Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael os gofynnir am hynny. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Bob Summers (Cadeirydd).
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Masnachol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Trwyddedu a Masnachol.
Siaradodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r cais. Derbyniwyd un gwrthwynebiad ar ran Aelodau Ward Tredegar. Dywedodd un Aelod Ward Tredegar y cyflwynwyd y gwrthwynebiad heb ei wybodaeth na’i ganiatâd ac y dymunai i’w wrthwynebiad gael ei ddileu.
Gwnaed y Cais ar gyfer Trwydded safle newydd yng nghyswllt ‘The Looking Glass’, (’Yr Ymgeisydd) o 10 Stryd y Castell, Blaenau Gwent yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.
Dywedodd y Swyddog Trwyddedu wrth aelodau’r Is-bwyllgor mai eu swyddogaeth heddiw oedd penderfynu ar y cais ar gyfer Trwydded Safle newydd yn unol â Deddf Trwyddedu 2003 ac mai’r opsiynau sydd ar gael i Aelodau yw:
· Dyfarnu’r drwydded · Dyfarnu’r drwydded gydag addasiadau i’r amodau · Eithrio unrhyw weithgaredd y mae angen trwydded ar ei gyfer y mae’r cais yn cyfeirio ato · Gwrthod dynodi Goruchwylydd Safle Dynodedig · Gwrthod y cais am drwydded
Roedd Aelodau yn ymwybodol, wrth ystyried y cais, fod yn rhaid iddynt hefyd roi ystyriaeth i ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a Pholisi Trwyddedu y Cyngor a rhoi ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref dan Adran 182 Deddf 2003 a Pholisi Trwyddedu y Cyngor a’r amcanion trwyddedu, sef:
· Atal troseddu ac anrhefn · Diogelwch y cyhoedd · Atal niwsans cyhoeddus · Gwarchod plant rhag niwed.
Anfonwyd copïau o’r cais at yr awdurdodau cyfrifol penodol a gwnaed sylwadau ar y cais gan Adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Heddlu Gwent. Cytunodd yr Ymgeisydd i ddiwygio’r cais i gynnwys amodau sy’n bodloni’r pryderon a godwyd gan Heddlu Gwent ac Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor.
Wrth wneud eu penderfyniad rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth hefyd i sylwadau llafar gan y Swyddogion Trwyddedu oedd yn bresennol, Cyfreithiwr yr Ymgeisydd a sylwadau ysgrifenedig gan y person arall oedd yn gwrthwynebu’r cais.
Ar ôl gwrando’n ofalus at yr holl sylwadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai mabwysiadu’r amodau gan yr Ymgeisydd fel yr awgrymwyd gan yr awdurdodau cyfrifol perthnasol yn arwain at dorri amcanion y Drwydded ac i ddyfarnu’r Drwydded yn unol â’r cais a wnaed gan yr Ymgeisydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a dyfarnu’r Drwydded yng nghyswllt The Looking Glass, 10 Stryd y Castel, Tredegar, Blaenau Gwent.
|