Agenda and minutes

Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol - Dydd Llun, 21ain Medi, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau ar gyfer y Cynghorydd T. Sharrem.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd B. Summers fuddiant yn yr eitem ddilynol:

 

Eitem Rhif 9 – Cyfleuster Ailgylchu Gwastraff Coed Rhanbarthol

 

4.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 229 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020 er pwyntiau cywirdeb.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r Cofnodion.

 

5.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 290 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 1 Medi 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 1 Medi 2020 er pwyntiau cywirdeb

 

Dywedodd y Cynghorydd H. McCarthy na chafodd ei ymddiheuriadau eu cofnodi.

 

CYTUNODD y Cyngor, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Buddsoddiad mewn Darpariaeth Chwarae Plant pdf icon PDF 854 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar safleoedd ardaloedd chwarae plant a gofyn am gymeradwyaeth Aelodau i’r rhaglen waith bresennol ar gyfer gosod offer chwarae ar safleoedd, yn unol â’r blaenoriaethau a ddynodwyd fel rhan o’r adolygiad manwl o ardaloedd chwarae a gynhaliwyd ac a adroddwyd i’r Cyngor ym mis Rhagfyr 2018.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r rhesymeg dros osod offer chwarae newydd a brynwyd yn dilyn derbyn cyllid o Grant Cyfleoedd Chwarae a gafwyd drwy Lywodraeth Cymru. Roedd y cyllid hwn wedi’i ddyrannu i ddechrau ar gyfer creu cyfleuster parc sblash ar safle Parc yr  ?yl, fodd bynnag ar y sail nad oedd perchnogion Parc yr ?yl bellach mewn sefyllfa i symud ymlaen â’r prosiect, cymerwyd penderfyniad dan awdurdod a ddirprwywyd i ailddyrannu’r cyllid hwn, gan fod yn rhaid i’r Cyngor hysbysu Llywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Mawrth 2020 sut y byddai’r cyllid yn cael ei ddefnyddio neu byddai’r cyllid yn cael ei ddileu.

 

Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn dynodi safleoedd chwarae lle caiff yr offer a brynwyd eu gosod, ynghyd â rhaglen dreigl ar gyfer y dyfodol pe byddai unrhyw gyllid pellach yn dod ar gael.

 

Daeth y Swyddog i ben drwy ddweud fod Parc Bryn Bach wedi manteisio’n ddiweddar o gyllid grant newydd gan Lywodraeth Cymru drwy Barciau Rhanbarthol y Cymoedd fel rhan o’r prosiect Porth Darganfod, a gosodwyd atyniad ymwelwyr newydd £185k (cyfleuster chwarae) yn y Parc  chafodd ei agor i’r cyhoedd yn ddiweddar yn dilyn cyfnod clo Covid a chafodd ei groesawu gan ymwelwyr i’r Parc.

 

Mynegodd Aelod bryder y cymerwyd y penderfyniad dan awdurdod a ddirprwywyd. Cyfeiriodd at gyfarfodydd blaenorol lle roedd Aelodau wedi gofyn i Swyddogion ddechrau ar drafodaethau pellach gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin am bosibilrwydd cyfleuster parc sblash ym Mharc Bryn Bach. Fodd bynnag, dywedodd yr Aelod ei bod yn croesawu’r buddsoddiad ym Mharc Dyffryn ond byddai wedi hoffi cysylltu gyda phlant yn y gymuned ar y math o offer chwarae y byddent wedi ei hoffi ar gyfer y Parc.

 

Dywedodd y Swyddog mai £110k o gyllid oedd ar gael ar gyfer y parc sblash, fodd bynnag mae’r offer a’r costau gosod tua £250k a theimlai Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin nad oedd y prosiect yn ariannol hyfyw. Yn nhermau cyswllt gyda’r gymuned, cytunodd mai dyma’r ffordd orau o symud ymlaen bob amser, fodd bynnag roedd y dyddiad cau ar gyfer gwario’r cyllid sef 31 Mawrth yn gyfyng iawn, ond rhoddodd sicrwydd y bydd cysylltu’n digwydd yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod, cadarnhaodd y Swyddog fod y Cyngor eisoes wedi derbyn y £110k yn 2017/18 ar gyfer cyfleuster parc sblash. Roedd hyn yngl?n ag ailbwrpasu’r cyllid yn unol â’r blaenoriaethau a ddynodwyd dan yr adolygiad o feysydd chwarae a gytunwyd gan y Cyngor.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn croesawu’r buddsoddiad yn llawer o ardaloedd chwarae y Fwrdeistref, ond yn anffodus byddai rhai’n  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Perfformiad Gwastraff ac Ailgylchu 2019-20 pdf icon PDF 753 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad o ganlyniadau perfformiad gwastraff ac ailgylchu ar gyfer 2019/20.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Dywedodd fod y Cyngor wedi rhagori ar Darged Ailgylchu Statudol Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf yn 2018/19. Adeiladwyd ar y llwyddiant hwn ac eleni (2019/20) mae’r Cyngor wedi rhagori ar y targed uwch newydd o 64%, gan sicrhau 65.31%. Cyflawnwyd hyn drwy waith caled ac ymroddiad y Tîm Gwastraff, mewn partneriaeth gyda WRAP, a gyda chefnogaeth gan y Tîm Cyfathrebu, y Tîm Perfformiad, Uwch Reolwyr a’r Arweinyddiaeth ac yn bwysicaf oll breswylwyr Blaenau Gwent. Dywedodd fod y llwyddiant flwyddyn ar flwyddyn yma wedi gweld Blaenau Gwent yn symud o’r 22ain safle yn 2017/18 i fod yn 11eg yn 2019/20 o gymharu gyda holl awdurdodau lleol eraill Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am gasgliadau gwastraff gardd, cadarnhaodd y Swyddog fod y ffigur yn cynnwys casgliad y cyfnod gaeaf estynedig, a gaiff ei gadw drwy’r gaeaf gydag un cerbyd. Fodd bynnag, mae’r cwmpas i gynyddu gwastraff gardd wedi ei gyfyngu oherwydd y nifer gyfyngedig o ofodau gwyrdd yn y Fwrdeistref a gerddi cymharol fach.

