirydd, yn y cyfarfod o'r Aelodau Gweithredol y cyfeiriwyd ato, wedi cymeradwyo y ddogfen i'w chylchredeg i Aelodau ar gyfer sylwadau.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd y Swyddog Hwyluso Menter fod y DMT wedi ystyried y ddogfen ac y cafwyd adborth cadarnhaol iawn. Cynigiwyd nifer o newidiadau a chaiff y rhain eu cynnwys yn y ddogfen derfynol. Nodwyd adborth aelodau o drafodaethau blaenorol hefyd a gwnaed gwaith gyda'r Adran Cyfathrebu am y dyluniad i sicrhau ei fod yn gydnaws gyda brandio corfforaethol. Dywedodd y Swyddog ei fod yn falch gyda'r canlyniad cyffredinol.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn siomedig iawn gyda'r llyfryn ac yn teimlo ei fod yn ailadrodd cyhoeddiadau blaenorol.

 

Cynigiodd y Cadeirydd gwrdd gydag Aelodau y tu allan i'r Pwyllgor i drafod y llyfryn. Dywedodd y bu hyn yn mynd rhagddo ers peth amser ond gobeithir y bydd yn barod i'w gyhoeddi erbyn mis Ionawr 2020.

 

Blaenraglen Gwaith 2019-20 (Adolygiad Gwasanaethau Hamdden) 

 

Cyfeiriodd Aelod at y cais am i adroddiadau yr Adolygiad Gwasanaethau Hamdden gael eu hystyried gan Gydbwyllgor Craffu yn y dyfodol a gofynnodd os cafodd hyn ei drafod gyda Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog Craffu y cafodd y mater ei godi ac esboniodd mai'r unig Gydbwyllgorau cyfansoddiadol oedd Diogelu a Monitro'r Gyllideb. Fodd bynnag, mae'n bosibl cynnull Cydbwyllgorau i ystyried materion eraill ond cyfyngir hawliau pleidleisio i'r Pwyllgor Craffu gwreiddiol.

 

Gofynnodd yr Aelod i'r Swyddog Craffu edrych i mewn i hyn, gan y credai y bu gan bob Aelod hawliau pleidleisio yn y ddau Gydgyfarfod a alwyd i ystyried yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Hamdden.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi'r ddalen weithredu.

 

6.

Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 94 KB

To receive Executive Decision Sheet.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i nodi Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol.

 

7.

Pontio'r Bwlch - Blaenau Gwent Carbon Isel pdf icon PDF 535 KB

To consider the report of the Managing Director.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yr adroddiad sy'n rhoi diweddariad ar gynnydd prosiect Blaenau Gwent Carbon Isel i ddatblygu Cynllun Carbon Isel uchelgeisiol ar gyfer Blaenau Gwent. Mae'r adolygiad yn rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a rhaglen Pontio'r Bwlch.

 

Aeth y Rheolwr Gyfarwyddwr drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod newid hinsawdd yn fater gwirioneddol bwysig ac y gosodwyd targedau clir ar lefel y Deyrnas Unedig a Chymru i ostwng allyriadau carbon.

 

Yn nhermau cynnydd, dynodwyd gwaith da iawn ar draws y Cyngor a byddai'r prosiect hwn yn dod â'r gwaith hwnnw ynghyd er mwyn sicrhau Cyngor mwy effeithiol a gostwng ein hallyriadau carbon. Bwriedir cynnal ymgysylltu pellach gydag Aelodau drwy weithdai Aelodau a chyflwyno'r Cynllun Carbon Isel i'r Cyngor erbyn diwedd mis Mawrth 2020.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr hefyd at gwmpas y cynllun a fanylir yn adran 2.5 yr adroddiad, yn neilltuol y gwaith a wneir gyda'r gymuned a'n sefydliadau partner drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda golwg ar sicrhau dull gweithredu 'Bwrdeistref Cyfan' at ostwng allyriadau carbon.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu'r adroddiad, yn neilltuol gyda'r heriau yn wynebu cenedlaethau'r dyfodol o amgylch cynhesu byd-eang a dywedodd y dylai'r Cyngor ymrwymo i gyflawni targed o ddim allyriadau carbon erbyn 2030 yn unol â tharged Cymru gyfan.

