Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Iau, 16eg Ionawr, 2020 10.30 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, ac mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y cyd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Cook a G. Paulsen.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem ddilynol:

Eitem Rhif 7 Dynodiad a Datganiad Gwarchodfa Natur Leol.

 

4.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 326 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019.

 

(Dylid nodi y cyflwynir cofnodion ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2020.

 

CYTUNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 259 KB

Derbyn dalen weithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddalen weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019, yn cynnwys:-

 

Pontio’r Bwlch – Gwasanaeth Gwastraff Masnach – Adolygiad Busnes Strategol

 

Cyfeiriodd Aelod at yr ymatebion a restrir yn Atodiad 6 a mynegodd bryderon am nifer yr ymatebion a gafwyd gan Addysg. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymunedol y byddai’n ymchwilio.

 

CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 201 KB

Derbyn Dalen Benderfyniadau'r Pwyllgor Gweithredol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.

 

CYTUNODD y Pwyllgor nod Dalen Benderfyniadau’r Pwyllgor Gweithredol.

 

7.

Dynodiad a Datganiad Gwarchodfa Natur Leol pdf icon PDF 457 KB

Ysytried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, cyflwynodd yr Ecolegydd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer dynodi a datgan pump Gwarchodfa Natur Leol, sef Llynnoedd a Choetir Rhiw Beaufort, Cwm Canolog, Dinas Gerddi, Parc Bryn Bach a Choetiroedd Rhiw Sirhywi.

 

Ar hyn o bryd mae gan Blaenau Gwent saith Gwarchodfa Natur Lleol ddynodedig yn gyfanswm o 120.3 hectar. Mae datgan a dynodiad y safleoedd wedi cyfrannu at Flaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem (2019-22) y Cyngor a ddatblygwyd er mwyn cydymffurfio gyda gofynion Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn croesawu’r adroddiad a’i fod yn cefnogi’r ardaloedd arfaethedig. Fodd bynnag, wrth ddynodi’r ardaloedd hyn, y farn gyhoeddus yw mai’r Cyngor sy’n gyfrifol am gynnal a chadw yn y dyfodol, a gydag adnoddau cyfyngedig mae’r Cyngor yn cael trafferthion i gynnal a chadw hawliau tramwy cyhoeddus ac yn y blaen.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog fod yr ardaloedd o fewn perchnogaeth y Cyngor ac eisoes yn rhan o’n gwaith dydd i ddydd. Mae’r Cyngor eisoes yn gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau cymunedol i gynnal a chadw a gwella’r ardaloedd hyn, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno cael mwy o bobl i gymryd rhan a hyrwyddo materion adfer natur drwy brosiectau cyllid grant, e.e. Gwent Fwyaf Gydnerth.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn llwyr gefnogi’r cynigion ac yn hapus i gefnogi Opsiwn 2.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at Barc Bryn Bach a mynegodd bryder y gall dynodi’r effaith gael effaith niweidiol ar unrhyw gynigion yn y dyfodol a cheisiadau cynllunio dilynol a gyflwynir. Felly cynigiodd ddiwygio’r adroddiad a thynnu Parc Bryn Bach o’r rhestr ar hyn o bryd, nes cynhelir trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Dywedodd y Swyddog fod Parc Bryn Bach eisoes yn ardal SINC felly byddai Gweithdrefn Rheoli Datblygu 14 yn weithredol o ran unrhyw geisiadau cynllunio yn y dyfodol.

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol na fyddai dynodi Gwarchodfa Natur Leol yn atal unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol. Fodd bynnag, byddai gan ddynodiad o’r fath y fantais o wella a diogelu’r ardal, a hefyd yn rhoi cyfleoedd i gael mynediad i adnoddau i gefnogi’r gwaith hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cyllid a sicrhawyd o’r grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant i gyflwyno 12 is-brosiect ar draws y pump ardal awdurdod lleol yng Ngwent Fwyaf a gofynnodd faint a ddyrannwyd i Flaenau Gwent.

 

Cadarnhaodd yr Ecolegydd fod y swm tua £210k ar gyfer  5 ardal awdurdod lleol Gwent Fwyaf. Byddai Blaenau Gwent yn derbyn tua £40k, fodd bynnag roedd yn brosiect hyblyg ac ni chafodd holl gyllideb y prosiect ei ddyrannu eto.

 

Dilynodd trafodaeth am gynnal a chadw pan ddywedodd y Swyddog fod dynodiad Gwarchodfa Natur Leol yn ymwneud â sicrhau diogelu’r ardaloedd hyn. Byddai cynnal a chadw llwybrau ac ati bob amser yn her o ran y gyllideb ond mae yngl?n â blaenoriaethu a gweithio partneriaeth, a gobeithio y gellir cyfeirio cyllid at y materion hyn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adolygu Gwasanaeth Goleuadau Stryd pdf icon PDF 587 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd Arweinydd Tîm Gwastraff a Rheolaeth Fflyd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar yr Adolygiad o Oleuadau Stryd, y gofynnwyd amdano yn dilyn Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ym mis Chwefror 2019. Mae’r adolygiad yn cynnwys tair blaenoriaeth drosfwaol:

 

·        Blaenoriaeth 1 – Diwydrwydd ariannol

·        Blaenoriaeth 2 – Rheoli stoc ac adnoddau

·        Blaenoriaethau 3 – Sbardunau deddfwriaethol a pherfformiad y gwasanaeth

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 2.4 yr adroddiad sy’n amlinellu’r allbynnau ar gyfer Blaenoriaeth 2, a gofynnodd os gellid defnyddio’r stoc gweddilliol i ymgymryd ag atgyweiriadau mewnol ac yn y blaen.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog y bu gostyngiad sylweddol yn y Tîm Peirianneg dros y blynyddoedd a bod y math o waith a wneir wedi newid i fân atgyweiriadau mwy ymatebol, a gyda gwaith mawr yn cael ei roi mas ar gontract. Fodd bynnag, cadarnhaodd bod stoc segur yn cael ei ddefnyddio lle’n bosibl, os nad oedd yn ddarfodedig.