 

Yng nghyswllt HWRC (Aiilddefnyddio), dywedodd y Swyddog er mai elfen fach o ailgylchu yw hyn y bwriedir cynyddu’r elfen hon ac ymestyn y gwasanaeth yn y cyfleuster newydd yn Roseheyworth.

 

Dywedodd Aelod fod y gwelliant yn y ffigurau i’w groesawu, ond mynegodd bryder am safle’r Cyngor yn neilltuol gyda gwastraff gwyrdd. Gofynnodd hefyd os y cafwyd unrhyw hysbysiad gan Lywodraeth Cymru o ran y potensial ar gyfer dirwyon uwch ar gyfer 2020/21 oherwydd effaith Covid.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog na chafwyd unrhyw wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am gosbau. Er fod y targedau yn heriol, mae’r ffigur ailgylchu ar gyfer 2019/20 yn gadarnhaol, a gobeithio gyda chefnogaeth barhaus preswylwyr a gwaith caled y timau cysylltiedig, gwelir yr un tueddiad yn 2020/21.

 

Cyfeiriodd Aelod at y targed uwch o 70% dros y 4 blynedd nesaf a gofynnodd os oes gan y Cyngor y capasiti i gyflawni hyn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth fod swyddogion eisoes yn gweithio gyda chynghorwyr WRAP ar ffyrdd i gynyddu i 70% dros y 4 mlynedd nesaf. Gobeithir y bydd ymestyn ymgyrch Cadw lan gyda’r Teulu Jones ar draws y fwrdeistref yn effeithiol, ac mae cynlluniau eraill hefyd yn cael eu hystyried er mwyn cynyddu ailgylchu a chyflawni’r targed. Cedwir golwg agos ar y sefyllfa i sicrhau y caiff popeth ei wneud i gyflawni’r targed.

 

Cadarnhaodd hefyd y byddai’r arbedion a sicrhawyd drwy ostwng gwastraff gweddilliol yn mynd yn ôl i’r gwasanaeth i roi adnoddau ychwanegol i barhau gyda gorfodaeth gwastraff drws i ddrws, cynhwysyddion ailgylchu newydd a gweithredu cynlluniau i gynyddu ailgylchu.

 

Canmolodd Aelod yr Adran a llwyddiant y gwasanaeth casglu o ddrws i ddrws a theimlai fod hyn yn cyfiawnhau cyflwyno’r system yn 2015.

 

Holodd Aelod arall os yw’r gwastraff gwyrdd a gynhwyswyd yn cael ei gasglu gan ddarparwyr tai cymdeithasol  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 397 KB

Ystyried adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 19 Hydref 2020.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad ar Gapasiti Mynwentydd wedi ei symud i gyfarfod mis Tachwedd.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan gadarnhaodd y Swyddog Craffu y byddai anifeiliaid crwydrol yn destun adroddiad pellach i’r Cyngor.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad.

 

9.

Eitem Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus a bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

10.

Cyfleuster Rhanbarthol Ailgylchu Gwastraff Pren

Ystyried adroddiad Arweinydd Tîm Cydymffurfiaeth a Datblygu Gwastraff.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd B. Summers fuddiant yn yr eitem hon.

 

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Tîm Cydymffurfiaeth a Datblygu Gwastraff.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar ddatblygu achos busnes amlinellol ar gyfer Cyfleuster Ailgylchu Coed Rhanbarthol. Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd y Swyddog mai’r bwriad yw i’r cyfleuster fod yn ‘wyrdd’ gydag ôl-troed carbon isel ac y byddai mwyafrif y peiriannau yn rhai trydan.

 

Gofynnodd Aelod arall os oes potensial i gynhyrchu incwm o’r cyfleuster ac os y byddai’n cynorthwyo’r Cyngor i gyrraedd ei darged ailgylchu.

 

Dywedodd y Swyddog fod gwella targedau ailgylchu yn un o fanteision y cyfleuster ar gyfer yr awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan, byddai hefyd yn rhoi eglurdeb i wneuthurwyr byrddau panel o ran cysondeb am fanyleb ac opsiynau incwm.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelodau.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â materion busnes personau heblaw’r Awdurdod a chefnogi’r achos busnes amlinellol i gefnogi datblygiad y Cyfleuster Ailgylchu Gwastraff Coed Rhanbarthol i’r cam nesaf (Opsiwn 1).