 

Gofynnodd Aelod os gwnaed unrhyw waith i sefydlu effaith cynyddu traffig fel canlyniad i wneud Heol Blaenau'r Cymoedd yn ffordd ddeuol. Er bod angen mawr am y prosiect i ddenu buddsoddiad i'r ardal, byddai'n ddiddorol gweld effaith amgylcheddol y prosiect.

 

Gofynnodd Aelod arall os byddai'r Awdurdod yn gweithio gyda Tai Calon i sicrhau cyllid grant i gefnogi gostwng allyriadau carbon.

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y bu'r Cyngor yn dilyn model 'Dyfodol Carbon Gadarnhaol' Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfrif ôl-troed carbon y Cyngor, ond nad yw hyn yn caniatáu'r math o gyfrifiadau sydd eiu hangen i asesu effaith heol Blaenau'r Cymoedd, fodd bynnag gallai hyn fod yn rhan o waith ehangach y Cyngor gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Dywedodd, yn dilyn cyfrifiadau Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod yn dod allan fel sefydliad carbon gadarnhaol oherwydd faint o dir coedwigaeth y maent yn berchen arno ac mae hyn hefyd yn rhywbeth y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn ei ymchwilio i sicrhau lle'n bosibl y gellir gwrthbwyso allyriadau carbon.

 

Yn nhermau cyllid, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod Tai Calon yn rhan o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac y byddai'r Cyngor yn gweithio gyda nhw a sefydliadau partner eraill. Yn fewnol byddai'r Cyngor yn edrych ar gynlluniau buddsoddi i gynilo, a byddai Swyddogion hefyd yn ymchwilio gwahanol gyfleoedd am gyllid grant. 

 

     i.        CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a gwnaeth y Pwyllgor Craffu sylwadau ac argymhellion am y dull gweithredu a gynigir (Opsiwn 2); a

 

    ii.        Bod y Cyngor yn ymrwymo i gyflawni targed o ddim allyriadau carbon erbyn 2030 yn unol â tharged Cymru gyfan.

 

 

8.

Pontio'r Bwlch - Cynllun Twf pdf icon PDF 587 KB

To consider the report of the Corporate Director for Regeneration.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy'n gosod nodau ac amcanion y Cynllun Twf.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Mae gan y Cynllun fwriad clir i gefnogi mwy o bobl i weithio ac ennill mwy o arian yn byw ym Mlaenau Gwent ac yn tynnu ynghyd gamau gweithredu a gynhwysir ym Mhrosbectws Tai, Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth (Drafft) a Fframwaith Menter y Cyngor ynghyd â'r adolygiad o'r portffolio unedau diwydiannol. Yn ychwanegol mae'r Cynllun yn mynd ati i symud ymlaen â'r cyfleoedd am y diddordeb cynyddol y mae'r sector preifat yn ei ddangos mewn darpariaeth tai yn y Fwrdeistref a'r diddordeb cynyddol yng nghoridor Blaenau'r Cymoedd yn dilyn rhaglen gwneud heol Blaenau'r Cymoedd yn ffordd ddeuol, y cynnydd arfaethedig mewn amlder trefnau ar ddolen reilffordd Cwm Ebwy a chynlluniau tebyg i Cymoedd Technoleg.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforethol at y tabl yn adran 2.11 yr adroddiad a dywedodd y dylai'r £170,000  Polisi Ailalinio Treth Gyngor fod yng ngholofn 2020/21.

 

Cyfeiriodd Aelod at nodau'r Cynllun a amlygir yn adran 2.3, sef cynyddu sylfaen/adennill Treth Gyngor y Cyngor a holodd am ffigurau presennol adennill y Dreth Gyngor.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cyfarwyddydd Corfforaethol y caiff y ffigurau hyn eu hadrodd drwy'r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol. Fodd bynnag, yng nghyswllt polisi presennol y Cyngor o gynnig gostyngiad ar y Dreth Gyngor ar cartrefi gwag, cyflwynir adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu i gefnogi newid y polisi hwnnw fel na chynigir y gostyngiad mwyach.

