Agenda and minutes

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Iau, 10fed Mawrth, 2022 10.00 am

Lleoliad: will be held virtually via Microsoft teams (if you wish to observe this meeting please contact Committee.services@blaenau-gwent.go.uk)

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiasdau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau..

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 285 KB

Ystyried yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i gofnodion y cyfarfod o’r is-bwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2022.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol.

 

5.

Deddf Trwyddedu 2003 – Trwydded Safle Newydd – Siop Gyfleus The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy pdf icon PDF 406 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Cyflwynwyd yr Ymgeisydd i Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor ac amlinellodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu y broses i’w dilyn yn y cyfarfod.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd dywedodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn hysbysu’r Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol am sylwadau a gafwyd yng nghyswllt cais am drwydded safle newydd yn Siop Gyfleus The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy er mwyn galluogi’r is-bwyllgor i benderfynu’r cais yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm y cyflwynwyd y cais ar 20 Ionawr 2022 gan Mr Sunny Singh Sangha ar gyfer trwydded safle newydd yn safle Siop Gyfleus The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy. Mae’r siop gyfleus tu mewn i adeilad clwb ‘The Venue’ ac mae Tîm Cynllunio y Cyngor wedi rhoi caniatâd i ailwampio tu fewn adeilad presennol y clwb i alluogi ymgorffori’r siop gyfleus.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm y cafodd cais i amrywio safle bresennol y safle yng nghyswllt y clwb i ddynodi’r newid hwn ei gyflwyno hefyd i’r Tîm Trwyddedu ar gyfer penderfyniad. Fel canlyniad i’r ailwampio byddai’r clwb presennol yn cadw ei fynedfa wreiddiol ar ochr yr adeilad a byddai gan y siop gyfleus newydd fynedfa newydd ar du blaen yr adeilad. Ni fyddai mynediad i’r naill safle trwyddedig o’r llall.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm fod yr Ymgeisydd yn dymuno darparu gweithgareddau trwyddedadwy, cyflenwi alcohol yn y safle dydd Llun i ddydd Sul rhwng 08.00am – 10.00pm. Oriau agor arfaethedig y safle fyddai dydd Llun i ddydd Sul 08.00am i 10.00pm.

 

Yn unol â Deddf Trwyddedu 2003, fel rhan o’r broses ymgynghori, mae’n ddyletswydd ar yr Ymgeisydd i anfon copïau o’r cais at Awdurdodau Cyfrifol. Felly cynhaliwyd ymgynghoriad gyda Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Mewnfudo, Safonau Masnach

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu, Cynllunio, Iechyd yr Amgylchedd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Yn ychwanegol, roedd yr Ymgeisydd wedi gosod hysbysiad o’r cais yn y safle am 28 diwrnod i alluogi pobl eraill h.y. preswylwyr lleol a busnesau, i wneud sylwadau, cafodd hysbysiad hefyd ei roi ar wefan yr awdurdod a’i gyhoeddi yn y Gwent Gazette o fewn 10 diwrnod o ddyddiad derbyn y cais. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Mewnfudo, Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu, Cynllunio nac Iechyd yr Amgylchedd. Fodd bynnag, nodwyd y derbyniwyd sylwadau gan Heddlu Gwent.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm y cafodd sylwadau Heddlu Gwent eu tynnu’n ôl gan fod yr Ymgeisydd wedi cytuno i gynnwys yr amodau a argymhellwyd gan Heddlu Gwent fel y manylir yn yr adroddiad.

 

I gloi, dywedodd y Rheolwr Tîm wrth ystyried y cais fod yn rhaid i’r Is-bwyllgor roi ystyriaeth i ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003, yn neilltuol yr amcanion trwyddedu sef:-

·         Atal troseddu ac anrhefn

·         Diogelwch y cyhoedd

·         Atal niwsans cyhoeddus

·         Amddiffyn plant rhag anaf.

 

Rhaid rhoi ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref dan adran 182 y Ddeddf a  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Deddf Trwyddedu 2003 – Amrywio Trwydded Safle – The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy pdf icon PDF 401 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn hysbysu’r is-bwyllgor Trwyddedu Statudol am sylwadau a gafwyd yng nghyswllt cais am amrywio trwydded safle yn The Venue, Heol y Gymanwlad, Glynebwy er mwyn galluogi’r Is-bwyllgor i benderfynu ar y cais yn unol â Deddf Trwyddedu 2003. Cyflwynwyd y cais ar 20 Ionawr 2022 gan Mr Sunny Singh Sangha ar gyfer amrywio trwydded safle yn The Venue, Heol y Gymanwlad, Garnlydan, Glynebwy. Roedd trwydded bresennol y safle wedi bod ar waith ers 2005 a nododd y Rheolwr Tîm y gweithgareddau trwyddedadwy fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm fod yr amrywiad arfaethedig yn ymwneud â newid i gynllun mewnol The Venue i ddarparu ar gyfer gostwng maint yr ardal drwyddedig. Nodwyd y cytunwyd ar ganiatâd cynllunio ac na fyddai unrhyw newid yn yr oriau gweithredu. Byddai gan y siop a’r clwb fynedfeydd ar wahân ac ni fyddai’r naill na’r llall yn cyfuno i alluogi mynediad o un i’r llall.

 

Yn unol â Deddf Trwyddedu 2003, fel rhan o’r broses ymgynghori, mae’n ddyletswydd ar yr ymgeisydd i anfon copïau o’r cais at Awdurdodau Cyfrifol. Felly cynhaliwyd ymgynghoriad gyda Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Mewnfudo, Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu, Cynllunio, Iechyd yr Amgylchedd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Yn ychwanegol, mae’r ymgeisydd wedi rhoi hysbysiad am y cais yn y safle am 28 diwrnod i alluogi pobl eraill, h.y. preswylwyr lleol a busnesau, i wneud sylwadau. Rhoddwyd hysbysiad ar wefan yr awdurdod, hefyd cyhoeddwyd hysbysiad yn y Gwent Gazette o fewn 10 diwrnod o ddyddiad derbyn y cais.

 

Nododd Rheolwr y Tîm na dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Mewnfudo, Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu, Cynllunio, Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau gan Iechyd yr Amgylchedd a fanylir yn yr adroddiad a chafodd hyn ei gytuno gan yr ymgeisydd.

 

Derbyniwyd sylwadau gan ddau o ‘bobl eraill’ fel y cawsant eu clywed yng nghyswllt y cais blaenorol.

 

Wrth ystyried y cais hwn, mae’n rhaid i’r is-bwyllgor roi ystyriaeth i ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003, yn neilltuol, yr amcanion trwyddedu sef:-

 

  •  Atal troseddu ac anrhefn
  • Diogelwch y cyhoedd
  • Atal niwsans cyhoeddus
  • Amddiffyn plant rhag anaf.

 

Mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref dan adran 182 o’r Ddeddf a pholisi trwyddedu y Cyngor wrth ystyried y cais.

 

Cafodd yr opsiynau ar gyfer argymhelliad a fanylir yn yr adroddiad a benderfynir gan yr Is-bwyllgor.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Ymgeisydd i gyflwyno ei achos.

 

Nododd cynrychiolydd yr Ymgeisydd y cais a gyflwynwyd i hwyluso’r ailwampio.

 

Roedd y sylwadau a gafwyd gan Mr a Mrs Adlam yn parhau’r un fath â’r rhai a adroddwyd ar gyfer y cais blaenorol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gwestiynau gan Aelodau ar y pwynt hwn.

 

Teimlai Aelod ei bod yn bwysig fod y ddau fusnes yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 6.