Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7788
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am abseoldeb ar gyfer y Cynghorwyr C. Meredith, M. Day, J. Holt a L. Winnett.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr B. Summers a M. Cook fuddiant yn yr eitem ddilynol:
Eitem Rhif 11 Adroddiad Perfformiad Silent Valley Waste Services Cyf.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 248 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2021.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 19 Gorffennaf 2021 PDF 184 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2021, yn cynnwys:
Adroddiad Sefyllfa Anifeiliaid Crwydrol
Cadarnhaodd y Cadeirydd y cyflwynir adroddiad i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol adroddiad Archwilio Cymru, ‘Adolygiad Pobl, Perfformiad a Chydnerthedd Ariannol mewn Gwasanaethau Cymunedol’ (ynghlwm yn Atodiad 1). Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu Gwasanaethau Cymunedol mewn ymateb i gynigion Archwilio Cymru ar gyfer gwella.
Aeth cynrychiolydd Archwilio Cymru drwy’r adroddiad wedyn a thynnu sylw at y prif bwyntiau ynddo, sef:
· Mae cyfleoedd i’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol gynyddu cydnerthedd drwy rannu’r dysgu ac arfer da a ddangosir mewn meysydd gwasanaeth penodol i ddatblygu ei threfniadau ymhellach i reoli perfformiad a chryfhau cynllunio strategol ariannol a gweithlu.
· Mae’r gwasanaeth gwastraff wedi sicrhau cynnydd sylweddol dros y cyfnod ers 2015 drwy gynllunio strategol cadarn a gefnogir gan fabwysiadu diwylliant dysgu i reoli newid yn effeithlon.
· Mae’r Cyngor yn datblygu strategaeth gweithlu corfforaethol ac er bod Gwasanaethau Cymunedol yn deall materion gweithlu allweddol ac yn cymryd camau i’w trin, mae cwmpas am fwy o gydweithio gydag Adnoddau Dynol i wella cynllunio a chydnerthedd gweithle.
· Mae perfformiad gwastraff ac ailgylchu wedi gwella’n sylweddol ond mae defnydd data perfformiad yn anghyson ar draws Gwasanaethau Cymunedol ac mae rhai adroddiadau perfformiad heb ddigon o fanylion.
· Mae trefniadau monitro cyllideb corfforaethol cadarn wedi helpu i reoli gorwariant Gwasanaethau Cymunedol ond mae cwmpas a ffocws cynllunio ariannol yn rhy fyr-dymor.
Cadarnhaodd cynrychiolydd Archwilio Cymru y dynodwyd un cynnig ar gyfer gwella, sef ‘i gryfhau ei gydnerthedd, dylai Gwasanaethau Cymunedol sicrhau fod dysgu ac arfer da sy’n bodoli o fewn ei wahanol feysydd gwasanaeth yn cael ei rannu ledled y gyfarwyddiaeth. Dylai’r Cyngor hefyd ystyried os byddai’n cael budd o rannu enghreifftiau yn fwy eang gan y Cyngor.’
Diolchodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol i Archwilio Cymru am eu cefnogaeth drwy gydol y broses adolygu. Yn nhermau’r un cynnig ar gyfer gwella, teimlai fod hyn yn rhywbeth cadarnhaol ac yn fwy o ddathliad o lwyddiannau’r Adran ac y dylai’r neges hon gael ei throsglwyddo i elfennau eraill o’r Cyngor. Dywedodd hefyd y cynhaliwyd yr adolygiad yn ystod y 18 mis diwethaf drwy bandemig Covid pan oedd gwasanaethau rheng flaen dan bwysau enfawr.
Aeth wedyn yn fanwl drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Yn nhermau’r ymateb rheolaeth i’r cynnig ar gyfer gwella, h.y. sicrhau y caiff dysgu ac arfer da eu rhannu ledled yr Awdurdod, cadarnhaodd y byddai’r Tîm Gwastraff yn gwneud cyflwyniadau yn ehangach i grwpiau amgylchedd a’r Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol. Cynigiwyd hefyd gyflwyno’r model cynhyrchu incwm gwasanaethau technegol i’r gynulleidfa ehangach maes o law. Dilynir hyn gyda chynlluniau busnes ac adroddiadau perfformiad i’r Pwyllgorau perthnasol.