 

Dilynodd trafodaeth fer am nifer yr cartrefi gwag yn y Fwrdeistref pan holodd Aelod os cynhaliwyd arolwg i ganfod faint o'r cartrefi gwag oedd ar werth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol na wnaed hyn, fodd bynnag byddai'r adroddiad hefyd yn amlinellu gwaith a fwriedir i gynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer y preswylwyr hynny sy'n ei chael yn anodd talu'r Dreth Gyngor.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu'r adroddiad, yn neilltuol edrych ar dwf ar hyd coridor Blaenau'r Cymoedd. Cyfeiriodd hefyd at adran 2.7 yr adroddiad sy'n cyfeirio at y cynllun benthyciadau sydd ar gael er mwyn dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd a gobeithiai y gellid cynnig hyn i brynwyr tro cyntaf gan eu bod yn aml yn ei chael yn anodd i sicrhau morgais ar gyfer adeiladau a fu'n wag ers peth amser ac angen eu hadnewyddu'n llwyr.

 

Holodd Aelod am nifer fras y cartrefi gwag yn y Fwrdeistref a gofynnodd faint ohonynt oedd yn rhai preifat a faint oedd yn nwylo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod tua 85% mewn dwylo preifat gan fod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi gweithio'n galed i ostwng nifer yr unedau gwag o fewn y Fwrdeistref.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a bod Aelodau'n cefnogi'r Cynllun Twf fel y'i cyflwynwyd a'i argymell i'r Cyngor ar gyfer ei gymeradwyo (Opsiwn 1). 

 

9.

Strategaeth a Ffafrir Cynllun Datblygu Lleol Amnewid pdf icon PDF 748 KB

To consider the report of Team Manager.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Adeiladu a Chynlluniau Datblygu.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Rheoli Adeiladu a Chynlluniau Datblygu yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyo'r Strategaeth a Ffafrir a gynhwysir yn Atodiad 1 a symud ag ef ymlaen ar gyfer ymgynghoriad. Roedd hon yn ddogfen allweddol yn y broses ac mae'n nodi'r fframwaith strategol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol amnewid newydd.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd y Aelod fod potensial ar gyfer cartrefi ar hyd coridor Blaenau'r Cymoedd ond tanlinellodd bwysigrwydd dynodi safleoedd cynaliadwy mewn ardaloedd y mae pobl eisiau byw ynddynt. Yna cyfeiriodd at dudalen 15 yr adroddiad yn neilltuol, yn cefnogi trafnidiaeth gynaliadwy, a mynegodd bryder am ddiffyg cysylltiadau trafnidiaeth i stadau diwydiannol y Fwrdeistref a dywedodd fod angen mynd i'r afael â hynny yn neilltuol wrth edrych ar gynyddu twf yn yr ardal. Mynegodd gonsyrn hefyd nad yw Aelodau wedi cael gweld Adroddiad Nash.

 

Mewn ymateb, cytunodd y Swyddog y dylai safleoedd tai fod y safleoedd gorau a chadarnhaodd fod asesiad trwyadl iawn yn cael ei gynnal a bod angen gwell cysylltiadau trafnidiaeth hefyd i'n safleoedd cyflogaeth, yn arbennig ar draws y Coridor Gogleddol. Yng nghyswllt Adroddiad Nash, cadarnhaodd y Swyddog y byddir yn rhoi ystyriaeth i hyn fel rhan o'r gwaith a wneir ar ganol trefi.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau fod angen i ni fod yn hyderus y gellir sicrhau'r safleoedd tai a ddynodir o fewn y Cynllun.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 3.17 ar dudalen 18 yr adroddiad a theimlid ei bod yn briodol newid geiriau 'Cylchdaith Cymru'. Canmolodd y Swyddog ar adroddiad rhagorol.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. Millard y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gofynnodd Aelod arall os y gall seilwaith a gwasanaethau'r Fwrdeistref ateb y galw y byddai'r safleoedd tai newydd yn dod â nhw.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog yr ymgynghorwyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yng nghyswllt anghenion a gofynion y dyfodol ac y caiff hyn ei fwydo i'r Cynllun, a hefyd weithio gydag Addysg i gynllunio ar gyfer y newidiadau hynny.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau yn cefnogi diwygiadau i'r Strategaeth a Ffafrir i'w hatgyfeirio at gyfer cymeradwyaeth gan y Cyngor (Opsiwn 2).

 

10.

