Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Llun, 15fed Tachwedd, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd T. Sharrem.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 332 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 187 KB

Derbyn y ddalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021, yn cynnwys:

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

Cyfeiriodd Aelod at gynnydd diweddar mewn incwm ailgylchu a gofynnodd os y byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb o hyn ymlaen.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod y farchnad yn gyfnewidiol, fodd bynnag byddai’r cynnydd mewn prisiau yn cael effaith gadarnhaol yn Chwarter 2.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach esboniodd y Swyddog fod swyddogion o fewn yr Adran yn negodi prisiau am ddeunyddiau gyda chefnogaeth a chydweithrediad WRAP.

 

Rhagolwg Monitro’r Gyllideb Gyfalaf – Atodiad 1

327061 – Trosglwyddo Asedau Cymunedol – dadansoddiad

 

Mynegodd Aelod bryder am gynllun Trosglwyddo Ased Cymunedol posibl a chadarnhaodd y Rheolwr Stadau fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda sefydliad parthed dau gyfle posibl.

 

Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd yr Aelod y dylid cyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu ei ystyried cyn iddo fynd i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Stadau na wnaethpwyd penderfyniad a bod yr Adran Addysg yn gwybod am y mater. Cadarnhaodd y Swyddog y byddai’n cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu.

 

Gofynnodd Aelod arall pryd y byddai Trosglwyddo Ased Gymunedol Capel y Drindod yn cael ei orffen.

 

Esboniodd y Swyddog fod trafodaethau’n mynd rhagddynt a gobeithir cwblhau’r broses erbyn mis Mawrth 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Adroddiad Blynyddol 2020/21 Blaengynllun Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystem (2019-2022) pdf icon PDF 463 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Swyddog Prosiect Bioamrywiaeth yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar sut mae’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a rhoddodd drosolwg o gynnydd blynyddol ar y Blaengynllun Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystem (2019-2022) ar gyfer 2020/21.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dangosir cynnydd yn 2020/2021 yn ôl maes gwasanaeth o gymharu â’r dulliau cyflenwi a’r cynllun gweithgaredd ar gyfer 2021/22 yn Atodiad 2.

 

Cyfeiriodd Aelod at ofodau gwyrdd agored na chaiff eu diogelu fel ardaloedd hamdden, a gofynnodd sut y cânt eu hystyried yn ystod y broses cais cynllunio.

 

Cadarnhaodd y Swyddog y caiff y mathau hyn o ardaloedd eu gwerthuso o ran eu gwerth ecolegol a pha lefel o ddiogeliad y maent ei angen. Os teimlid fod gan ardal werth ecolegol da neu fod angen rheoli i wella’r ardal, byddai’r gwaith yn cael ei wneud ar draws gwahanol sectorau/gwasanaethau i geisio diogelu’r ardaloedd hynny.

 

Canmolodd yr Aelod yr adroddiad a thanlinellu pwysigrwydd addysgu pobl ifanc ar y materion, a gofynnodd os bwriedir i bob ysgol gymryd rhan yn y prosiect Draenog Trefol.

 

Dywedodd y Swyddog fod ysgolion Blaenau Gwent wedi dangos diddordeb sylweddol ond mai dim ond 8 a ddewiswyd ar gyfer y prosiect peilot. Fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo i gysylltu’r ysgolion eraill gyda grwpiau cymunedol lleol sy’n trin gofodau gwyrdd ac yn y blaen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am SINC, dywedodd y Swyddog fod nifer o safleoedd ym Mlaenau Gwent. Mae prosiect Gwent Fwyaf yn edrych ar fywyd gwyllt ar y safleoedd hynny ar hyn o bryd a disgwylir rheolaeth ehangach ac adborth o’r gwaith arolwg.

 

Gofynnodd yr Aelod am i restr o’r SINC gael eu cylchredeg i bob Aelodau a chytunodd y Swyddog i roi’r wybodaeth hon.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo adroddiad blynyddol 2020/21 a’r cynllun gweithgaredd a argymhellwyd ar gyfer 2021/22 i gyflawni Dyletswydd Adran 6 (Opsiwn 1).

 

7.

Gorfodaeth Parcio Sifil – Diweddariad Gwasanaeth pdf icon PDF 728 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Seilwaith Adeiledig yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar Orfodaeth Parcio Sifil ar gyfer y cyfnod 1 Tachwedd 2020 i 31 Medi 2021.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Er effeithiau pandemig Covid, dywedodd y Swyddog fod y gwaith yn mynd rhagddo yn unol â’r model achos busnes a gytunwyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gyfradd casglu o 95% ar gyfer Hysbysiadau Cosbau Dirwy (PCN) a gofynnodd beth sy’n cael ei wneud i adennill y 5% arall.

 

Dywedodd y Swyddog fod proses i adennill PCN nas talwyd ond y gohiriwyd hyn yn ystod pandemig Covid.

 

Gofynnodd yr Aelod sut oedd nifer y PCN a gyhoeddwyd ym Mlaenau Gwent yn cymharu gydag awdurdodau lleol eraill.