Dywedodd Aelod y dylai’r Cyngor ystyried sefydlu cronfa wrth gefn i ymateb i bwysau annisgwyl, a gofynnodd os oedd unrhyw awdurdodau lleol yn dilyn y dull gweithredu yma.
Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru na wyddai am unrhyw awdurdodau lleol eraill oedd yn dilyn y dull gweithredu yma, ond dywedodd na fyddai pob Cyngor yn destun yr un lefel o orwariant â Blaenau Gwent ac y byddai ffactorau cyfrannu fel y tywydd a phroblemau tipio anghyfreithlon yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Perfformiad Gwastraff ac Ailgylchu 2020-21 PDF 789 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar ddeilliannau perfformiad gwastraff ac ailgylchu ar gyfer 2020-21.
Mae crynodeb o’r data perfformiad yn Atodiad 1 a dywedodd y Swyddog fod y Cyngor wedi rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth o 58% a 64% yn y ddwy flynedd flaenorol. Cadwyd y llwyddiant hwn yn 2021 ac roedd y Cyngor wedi rhagori ar y targed drwy gyrraedd 64.29%. Cydnabu y cyflawnwyd hyn drwy waith caled y Tîm Gwastraff, yn gweithio gyda phartneriaid yn WRAP, a hefyd Dîm Cyfathrebu, Perfformiad ac Uwch Reoli y Cyngor; ond yn bwysicaf oll breswylwyr Blaenau Gwent yn yr hyn a fu’n flwyddyn anodd iawn. Drwy flaenoriaethu gofalus a chyswllt gyda’n gweithlu, dywedodd y gallodd y Cyngor gynnal yr holl gasgliadau gwastraff ac ailgylchu drwy gydol pandemig Covid.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau ynddo.
Gofynnodd Aelod os y byddai cyfraddau ailgylchu yn cynyddu pe byddai’r Cyngor yn gostwng nifer y mannau casglu cymunol ledled y Fwrdeistref. Teimlai ei bod yn annheg y disgwylir i fwyafrif preswylwyr gydymffurfio gyda nifer y bagiau sbwriel y gallent eu rhoi allan, ond bod preswylwyr mewn ardaloedd casglu cymunol yn medru gadael cymaint ag yr hoffent. Gofynnodd hefyd os caiff tipio anghyfreithlon a gasglwyd o stadau Tai Calon ei gynnwys yn ffigurau’r Cyngor.
Yng nghyswllt mannau casglu cymunol y Cyngor dywedodd y gwnaed peth cynnydd lle’n bosibl; fodd bynnag roedd y Cyngor yn methu symud rhai mannau casglu oherwydd cyfyngiadau iechyd a diogelwch.
Yng nghyswllt tipio anghyfreithlon ar stadau Tai Calon, dywedodd Arweinydd Tîm Diogelu’r Amgylchedd mai’r tirfeddianwr sy’n gyfrifol am symud gwastraff a adewir ar dir preifat. Deallai fod gan Tai Calon eu tîm glanhau eu hunain felly ni fyddai unrhyw dipio anghyfreithlon a symudent yn cael ei gynnwys yn ffigurau’r Cyngor.
Cadarnhaodd hefyd y sefydlwyd tîm newydd i edrych ar fannau casglu answyddogol sy’n achosi problemau sylweddol. Pan fyddai’r gwaith hwn wedi ei ddatrys, y bwriad yw wedyn edrych ar fannau casglu swyddogol i sicrhau fod pawb yn cydymffurfio gyda’r rheolau.
Canmolodd Aelod y Tîm Gwastraff ac Ailgylchu am eu gwaith mewn blwyddyn heriol iawn. Gofynnodd os oedd cynllun wrth gefn yn ei le pe byddai prinder tanwydd, diffyg gyrwyr HGV a salwch staff. Cyfeiriodd hefyd at y ffigurau ar gyfer compostio ailgylchu a dywedodd ei bod yn annheg cymharu Blaenau Gwent gydag awdurdodau lleol gwledig ac y dylai Llywodraeth Cymru ystyried dull tecach ar gyfer yr elfen hon o ailgylchu.
