Agenda and minutes

Arbennig, Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Mawrth, 13eg Hydref, 2020 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

 

Cynghorydd M. Moore

Cynghorydd G. Collier

Cynghorydd L. Parsons

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Adolygiad i Ansawdd Cyflenwad Dŵr mewn Ysgolion pdf icon PDF 417 KB

Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, mae Cadeirydd y Pwyllgor wedi cadarnhau y caiff y mater dilynol gael ei ystyried dan ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

RHESWM AM Y BRYS

 

I’r Pwyllgor ystyried yr adolygiad a gweithredu newidiadau priodol i brosesau monitro.

 

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor y gellid ystyried y mater dilynol dan ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rhoddwyd ystyriaeth ar y cyd i’r adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg.

 

Atgoffodd y Cadeirydd bawb y gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu i’r cyfarfod fel sylwedyddion oherwydd natur drawsbynciol yr adroddiad ac felly yn unol â’r ymgynghoriad ni chaniateid i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu bleidleisio.

 

Mewn ymateb, teimlai Aelod fod y penderfyniad i atal Aelodau’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu rhag medru pleidleisio ar yr adroddiad yn ddehongliad o reolau’r Cyfansoddiad. Credai’r Aelod ei fod yn gyfarwyddyd gan arweinwyr y Cyngor i atal Aelodau rhag pleidleisio.

 

Nododd y Cadeirydd y sylwadau a chynghorodd y dylid codi’r mater gydag arweinwyr y Cyngor.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol mai diben yr adroddiad yw diweddaru Aelodau ar ganlyniad yr adolygiad a gynhaliwyd gan Integrated Water Services (IWS) oherwydd y problemau gydag ansawdd d?r a gafwyd yn ein hysgolion yn ystod cyfnod cau oherwydd COVID-19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Cyngor wedi bod ag agwedd ragweithiol a chynhwysfawr at ailagor ysgolion o safbwynt iechyd a diogelwch, yn cynnwys profi d?r yn unol â’r Cod Ymarfer Cymeradwy (ACOP) L8 a chyngor penodol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae diogelwch plant a staff ar bob safle ysgol yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

 

Cau ysgolion yn ystod y cyfnod clo oedd y cyfnod hiraf erioed i ysgolion fod ar gau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai dim ond am gyfnod o bump i chwe wythnos yn ystod gwyliau’r haf y mae ysgolion ar gau fel arfer. Mae’r cyfnod hwn o gau ysgolion yn ddigynsail a dysgwyd gwersi ar draws nifer o wasanaethau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai cwmni Integrated Water Services (IWS) a benodwyd i gynnal yr adolygiad. Mae cwmpas yr adolygiad yn cynnwys dewis 12 safle ysgol o’r 29 safle ysgol yn y Fwrdeistref. Dywedwyd mai’r ysgolion a ddewiswyd oedd:-

 

1. Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm

2. Ysgol Gynradd Bryn Bach

3. Ysgol Sylfaen Brynmawr

4. Ysgol Canolfan yr Afon

5. Ysgol Gynradd Coed-y-Garn

6. Ysgol Gynradd Ebwy Fawr / Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm

7. Ysgol Uwchradd Ebwy Fawr

8. Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Santes Fair

9. Ysgol Gynradd Sofrydd

10. Ysgol Gyfun Tredegar

11. Ysgol Gynradd Trehelyg

12. Ysgol Gynradd Ystruth

 

Rhoddir manylion crynodeb adolygiad IWS yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad ac amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr argymhellion allweddol a ddynodwyd gan IWS fel sy’n dilyn:-

 

1)       Ymchwilio rhaglen fonitro addas ar-lein ar gyfer monitro legionella er mwyn caniatáu gwybodaeth data i gael ei chadw, cyrchu ac archwilio’n fwy effeithol.

2)       Cynnal hyfforddiant mwy trylwyr ar staff yn ymwneud â rhaglen profion monitro legionella, yn neilltuol ym maes fflysio system dd?r.

3)       Adolygu ein hasesiadau risg legionella i sicrhau eu bod yn ddigon cyfoes i gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth.  ...  view the full Cofnodion text for item 4.