 

Dywedodd y Swyddog na fedrai roi cymhariaeth gydag awdurdodau lleol eraill ond dywedodd fod y gwasanaeth yn gweithredu yn unol â’r model achos busnes a gytunwyd. Ni osodwyd unrhyw dargedau ar gyfer y Swyddogion Gorfodaeth gan mai dim ond pan welent barcio anghyfreithlon lle mae gorchmynion rheoleiddio traffig yn weithredol y gallent gyhoeddi PCN.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, esboniodd y Swyddog os oedd cerbyd wedi parcio ar palmant gyda ‘llinellau melyn’ yna y byddid yn cyhoeddi PCN. fodd bynnag, os oedd cerbyd ar balmant ac yn achosi rhwystr ond nad oedd ‘llinellau melyn’, byddai hyn wedyn yn cael ei gyfeirio at yr Heddlu.

 

Dywedodd Aelod y byddai wedi hoffi cael mwy o fanylion ar gyfathrebiad y Cyngor gyda’r Heddlu yng nghyswllt parcio ar balmant.

 

Gofynnodd Aelod pa weithdrefnau iechyd a diogelwch sydd i ddiogelu Swyddogion Gorfodaeth sy’n gweithredu ar ben ei hunan.

 

Esboniodd y Swyddog fod gan CBS Caerffili polisi ar bobl sy’n gweithio ar ben eu hunain sy’n ei gwneud yn ofynnol i oruchwylwyr gadw mewn cysylltiad gyda staff, ac nad oes unrhyw patrolau gweithio ar ben eu hunain gyda’r nos. Cadarnhaodd hefyd fod gan Swyddogion Gorfodaeth gysylltiad radio gyda staff lleol pan maent allan ar batrôl.

 

Dywedodd Aelod arall y byddai wedi hoffi cael dadansoddiad o PCN a gyhoeddwyd yn Nantyglo a Blaenau. Cyfeiriodd wedyn at adran 2.14 yr adroddiad sy’n dweud y dylai’r Cyngor ddynodi ardaloedd lle gellid goddef parcio ar y palmant, a gofynnodd os yw’r gwaith hwn yn cael ei wneud ar hyn o bryd ac os oes cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i wneud y gwaith.

 

Dywedodd y Swyddog y byddai’n rhoi dadansoddiad mwy manwl o’r ffigurau. Yng nghyswllt parcio ar y palmant, dywedodd fod nifer sylweddol o ardaloedd yn y Fwrdeistref lle gellid goddef parcio ar y palmant. Fodd bynnag, rydym yn dal i aros canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar sut i osod y ddeddfwriaeth hon. Dywedodd fod pryderon am sut y byddai hyn yn cael ei weithredu ac mai dull tebyg i ardaloedd eraill fyddai orau. Yn nhermau cyllid, ni wyddai fod mwy o gyllid ar gael.

 

Dilynodd trafodaeth am broblemau parcio mewn nifer o ysgolion cynradd yn y Fwrdeistref.

 

Cadarnhaodd y Swyddog y cyflwynwyd cais am gyllid a bod  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Diweddaru Ceffylau sy’n Pori’n Anghyfreithlon pdf icon PDF 499 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar fater ceffylau sy’n pori’n anghyfreithlon yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu newidiadau i’r polisi cyfredol ac yn gosod y fframwaith deddfwriaethol a pholisi sydd yn ei le ac yn cael ei weithredu gan Swyddogion i ddatrys digwyddiadau.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn croesawu’r adroddiad a hysbysodd y Pwyllgor iddi gael trafodaethau gyda Swyddog Llesiant Cymdeithas Ceffylau Prydain oedd hefyd wedi argymell bod y Cyngor yn penodi Swyddog Iechyd Anifeiliaid i oruchwylio’r gwahanol broblemau a brofir, fel yr amlinellir yn y polisi a’i fodelu gan Gyngor Dinas Caerdydd.

 

Dywedodd y Swyddog y byddai’n cydlynu gyda chydweithwyr ar y mater hwn.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau’n cefnogi’r diwygiad polisi a’r broses bresennol ar gyfer symud ceffylau a nodir yn yr adroddiad gyda defnydd cysylltiedig contractwyr a’r costau sy’n gysylltiedig gyda hyn. (Opsiwn 1).

 

9.

Cydweithredu Gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid, Llesiant a Thrwyddedu – Partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys – Adroddiad Gweithgareddau a Diweddariad – Hydref 2021 pdf icon PDF 536 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth, Diogelu’r Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y gwaith ar iechyd, llesiant a thrwyddedu anifeiliaid a wnaed gan Gyngor Sir Powys ar ran Blaenau Gwent.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Mae Atodiad 1 yn amlinellu cyfanswm nifer y safleoedd ym Mlaenau Gwent y mae’r trefniadau hyn yn gweithredu ynddynt ac mae Atodiadau 2 i 4 yn amlinellu’r cynlluniau gwasanaeth a gweithgareddau ar gyfer 2019/20, 2020/21 a 2021/22 (hyd at 19 Hydref 2021) yn eu tro. Mae Adran 6 yn rhoi crynodeb o’r gweithrediadau allweddol a gwblhawyd ac sy’n mynd rhagddynt ers dechrau’r bartneriaeth.

