Lleoliad: will be held virtually via Microsoft teams (if you wish to observe this meeting please contact Committee.services@blaenau-gwent.go.uk)
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Rowberry.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebu a wnaed.
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Deddf Trwyddedu 2003 – Adolygu Trwydded Safle, The Badminton, Beaufort Terrace, Glynebwy PDF 496 KB Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trafodaeth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth ia droddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau ysgrifenedig ar y cais i adolygu trwydded safle ar gyfer the Badminton, Teras Beaufort, Glynebwy fel y’i cyflwynwyd yn adroddiad y Swyddog, ynghyd â’r sylwadau llafar a roddwyd yn y gwrandawiad gan y gwrthwynebydd a chytunwyd ar y penderfyniad dilynol:
Peidio cymryd unrhyw gamau ond rhoi rhybudd yng nghyswllt ymddygiad yn y dyfodol ac y dylai’r DPS newydd a’r Deilad Trwydded Safle sicrhau cydymffurfio gyda’r Amodau sy’n gysylltiedig â’r Drwydded.
Hawl Apelio
Mae gan pob parti hawl i apelio at y Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o dderbyn y penderfyniad hwn. Mae gan unrhyw awdurdod cyfrifol neu berson arall hawl i wneud cais am adolygu’r Drwydded.
|