Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Llun, 7fed Rhagfyr, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorwyr M. Moore (Cadeirydd) and M. Cross.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau

 

4.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 307 KB

Cafodd y cofnodion eu diwygio ychydig a’u hailgyflwyno er cymeradwyaeth yn dilyn ystyriaeth o’r cofnodion yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Adfywio ar 21 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol.

 

5.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 246 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 237 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r cofnodion.

 

7.

Dalen Weithredu – 19 Hydref 2020 pdf icon PDF 236 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2020.

 

Eitem Rhif 6 Blaenraglen Gwaith

 

Dywedwyd y dylid newid y dyddiad i ddarllen 1 Mawrth.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

8.

Gorfodaeth Parcio Sifil – Diweddariad Gwasanaeth pdf icon PDF 523 KB

Ystyriaeth adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd Rheolwr Tîm Amgylchedd Adeiledig yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar orfodaeth parcio sifil ers ei gyflwyno yn 2019.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd y cafodd y gwasanaeth ei ohirio am 4 mis rhwng 20 Mawrth a 20 Gorffennaf 2020 oherwydd pandemig Covid, a bod hyn wedi effeithio ar y rhagolwg nifer o hysbysiadau cosbau sefydlog a gyhoeddwyd eleni (amcangyfrifiad o 3,500 y flwyddyn), gyda gostyngiad posibl dros y cyfnod o bedwar mis o tua 1165 hysbysiad. Fodd bynnag, roedd cyfradd casglu hysbysiadau o 88% yn uwch na’r amcangyfrif modelu ariannol. I wrthbwyso yr incwm a gollwyd fel canlyniad i ohirio’r gwasanaeth, derbyniwyd £27k o Gronfa Caledi Covid-19 Llywodraeth Cymru ac mae’r monitro cyllideb diweddaraf yn rhagweld gwarged cyllideb o £4k y flwyddyn ariannol hon. Caiff hyn ei fonitro a’i adolygu o hyn ymlaen.

 

Gofynnodd Aelod os oedd nifer y Swyddogion Gorfodaeth a’r oriau a weithiwyd yn ddigonol i gynnal nifer gofynnol y patrolau.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog fod Swyddogion Gorfodaeth yn ymweld ag ysgolion allweddol a chanol trefi unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Cyfeiriodd at y materion a godwyd yn y sesiwn wybodaeth i Aelodau a gynhaliwyd ym mis Tachwedd, e.e. dyddiau marchnad canol trefi a chadarnhaodd y cafodd y rhain eu hystyried ac y gwneir ymweliadau.

 

Mewn ymateb dywedodd yr Aelod fod problemau ar y rhan fwyaf o ddyddiau, yn neilltuol pobl yn parcio ar balmentydd wrth ymyl peiriannau ATM a theimlai y dylid gwneud patrolau 3 neu 4 tro yr wythnos mewn canol trefi.

 

Dywedodd y Swyddog fod canol trefi yn flaenoriaeth, fodd bynnag byddai patrolau ychwanegol yn effeithio ar adnoddau.

 

Mynegodd Aelod arall bryder am y nifer isel o hysbysiadau a gyhoeddwyd yn Nantyglo a Blaenau o gymharu â’r problemau a geir, a gofynnodd faint o ymweliadau sydd â’r trefi hynny. Mae’n deall ei bod yn anodd dal troseddwyr, yn neilltuol gyda phobl yn rhoi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol pan oedd y Swyddogion Gorfodaeth yn yr ardal.