 

Cyfeiriodd Aelod at hawliadau yswiriant a gofynnodd pa broses a gynhaliwyd yn flaenorol ac os oedd gan y Cyngor unrhyw hawliadau yn dal ar ôl.

Dywedodd y Swyddog nad oedd unrhyw system yn ei lle’n flaenorol. Cafodd y mater ei godi mewn sesiwn wybodaeth i Aelodau felly edrychodd  y Tîm ar system a ddefnyddir gan Gyngor Dinas Caerdydd a defnyddio’r dull hwnnw. Bu’r achos prawf cyntaf yn llwyddiannus, gydag adferiad cost llawn bron, a byddid yn edrych ar achosion eraill.

 

Cyfeiriodd Aelod at y llusernau LED solar a gyflwynwyd yn y Drenewydd, Glynebwy. Dywedodd y Swyddog yn anffodus nad oes digon o olau haul yn y Fwrdeistref yn annigonol i wefru’r llusernau hyn, ond mae technoleg amgen yn cael ei hystyried.

 

Dilynodd trafodaeth am gapasiti o fewn y Tîm a’r rhaglen Refit, a chadarnhaodd y Swyddog y byddai symud i lusernau LED yn gostwng gofynion cynnal a chadw ac yn galluogi’r Tîm i ymateb i waith arall.

 

Dywedodd Aelod y gall gostwng cynnal a chadw effeithio ar lefelau staffio yn y dyfodol. Dywedodd hefyd y dylai newid i lusernau LED gael effaith sylweddol ar y gyllideb.

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y dylai wneud hynny ar bapur, ond bod prisiau ynni yn cynyddu yn gyflymach na’r adenilliad ar weithredu cynlluniau arbed ynni. Fodd bynnag, byddai cost peidio gwneud y gweithiau hyn yn profi’n ddrutach yn y dyfodol.

 

Dilynodd trafodaeth fer bellach pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).

 

9.

Perfformiad Absenoldeb Salwch Gweithlu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 411 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol yr adroddiad sy’n amlinellu perfformiad absenoldeb salwch y Gyfarwyddiaeth a’r camau gweithredu a gynigir ar gyfer gwella. Er bod lefelau salwch yn parhau’n uchel, dywedodd ei bod yn bwysig nodi nad yw’r rhan fwyaf o aelodau staff yn cymryd fawr ddim neu ddim absenoldeb salwch ac yn mynychu gwaith yn rheolaidd. Mae gan fwyafrif helaeth aelodau staff y Cyngor lefelau presenoldeb rhagorol, gan fod data’n dangos fod 2,463 aelod o staff wedi mynychu’r gwaith bob dydd yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019 gyda'r Cyngor â lefel presenoldeb o 94.3%.

 

Yn nhermau camau gweithredu ar gyfer gwella, dywedodd y Swyddog er fod tystiolaeth o weithredu gan reolwyr wrth reoli salwch, mae’r Gyfarwyddiaeth yn cydnabod bod angen gwell defnydd o system iTrent. Cytunwyd ar nifer o gamau gweithredu, fel yr amlinellir yn Adran 4.1 yr adroddiad a chaiff y rhain eu monitro gan Dîm Rheoli’r Gyfarwyddiaeth, a byddai absenoldeb salwch yn parhau i fod yn eitem reolaidd ar agenda’r Tîm Rheoli.

 

Dywedodd Aelod fod angen mwy o wybodaeth yn nhermau cofnodi cyfarfodydd dychwelyd i’r gwaith ar system iTrent.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog fod yr adroddiad wedi ei lenwi gan Datblygu Sefydliadol ac mai hwn oedd y tro cyntaf i’r adroddiad gael ei gyflwyno yn y fformat hwn. Cadarnhaodd fod cyfarfodydd dychwelyd i’r gwaith yn digwydd ond mewn rhai achosion nad oeddent yn cael eu hadrodd drwy’r system iTrent. Cadarnhaodd y byddid yn codi sylwadau’r Aelod gyda Datblygu Sefydliadol.

 

Dilynodd trafodaeth pan ddywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod yn bwysig nodi fod cyfarfodydd dychwelyd i’r gwaith yn cael eu cynnal a bod Rheolwyr yn cydymffurfio gyda’r Polisi Rheoli Presenoldeb. Fodd bynnag, mae rhai rhannau o’r Gyfarwyddiaeth sy’n methu cael mynediad i’r system; edrychir ar hyn, ond rhoddodd sicrwydd fod cyfarfodydd dychwelyd i’r gwaith yn cael eu cynnal er nad oeddent yn cael eu cofnodi ar iTrent.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod angen rhoi mwy o ystyriaeth i fformat yr adroddiad i sicrhau ein bod yn cael yr wybodaeth oedd ei hangen, a byddai hefyd yn ddiddorol gweld beth oedd barn Pwyllgorau Craffu eraill ar y fformat.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad ac ar ôl craffu ar yr wybodaeth perfformiad ar absenoldeb salwch a threfniadau arfaethedig i wella cyfraddau presenoldeb o fewn y Gyfarwyddiaeth Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol, trafodwyd meysydd pellach ar gyfer gwella er mwyn hybu gwelliant perfformiad. (Opsiwn 1).

 

10.

Blaenraglen Gwaith - 27 Chwefror 2020 pdf icon PDF 396 KB

Derbyn yr adroddiad..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 27 Chwefror 2020.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad.