Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd |
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau |
|
Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.
Ar ôl hynny hysbysodd y Cyfreithiwr yr Ymgeisydd am benderfyniad yr Is-bwyllgor.
Wrth ystyried y cais, dywedodd y Cyfreithiwr fod yr Is-bwyllgor wedi rhoi ystyriaeth i ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003, yn neilltuol yr amcanion trwyddedu sef
· Atal troseddu ac anrhefn · Diogelwch y cyhoedd · Atal niwsans cyhoeddus · Diogelu plant rhag niwed
Dywedodd y Cyfreithiwr bod yr Is-bwyllgor wedi rhoi ystyriaeth i Adran 87 Deddf Trwyddedu 2003, y canllawiau a gyhoeddwyd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a pholisi trwyddedu y Cyngor wrth drafod y cais.
Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd fel y’u cyflwynwyd yn adroddiad y Swyddog, ynghyd â’r sylwadau llafar a roddwyd yn y gwrandawiad ar ran yr Ymgeisydd a’r bobl eraill oedd yn bresennol.
Hysbyswyd yr Is-bwyllgor am y problemau difrifol a gafwyd yn yr ardal yn gysylltiedig â phobl yn defnyddio’r safle trwyddedig y gwneir y cais amdano. Dywedwyd y cafodd mynychwyr y safle eu clywed yn rhegi, gweiddi ac yn ymddwyn yn anrhefnus yn yr oriau mân. Bu hefyd adroddiadau am ymladd yng nghyffiniau’r safle ac roedd y digwyddiadau hyn ynghyd â’r s?n yn tarddu o’r Clwb yn tarfu’n gyffredinol ar breswylwyr yn yr ardal a theimlai preswylwyr fod hyn yn annerbyniol. Ychwanegodd y Cyfreithiwr y galwyd yr heddlu i’r safle nifer o weithiau oherwydd digwyddiadau yn y Clwb a’u bod wedi ceisio cysylltu gyda phwyllgor y Clwb i gael datrysiad. Roedd y Clwb hefyd wedi bod mewn trafodaethau gyda Thîm Iechyd yr Amgylchedd Blaenau Gwent i geisio a gwella dull rheoli/rhedeg y sefydliad.
Ystyriodd yr Is-bwyllgor y digwyddiadau niferus a fu yn ac o amgylch y Clwb a rhoddwyd ystyriaeth briodol i’r amodau a nodir yn yr adroddiad oedd yn ymlynedig i Dystysgrif y Clwb yn ogystal â’r rhai a nodir yn Atodiad 3 gan yr Heddlu, a cheisiodd sicrhau penderfyniad teg a chytbwys.
Wrth wneud ei benderfyniad, fe wnaeth yr Is-bwyllgor hefyd ystyried darpariaethau perthnasol Deddf Trwyddedu 2003 (yn neilltuol Adran 4) a’r canllawiau a gyhoeddwyd dan Adran 182 y Ddeddf a Pholisi Trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Wedyn dywedodd y Cyfreithiwr fod yr Is-bwyllgor wedi dod i’r penderfyniad dilynol:-
Gwneir yr addasiadau dilynol i weithgareddau’r Clwb:-
Cytunwyd gosod yr amodau dilynol ar Dystysgrif Safle’r Clwb:-
· Lle caiff system CCTV ei gosod, ei hymestyn neu ei hadnewyddu, rhaid iddi fod o safon ... view the full Cofnodion text for item 4. |