Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Llun, 12fed Ebrill, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cydymdeimlad – EUB Y Tywysog Philip, Dug Caeredin

Cofnodion:

Soniodd y Cadeirydd am y newyddion trist am farwolaeth EUB Y Tywysog Philip, Dug Caeredin a cynhaliodd y Pwyllgor funud o dawelwch fel arwydd o barch.

 

2.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

3.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

4.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

5.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 317 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Dalen Weithredu – 1 Mawrth 2021 pdf icon PDF 105 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021.

 

Cyfeiriodd Aelod at drafodaethau yn y rhag-gyfarfod a gofynnodd am nodi ei anghytundeb yng nghyswllt dyfarniad y Cadeirydd am nifer y cwestiynau a ganiateir i Aelodau ar unrhyw un amser.

 

Diweddariad Cynnydd ar Silent Valley

 

Cafwyd trafodaeth fer pan ddywedodd y Swyddog Craffu a Democrataidd fod blaenraglen gwaith yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac y bwriadwyd cyflwyno Adroddiad Cynnydd Silent Valley i gyfarfod cyntaf y cylch newydd ym mis Mehefin.

 

Adolygu Trefniadau gyda Chyngor Sir Powys

 

Yn dilyn cwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Diogelu’r Amgylchedd fod Aelod wedi gofyn am adolygiad o drefniadau’r Cyngor gyda Chyngor Sir Powys yng nghyswllt lles anifeiliaid.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 


7.

Mabwysiadu Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon pdf icon PDF 599 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Strydlun.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Neil Greenhalgh o Red & White Resource i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Strydlun yr adroddiad sy’n ceisio cefnogaeth ar gyfer mabwysiadu Strategaeth Sbwriel a Tipio Anghyfreithlon newydd ar gyfer 2021-2026. Dywedodd mai dim ond un Awdurdod heblaw Blaenau Gwent sydd wedi llunio strategaeth o’r fath hyd yma.

 

Cadarnhaodd y gwnaed cais llwyddiannus i Caru Cymru am £30,000  flwyddyn dros gyfnod o dair blynedd yn dechrau yn 2019/20. Mae cynllun Caru Cymru yn cefnogi prosiectau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol o fewn ardaloedd preswyl drwy ddatblygu buddion i bobl, busnesau a’u cymunedau. Nod y prosiect yw gwella ansawdd yr amgylchedd gyda’r pwyslais ar newid ymddygiad hirdymor yn hytrach na pharhau i ddibynnu ar lanhau yn unig. Mae’r cais am gyllid yn cynnwys penodi Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol (LEQ) a grwpiau, a hefyd gysylltu gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth, addysgu a hyrwyddo materion ansawdd yr amgylchedd lleol o fewn y fwrdeistref. Yn anffodus cafodd y gwaith hwn ei ohirio oherwydd pandemig Covid.

 

Dywedodd y Swyddog y dynodwyd er mwyn i’r Cyngor gael effaith mwy effeithlon a chadarnhaol ar y cynllun y byddai angen strategaeth a pholisïau cefnogi perthnasol i gefnogi rheolaeth y prosiect. Fel canlyniad, mae’r cais am gyllid yn cynnwys penodi Ymgynghorydd LEQ arbenigol i gynnal adolygiad o’r gwasanaeth glanhau strydoedd a llunio Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon Blaenau Gwent. Dechreuwyd ar broses dendro ym mis Tachwedd 2019 a dyfarnwyd y contract i Red & White Resource Ltd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog y cynhaliwyd adolygiad a dadansoddiad trwyadl o’r gwasanaeth glanhau a bod yr adborth o gyfarfodydd rhanddeiliaid a chyfarfodydd wedi galluogi’r ymgynghorydd i ddrafftio Strategaeth Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon annibynnol a gwrthrychol ar gyfer y Cyngor. Fodd bynnag, oherwydd pandemig Covid, ni fedrodd ymweliadau safle ychwanegol a gweithdai dilynol gyda rhanddeiliaid fynd yn eu blaen, ond teimlwyd fod yr wybodaeth a’r data a gafwyd hyd at 20 Mawrth 2021 yn ddigon i gwblhau drafft strategaeth i gael ei mabwysiadu gan y Cyngor.

 

Yn nhermau’r Strategaeth, a roddir yn Atodiad 1, sefydlwyd nifer o amcanion allweddol a fyddai’n cyflawni’r gwelliannau amgylcheddol cydnabyddedig a chaiff y rhain eu hamlygu yn adran 2.3.3 yr adroddiad. Mae’r Strategaeth hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu (Atodiad 2) gyda chamau gweithredu allweddol i’w cynnal yn ystod cyfnod oes 5 mlynedd y Strategaeth ac amserlenni cysylltiedig.

 

Cyfeiriodd Aelod at waith ardderchog Hyrwyddwyr Sbwriel, ond dywedodd y dylai gwneud y proses a weithredir i gofrestru fel hyrwyddwr sbwriel yn haws.

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Tîm Strydlun fod ymhell dros 200 o Hyrwyddwyr Sbwriel wedi cofrestru yn y Fwrdeistref yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor. Ar ôl iddynt gofrestru, gallant roi adroddiad ar eu casgliadau sbwriel drwy’r system ac mae ganddynt hefyd fynediad uniongyrchol i Swyddogion. Fodd bynnag, cytunodd y gellid symleiddio a chydlynu’r broses yn well, ac y byddai hyn yn ffurfio rhan o waith y Swyddog LEQ pan y’i penodir.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at yr amcanion allweddol a fanylir yn adran 2.3.3 yr adroddiad a gofynnodd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.