Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Adfywio - Dydd Iau, 23ain Ionawr, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7785

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, J. Hill, J. Millard a M. Holland.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 288 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynwyd y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

CYTUNWYD i gadarnhau'r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu - 9 Rhagfyr 2019 pdf icon PDF 95 KB

Derbyn dalen weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019, yn cynnwys:

 

Dalen Weithredu - 14 Tachwedd 2019 - Adolygiad Gwasanaeth Hamdden a Diwylliant

 

Mynegodd Aelod ei siom fod Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol wedi gwrthod y cais i ganiatáu i holl Aelodau Pwyllgorau Craffu gymryd rhan yn y drafodaeth yn ymwneud ag Adolygiad Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020.

 

Nodwyd adeg y cyflwynwyd y cynnig gwreiddiol i sefydlu''r Ymddiriedolaeth Hamdden, yr agorwyd cyfarfod o'r Pwyllgor Graffu i holl aelodau Pwyllgorau Craffu  i drafod y cynnig (gyda dim ond yr Aelodau hynny a benodwyd i'r Pwyllgor yn cael caniatâd i bleidleisio ar y cynnig).

 

Aeth yr Aelod ymlaen drwy ddweud fod Gweithgor wedi gwneud cryn dipyn o waith dros y 12-18 mis diwethaf ar y mater a'i bod yn anffodus gan nad oedd holl aelodau'r Gweithgor yn aelodau o'r Pwyllgor Gwasanaethau Cymunedol na fyddent yn medru cymryd rhan na chael cyfle i roi adborth i'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen newydd ar y gwaith a wnaed hyd yma.

 

Nodwyd fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi'n flaenorol nad oedd yr adolygiad o Gwasanaethau Hamdden yn cynnwys ymgyfraniad amserol ac ystyrlon gan Aelodau Pwyllgor Craffu.

 

Daeth yr Aelod i ben drwy ailadrodd ei siom y cafodd y cais am Gydbwyllgor Craffu ei wrthod ac awgrymodd, hyd yn oed pe na wahoddid Aelodau'r Gweithgor gwreiddiol i'r Pwyllgor, fan leiaf oll y dylid gwahodd y Cadeirydd - y Cynghorydd P. Edwards - i fynychu'r cyfarfod hwnnw.

Awgrymodd y Swyddog Craffu y dylid gwneud cynnig i Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol h.y. y dylid gwahodd y Cynghorydd P. Edwards (Cadeirydd y Gweithgor) i gyfarfod Pwyllgor mis Chwefror i gymryd rhan yn y drafodaeth yng nghyswllt yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y cafodd y gwaith a wnaed gan y Gweithgor ei gynnwys o fewn adroddiad terfynol yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi'r ddalen weithredu.

 

6.

Perfformiad Absenoldeb Salwch Gweithlu Adfywio pdf icon PDF 413 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a'r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a'r Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy'n rhoi cyfle i Aelodau graffu a herio'r perfformiad absenoldeb salwch a'r camau gweithredu a gynigir ar gyfer gwella yn y gyfarwyddiaeth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai hwn oedd yr adroddiad cyntaf fath i'w gyflwyno i'r Pwyllgor (byddai pob adran yn paratoi adroddiad tebyg i gael ei gyflwyno i'w pwyllgorau perthnasol) a chydnabuwyd fod yr adroddiad yn 'waith ar y gweill' gan fod angen gwneud gwaith pellach gyda chydweithwyr mewn Datblygu Sefydliadol i lunio a ffocysu'r adroddiad i sicrhau fod yr ystadegau a'r wybodaeth a gynhwysir ynddo yn cyfeirio at y Gwasanaeth Adfywio yn unig. Dywedwyd ar hyn o bryd fod yr wybodaeth yn cyfeirio at Gwasanaethau Cymunedol hefyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Tanlinellodd fod gan fwyafrif helaeth gweithwyr y Cyngor lefelau presenoldeb ardderchog gan y dangosodd data fod 2463 o weithwyr wedi mynychu gwaith bob dydd yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill a Mawrth 2019 gyda'r Cyngor â lefel presenoldeb o 94.3%. Y meysydd gwasanaeth rheng flaen sy'n profi lefelau uwch o absenoldeb.

 

Fel Cyfarwyddiaeth, trafodir absenoliaeth salwch ym mhob cyfarfod rheoli misol. Cynhaliwyd adolygiad annibynnol o'r deg absenoldeb uchaf sydd wedi cadarnhau fod rheolwyr yn cydymffurfio â ac yn gweithredu'r Polisi Rheoli Presenoldeb.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymlaen drwy ddweud er bod tystiolaeth o weithredu gan reolwyr wrth reoli salwch, bod y Gwasanaeth Adfywio yn cydnabod fod angen defnyddio system iTrent yn well gan mai dim ond 16.48% o gyfarfodydd dychwelyd i'r gwaith sy'n cael eu cofnodi ar system iTrent ar hyn o bryd. Nodwyd nad oes gan bob adran fynediad i'r system hon, yn neilltuol reolwyr rheng flaen ac er y cynhelir cyfarfodydd dychwelyd i'r gwaith, ni fedrir eu cofnodi bob amser o reidrwydd. Felly mae angen gwaith i wella'r sefyllfa.

