Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Llun, 19eg Hydref, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Richard Crook, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol (busnes arall y Cyngor).

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 307 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 21 Medi.

 

Cyfeiriodd Aelod at eitem 7 ar dudalen 10 y cofnodion, sef sylw gan Aelod fod cyflwyno’r system newydd yn 2015 wedi bod yn llwyddiannus a dywedodd nad oedd yn cytuno gyda’r datganiad. Yn ei farn ef, roedd y cynllun newydd yn fethiant llwyr pan gafodd ei gyflwyno gyda phroblemau ar draws y Fwrdeistref, ac y cafodd y cynllun ei orfodi ar yr awdurdod lleol heb unrhyw amser i gynnal cynllun peilot. Fel canlyniad, ni fedrai gefnogi cymeradwyo’r cofnodion gyda’r sylw hwnnw ynddynt.

 

Dywedodd y Swyddog/Ymgynghorydd Craffu y byddai’n ceisio cyngor ar y mater.

 

Wedyn cyfeiriodd Aelod arall at y paragraff nesaf, sef y cwestiwn os yw’r gwastraff gwyrdd yn cynnwys darparwyr tai cymdeithasol y Fwrdeistref, a dywedodd na chafodd ymateb ei adrodd.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei rhoi.

 

Yn dilyn trafodaeth fer;

 

CYTUNODD y Pwyllgor i OHIRIO cymeradwyo’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 21 Medi 2020

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020.

 

6.

Blaenraglen Gwaith: 7 Rhagfyr 2020 pdf icon PDF 396 KB

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 7 Rhagfyr 2020.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn deall o drafodaethau blaenorol y cytunwyd y cyflwynir adroddiad ar anifeiliaid yn crwydro i’r cyfarfod nesaf.

 

Cadarnhaodd y Swyddog/Ymgynghorydd Craffu y derbyniwyd cais am adroddiad a dywedodd y byddai’n trafod gyda’r Swyddog perthnasol.

 

Dywedodd Aelod ef y deallai y cytunwyd cwrdd ddwywaith y flwyddyn gyda ffermwyr i drafod problemau, ac awgrymodd y dylid gofyn am ddiweddariad gan y ffermwyr o ran pa fesurau sydd ganddynt ar waith, cyn cyflwyno adroddiad.

 

Mewn ymateb esboniodd y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd y cytunwyd cwrdd yn unigol gyda ffermwyr lleol i drafod materion, yn hytrach na gyda’i gilydd, ac mae hyn wedi dechrau. Mae gan C2BG hefyd restr o ffermwyr i gysylltu â nhw pan geir adroddiadau am anifeiliaid yn crwydro. Yn nhermau’r adroddiad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu, deallai fod hyn yn ymwneud â phori anghyfreithlon fodd bynnag os oes angen adroddiad ehangach.

 

Cyfeiriodd Aelodau at yr adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu yr wythnos yn flaenorol parthed yr Adolygiad o Ansawdd Cyflenwi D?r yng Nghymru, lle cynigiwyd bod y Cynllun Gweithredu a fanylir yn yr Atodiad yn weithredol i holl adeiladau’r Cyngor. Gofynnodd os caiff hyn ei gynnwys ym Mlaenraglen Gwaith y Pwyllgor.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Cadeirydd y disgwylir penderfyniad Gweithredol ar yr adroddiad.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r adroddiad.

 

7.

Blaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem (2019-22) Adroddiad Blynyddol 2019/20 pdf icon PDF 555 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Amgylchedd Naturiol yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar sut mae’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Er mwyn cydymffurfio gyda’r Ddeddf, fe wnaeth y Cyngor fabwysiadu Blaenraglen Gwaith Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystem (Atodiad 1) ac mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o gynnydd blynyddol ar y Cynllun.

 

Dywedodd y Swyddog mai’r dulliau cyflenwi ar gyfer y Cynllun oedd Cynlluniau Gweithredu Maes Gwasanaeth, y rhwydwaith Hyrwyddwyr yr Amgylchedd a chyngor gan y Tîm Amgylchedd Naturiol. Cafodd cynnydd yn 2019/20 yn ôl maes gwasanaeth ar y dulliau cyflenwi a’r cynllun gweithgaredd ar gyfer 2020/21 ei ddangos yn Atodiad 2.