Mynegodd yr Aelod hefyd bryder am y cynnydd mewn gwastraff gweddilliol ac os oedd hyn oherwydd newid arferion a phreswylwyr yn cymysgu eu gwastraff gweddilliol gydag ailgylchu. Gofynnodd hefyd os yw’r dull ‘apwyntiad yn unig’ yn ein Canolfannau Ailgylchu yn ffactor sy’n cyfrannu a ph’un ai a fwriedir dychwelyd i system dim apwyntiad yn dilyn Covid.
Mewn ymateb i sylwadau’r Aelod am gynllun wrth gefn, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth i’r Cyngor dderbyn dosbarthiad tanwydd yr wythnos ddiwethaf a fyddai’n parhau 3 wythnos ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Adroddiad Perfformiad Gwasanaethau Cymunedol 2020/21 PDF 504 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar ddeilliannau perfformiad Gwasanaethau Cymunedol dros gyfnod 2020/21, yn cynnwys y meysydd gwasanaeth allweddol: · Gwasanaethau Seilwaith · Gwasanaethau Cymdogaeth; a · Gwasanaethau Eiddo
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Aelod am yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael o fewn yr Adran i gynnal archwiliadau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod lefel yr adnoddau yn her gan fod y gwasanaeth yn brysur tu hwnt. Dywedodd y byddai Aelodau yn gwybod am y cyfyngiadau cyllid yn y sector cyhoeddus dros nifer o flynyddoedd, gyda disgwyl i’r sector cyhoeddus wneud mwy o waith gyda’r un lefel o adnoddau. Fodd bynnag, cadarnhaodd y caiff llwythi gwaith eu blaenoriaethu’n ofalus a bod cyfleoedd cyllido yn cael eu hymchwilio lle bynnag sy’n bosibl am swyddi, a hefyd brentisiaid. Cadarnhaodd y byddai pwysau yn parhau i gael eu monitro i sicrhau adnoddau digonol.
Dywedodd Aelod y dylid rhoi ystyriaeth i ailddechrau gwasanaeth llocio. Mynegodd bryder hefyd am faint o dipio anghyfreithlon sy’n mynd rhagddo yn y Fwrdeistref.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol bod y Cyngor blaenorol wedi penderfynu dod â’r gwasanaeth llocio i ben.Fodd bynnag, pe byddai Aelodau yn teimlo fod problem anifeiliaid crwydrol yn ddigon sylweddol i haeddu ailddechrau’r gwasanaeth, y byddai hynny’n mynd drwy’r broses adolygu briodol.
Yng nghyswllt pryderon am dipio anghyfreithlon, dywedodd i’r Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon gael ei mabwysiadu tua chwe mis yn ôl a gobeithio y gwelir gwelliannau dros y misoedd nesaf.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan Aelod am Heol Aber-bîg a’r Bwa Mawr, dywedodd y Swyddog y gwnaed llawer o waith ar Heol Aber-bîg ac y caiff hynny ei adlewyrchu yn y costau. Byddai’r adran honno o’r ffordd yn parhau i gael ei monitro a sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal astudiaethau dichonolrwydd ar gyfer posibilrwydd gwella’r ffordd yn y tymor hwy. Yng nghyswllt y Bwa Mawr, cadarnhaodd y Swyddog y byddai gwaith yn dechrau yn y dyfodol agos.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).
|
|
Adran 19 Adroddiad Ymchwilio Llifogydd, Llanhiledd PDF 606 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Cyflwynodd y Peiriannydd Adroddiad Ymchwilio Llifogydd Adran 19 ar gyfer Llanhiledd yn dilyn y llifogydd a fu yn Meadow Street a Railway Street yn ystod 15-16 Chwefror 2020. Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad yn fanwl a thynnu sylw at ganfyddiadau allweddol yr adroddiad a fanylir yn adran 2.3 yr adroddiad a’r camau gweithredu allweddol a fanylir yn adran 2.4.
