Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7785
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-
Cynghorydd H. McCarthy Cynghorydd B. Willis
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Rheilffordd Cwm Ebwy Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Nododd yr Aelod fod peth o’r wybodaeth eisoes yn y wasg er y nodwyd fod yr adroddiad wedi ei eithrio. Cydnabu’r Aelod y rheswm am yr eithriad, fodd bynnag teimlai oherwydd y materion sy’n cael eu hystyried ac er budd y cyhoedd na ddylai’r wybodaeth fod o natur eithriedig. Roedd yn bwysig fod y Cyngor yn agored a thryloyw gyda thrafodion o’r fath ac anghytunai’r Aelod gydag eithrio’r adroddiad.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad gwreiddiol a gyflwynwyd i’r Cyngor wedi ei eithrio ac ni allai roi sylw ar sut y mae’r wybodaeth yn y parth cyhoeddus. Mae’r adroddiad yn ystyried trefniant masnachol a manylion contract rhwng partïon unigol sydd yn gyfrinachol.
Codwyd pryder pellach nad oedd unrhyw gynrychiolydd cyfreithiol yn y cyfarfod a’i bod yn hanfodol fod swyddog cyfreithiol yn bresennol pan gaiff materion o’r fath eu hystyried.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad sy’n rhoi manylion cytundeb y benthyciad, y risgiau a ddynodwyd a’r trefniadau contract a chytuno cyfrifoldebau rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru (Rheilffordd), Trafnidiaeth Cymru a’r Cyngor.
Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan y Pwyllgor Craffu.
Cyfeiriodd Aelod at y costau a fanylir yn yr adroddiad a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw arian sydd ei angen i gefnogi cyllid arall.
Wedyn cyfeiriodd yr Aelod at yr adroddiad dechreuol a gyflwynwyd i’r Cyngor ym mis Mawrth 2021 a dywedodd y codwyd pryderon yng nghyswllt y cyllid arall a fedrai syrthio yn ôl ar drethdalwyr Blaenau Gwent a nododd y cafodd hyn ei drin erbyn hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai Llywodraeth Cymru yn bellach yn cyflenwi unrhyw arian arall.
Mynegwyd pryderon gan nad oedd Aelodau wedi cael y dadansoddiad llawn o ddefnydd teithwyr ac os y byddai’r refeniw o’r trenau ychwanegol yn ddigonol ar gyfer y cynllun. Pe byddai’r cynllun hwn yn methu, teimlid y byddai’n risg i enw da y Cyngor a chynigiodd Aelod y dylid cyflwyno dadansoddiad llawn i Aelodau.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol na fyddai unrhyw risg i’r Cyngor gan fod y cynllun yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod risg genedlaethol yn dilyn COVID-19 am gydnerthedd trafnidiaeth gyhoeddus. Byddai’r trefniadau gweithio ystwyth y mae llawer o sefydliadau yn eu defnyddio bellach yn gweld pobl yn teithio ar adegau gwahanol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Llywodraeth Cymru a ... view the full Cofnodion text for item 4. |