 

Cafodd Aelodau wedyn gyfle i godi sylwadau/cwestiynau am yr adroddiad.

 

Lefelau Presenoldeb - cyfeiriodd Aelod at y ffaith fod gan fwyafrif helaeth gweithwyr y Cyngor lefelau presenoldeb gan fod y data yn dangos fod 2463 o weithwyr yn mynychu gwaith bob dydd a dywedodd fod hyn i'w ganmol. Gofynnodd os yw'r aelodau hyn o staff yn cael eu canmol am eu lefelau presenoldeb ardderchog.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod hwn yn bwynt dilys a chytunodd y dylai lefelau presenoldeb ardderchog gael eu dathlu a dywedodd y byddai'n codir mater yn y cyfarfod rheoli adrannol a hefyd gyda'r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol.

 

Salwch Cronig - mewn ymateb i gwestiwn am 'salwch cronig', cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y caiff hyn ei briodoli fel arfer i straen. Dywedwyd fod y Cyngor wrthi'n ymestyn hyfforddiant iechyd meddwl ar gyfer rheolwyr er mwyn eu galluogi'n well i gael trafodaethau priodol gydag unigolion. Nodwyd fod iechyd meddwl a straen yn broblem sylweddol ar draws pob sefydliad.

 

System iTrent - mynegwyd pryder nad oedd gan bob rheolwr fynediad i'r system  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Strategaeth Trafnidiaeth pdf icon PDF 512 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Adfywio. 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Adfywio.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio yr adroddiad dechreuol sy'n gofyn am farn Aelodau ar gynnwys a chwmpas y strategaeth trafnidiaeth arfaethedig ar gyfer Blaenau Gwent. Esboniodd y swyddog fod prosiectau pellach yng nghyswllt Metro Plus ar fin cael eu datblygu ac y byddai gwaith trafnidiaeth rhanbarthol gydag awdurdodau cyfagos yn dod i fwcl yn y dyfodol agor. Felly, roedd hwn yn amser addas i ddatblygu strategaeth leol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

 

Wedyn siaradodd y Pennaeth Adfywio yn fanwl am y paragraffau dilynol yn yr adroddiad sy'n amlinellu:

 

Paragraff 2.2 - cwmpas y strategaeth a'r elfennau a ddylai gael eu cynnwys

Paragraff 2.3 - bod angen ystyried y prif argymhellion strategol o amgylch datblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y strategaeth sy'n ymrwymo i gynllunio hirdymor

Paragraff 2.4 - gwelliannau gweithredol a chyfleoedd newydd y gellid eu hymchwilio a'u defnyddio.

 

Nodwyd yr ymgynghorir hefyd â rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o'r broses. Tanlinellodd y Pennaeth Adfywio y byddai'r strategaeth yn cyfeirio at gysylltedd ar gyfer trenau ond hefyd yn cynnwys bysus, tacsis a chludiant cymunedol - h.y. amrywio symudiadau cerbyd a'r meysydd/gwasanaethau sydd angen gwell mynediad e.e. mae angen cysylltiadau gyda Stadau Diwydiannol Rasa a Thafarnaubach, meddygfeydd teulu. Byddai'n rhaid hefyd gynnal trafodaethau gyda sefydliadau trydydd parti e.e. GAVO er mwyn llenwi unrhyw fylchau yn y rhwydwaith.

 

Daeth y Pennaeth Adfywio i ben drwy ofyn am i drafodaethau ganolbwyntio'n bennaf ar baragraff 2.2 h.y. cwmpas y strategaeth a'r elfennau y dylid eu cynnwys.

 

Wedyn, gwnaeth sylwadau fel sy'n dilyn:

ØPwysigrwydd cysylltiadau i gludo pobl i'r gwaith.

ØMae angen cysylltiadau trafnidiaeth i gartrefi pobl fel mater o frys gan fod pobl yn byw yn y gosodiadau gofal hynny'n teimlo'n ynysig. Soniwyd yn arbennig am Gartref Nyrsio Red Rose lle mae'r gwasanaeth bws agosaf y tu allan i'r ysbyty.

ØDylai darparu llwybrau bws fod yn flaenoriaeth,

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio nad yw llwybrau bws masnachol ar gael bob amser felly mae angen ymchwilio dulliau gwahanol o drafnidiaeth ac opsiynau, er enghraifft gwasanaeth 'bwcio bws' GAVO ar gyfer teithiau arbenigol nad ydynt o reidrwydd yn hyfyw yn fasnachol. Mae nifer o safleoedd digidol ar gael sy'n rhoi gwybodaeth ar y gwahanol fathau o gludiant sydd ar gael ond mae angen gwneud hyn yn haws i bobl ei ddefnyddio.