 

Gofynnodd Aelod faint o ddyddiau yr wythnos a ddyrennir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer ymateb i faterion o fewn Blaenau Gwent.

 

Esboniodd Swyddog Cyngor Sir Powys fod swyddogion yn cynnal arolygiadau arferol wedi’u cynllunio a bod unrhyw waith arall yn ymatebol yn nhermau ymateb i faterion fel a phan fo angen. Treulir cryn amser hefyd yn casglu gwybodaeth. Ni fedrai roi ateb pendant o ran nifer y dyddiau a ddyrennir i Flaenau Gwent ond teimlai fod Blaenau Gwent yn cael gwerth am arian dan y trefniant Cytundeb Lefel Gwasanaeth.

 

Dywedodd yr Aelod y dylid dychwelyd y gwasanaeth i gylch gorchwyl y Cyngor, yn neilltuol oherwydd y ddeddfwriaeth newydd ar fridio c?n sy’n dod i rym a’r cynnydd mewn bridio c?n yn anghyfreithlon yn y Fwrdeistref. Dywedodd hefyd iddi gael eu hysbysu gan sefydliad adnabyddus sy’n achub anifeiliaid yr ymddangosai fod diffyg cyswllt gyda Blaenau Gwent o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng nghyswllt bridwyr heb drwydded a phryderon am les anifeiliaid.

 

Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd fod y Cyngor wedi cytuno ar y Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Phowys gan nad oes gennym yr arbenigedd a’r gwytnwch yn fewnol i ddarparu’r gwasanaeth, ac mae hynny yn dal i fod yn wir. Byddai dod â’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol yn golygu eitem twf sylweddol i’r Cyngor a’n gadael gyda heriau yn nhermau darparu’r gwasanaeth gyda’r diffyg arbenigedd.

 

Cytunodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnachu. Gyda’r gwasanaeth yn dod dan yr adran Safonau Masnachu, mae’n ddiolchgar am arbenigedd Cyngor Sir Powys a byddai’n bryderus pe byddai hyn yn dod i ben. Dywedodd fod hwn yn faes arbenigol o waith a’i bod yn anodd recriwtio iddo, a byddai ganddo bryderon am recriwtio i’r lefel ofynnol. O ran y llwyth gwaith dywedodd fod hyn wedi cynyddu yn neilltuol gyda materion bridio c?n yn anghyfreithlon ond dywedodd fod hon yn broblem genedlaethol, ond nad colli’r arbenigedd sydd ar gael gan Gyngor Sir Powys yw’r ateb.

 

Oherwydd y pryderon sylweddol am lesiant anifeiliaid ac anifeiliaid sy’n crwydro o fewn y Fwrdeistref, cynigiodd Aelod y dylai’r Cyngor ystyried ailddechrau gwasanaeth lles anifeiliaid.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Wedyn cynhaliwyd pleidlais.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi cynnwys yr adroddiad a bod Aelodau’n cefnogi gwaith y gwasanaeth o hyn ymlaen. (Opsiwn 1).

 

10.

Teithio Llesol a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau 2021/22 pdf icon PDF 529 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Peiriannydd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar waith Teithio Llesol a Llwybrau Diogel yn y Gymuned ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Aelod am y Ddolen Fecanyddol yng Nglynebwy, cadarnhaodd y Swyddog y bu’r Ddolen ar gau drwy gydol y bandemig oherwydd gofynion pellter cymdeithasol.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn siomedig na chafodd Pont Cwmcelyn ei chynnwys yn y rhestr ar gyfer cynlluniau Teithio Llesol. Dywedodd fod y bont yn cysylltu’r gymuned gyda’r ardal natur leol a hefyd yn lwybr i’r ysgol.

 

Mewn ymateb esboniodd y Swyddog nad oedd Pont Cwmcelyn yn rhan o raglen cyllido 2021/222. Cadarnhaodd fod opsiynau eraill yn cael eu hystyried, fodd bynnag mae’n annhebyg y gallai’r bont rannu defnydd h.y. llwybr seiclo a llwybr troed.

 

Cafodd yr Aelodau eu hannog gan y Swyddog i ddefnyddio’r wefan ymgynghori lleoedd cyffredin gan y gellid defnyddio hyn i gasglu tystiolaeth ar gyfer blynyddoedd ariannol y dyfodol. Mae hefyd yn hapus i ymgynghori gydag Aelodau ar sail ward ar geisiadau am gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Swyddogion yn ymgynghori gydag Aelodau ar lwybrau Teithio Llesol (Opsiwn B).

 

11.

Blaenraglen Gwaith – 17 Ionawr 2022 pdf icon PDF 395 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y flaenraglen gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 17 Ionawr 2022.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd y Cadeirydd y byddai’n cydlynu gyda’r Swyddog Craffu a Democrataidd ynghylch eitemau posibl yn y dyfodol.

 

Yn amodol ar yr uchod, CYTUNODD y pwyllgor i dderbyn y Flaenraglen Gwaith.