 

Cadarnhaodd y cynhaliwyd 4 cyfarfod chwarterol o Hyrwyddwyr yr Amgylchedd, gyda deg hyrwyddwr yn y rhwydwaith yn cynrychioli pob maes gwasanaeth a Chynghorwyr. Y Cynghorydd Lee Parsons yw Aelod-Hyrwyddwr y Cyngor.

 

Yn nhermau adolygiad y cynnydd, ni chafodd y Blaengynllun (2019-22) ei newid, fodd bynnag gwnaed mân newidiadau yn gywir i adlewyrchu’r strwythur maes gwasanaeth, gan gydnabod fod Datblygu Sefydliadol yn eistedd o fewn Gwasanaethau Masnachol.

 

Gofynnodd Aelod os oedd y cyllid sydd yn ei le ar hyn o bryd yn ddigon i barhau i ddatblygu’r Cynllun.

 

Dywedodd y Swyddog ei fod yn hyderus, drwy gydweithio gydag Awdurdodau cyfagos, y byddai cyllid yn parhau i gael ei sicrhau. Roedd yn falch i ddweud y cafodd cyllid ei sicrhau’n ddiweddar drwy Gwent Gydnerth i ddod ag adnoddau ychwanegol oedd wedi galluogi recriwtio Swyddog Newid Ymddygiad, ar y cyd gyda Chyngor Sir Fynwy i gefnogi’r Tîm, a hefyd penodwyd Cydlynydd Partneriaeth Natur Lleol ym mis Chwefror sy’n gwneud cynnydd rhagorol. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â meysydd problem a newid y ffordd y gwnawn bethau er mwyn gwella bioamrywiaeth. Dywedodd hefyd fod Ecolegydd y Cyngor wedi symud ymlaen, fodd bynnag gwnaed apwyntiad arall yn fewnol ac yn mynd rhagddo’n dda.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y cynllun ailgylchu pecynnau creision a gofynnodd os y gallai Swyddogion edrych ar opsiynau i ymestyn hyn fel ffordd o ostwng gwastraff bag du.

 

Dywedodd Arweinydd Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth fod nifer o safleoedd o fewn y Fwrdeistref yn derbyn pecynnau creision gwag, a dywedodd y byddai’n ystyried opsiynau.

 

Cyfeiriodd Aelod hefyd at brosiect ‘eco friciau’ mewn ysgol gynradd leol a gofynnodd am roi ystyriaeth i ymestyn y cynllun hwn ymhellach.

 

Dywedodd Arweinydd Tîm Amgylchedd Naturiol fod hyn yn enghraifft ardderchog o ailgylchu’r deunyddiau a ddefnyddiwn bob dydd a gwneud defnydd da ohonynt, a byddai’n awyddus i dyfu’r cynllun hwn drwy’r rhaglen ysgolion.

 

Cyfeiriodd Aelod at ardaloedd glas o fewn ardaloedd preswyl a neilltuwyd ar gyfer bioamrywiaeth, a dywedodd y dylai’r ardaloedd hyn gael eu dynodi’n gliriach.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog y sicrhawyd cyllid drwy gyllid Partneriaeth Natur Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu technoleg gwybodaeth a hyfforddiant a fyddai’n helpu i fapio’r ardaloedd hyn. Cadarnhaodd y byddai ardaloedd glas a gaiff ei defnyddio’n ffurfiol ar gyfer gweithgareddau hamdden ac yn y blaen yn parhau i gael eu torri  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cynllun Rheoli Risg Llifogydd (2016-2022) pdf icon PDF 689 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd Uwch Beiriannydd Draeniad Tir yr adroddiad sy’n diweddaru Aelodau ar gynnydd ar gyflenwi Cynllun Rheoli Llifogydd 2016-2022 y Cyngor a rhoddodd grynodeb o’r cynnydd a wnaed ar yr amcanion a mesurau ers i Lywodraeth Cymru ei fabwysiadu a’i gymeradwyo yn 2016. Mae’r Cynllun yn rhoi sylw i beryglon a risg llifogydd ac yn gosod sut y byddai’r Awdurdod yn gweithio gyda phartïon eraill a chymunedau lleol i reoli’r risgiau.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd, oherwydd y stormydd difrifol a gafwyd ar ddiwedd y flwyddyn a dechrau 2020, bod y Cyngor wedi methu cwblhau cynllun y disgwylid fyddai’n costio £40,000, gyda gwerth grant o £34,000. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y gellir cario’r arian hwn drosodd i gyllideb 2020-2021.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr atgyweiriadau sydd eu hangen yn dilyn Storm Dennis, yn neilltuol yr atgyweiriadau sydd eu hangen ar lan yr Afon Ebwy Fach ym Mharc Dyffryn, a gofynnodd faint o’r atgyweiriadau oedd wedi eu gorffen.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd y sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud y gwaith atgyweirio. Sefydlwyd rhaglen o waith a chadarnhaodd y Swyddog ei fod yn cynnwys glannau’r Ebwy Fach.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod nifer o ddigwyddiadau o lifogydd yn ddiweddar, sydd yn anodd tu hwnt i breswylwyr, a dywedodd y byddai’n fanteisiol i Aelodau gael gwybodaeth ar ba waith sy’n cael ei wneud.