Dywedodd Aelod ei fod yn siomedig fod yr adroddiad ar gael i’r cyhoedd cyn i Aelodau Ward ei weld. Fodd bynnag, diolchodd i holl staff y Cyngor ac asiantaethau eraill oedd wedi gweithio’n ddiflino adeg y llifogydd ac yn y dyddiau a’r wythnosau wedyn. Er bod hwn yn adroddiad cynhwysfawr iawn, dywedodd nad oedd yn adlewyrchu torcalon y preswylwyr yr effeithiwyd arnynt.
Cyfeiriodd wedyn at dudalen 112 yr adroddiad, sef gorsaf bwmpio D?r Cymru a dywedodd y credai y dylai’r ymchwiliad fod wedi ei gynnal gan gorff annibynnol. Dywedodd preswylwyr wrtho fod y pwmp yn ddiffygiol ond pan oeddent wedi ceisio rhoi adroddiad am hynny i D?r Cymru dim ond peiriant ateb oedd ar gael.
Gofynnodd yr Aelod hefyd os oedd y Cyngor wedi cynnal gwiriadau pellach rhwng dyddiad y digwyddiad a 28 Chwefror 2020.
Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Beiriannydd Draeniad Tir y cynhaliwyd arolygon CCTV rai wythnosau ar ôl y digwyddiad ym mis Mawrth. Cadarnhaodd y cynhelir arolygon rheolaidd o gwlfertau, ac yn dibynnu ar y dosbarthiad caiff hyn ei wneud bob 2 wythnos ar gyfer cwlfertau hollbwysig a bob 12 wythnos ar gyfer cwlfertau arwyddocaol.
Dywedodd yr Aelod y byddai llifogydd wedi bod eto ar 28 Chwefror 2020 yn Railway Street onibai am waith Swyddog a ganfu flociad arall rhwng Railway Street a Meadow Street. Dywedodd y bu llifogydd mewn 89 annedd a dylai’r Cyngor ystyried rhoi iawndal i’r preswylwyr hynny y bu’n rhaid iddynt adael eu cartrefi am 10 mis ac y dylid gwneud y broses iawndal mor rhwydd ag sydd modd.
Cyfeiriodd Aelod at adran c ar dudalen 127 yr adroddiad a gofynnodd os y gwnaed unrhyw waith unioni i symud y bibell. Tanlinellodd bwysigrwydd gwneud pob gwaith unioni fel mater o frys i liniaru unrhyw broblemau yn y dyfodol.
Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Beiriannydd Draeniad Tir na fedrid tynnu’r bibell fod bynnag mae ymchwiliadau yn mynd rhagddynt i benderfynu os yw’n bosibl gosod pibell ychwanegol ac ailgyfeirio’r brif ddraen. Cadarnhaodd y sicrhawyd cyllid i wneud gwaith unioni gyda dyddiad cau i wario’r arian erbyn diwedd mis Mawrth 2022, ac mae ymchwiliadau safle yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.
Dilynodd trafodaeth pan esboniodd y Peiriannydd fod yr adroddiad yn dweud ei bod yn debygol fod y cyfnod trwm iawn a hir o lawiad wedi dirlenwi’r tir a bod y 2 flociad a ddynodwyd yn y system ddraeniad wedi cyfrannu at y llifogydd.
Awgrymodd Aelod ddiwygiad i Opsiwn 1, sef bod y cyngor yn cyflwyno cynllun i roi iawndal i breswylwyr yr oedd y llifogydd wedi effeithio arnynt.
Dilynodd trafodaeth pan esboniodd y Swyddog ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Blaenraglen Gwaith: 15 Tachwedd 2021 PDF 399 KB Ystyried yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod sydd i’w gynnal ar 15 Tachwedd 2021.
Gofynnodd Aelod i’r eitemau ychwanegol dilynol gael eu hystyried i’w cynnwys ar y Flaenraglen Gwaith:
· Rhestr lawn o Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol · Adroddiad ar gyflwr systemau draeniad ledled y Fwrdeistref.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn y Flaenraglen Gwaith.
Gadawodd y Cynghorydd S. Healy y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
Adroddiad Perfformiad Silent Valley Waste Services Cyf Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r eitem gael ei heithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra trafodir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar ddeilliannau perfformiad Silent Valley Waste Services Cyf ar gyfer 2020/21.
Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell bod yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch materion busnes/ariannol personau heblaw’r Awdurdod yn cael ei dderbyn a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).
|