 

Cytunodd Aelod gyda sylwadau ei gydweithiwr, a dywedodd y dylai’r ffigurau ar gyfer Nantyglo a Blaenau gael eu rhannu rhwng y ddwy dref. Cyfeiriodd hefyd at yr adolygiad o orchmynion traffig sy’n cael eu cynnal a dywedodd er y byddai dileu llinellau melyn yn rhoi mwy o barcio, gallai hefyd achosi problemau ar gyfer llwybrau bysus ac yn y blaen, a gofynnodd os yw’r Swyddogion Gorfodaeth yn monitro hyn.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog ei bod yn anodd plismona, yn neilltuol gyda defnydd cyfryngau cymdeithasol, ond cadarnhaodd y gwneir ymweliadau i Nantyglo a Blaenau, er nid cymaint â chanol y trefi mwy. Roedd yn gwybod am y problemau yn Stryd Fawr Blaenau a chadarnhaodd y gellid cynnal patrolau mwy rheolaidd. Yng nghyswllt yr adolygiad o orchymyn traffig, mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Dywedodd y Swyddog hefyd y bydda’n rhoi dadansoddiad o’r hysbysiadau cosb sefydlog ar wahân ar gyfer Nantyglo a Blaenau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Ucheldir Cydnerth De Ddwyrain Cymru – Cynllun Rheoli Cynaliadwy Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru pdf icon PDF 563 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Mr Nicholas Alvin, y Swyddog Prosiect, ei groesawu i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd Arweinydd Tîm Amgylchedd Naturiol yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i Aelodau ar brosiect rhanbarthol cyfredol Ucheldir Cydnerth De Ddwyrain Cymru (SEWRU) a gwaith y Cyngor yn cefnogi cyflwyno’r prosiect 3-blynedd (2018-2021).

 

Mae SEWRU yn brosiect ar y cyd, yn cynnwys Cynghorau Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaethau Heddlu, Tân ac Achub, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. CBS Torfaen yw arweinydd y prosiect a ffocws SEWRU yw cyflawni camau gweithredu blaenoriaeth o’r Cynllun Rheoli Adnoddau Naturiol ar gyfer Ucheldiroedd De Ddwyrain Cymru a gynhyrchwyd yn 2015 a enillodd wobr y Sefydliad Tirlun. Atodir cynlluniau cyflenwi manwl yn Atodiad 2.

 

Dywedodd y Swyddog fod y prosiect hyd yma wedi dynodi a chwblhau nifer o brosiectau adfer tir mawn, wedi cynhyrchu cynlluniau rheoli tir comin (yn cynnwys cynllun rheoli cyrchfan manwl ar gyfer Mynydd Llanhiledd), wedi adfer llawer o gilometrau o ffensys da byw comin, a rheoli rhostir ucheldir pwysig i ostwng risg tân a hwyluso porthi cadwraeth. Mae SEWRU yn gweithio ar hyn o bryd gyda Heddlu Gwent a phartneriaid eraill i ddiweddaru’r Cynllun Rheolaeth a chynhyrchu cynlluniau rheoli troseddau tirlun gyda ffocws ar ucheldir ar gyfer pob comin o fewn y prosiect.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad a gofynnodd os yw Manmoel yn cael ei gynnwys yn y cynllun rheolaeth tir comin. Mynegodd bryder am broblemau parhaus cerbydau all-ffordd yn defnyddio’r comin i fynd i drac beiciau anghyfreithiol, a’r effaith niweidiol ar y tirlun gwarchodedig.

 

Dywedodd y Swyddog ei fod yn gwybod am broblemau gyda cherbydau all-ffordd a’r trac beiciau a oedd  ar dir preifat tu allan i’r comin. Gwnaed gwaith i geisio sicrhau nad oedd y cerbydau’n mynd ar y comin, ond yn anffodus maent yn parhau i ganfod ffyrdd i fynd trwodd. Gan fod y ffordd i bentref Manmoel ar agor i’r cyhoedd ei defnyddio roedd felly’n anodd ceisio gostwng eu gweithgaredd, gan y gallent ddefnyddio’r ffordd i gyrraedd y trac beiciau, ac mae cyfreithlondeb hynny yn cael ei gwestiynu.

 

Esboniodd Mr. Alvin fod y trefniadau cyllid yn seiliedig ar dir comin uwch na 200m, felly yn hytrach na wardiau gwledig cafodd y cyllid ei dargedu ar ardaloedd ucheldir hanfodol Gwent sydd wedi cofrestru fel tir comin ac ardaloedd ymylol o’u hamgylch, yn cynnwys Manmoel.

