Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 7788
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael os gofynnir am hynny. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau ar gyfer y Cynghorwyr C. Meredith a B. Summers.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 239 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 12 Medi 2019.
(Dylid nodi y cyflwynir cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 12 Medi 2019.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau'r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu - 12 Medi 2019 PDF 277 KB Derbyn y ddalen weithredu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 12 Medi 2019, yn cynnwys:
Polisi Gorfodaeth Parcio Sifil (Cerbydau a Adawyd)
Diolchodd Aelod i'r Swyddogion am eu hymateb yn y mater hwn. Cyfeiriodd at y broses ar gyfer delio gyda cherbydau a adawyd ar dir y mae'r Cyngor yn berchen arno, a mynegodd bryder y bu hon yn broses eithaf maith wrth drin problem yn ei Ward.
Mewn ymateb, esboniodd Arweinydd Tîm Diogelu'r Amgylchedd os amheuir y cafodd cerbyd ei adael, y medrai Swyddogion gael ei symud oddi yno yr un diwrnod ag y rhoddwyd adroddiad amdano, yn neilltuol os oedd yn achosi rhwystr. Yng nghyswllt problem yn y Ward, dywedodd y byddai'n trafod hyn gyda'r Aelod y tu allan i'r cyfarfod.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi'r ddalen weithredu.
|
|
Penderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 184 KB Derbyn Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Weithredu y Pwyllgor Gweithredol yng nghyswllt argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ar 12 Medi 2019. CYTUNODD y Pwyllgor i nodi Dalen Weithredu y Pwyllgor Gweithredol.
|
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy'n cyflwyno'r Achos Busnes Strategol dros ddatblygu ail HWRC yn Roseheyworth.
Aeth drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau erbyn hyn y bu cais y Cyngor am gyllid cyfalaf ar gyfer HWRC newydd yn llwyddiannus gyda dyfarniad llawn o £2.8m ar gyfer y safle. Roedd y Cyngor yn ddiweddar wedi cymeradwyo £520k o'i raglen cyfalaf tuag at y prosiect, a gallai hyn yn awr gael ei ailddyrannu'n ôl i'r gronfa wrth gefn ar gyfer y rhaglen cyfalaf. Mae costau refeniw manwl yn cael eu modelu ar hyn o bryd ar draws nifer o wahanol sefyllfaoedd a rhoddir adroddiad arnynt i'r Pwyllgor Craffu maes o law.
Croesawodd Aelod y cais llwyddiannus am gyllid, ac er bod llawer o waith ar ôl, credai fod hwn yn safle gwirioneddol bwysig ar gyfer cwm Ebwy Fach. Roedd hefyd yn falch gyda chynllun newydd y safle, yn arbennig y cynnig i osod goleuadau traffig ar yr A467.
Dywedodd Aelod arall ei fod hefyd yn croesawu'r cais llwyddiannus am gyllid a gofynnodd os y cynhelir Cydbwyllgor Craffu ar y mater hwn, fel yr oedd Arweinydd y Gr?p Llafur wedi gwneud cais amdano'n flaenorol.
Cyfeiriodd yr Aelod wedyn at adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor yn flaenorol sy'n sôn am oriau agor arfaethedig dau safle HWRC y Fwrdeistref, h.y. y safle presennol yn Waun-y-Pound a'r safle newydd arfaethedig yn Roseheyworth. Mynegodd bryder y byddai'r trefniadau agor a gynigir ar sail ran-amser yn cynyddu problemau tipio anghyfreithlon ar y dyddiau mae'r cyfleusterau ar gau a dywedodd mai dim ond os yw ar agor am 7 diwrnod yr wythnos y gallai gefnogi'r safle newydd.
Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog fod gwahanol drefniadau gweithredu yn cael eu hystyried ar hyn o bryd fel rhan o'r model busnes sy'n cael ei ddatblygu. Fodd bynnag, ni fwriedir ystyried agor am ddim llai na 5 diwrnod.
Canmolodd Aelod y Swyddogion a'r Arweinyddiaeth am sicrhau'r buddsoddiad sylweddol ar gyfer y safle newydd ac anogodd Aelodau i gefnogi'r buddsoddiad. Dywedodd y byddai pob mater arall yng nghyswllt costau refeniw a threfniadau gweithredu yn cael eu hystyried ar ôl gorffen adroddiad pellach mwy manwl.
Mewn ymateb gofynnodd Aelod am i adroddiad gael ei gyflwyno i Gydbwyllgor Craffu i'w ystyried gan bob Aelod a dywedodd y Cadeirydd y byddid yn trafod hyn gyda Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dywedodd Aelod arall ei bod yn llwyr gefnogi'r safle y bu hirymaros amdano, ac y byddai'n cael effaith gadarnhaol ar dipio anghyfreithlon yng Nghwm Ebwy Fach.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a:-
· Bod Aelodau Craffu yn cefnogi'r Achos Busnes Strategol ar gyfer datblygu ail Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ac argymell cymeradwyo'r Achos Busnes Strategol i'r Pwyllgor Gweithredol (Opsiwn 1); a
· Cyflwyno adroddiad pellach i'r Pwyllgor ar y costau refeniw manwl, i gynnwys materion gweithredol.
|
|
Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-25 PDF 733 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.
Cyflwynodd Arweinydd Tîm Gwastraff a Rheolaeth Fflyd yr adroddiad sy'n rhoi copi o'r drafft Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu. Aeth y Swyddog drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.