Adolygiad Perfformiad 2018/19 - Chwarter 4 Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd pdf icon PDF 556 KB

To consider the report of the Head of Regeneration.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio yr adroddiad perfformiad ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ystod 2018/19. Cyflwynwyd yr adroddiad i Gabinet y Brifddinas-Ranbarth ym Mehefin 2018 a rhoddwyd sylw i raglenni allweddol o waith y mae'r Awdurdod yn ymwneud ag ef a materion o ddiddordeb i Flaenau Gwent.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo a chyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau elfen Cynllun Datblygu Strategol yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.11 yr adroddiad a thanlinellu'r angen am well cysylltiadau trafnidiaeth i stadau diwydiannol y Fwrdeistref gan fod hyn yn hollbwysig i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Cyfeiriodd hefyd at reilffordd Glynebwy a'r potensial am ddau drên yr awr i Lynebwy ac Abertyleri, a gofynnodd am fwy o wybodaeth am y ffigurau.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai asesiad WelTAG oedd y canllawiau a ddefnyddiwyd ac y caiff y fethodoleg a gynhwysir o fewn y canllawiau hynny eu defnyddio ar draws y Deyrnas Unedig.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn y adroddiad a bod y Pwyllgor Craffu yn ystyried cynnydd cyffredinol a gwneud sylwadau cyn i'r adroddiad fynd i'r Cyngor (Opsiwn 2).

 

11.

Blaenraglen Gwaith - 9.12,2019 pdf icon PDF 397 KB

To consider the report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 9 Rhagfyr 2019.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y cafodd yr Wybodaeth Perfformiad ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei ystyried erbyn hyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad.

 

12.

Eitem(au) Eithredig

To receive and consider the following report(s) which in the opinion of the Proper Officer is/are an exempt item(s) taking into account consideration of the public interest test and that the press and public should be excluded from the meeting (the reason for the decision for the exemption is available on a schedule maintained by the Proper Officer).

13.

Pontio'r Bwlch - Adolygiad o'r Portffolio Diwydiannol

To consider the report of the Head of Regeneration.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso o mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r wybodaeth gael ei heithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio sy'n nodi diben yr adolygiad o'r portffolio diwydiannol. Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dilynodd trafodaeth pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelod am Gronfa Cydnerthedd Brexit a'r buddsoddiad yn Roseheyworth.

 

Dywedodd Aelod fod angen cynyddu proffil ein stadau diwydiannol a gofynnodd os gellid ailfuddsoddi'r arian a geir o werthu rhai unedau mewn unedau eraill.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer stoc presennol ac y bwriedir hefyd symud tuag at brydlesau atgyweirio llawn yn y dyfodol. Dywedodd fod hefyd angen newid yn rheolaeth ariannol yr unedau i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a chadw a chadarnhaodd fod pob opsiwn cost-effeithlon yn cael eu hystyried.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at unedau ar stadau preifat a chadarnhaodd y Swyddog fod Llywodraeth Cymru eisoes yn ystyried opsiynau i uwchraddio eiddo ar Stad Ddiwydiannol Rasa. Gobeithir y bydd eraill yn dilyn pan welir y gwelliannau hyn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw'r Awdurdod a pharhau gyda'r adolygiad a'r camau gweithredu, a chyflwyno'r argymhellion i'r Cyngor eu hystyried. Byddai caniatáu'r adolygiad yn galluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau mwy gwybodus sy'n ein helpu i symud tuag at ffordd fwy masnachol o reoli'r portffolio, cynyddu'r incwm a dderbyniwn a gwella'r gwasanaeth ar gyfer ein tenantiaid busnes (Opsiwn 1).

 

14.

Cyfleuster Profion Technoleg Uchel Glynebwy

To consider the report of the Corporate Director Regeneration and Community Services.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso o mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r wybodaeth gael ei heithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy'n hysbysu Aelodau am sefyllfa bresennol y gwaith i ddatblygu'r cyfleuster technoleg uchel yn Rasa.

 

Dilynodd trafodaeth pan eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bwyntiau a godwyd gan Aelodau. Gofynnodd Aelod am i sesiynau gwybodaeth yn y dyfodol gael eu cynnal ar y cyd gyda phob gr?p gwleidyddol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at faterion ariannol/busnes personau heblaw'r Awdurdod, a bod y Pwyllgor Gweithredol yn cytuno i gynnal profion marchnad i ddynodi partner sector preifat a datblygu'r cynllun mewn partneriaeth i sefyllfa lle gellir penderfynu os oes achos busnes i symud ymlaen.