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y byddai’n rhoi rhestr o’r gweithiau i Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cynllun plannu coed ym Mharc Bryn Bach a gofynnodd os oedd unrhyw safleoedd eraill yn y Fwrdeistref wedi eu clustnodi ar gyfer plannu coed.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Amgylchedd Naturiol nad oedd yn rhwydd canfod rhannau mawr o dir o fewn y Fwrdeistref yn addas ar gyfer plannu coed. Caiff plannu coed ei gynnwys yn ein rhaglen ar gyfer gwella, ac mae safleoedd posibl bob amser yn cael eu hymchwilio, fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cynnal ein stoc presennol. Cadarnhaodd y Swyddog fod gwaith hefyd yn cael ei wneud gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gomisiynu Strategaeth Seilwaith Gwyrdd.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 4.7 yr adroddiad, sef glanhau sbwriel o afonydd, a dywedodd yr ymddangosai fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwthio cyfrifoldeb am lanhau afonydd, os nad oes bygythiad ar unwaith o lifogydd, i’r Cyngor neu wirfoddolwyr yn y gymuned.

 

Mewn ymateb esboniodd yr Uwch Beiriannydd mai’r gyfraith bresennol yw mai perchennog y tir sy’n gyfrifol am gynnal a chadw y darn o afon sy’n mynd drwy eu tir, os nad oes gwybodaeth i ddweud yn wahanol. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb am ddiogelu llifogydd, a byddai’n rhoi amddiffynfeydd llifogydd ar yr afon  i ddiogelu cymunedau, ond yn nhermau cynnal a chadw h.y. glanhau/symud sbwriel, cyfrifoldeb perchennog y tir yw hyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am Adran 4.5 yr adroddiad, esboniodd y Swyddog mai’r cynllun y cyfeiriwyd ato oedd y brif Afon Ebwy yn ymyl cae rygbi  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cynigion Depot Newydd y Cyngor

Ystyried aedroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Golwg Strydoedd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd yn gysylltiedig â datblygu Depot Cyngor newydd a chynigiodd safleoedd addas i gael eu hymchwelo fel rhan o’r cam nesaf, datblygu Achos Busnes Amlinellol.

 

Aeth y Swyddog wedyn drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Cadarnhaodd fod gwaith ar nifer o weithgareddau wedi mynd rhagddo i gadarnhau’r gofynion ar gyfer depot newydd, sy’n cynnwys ymchwilio unrhyw enghreifftiau diweddar o gynghorau eraill yn adleoli ac adeiladu depot newydd, ac ymchwilio unrhyw gyfleoedd tebygol ar gyfer cydweithio. Wedyn cyfeiriodd Aelodau at yr opsiynau yn yr argymhelliad, sef Adran 3.3 sy’n amlinellu’r opsiwn a ffefrir gan y Gweithgor Swyddogion.

 

Dilynodd trafodaeth pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelodau yng nghyswllt safleoedd eraill posibl, cerbydau trydan a’r seilwaith sydd ei angen, a hyfywedd ariannol y cynnig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y Depot Canolog presennol, cadarnhaodd y Swyddog y byddai safle newydd yn rhoi cyfle i ehangu ar gyfer unrhyw drefniadau cydweithio yn y dyfodol. Cadarnhaodd y byddai’r Gweithgor Swyddogion yn ystyried holl sylwadau’r Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol/busnes personau heblaw’r Awdurdod a;

      i.        Chymeradwyo un o’r pedwar safle a ddynodir yn Adran 3.2 yr adroddiad i symud ymlaen i gam cynllunio busnes.

    ii.        Comisiynu WRAP i gynnal y cam cynllunio busnes ar gyfer y safle a ddewiswyd; a

   iii.        Chyflwyno adroddiad pellach i gael ei ystyried ar ganlyniadau’r cynllun busnes.