Cyfeiriodd Aelod at yr Amcanion a amlinellir yn adran 2.8 yr adroddiad, sef Amcan 3, a gofynnodd os yw'n ymarferol gostwng ffioedd gwastraff masnach er mwyn cynyddu ailgylchu.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog y cynhaliwyd adolygiad o'r gwasanaeth gwastraff masnach yn ystod y 6 mis diwethaf ac y cyflwynir adroddiad ar hyn i'r Pwyllgor Craffu ym mis Rhagfyr.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 29 y ddrafft ddogfen (Atodiad 2) a mynegodd bryder mai un o'r amcanion strategol ar gyfer 2020-21 oedd adolygu amlder casgliadau preswyl. Dywedodd y dylid tynnu'r amcan hwn nes gwireddir effaith y HWRC newydd.
Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymunedol mai dim ond canllawiau yw'r cynllun gweithredu a'r amserlenni a amlinellir yn Atodiad 2. Fodd bynnag, er mwyn cyrraedd y targed o 70%, byddai angen ystyried amlder casgliadau preswyl yn y dyfodol ac mae Awdurdodau eraill wedi gweld gwelliannau sylweddol mewn cyfraddau ailgylchu lle gweithredwyd hyn.
Gofynnodd Aelod am i unrhyw newidiadau a gynigir i wasanaethau gael eu hadrodd i'r Pwyllgor Craffu i Aelodau eu hystyried yn llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Gwastraff a Rheolaeth Fflyd y rhoddir adroddiad ar bob cynnig drwy'r broses ddemocrataidd briodol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am fonitro gwybodaeth perfformiad, cadarnhaodd y Swyddog fod Aelodau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd ar berfformiad o fewn Rheolaeth Gwastraff drwy'r broses ddemocrataidd.
Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol, oherwydd yr ansicrwydd wrth symud ymlaen, fod angen i strategaethau fod yn hyblyg, cynaliadwy ac ymarferol, a chynnwys pob egwyddor ymgysylltu. Dywedodd mai un warant oedd y byddai'r agenda o amgylch newid hinsawdd yn ehangu ac mae'r cynllun gweithredu hwn yn anelu darparu'r Cyngor ar gyfer y dyfodol a'n galluogi i gael dulliau digonol yn eu lle i drin heriau'r dyfodol. CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad; a
· Bod y Pwyllgor Craffu yn ystyried y ddrafft Strategaeth Rheolaeth Gwastraff ac Ailgylchu ac yn ei argymell i'r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer cymeradwyaeth (Opsiwn 2); a
· Dod ag unrhyw newidiadau a gynigir i'r gwasanaeth, h.y. casglu gwastraff preswyl, i'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol i gael eu hystyried.
|
|
Ystyried adroddiad Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd.
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd yr adroddiad sy'n rhoi gwybodaeth perfformiad yng nghyswllt gorfodaeth taflu sbwriel a rheoli c?n ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19. Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn am farn Aelodau ar p'un ai i barhau i gontractio'r gwasanaeth mas neu i lunio dull arall, fel rhan o adolygiad ehangach o wasanaethau gorfodaeth rheng flaen.
Aeth y Swyddog wedyn drwy'r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Cyfeiriodd at adran 3.2 yr adroddiad a dywedodd y dylai'r geiriau 'pending a subject to service' gael eu newid i ddarllen 'pending a service review'.
Mynegodd Aelod bryder fod y siartiau a fanylir yn Atodiad 1 yn dangos na chynhaliwyd patrolau mewn rhai ardaloedd a gofynnodd sut mae patrolau'n cael eu rhannu ar draws y Fwrdeistref. Cyfeiriodd hefyd at yr opsiynau ar gyfer argymhelliad a dywedodd y byddai'n cefnogi Opsiwn 1 wrth symud ymlaen.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd y cynhelir patrolau mewn ymateb i geisiadau am gwasanaeth a hefyd batrolau wedi eu trefnu ymlaen llaw, yn arbennig mewn ardaloedd problem a ddynodwyd.
Cyfeiriodd Aelod arall at safle ASDA a dywedodd y Rheolwr Tîm Diogelu'r Amgylchedd ei bod yn debygol y byddai'r safle hwn yn dod dan gylch gorchwyl Nantyglo. Fodd bynnag, ni wneir patrolau yn safle ASDA gan ei fod mewn dwylo preifat a gofynnwyd i'r Cyngor beidio patrolio'r ardal. Dywedodd y Swyddog nad yw'r siartiau'n dangos yr ymdrech a roddir mewn patrolau. Roedd nifer yr hysbysiadau cosb sefydlog a roddir yng Nglynebwy yn uwch oherwydd bod mwy o bobl yn ymweld â'r ardal honno ac nid oedd y nifer isel o hysbysiadau yn Blaenau yn golygu nad oedd patrolau'n cael eu cynnal. Dywedodd y byddai'n debygol y byddai'r Swyddogion Gorfodaeth yn patrolio ardaloedd lle dynodwyd mwy o droseddu.
Gofynnodd Aelod am gynnwys dadansoddiad o'r hysbysiadau cosb sefydlog a roddwyd ar gyfer Cwm, Waunlwyd a Victoria yn yr adroddiad yn y dyfodol.
Wedyn cynigiodd Aelod gefnogi Opsiwn 1 ac eiliwyd hyn.
Mewn pleidlais,
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a bod Aelodau'n cefnogi ymestyn y contract presennol gyda Kingdom am 12 mis pellach (gyda chyfnod rhybudd o fis), nes cynhelir adolygiad o'r gwasanaeth a gwybodaeth am gostau y byddai angen ei fodelu fel rhan o adolygiad ehangach. (Byddai ymestyn y rheolau presennol yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd Caffael Strategol). (Opsiwn 2).
|
|
Blaenraglen Gwaith - 5 Rhagfyr 2019 PDF 398 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i'r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 5 Rhagfyr 2019.
|