 

Diolchodd y Cynghorydd Lee Parsons i’r Cadeirydd am estyn gwahoddiad i’r cyfarfod a dywedodd ei fod yn croesawu’r adroddiad. Gofynnodd os oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw awgrym am gynigion ar gyfer fferm wynt ym Mynydd Llanhiledd.

 

Mewn ymateb dywedodd Mr. Alvin na ymgynghorwyd ag ef ar unrhyw gynigion hyd yma, fodd bynnag ni fyddai’n effeithio ar yr hyn mae SEWRU yn ceisio ei wneud, e.e. datblygu cynlluniau rheoli tirlun ar gyfer pob tir comin, yn cynnwys Mynydd Llanhiledd.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Amgylchedd Naturiol y cynhelir asesiad effaith gweledol tirlun ar unrhyw gynigion ar fferm wynt. Roedd ynni adnewyddadwy yn fater pwysig i Lywodraeth  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Gweithgareddau – Gorfodaeth Gorchmynion Sbwriel a Rheoli Cŵn am Flwyddyn Ariannol 2019/20 pdf icon PDF 681 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm, Diogelu’r Amgylchedd..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Diogelu’r Amgylchedd yr adroddiad sy’n diweddaru Aelodau ar gynnydd y cynllun gorfodaeth Gorchmynion Sbwriel a Rheoli C?n a fu’n gweithredu yn y Fwrdeistref ers mis Hydref 2011, a rhoddodd fanylion canlyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Yn ystod 2018/19, roedd CBS Blaenau Gwent yn un o’r awdurdodau lleol oedd yn perfformio orau yng Nghymru am gyhoeddi hysbysiadau cosb sefydlog Sbwriel a Rheoli C?n, fodd bynnag ni chafodd y ffigurau cenedlaethol ar gyfer 2019/20 eu cyhoeddi hyd yma.

 

Dywedodd y Swyddog fod pryder dechreuol yn nhrydydd chwarter 2019/20 am gost net diwedd y flwyddyn gwasanaeth yn deillio o fonitro ariannol parhaus, ac fel canlyniad cafodd y cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer 2020/21 ei ailnegodi gyda LA Support Limited. Mae’r cytundeb lefel gwasanaeth newydd yn rhoi gwarant o wasanaeth dim cost i’r awdurdod lleol gyda LA Support Limited yn awr yn cefnogi’r holl incwm a geir o’r dirwyon a godir a heb fod yn codi’r awdurdod lleol am unrhyw gostau staff.

 

Cadarnhaodd y Swyddog y cafodd y gwasanaeth ei ohirio ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig Covid a’r angen i ostwng cyswllt rhwng pobl. Roedd y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n barhaus a rhagwelwyd y caiff y gwasanaeth ei adfer pan gaiff cyfyngiadau cyfreithiol a iechyd cyhoeddus eu llacio i alluogi’r gwasanaeth i ddychwelyd mewn ffurf hyfyw.

 

Mynegodd Aelod gonsyrn fod faint o faw c?n sydd o gwmpas wedi cynyddu yn ystod y cyfnod clo, gyda mwy o bobl yn cerdded eu c?n, a dywedodd y byddai angen mwy o batrolau pan fydd y gwasanaeth yn ailddechrau.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog y sylweddolir y bu cynnydd mewn perchnogaeth c?n yn ystod y pandemig Covid. Dywedodd fod nifer y cwynion a dderbyniwyd am faw c?n wedi gostwng yn sylweddol yn ystod 2019/20 ac mae ar yr isaf ers y dechreuodd gorfodaeth. Gwnaed cynnydd mewn herio’r broblem, ond yn anffodus ni chynhaliwyd patrolau ers mis Mawrth felly yn anochel roedd y broblem wedi cynyddu.

 

Awgrymodd Aelod y dylid cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i gyfnerthu’r risg i iechyd cyhoeddus, a’i bod yn drosedd i beidio glanhau ar ôl eich ci. Dywedodd y Swyddog y byddai’n cydlynu gyda Cyfathrebu.

