Agenda and minutes

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Mercher, 6ed Gorffennaf, 2022 2.00 pm

Lleoliad: virtually via MS Teams (if you would like to view this meeting please contact committee.services@blaenau-gwent.gov.uk)

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

You are welcome to use Welsh at the meeting a minimum notice period of 3 working days is required should you wish to do so.  A simultaneous translation will be provided if requested.

 

 

Cofnodion:

 

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

To receive any apologies for absence.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynrychiolydd Cyfreithiol yr Ymgeisydd a’r Swyddog Trwyddedu.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

To receive any declarations of dispensations and dispensations.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

4.

Deddf Trwyddedu 2003 – Trwydded Safle Newydd – Clwb Gweithwyr Dukestown, 1 Evans Terrace, Tredegar NP22 5ER pdf icon PDF 397 KB

To consider the report of the Senior Licensing Officer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytunwyd ar y penderfyniad dilynol:-

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd fel y’u cyflwynwyd yn adroddiad y Swyddog, ynghyd â’r sylwadau llafar a roddwyd yn y gwrandawiad ar ran yr Ymgeisydd a’r unigolion eraill oedd yn bresennol.

 

Wrth wneud ei benderfyniad, ystyriodd yr Is-bwyllgor hefyd y darpariaethau perthnasol yn Neddf Trwyddedu 2003 (yn neilltuol Adran 4) a’r canllawiau a gyhoeddwyd dan Adran 182 y Ddeddf a Pholisi Trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a’r pedwar amcan trwyddedu.

 

Gwnaeth yr is-bwyllgor y penderfyniad dilynol:-

 

Cytuno ar drwydded safle newydd gyda’r amodau dilynol:-

 

Yr holl weithgareddau trwyddedadwy i ddigwydd rhwng 11am a 11.00pm dydd Llun i ddydd Sul.

 

Amodau Cysylltiedig

 

Atal troseddu ac anrhefn

 

1.    Bydd camerâu CCTV yn monitro’r holl ardaloedd a ddefnyddir gan y sawl sy’n mynychu’r safle (heblaw’r toiledau) yn cynnwys unrhyw ardal allanol i fonitro niferoedd ac atal troseddu ac anrhefn

(i)     Lle caiff system CCTV ei gosod, ei hymestyn neu ei hadnewyddu, bydd i safon priodol fel y cytunwyd gyda’r Awdurdod Trwyddedu mewn ymgynghoriad gyda’r Heddlu. Lle gosodir system CCTV, dylai fod yn llwyr weithredol erbyn adeg dechrau’r drwydded.

(ii)   Caiff yr offer CCTV ei gadw mewn cyflwr da a bydd yn recordio yn barhaus pan fo gweithgaredd trwyddedig yn digwydd ac am gyfnod o ddwy awr wedyn;

(iii)  Bydd deiliad trwydded y safle yn sicrhau y cedwir lluniau  CCTV am gyfnod o 31 diwrnod. Gellir adolygu cyfnod adolygu lluniau fel sy’n briodol gan yr Awdurdod Trwyddedu;

(iv)  Caiff yr amser a’r dyddiad cywir eu rhoi ar y recordiad ac ar y sgrîn lluniau amser real;

(v)   Os yw’r offer CCTV (yn cynnwys unrhyw unedau symudol a ddefnyddir yn y safle) yn torri, bydd deiliad trwydded y safle yn sicrhau bod goruchwyliwr dynodedig y safle, neu yn ei absenoldeb ef/hi unigolyn arall cyfrifol, yn hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu a’r Heddlu ar lafar cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol. Caiff yr wybodaeth hon ei chofnodi ar yr un pryd yn y gofrestr o adroddiadau digwyddiadau a bydd yn cynnwys am faint o’r gloch, y dyddiad a’r ffordd y gwnaethpwyd hyn ac i bwy y cafodd yr wybodaeth ei rhoi. Caiff methiannau offer eu trwsio neu eu hadnewyddu cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol a heb oedi diangen. Caiff yr Awdurdod Trwyddedu a’r Heddlu eu hysbysu pan unionir gwallau.

(vi)  Bydd deiliad trwydded y safle yn sicrhau bod aelodau o staff wedi eu hyfforddi ar gael yn ystod oriau trwyddedadwy i fedru atgynhyrchu a lawrlwytho lluniau CCTV i fformat symudadwy ar gais unrhyw swyddog a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu neu gwnstabl.

(vii)Bydd arwyddion clir yn nodi fod yr offer CCTV yn cael ei ddefnyddio ac yn recordio yn y safle yn ystod oriau trwyddedadwy.

 

2.           Caiff llyfr digwyddiadau ei gadw a’i gynnal a bydd yn y safle ar bob amser. Caiff ei wneud ar gael ar gais i’r heddlu neu aelod o staff a awdurdodwyd gan y cyngor. Defnyddir y llyfr hwn i  ...  view the full Cofnodion text for item 4.