 

ØMynegodd Aelod ei bryder am agwedd ddigidol archebu wasanaeth a dywedodd nad oes gan rai pobl h?n fynediad i gyfleusterau technoleg gwybodaeth nac yn eu defnyddio.

 

Awgrymodd Aelod arall y dylid gwneud ymholiadau gyda chwmnïau bws lleol i ofyn os allent newid eu llwybrau i gynnwys cartrefi gofal gan y dylai fod llwybrau bws uniongyrchol i'r cyfleusterau hyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio y byddai'n codi'r mater gyda'r Adran Trafnidiaeth.

 

ØDylid bod yn rhagweithiol er mwyn cael data gan gwmnïau cludiant sy'n derbyn cymhorthdal.

 

ØGan fod pobl ifanc yn dilyn prentisiaethau yn cael anhawster yn cyrraedd lleoliadau swydd, yn arbennig oherwydd mynediad a chost, gofynnwyd os oes  system ar gael lle gallai pobl h  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cymoedd Technoleg pdf icon PDF 436 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried.

 

Hysbyswyd Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r rhaglen Cymoedd Technoleg yn haf 2017 a bod hwn yn ymrwymiad £100 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros ddeng mlynedd i greu 1,500 o swyddi cynaliadwy gyda ffocws ar Flaenau Gwent a'r gefnwlad. Yn 2017 byddai Cymoedd De Cymru a Blaenau Gwent yn neilltuol yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd i gefnogi diwydiant o'r math diweddaraf.

 

Fel rhan o'r adolygiad ehangach o lywodraethiant y rhaglen Parth Menter yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dirwyn Bwrdd Parth Menter Glynebwy i ben ac yng nghyswllt Blaenau Gwent wedi cyflwyno Gr?p Ymgynghori Cymoedd Technoleg - a chaiff ei rôl ei amlinellu ym mharagraff 2.3 yr adroddiad.

 

Wedyn rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fanylion y prosiectau yn gyfanswm o tua £18.5m a gynhwyswyd fel rhan o'r rhaglen (a amlinellwyd ym mharagraff 2.6 yr adroddiad) ac yn ychwanegol, fanylion dau achos busnes arall a amlinellir ym mharagraff 2.7.

 

Ar y pwynt hwn, gwnaeth Aelodau y sylwadau dilynol:

 

ØRoedd yn ddymunol cael manylion yr holl syniadau arfaethedig a dywedwyd fod mewnfuddsoddiad yn hanfodol i'r awdurdod lwyddo a gwella canfyddiad pobl a gobeithid y byddai hyn yn dod i ffrwyth.

 

ØDiwydiant mewn Ysgolion (STEM) - gobeithir y gellid ymestyn y prosiect peilot hwn i bob ysgol er mwyn rhoi cyfle cyfartal a darpariaeth i'r holl ddisgyblion yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Cyfarwyddwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi siarad yn faith mewn cyfarfod diweddar am STEM ac yr anfonwyd gwahoddiad i ysgolion ym mhob awdurdod i ysgolion fynd i hyfforddiant STEM Sandhurst ond na chafwyd unrhyw ymatebion cadarnhaol o Flaenau Gwent. Cafodd hyn ei drafod gyda'r Pwyllgor Gweithredol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod angen cynnal peilot yn y lle cyntaf ar gyfer y cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd, ac yn ddilynol y caiff hyn ei ymestyn i bob ysgol ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi gwaith y Rhaglen Cymoedd Technoleg.

 

 

9.

Blaenraglen Gwaith - 5 Mawrth 2020 pdf icon PDF 396 KB

Derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a gynhelir ar 5 Mawrth 2020.

 

Hysbyswyd Aelodau y cafodd yr Eitem Gwybodaeth - 'Monitro Blynyddol ar y Cynllun Busnes Adfywio' ei thynnu.

 

Cyflwynir yr eitemau dilynol i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Ebrill:

 

ØAdroddiad Rheoli Cyrchfan.

ØAdroddiad yn cyfeirio at sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cyfeirio at Drafnidiaeth Gyhoeddus.

 

Rhoddir diweddariad ddwywaith y flwyddyn yng nghyswllt:

 

ØCydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Caiff Sesiynau Gwybodaeth i Aelodau eu cynnull yng nghyswllt:

 

ØCymoedd Technoleg. 

ØBargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn ac y cyflwynir yr eitemau dilynol i'r cyfarfod a drefnir ar gyfer 5 Mawrth 2020:

 

ØAdolygu Polisi Gwaredu Rheoli Asedau

ØDiweddariad ar Gyllid Adfywio wedi'i Dargedu

ØCynllun Cyflogaeth a Sgiliau

ØCyllido Tyrfa.