Agenda and minutes

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Mercher, 22ain Mehefin, 2022 11.00 am

Lleoliad: Ar MS Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw Ddatganiadau Buddiant a Goddefebau.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau

4.

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 260 KB

Ystyried cofnodion yr Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion yr Is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion

5.

Adroddiad – Deddf Trwyddedu 2003 – Amrywiad ar Drwydded Safle - A & J Local Store, 58 Glyn Terrace, Tredegar, Gwent. NP22 4JA pdf icon PDF 406 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Trwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cais i amrywio Trwydded Safle yn 58 Glyn Terrace, Tredegar, NP22 4JA, fel y’i cyflwynwyd yn adroddiad y Swyddog, ynghyd â thystiolaeth lafar a roddwyd yn y gwrandawiad ar ran yr Ymgeisydd gan ei Gynrychiolydd ac Aelod Ward. Y cynnig yw cynyddu’r amser ar gyfer gwerthu alcohol o 7am i 11pm.

 

Hysbyswyd yr Is-bwyllgor na chafodd unrhyw bryderon eu cyflwyno gan unrhyw Awdurdod Cyfrifol yng nghyswllt yr amrywiad arfaethedig hwn. Cafodd yr Is-bwyllgor hefyd ei hysbysu am y nifer fawr o wrthwynebiadau i’r ymgeisydd gan breswylwyr yn byw yn agos at 58 Glyn Terrace ac y cafwyd deiseb gyda tua 82 llofnod yn erbyn y cais.

 

Prif bryder y preswylwyr yw ‘ofn’ ymddygiad gwrthgymdeithasol/difrod troseddol posibl a tharfu cyffredinol oherwydd problemau hanesyddol gyda safleoedd eraill sy’n agor tan yn hwyr yn yr ardal.

 

Wrth ddod i’w benderfyniad heddiw, mae’r Is-bwyllgor wedi ystyried darpariaethau perthnasol Deddf Trwyddedu 2003 (yn neilltuol Adran 4) a’r canllawiau a gyhoeddwyd dan Adran 182 y Ddeddf a Pholisi Trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Mae’r Is-bwyllgor wedi ystyried y cais yng ngoleuni’r pedwar Amcan Trwyddedu:

·         Atal troseddu ac anrhefn

·         Diogelwch y cyhoedd

·         Atal niwsans cyhoeddus

·         Amddiffyn plant rhag niwed

 

Penderfyniad

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr holl sylwadau a wnaed ar ran yr Ymgeisydd heddiw yn cynnwys y ffaith y cafodd yr Ymgeisydd 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn y 21 diwrnod diwethaf ac na fu unrhyw broblemau. Dylid nodi y cafodd yr Ymgeisydd drwydded ar 28 Gorffennaf 2021 ac wedyn agor ym mis Mawrth 2022.

 

Mae’r Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r ffaith fod preswylwyr wedi cadarnhau eu bod yn ofni ymddygiad gwrth-gymdeithasol a tharfu, mae’r pwysau a roddir i’r wybodaeth yn gymesur i’r hyn a nodir uchod. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i’r sôn fod ymddygiad gwrthgymdeithasol eisoes wedi digwydd yn y cyffiniau a nodwyd nad oes tystiolaeth i awgrymu fod hyn wedi deillio o’r safle sy’n destun y cais. Fodd bynnag, cafodd yr oriau eu teilwra i gymodi rhwng y preswylwyr a deiliad y drwydded.

 

Mae’r Is-bwyllgor wedi penderfynu:

 

Amrywio’r Drwydded gyda chaniatâd i weini alcohol rhwng 9am a 9pm.

 

Gweddill amodau’r drwydded i aros yr un fath ond cafodd yr iaith ei theilwra i adlewyrchu’r diwrnod presennol.

 

CCTV i barhau yn ei le. Cylchoedd 28 diwrnod i’w cadw ac i fod ar gael os gwneir cais. Yr Ymgeisydd i hysbysu’r Heddlu a’r Awdurdod Trwyddedu os yw’r CCTV yn peidio gweithio a bod angen ei atgyweirio cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl.

 

Bydd DPS yn parhau i hyfforddi staff i ddefnyddio’r CCTV a bydd yr amser a’r dyddiad cywir bob amser yn ymddangos ar bob llun. Bydd arwydd clir yn y safle i ddangos fod CCTV yn gweithredu.

 

Mae’r cynllun prawf oedran i barhau i gael ei ddefnyddio yn y safle. Bydd angen dull adnabod ar gyfer y rhai sy’n edrych i fod dan 25 fydd yn cynnwys enw, cyfeiriad a llun.

 

Caiff unrhyw wrthodiad i weini  ...  view the full Cofnodion text for item 5.