 

Cyfeiriodd Aelod at y trefniadau newydd am y cytundeb lefel gwasanaeth newydd a chadarnhaodd y Swyddog y byddai egwyddorion y cytundeb yn parhau i gael ei monitro. Roedd ganddo berthynas waith dda iawn gyda’r cwmni ac mae’n rhoi sefydlogrwydd o ran Swyddogion profiadol yn gweithio yn y Fwrdeistref.

 

Dywedodd Aelod fod nifer yr hysbysiadau cosb sefydlog am faw c?n yn isel iawn o gymharu gyda hysbysiadau am droseddau sbwriel, ac awgrymwyd fod hyn oherwydd amseriad patrolau. Teimlai y byddai patrolau yn gynnar yn y bore a thua 6 p.m. yn fwyaf cynhyrchiol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog y caiff patrolau rheolaidd eu cynnal mewn ardaloedd lle gwyddys fod problem a phatrolau wedi targedu’n fwy yn seiliedig ar wybodaeth a dderbyniwyd, ond mae’n anodd iawn plismona’r troseddau. Dywedodd fod mwyafrif  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 396 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd y cafodd y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol y bwriedid ei gynnal ar 18 Ionawr 2021 ei GANSLO.

 

Gofynnodd Aelod am adroddiad ar ddefnydd ymgynghorwyr ar draws y portffolio i gynnwys dadansoddiad o’r costau a’r deilliannau dros y 2 flynedd ddiwethaf.

 

Gofynnodd hefyd am adroddiad ar gasglu ailgylchu o lonydd cefn, yn arbennig ddefnyddio’r cerbydau newydd, i gynnwys y rheswm am beidio symud ymlaen gyda mannau casglu cymunol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth fod y ddau fater hyn yn rhan o’r gwaith optimeiddio llwybrau sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a dywedodd y byddai’n rhoi diweddariad ar y gwaith.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan ddywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Technegol y byddai’n rhoi adolygiad o drefniadau gweithredol dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

12.

Diweddariad ar Gapasiti Claddu Mynwentydd

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd yr adroddiad sy’n diweddaru Aelodau ar y capasiti presennol ar gyfer claddedigaethau yn holl fynwentydd Blaenau Gwent a rhoddodd wybodaeth ar y cynnydd a wnaed i drin y materion a godwyd gan ystyried yr adroddwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror.

 

Cyfeiriodd Aelod at drafodaethau diweddar yn y Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) yng nghyswllt arian cyfalaf a ddynodwyd i wneud gwelliannau i fynwentydd y Fwrdeistref, a cheisio sicrwydd na fyddai’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynigion a nodir yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm Golwg Strydoedd sicrwydd y byddai’r arian cyfalaf y cyfeiriodd yr Aelod atynt yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwelliannau seilwaith ym mynwentydd y Fwrdeistref.

 

Dilynodd trafodaeth pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelodau yng nghyswllt caffael tir posibl.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gofynion cyllido a amlygir yn adran 5.2.1 yr adroddiad a gofynnodd pam fod y ffigur ar gyfer 2021/22 wedi cynyddu o’r adroddiad blaenorol a gyflwynwyd ym mis Chwefror.

 

Mewn ymateb esboniodd yr Arweinydd Tîm Stadau a Phrisiant fod hyn yn ymwneud â Gorchmynion Prynu Gorfodol posibl. Mae Atodiad 1 yn rhoi dadansoddiad o’r costau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a bod Aelodau’n cefnogi’r dilynol:

 

·         Penodi cyngor cyfreithiol allanol i roi’r wybodaeth gyfreithiol angenrheidiol i symud ymlaen gyda chaffael tir.

·         Cefnogi defnydd pwerau Gorchmynion Prynu Gorfodol i brynu tir fel sydd angen yn seiliedig ar y cyngor cyfreithiol a roddwyd.

·         Gwneud cais i raglen cyfalaf y Cyngor am gyllid i gefnogi costau prynu tir a’r gwaith seilwaith mynwentydd sydd ei angen dros y tair blynedd nesaf 2021/22, 2022/23 a 2023/24.