Agenda and minutes

Statutory Sub, Is–Bwyllgor Trwyddedu Statudol - Dydd Mercher, 13eg Tachwedd, 2019 11.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael os gofynnir am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Bob Summers (Cadeirydd).

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Deddf Trwyddedu 2003 – Trwydded Safle Newydd – The Looking Glass, 10 Stryd y Castell, Tredegar pdf icon PDF 312 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Masnachol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Trwyddedu a Masnachol.

 

Siaradodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r cais. Derbyniwyd un gwrthwynebiad ar ran Aelodau Ward Tredegar. Dywedodd un Aelod Ward Tredegar y cyflwynwyd y gwrthwynebiad heb ei wybodaeth na’i ganiatâd ac y dymunai i’w wrthwynebiad gael ei ddileu.

 

Gwnaed y Cais ar gyfer Trwydded safle newydd yng nghyswllt ‘The Looking Glass’, (’Yr Ymgeisydd) o 10 Stryd y Castell, Blaenau Gwent yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu wrth aelodau’r Is-bwyllgor mai eu swyddogaeth heddiw oedd penderfynu ar y cais ar gyfer Trwydded Safle newydd yn unol â Deddf Trwyddedu 2003 ac mai’r opsiynau sydd ar gael i Aelodau yw:

 

·        Dyfarnu’r drwydded

·        Dyfarnu’r drwydded gydag addasiadau i’r amodau

·        Eithrio unrhyw weithgaredd y mae angen trwydded ar ei gyfer y mae’r cais yn cyfeirio ato

·        Gwrthod dynodi Goruchwylydd Safle Dynodedig

·        Gwrthod y cais am drwydded

 

Roedd Aelodau yn ymwybodol, wrth ystyried y cais, fod yn rhaid iddynt hefyd roi ystyriaeth i ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a Pholisi Trwyddedu y Cyngor a rhoi ystyriaeth i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref dan Adran 182 Deddf 2003 a Pholisi Trwyddedu y Cyngor a’r amcanion trwyddedu, sef:

 

 

·        Atal troseddu ac anrhefn

·        Diogelwch y cyhoedd

·        Atal niwsans cyhoeddus

·        Gwarchod plant rhag niwed.

 

Anfonwyd copïau o’r cais at yr awdurdodau cyfrifol penodol a gwnaed sylwadau ar y cais gan Adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Heddlu Gwent. Cytunodd yr Ymgeisydd i ddiwygio’r cais i gynnwys amodau sy’n bodloni’r pryderon a godwyd gan Heddlu Gwent ac Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor.

 

Wrth wneud eu penderfyniad rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth hefyd i sylwadau llafar gan y Swyddogion Trwyddedu oedd yn bresennol, Cyfreithiwr yr Ymgeisydd a sylwadau ysgrifenedig gan y person arall oedd yn gwrthwynebu’r cais.

 

Ar ôl gwrando’n ofalus at yr holl sylwadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai mabwysiadu’r amodau gan yr Ymgeisydd fel yr awgrymwyd gan yr awdurdodau cyfrifol perthnasol yn arwain at dorri amcanion y Drwydded ac i ddyfarnu’r Drwydded yn unol â’r cais a wnaed gan yr Ymgeisydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a dyfarnu’r Drwydded yng nghyswllt The Looking Glass, 10 Stryd y Castel, Tredegar, Blaenau Gwent.